Mae'r astudiaeth hon yn defnyddio model COM-B i archwilio canfyddiadau, cymhellion a rhwystrau i ymweld â Chymru. Yn 2026, roedd yr ymchwil hon yn cwmpasu'r DU, UDA a'r Almaen.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Croeso Cymru, tîm twristiaeth Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am gyflwyno ymgyrchoedd twristiaeth yn y DU ac ar draws marchnadoedd rhyngwladol er mwyn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth flaenllaw.
Amcanion ymchwil cynradd yr arolwg oedd:
- archwilio canfyddiadau, cymhellion a rhwystrau sy’n effeithio ar ymweld â Chymru ymhlith darpar ymwelwyr.
- deall y broses o wneud penderfyniadau ynghylch cyrchfannau gwyliau drwy ddefnyddio model newid ymddygiad Gallu, Cyfle, Cymhelliant
- nodi gwahaniaethau rhwng prif segmentau cynulleidfa
Mae’r adroddiad manwl hwn yn dadansoddi mewnwelediadau o 84 o gyfweliadau a gynhaliwyd ym mis Ionawr a mis Chwefror 2026 ymhlith teithwyr o’r DU, UDA a’r Almaen a fyddai’n ystyried Cymru fel cyrchfan gwyliau.
Adroddiadau
Galw'r farchnad ddefnyddwyr Croeso Cymru COM-B: y DU, UDA a'r Almaen (2026) , math o ffeil: PPTX, maint ffeil: 58 MB
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
