Trwydded gyffredinol ar gyfer symud wyau (gan gynnwys gwastraff wyau) i’w gwaredu o safle y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth (EXD653(HPAI)(EW))
Trwydded gyffredinol ar gyfer symud wyau (gan gynnwys gwastraff wyau).
Ar y dudalen hon
Trwydded
Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfiaeth â’r amodau a nodir yn yr Atodlen o Amodau isod, yn caniatáu symud wyau (gan gynnwys gwastraff wyau) i’w gwaredu yn uniongyrchol o safle y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru neu Loegr.
Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.
Mae’r drwydded hon yn ddilys o 21:32 ar 19/10/2026 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu’n ysgrifenedig.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr.
Llofnodwyd: Richard Hepple Arolygydd Milfeddygol
Dyddiad: 19/10/2026 Amser: 21:32
Deddfwriaeth
Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'i diwygiwyd) a'r “Gorchymyn” sy'n golygu:
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) - Atodlen 4 paragraffau 14 ac 16, Atodlen 5 paragraff 11
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) - Atodlen 4 paragraffau 14 ac 16; Atodlen 5 paragraff 11
Atodlen yr amodau
- Rhaid i wyau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon gael eu gwaredu mewn safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) 1069/2009 a gymathwyd.
- Rhaid i’r gwaith symud ddigwydd yn uniongyrchol i safle’r cyrchfan.
- Rhaid trin wyau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon yn unol â Rheoliad (EC) 1069/2009 a gymathwyd a phob deddfwriaeth arall ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid bob amser.
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod yr wyau yn cael eu trin â gwres yn safle’r cyrchfan, ac eithrio pan fyddant eisoes wedi’u trin â gwres cyn eu symud, heb oedi gormodol, i ddinistrio unrhyw feirws ffliw adar a allai fod yn bresennol.
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau nad yw plisgyn wy yn cael ei daenu’n uniongyrchol ar y tir ar ffurf heb ei brosesu neu ei ddefnyddio mewn unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu bwydo i anifeiliaid.
- Yn union cyn symud yr wyau o’u safle gwreiddiol, rhaid i’r person sy’n symud yr wyau gan ddibynnu ar y drwydded hon archwilio cofnodion deor y safle gwreiddiol ac unrhyw ddofednod byw ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
- Rhaid i unrhyw gerbyd sy’n cludo wyau o dan y drwydded hon fod yn un sy’n:
- atal gollyngiadau
- wedi’i orchuddio fel na all unrhyw ran o’i lwyth syrthio neu ddianc o’r cerbyd
- fod â phecyn gollyngiadau i’w ddefnyddio mewn achos o ollyngiad yn ystod y broses gludo
- Rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwyn unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo wyau o dan y drwydded hon ar ôl llwytho a chyn gadael y safle gwreiddiol. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan laid, slyri, tail dofednod, plu, sarn, plisgyn wy neu unrhyw ddeunydd tebyg.
- Ar ôl dadlwytho yn safle’r cyrchfan:
- rhaid glanhau a diheintio’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, tail dofednod, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a hynny ar y safle
- rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd cyn gadael safle’r cyrchfan
- Rhaid i berson sy’n dibynnu ar y drwydded hon sicrhau ei fod ef ac unrhyw berson sy’n cael ei gyflogi ganddo neu sy’n ei gynorthwyo yn gwneud y canlynol:
- peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o’r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy’n amlwg wedi’u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
- yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle mae dofednod neu adar caeth yn bresennol
- yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â’u hailddefnyddio ar safle arall
- yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy, sy’n cael eu gwisgo wrth ddibynnu ar y drwydded hon, yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
- yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd
- Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag Erthygl 66 o’r Gorchymyn.
- Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i unrhyw safle sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn.
Nodiadau esboniadol
- Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna mae'n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).
- Mae ystyr y termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon fel a ganlyn:
- ystyr “wy” yw unrhyw ran o wy, gan gynnwys gwastraff wyau, cynhyrchion wyau hylif a phlisgyn wy
- ystyr “safle sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy” yw safle a gymeradwywyd o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) 1069/2009 a gymathwyd
- ystyr “safle’r cyrchfan” yw’r lleoliad sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy lle symudir wyau iddo o dan y drwydded hon
- ystyr “safle gwreiddiol wyau” yw’r safle lle cynhyrchwyd yr wyau
- ystyr “y Gorchymyn” yw Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) o ran Cymru neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) o ran Lloegr
- ystyr “safle gwreiddiol” yw’r safle y mae wyau yn cael eu symud ohono o dan y drwydded hon
- ystyr “parth gwarchod” yw parth o’r enw hwnnw a ddatganwyd o dan y Gorchymyn
- ystyr “parth gwyliadwriaeth” yw parth o’r enw hwnnw a ddatganwyd o dan y Gorchymyn
- Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
- faint o ddeunyddiau sy’n cael eu symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle gwreiddiol
- rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu
- enw’r traddodai
- cyfeiriad safle’r cyrchfan gwaredu
- Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol a rhaid iddo fod wedi ei gymeradwyo o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) neu Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd).
- Rhaid i berson sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.
- Rhaid i ddeiliad y safle gwreiddiol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol ag Erthygl 74 o’r Gorchymyn.
- Rhaid cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol arall. Yn benodol, rhaid cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
- Os ydych chi'n credu bod yna achos o glefyd hysbysadwy, rhaid rhoi gwybod ar unwaith i:
- Yn Lloegr: Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig DEFRA ar 03000 200 301
- Cymru: APHA ar 0300 303 8268
- Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud am arwyddion o glefyd yn eu hadar a sicrhau bioddiogelwch da (ar gov.uk) bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
- Am ragor o fanylion am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â ffliw adar:
- yn Lloegr, gweler canllawiau ffliw adar (ar gov.uk)
- yng Nghymru gweler ein gwefan
Mae methu â chydymffurfio â’r amodau yn y drwydded hon yn drosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Y gosb yn dilyn euogfarn am drosedd o dan yr adran hon yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n fwy na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk).
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.
