Neidio i'r prif gynnwy

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a rowch fel rhan o’ch ymateb i’r alwad am dystiolaeth. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hwn, a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)). Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae’r alwad hon am dystiolaeth yn ymwneud â nhw. 

Rydym yn defnyddio SmartSurvey i gasglu a dadansoddi ymatebion i'r alwad am dystiolaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae SmartSurvey yn blatfform arolygon yn y DU sy'n sicrhau y cydymffurfir â GDPR y DU, ac mae'n defnyddio mesurau technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu data personol, gan gynnwys storio ac amgryptio diogel. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir drwy'r alwad am dystiolaeth ei defnyddio at y dibenion a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn yn unig, a chaiff ei chadw yn unol ag amserlen gadw Llywodraeth Cymru. Pan na fydd ei angen mwyach, bydd y data personol a rannwyd fel rhan o'r alwad am dystiolaeth yn cael ei ddileu'n ddiogel.

Byddwn yn casglu enwau a chyfeiriadau dinasyddion preifat sy'n ymateb i'r alwad am dystiolaeth. Mae hyn yn ffordd inni wneud yn siŵr eu bod yn byw yng Nghymru. Pan fydd unigolion yn ymateb ar ran sefydliadau, byddwn yn casglu eu henw, teitl eu swydd, ac enw eu sefydliad.

Yn ogystal, efallai y byddwn hefyd yn casglu data personol yn anfwriadol yn sgil cwestiynau agored, fel rhan o'r alwad hon am dystiolaeth, os bydd ymatebwyr yn darparu gwybodaeth a allai ei gwneud yn bosibl eu hadnabod. Er na fyddwn yn cyhoeddi nac mewn unrhyw ffordd arall yn rhannu data personol a ddarperir mewn ymatebion i'r alwad hon am dystiolaeth, rydym yn eich cynghori i beidio â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol a allai ei gwneud yn bosibl eich adnabod chi neu eraill. 

Peidiwch â darparu data personol wrth wneud ymholiad neu gŵyn benodol am ofal iechyd yng Nghymru. Dylid gwneud unrhyw ymholiadau neu gwynion drwy broses 'Gwrando ar Bobl' GIG Cymru. Caiff data personol a ddarperir mewn perthynas â hyn ei ddileu.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i ddangos bod yr alwad am dystiolaeth wedi'i chynnal mewn ffordd briodol. Bydd y crynodeb hwn yn cynnwys rhestr o sefydliadau sydd wedi ymateb, ond ni chaiff manylion personol yr unigolion a ymatebodd eu nodi. Yn yr un modd, pan dderbynnir ymatebion gan ddinasyddion preifat, ni fydd eu manylion personol yn cael eu cynnwys yn y crynodeb. 

Os caiff manylion sefydliad eu cyhoeddi fel rhan o’r crynodeb o'r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Caiff unrhyw ddata arall amdanoch sydd gan Lywodraeth Cymru ei gadw am ddim mwy na 12 mis ar ôl cyhoeddi'r strategaeth ar 4 Chwefror 2027. 

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth. 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • I gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
  • I ofyn inni gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn y data hwnnw
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • I ofyn inni 'ddileu' eich data (o dan amgylchiadau penodol)
  • I gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd y mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ 
swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Swydd Gaer / Cheshire 
SK9 5AF 
Ffôn: 0303 123 1113 
https://ico.org.uk/