Gwella o salwch neu anaf gartref ar ôl arhosiad yn yr ysbyty.
Cynnwys
Beth yw gartref yn gyntaf?
Pan fydd eich triniaeth feddygol wedi dod i ben, gartref yw'r lle gorau i wella. Dyma'r dull gweithredu gartref yn gyntaf.
Mae gartref yn gyntaf yn eich helpu chi i gynnal eich annibyniaeth cymaint â phosibl wrth ichi wella o salwch neu anaf gartref ar ôl arhosiad yn yr ysbyty.
Mae gartref yn gyntaf hefyd yn golygu y caiff asesiadau gofal parhaus eu cynnal gartref, gan mai dyma'r lle gorau i ddeall eich anghenion gofal a chymorth tymor hir.
Gallai "gartref" fod mewn cartref gofal, eich cartref eich hun neu gartref ffrind neu aelod o'r teulu.
Pa risgiau sy'n gysylltiedig ag aros yn yr ysbyty pan fyddwch chi'n ddigon iach i fynd adref?
Gall aros yn yr ysbyty pan fyddwch chi'n ddigon iach i fynd adref arwain at ddatgyflyru. Gall hyn olygu eich bod yn colli'r gallu i wneud tasgau dyddiol. Yn aml, caiff ei achosi gan anweithgarwch a chyfnodau estynedig o amser yn y gwely.
Gall datgyflyru arwain at y canlynol:
- lleihau eich annibyniaeth
- lleihau eich hyder
- lleihau cryfder eich cyhyrau
- cynyddu'r risg o iechyd meddwl a llesiant gwael
Gall aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach nag sydd ei angen arnoch chi hefyd gynyddu'ch risg o ddal heintiau newydd.
Gallai'r risgiau hyn olygu y bydd angen mwy o ofal a chymorth arnoch chi pan ddaw'r adeg ichi fynd adref. Drwy wella gartref, mae'r risgiau hyn yn cael eu lleihau. Gall bod gartref eich helpu chi i ddychwelyd i'ch trefn arferol, gan eich helpu i gryfhau'n gyflymach.
Sut mae gartref yn gyntaf yn gweithio'n ymarferol?
Cynllunio i ryddhau unigolion
Mae cynllunio ar gyfer eich rhyddhau yn dechrau cyn gynted ag y cewch eich derbyn i'r ysbyty. Y nod yw eich rhyddhau unwaith y bydd eich anghenion meddygol neu ofal yn gallu cael eu diwallu gartref neu yn y gymuned.
Bydd tîm y ward yn gweithio gyda chi ac yn rhoi gwybod ichi pan fyddwch chi'n barod i adael yr ysbyty. Gall tîm y ward gynnwys:
- meddygon
- nyrsys
- gweithwyr cymdeithasol
- therapyddion galwedigaethol
- arbenigwyr eraill fel ffisiotherapyddion a deietegwyr
Bydd eich cynllun rhyddhau yn cynnwys unrhyw gymorth ar unwaith y bydd ei angen arnoch chi i fynd adref. Bydd eich asesiadau gofal neu gymorth tymor hir yn cael eu cynnal gartref, unwaith y byddwch chi wedi cael cyfle i wella ymhellach.
Peidiwch â bod ofn gofyn i staff am y cynllun i'ch rhyddhau. Byddan nhw'n sicrhau bod unrhyw ofal sydd ei angen arnoch chi yn ei le erbyn ichi fynd adref. Nod y cynllun rhyddhau yw eich helpu chi i wella a'ch helpu chi i adael yr ysbyty pan fydd yr amser yn iawn.
Mae hyn yn helpu i leihau'r canlynol:
- hyd arosiadau mewn ysbyty
- y risg o ddatgyflyru ymhellach neu eiddilwch
- y risg o heintiau
Bydd angen i'r cynllun gynnwys yr hyn sy'n bwysig i chi, a bydd hyn yn helpu staff i gynllunio'n dda. Gadewch i dîm y ward wybod a oes unrhyw faterion gartref y mae angen eu datrys fel nad oes oedi cyn eich rhyddhau.
Mae gennych chi, yn ogystal ag aelodau o'ch teulu neu ofalwyr, hawl i gymryd rhan yn y broses gynllunio, fel eich bod yn gwybod:
- beth fydd yn digwydd gartref
- gyda phwy i gysylltu os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi
Opsiynau rhyddhau
Pan fyddwch chi'n barod i fynd adref, caiff rhai opsiynau rhyddhau eu hystyried:
- rhyddhau ar unwaith gydag ychydig neu ddim anghenion gofal parhaus
- rhyddhau gyda chymorth tymor byr i wella, a elwir yn ailalluogi neu'n adsefydlu
- rhyddhau gydag anghenion gofal tymor hir sefydlog, a fydd yn cynnwys creu cynllun i ddarparu eich gofal a'ch cymorth gartref
- rhyddhau i leoliad tymor byr gwahanol sef lleoliad 'cam i lawr' neu 'ofal canolraddol', ar gyfer cyfnod o ailalluogi ac adsefydlu dwys i'ch paratoi i fynd adref
Paratoi i fynd adref
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud yn yr ysbyty i ddal ati i symud a pharatoi i fynd adref, gan gynnwys:
- gwisgo bob dydd
- symud cymaint â phosibl
- defnyddio pethau y byddai fel arfer yn eich cartref fel eich sbectol, eich cymorth clyw, eich oriawr a'ch dyddiadur
Yn ystod eich amser yn yr ysbyty, gall eich teulu neu'ch ffrindiau (gofalwyr neu ofalwyr di-dâl) eich helpu chi. Gallan nhw eich helpu chi â thasgau fel bwyta, gwisgo a cherdded, os oes angen. Gall staff yr ysbyty ddangos iddyn nhw sut mae gwneud hyn yn iawn. Bydd hyn yn eich helpu chi a'ch gofalwr i deimlo'n fwy parod pan fyddwch chi'n mynd adref.