Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Strategaeth Genedlaethol Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) 2022 i 2026 yn bendant yn ei huchelgais i wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. Mae’r Strategaeth yn nodi’n glir hefyd ei bod yn hollbwysig dal camdrinwyr trais i gyfrif a darparu cymorth i newid ymddygiad er mwyn cyflawni’r uchelgais hwn. Mae ymyriadau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais mewn lleoliadau cymunedol a gwarchodol yn elfen hanfodol o’n hymateb ar y cyd i VAWDASV. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd geisio ‘diffodd y tap’ drwy fynd i’r afael â’r agweddau a’r amodau sylfaenol sy’n achosi cam-drin. Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid inni hefyd sicrhau bod gennym ymyraethau effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i atal cyflawni trais cyn iddo ddigwydd. 

Ym mis Rhagfyr 2023, lansiodd y ffrwd waith Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais arolwg mapio amlasiantaethol cenedlaethol i gael cipolwg ar nifer a natur yr ymyriadau sy’n cyfeirio at gyflawni VAWDASV yng Nghymru. At ddibenion yr arolwg, diffiniwyd ‘ymyrraeth’ fel unrhyw wasanaeth neu fecanwaith a gynlluniwyd i wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • Atal cyflawni trais yn y lle cyntaf, neu rhag iddo ddigwydd eto.
  • Dal cyflawnwyr trais i gyfrif am eu hymddygiad.
  • Cefnogi cyflawnwyr trais i newid eu hymddygiad.
  • Rheoli’r risg a achosir gan gyflawnwyr trais.

Dylid nodi hefyd bod ein diffiniad o ymyrraeth yn cynnwys pob agwedd ar VAWDASV. Hynny yw, ni wnaethom gyfyngu ein ffocws i elfen benodol o VAWDASV megis cam-drin domestig neu drais rhywiol.

O’r cychwyn cyntaf, bwriad y ffrwd waith oedd i’r arolwg fod yn uchelgeisiol ei gwmpas. I’r perwyl hwnnw, cynlluniwyd yr arolwg i gasglu gwybodaeth am ymyriadau sy’n gweithredu yn y gymuned, mewn lleoliadau carcharol ac ar draws ystod o sectorau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, llywodraeth leol, iechyd, addysg, cyfiawnder troseddol, a’r sector arbenigol. Drwy ddefnyddio’r dull hwn, roeddem yn gobeithio creu darlun cynhwysfawr a fyddai’n adlewyrchu’r amrywiaeth o ymyriadau sydd ar gael ledled Cymru. 

Mae canfyddiadau’r arolwg yn cynrychioli un o’r setiau data mwyaf manwl ar gyfer ymyriadau cyflawni trais VAWDASV yn y wlad; mae hwn yn ddatblygiad i’w groesawu ac yn rhoi llwyfan inni adeiladu arno.

Mewn hinsawdd ariannol anodd, gall fod yn heriol sicrhau buddsoddiad pellach. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo gwasanaethau sy’n darparu cymorth hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr yn codi’r heriau y maent yn eu hwynebu, a hynny’n gwbl briodol, gyda galw cynyddol ac adnoddau cyfyngedig. Mae’r ffrwd waith Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais wedi ymrwymo i sicrhau bod ‘ymyriadau a roddir ar waith ar gyfer cyflawnwyr trais yn ddiogel, bod digon o adnoddau ar eu cyfer, ac nad ydynt yn peryglu lefel y ddarpariaeth ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr. Rydym yn cydnabod yr angen i fod yn gyfrifol wrth gydbwyso’r lefel ofynnol o fuddsoddiad ar gyfer ymyriadau cyflawnwyr trais â’r angen i ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr. Ac eto, ein barn ni hefyd yw, os ydym am gyflawni’r nod trosfwaol o wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, mae’n rhaid inni gael ymyriadau ar waith i atal cyflawni trais yn y lle cyntaf neu ei atal rhag digwydd eto. O ystyried y lefelau presennol o ddarpariaeth, bydd angen buddsoddiad pellach i sicrhau’r ymyriadau hyn. Felly, wrth ystyried sut rydym yn mynd i’r afael â’r cwestiynau a godwyd gan ganfyddiadau’r arolwg ar y cyd, bydd angen i ni ddysgu, datblygu a sefydlu atebion sy’n ateb y galw heb effeithio ar wasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr.

Crynodeb o’r canfyddiadau

O gyfanswm o 62 ymateb, roeddem yn gallu nodi 56 ymyriad a oedd yn bodloni ein diffiniad o ymyriad cyflawni trais (fel yr amlinellwyd yn y Cyflwyniad). Roedd y 6 ymyriad a dynnwyd o’r set ddata naill ai’n ddyblyg neu’n dangos tystiolaeth gyfyngedig o weithio gyda chyflawnwyr trais.

Ar draws pob rhanbarth VAWDASV, mae’r canfyddiadau’n dangos mai Dyfed Powys sydd â’r nifer uchaf o ymyriadau. Dilynwyd hyn gan Gymru Gyfan, a ddefnyddiwyd gennym i gasglu ymyriadau sydd ar gael ym mhob Rhanbarth VAWDASV. Gwnaethom hefyd dorri i lawr nifer yr ymyriadau fesul ardal yr heddlu. Wrth wneud hynny, fe nodwyd bod 52% o ymyriadau a gofnodwyd yn yr arolwg yn digwydd yn ardal Heddlu De Cymru. Mae hyn yn cynrychioli cyfran sylweddol uwch na’r tair ardal heddlu arall.

Gofynnodd yr arolwg i ymatebwyr nodi pa sector (e.e. yr heddlu, awdurdodau lleol, sector arbenigol) oedd yn darparu’r ymyriad. Y sector sy’n darparu’r rhan fwyaf o ymyriadau cyflawni trais yng Nghymru yw’r sector arbenigol, ac yna Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS). Ni chawsom unrhyw ymatebion gan fyrddau iechyd lleol. Nodwyd hyn fel bwlch i ymdrin ag ef, ynghyd â sectorau eraill nad oedd yn bresennol yng nghanfyddiadau’r arolwg (gweler Argymhelliad 3).

Cam-drin domestig oedd ffocws ymddygiad mwyaf cyffredin yr ymyriadau. Mae llawer o ymyriadau yn ymdrin â thrais rhywiol ac ymddygiadau rhywiol niweidiol eraill, ynghyd â cham-drin domestig. Er bod ymyriadau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar drais rhywiol, mae yna lai na’r rhai sy’n ymdrin â cham-drin domestig. Ni roddodd canfyddiadau’r arolwg dystiolaeth o unrhyw ymyriadau a oedd yn ymdrin â thrais ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod na phriodas dan orfod.

Pan ofynnwyd i ymatebwyr am bwrpas eu hymyrraeth, nododd y rhan fwyaf ‘Newid Ymddygiad’ ac yna ‘Lleihau Risg’. Yna gofynnwyd i ymatebwyr roi gwybodaeth fanylach am y proffil risg yr oedd eu hymyrraeth yn anelu tuag ato. Y categori unigol mwyaf oedd ‘Risg Canolig’. Wrth gyfuno’r data hwn â ‘Risg Uchel’ a ‘Risg Uchel Iawn’, mae’r canfyddiadau’n dangos bod y rhan fwyaf o ymyriadau yn gweithio gydag unigolion sydd eisoes wedi achosi niwed.

Y garfan fwyaf cyffredin ar gyfer ymyriadau oedd Oedolion – Gwryw, ac yna Oedolion – Cymysg. Nid yw hyn yn syndod o ystyried bod y rhan fwyaf o VAWDASV yn cael ei gyflawni gan ddynion.

Yn galonogol, adroddwyd ar y rhan fwyaf o ymyriadau fod yna gynnig cyswllt a chymorth dioddefwyr o ryw fath (70%). Mae cyswllt a chymorth dioddefwyr yn elfennau hanfodol ar gyfer darparu ymyriadau cyflawni trais. Mae’n bwysig nodi, o ystyried cwmpas uchelgeisiol yr arolwg, ein bod wedi casglu nifer o ymyriadau na fyddai angen cynnig cyswllt a chymorth i ddioddefwyr, megis y rhai sy’n gweithio yn y gofod addysg a chodi ymwybyddiaeth (h.y. gyda’r bwriad o atal niwed yn y lle cyntaf).

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddarparu gwybodaeth am statws achredu eu hymyrraeth ac a oedd wedi’i werthuso. Canfuwyd bod gan lai na hanner (46%) yr ymyriadau ryw fath o achrediad. O’r rhai a oedd wedi’u hachredu, Respect oedd y corff achredu mwyaf cyffredin. Dylid nodi nad yw achredu yn brocsi ar gyfer nodi a yw ymyriad yn effeithiol o ran lleihau risg a chynyddu diogelwch dioddefwyr. Mae achrediad yn nodi cydymffurfiaeth yn erbyn safonau, gall y rhain gynnwys elfennau fel rhannu data, cadw data a hyfforddi staff.

Nododd llai na hanner yr ymyriadau (45%) eu bod wedi cael eu gwerthuso. Roedd yr ymatebion yn cynnwys cyfuniad o gyrff gwerthuso academaidd ac allanol yn ogystal â gwerthuso mewnol. Nid yw’n glir a yw’r gwerthusiadau hyn yn canolbwyntio ar ganlyniadau neu’n gwerthuso’r prosesau o fewn systemau a/neu leihau niwed a chynnydd mewn diogelwch dioddefwyr. Rydym wedi ymrwymo i archwilio cwestiynau a godwyd yn yr arolwg ynghylch achredu a gwerthuso yn fwy manwl (gweler Argymhelliad 7).

Yn adran olaf yr arolwg, gofynnwyd cyfres o gwestiynau i’r ymatebwyr am gyllid a threfniadau ariannu er mwyn cael cipolwg ar y ffyrdd y caiff ymyriadau eu hariannu yng Nghymru ac i ba raddau y mae’r trefniadau ariannol presennol yn gynaliadwy. Y cyfnod ariannu mwyaf cyffredin ar gyfer ymyriadau oedd 12 i 24 mis. Cofnodwyd bod gan 5 ymyrraeth gyllid 12 mis ar sail ‘dreigl’ neu ‘adolygu’. Mae hyn yn dangos rhywfaint o hirhoedledd ar gyfer yr ymyriadau hyn, er nad ydynt o reidrwydd yn sicrhau cyllid o ystyried y gallai newid yng nghyllidebau cyllidwyr o flwyddyn i flwyddyn arwain at derfynu neu leihau cyllid.

Darperir y rhan fwyaf o ymyriadau trwy gyllid grant a chomisiynu yw’r ail fodel ariannu mwyaf cyffredin. O’r 21 ymyriad a ariannwyd gan grant, roedd 14 i fod i ddod i ben ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024. Mae lefel uchel yr ymyriadau sy’n cael cyllid grant bob 12 mis yn cyflwyno risg o ansicrwydd wrth ddarparu ymyriadau cyflawni trais yng Nghymru.

Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer ymyriadau cyflawni trais yng Nghymru ac yna awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Nid oeddem yn gallu dod o hyd i dystiolaeth o iechyd fel prif gyllidwr ymyriadau yng nghanfyddiadau’r arolwg. Gan rannu’r categorïau cyllidwyr sylfaenol yn gyrff datganoledig (awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru) a chyrff nad ydynt wedi’u datganoli (PCCs, HMPPS a Llywodraeth y DU), gwelwn fwyafrif bychan o ymyriadau a ariennir gan y rhai nad ydynt wedi’u datganoli.

I gael rhagor o wybodaeth am y mewnwelediadau allweddol hyn, gweler yr adroddiad llawn sy’n rhoi dadansoddiad manwl, data darluniadol ac argymhellion perthnasol i adeiladu ar y canfyddiadau a gasglwyd o’r arolwg.   

Argymhellion

Mae’r arolwg mapio ymyriadau cyflawni trais wedi datgelu tirwedd anghyson o ddarpariaeth ledled Cymru. Mae’r anghysondebau hyn yn berthnasol i nifer yr ymyriadau ar draws rhanbarthau, ond, yn bwysicach fyth, maent hefyd yn ymestyn i natur ymyriadau. 

Ein huchelgais yw sicrhau dull system gyfan gyson i Gymru gyfan o fynd i’r afael â chyflawni trais a all warantu lefelau gofynnol o ddarpariaeth gwasanaeth ar draws rhanbarthau. Wrth wneud hynny, ein nod yw rhoi sicrwydd i ddioddefwyr a goroeswyr bod ymyriadau cyflawni trais yn ddiogel, yn effeithiol, yn atebol ac yn cynnig cyfathrebu clir a chymorth integredig iddynt drwy gynnig cyswllt cyson â dioddefwyr. Ymhellach, rydym yn bwriadu i gyflawnwyr trais a’r rhai sydd mewn perygl o achosi niwed gael eu dwyn i gyfrif a’u bod yn gallu cael mynediad at gymorth i newid eu hymddygiad ble bynnag maent yn byw yng Nghymru.

Mae’r argymhellion a restrir drwy’r adroddiad llawn yn rhoi’r camau ymarferol nesaf am sut y gallwn adeiladu ar y dirwedd bresennol yng Nghymru. Mae’r argymhellion hyn wedi’u cynnwys yn llawn isod:

Argymhelliad 1

Mewn cydweithrediad â Chynghorwyr Rhanbarthol, bod Llywodraeth Cymru yn cwblhau ymarfer traws-gymharol er mwyn deall sut mae asesiadau anghenion rhanbarthol yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth bresennol o ymyriadau cyflawni trais.

Argymhelliad 2

Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV i ystyried cymeradwyo ymateb Cymru gyfan i fynd i’r afael â chyflawni trais – gan gynnwys lefel ofynnol o ddarpariaeth gwasanaeth – er mwyn sefydlu cysondeb a sicrhau bod ymyriadau’n ddiogel ac yn effeithiol.

Argymhelliad 3

Bod ffrwd waith Glasbrint VAWDASV ar gyfer Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais yn ymgymryd ag ymgysylltiad dilynol wedi’i dargedu â sectorau allweddol sy’n absennol o ganfyddiadau’r arolwg er mwyn deall pa ymyriadau cyflawni trais y maent yn eu cyflawni, os o gwbl.

Argymhelliad 4

Bod ffrwd waith Glasbrint VAWDASV ar gyfer Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais yn datblygu’r cyfeiriadur ymyriadau cyflawni trais a’i wneud yn hygyrch i bob rhanbarth.

Argymhelliad 5

Mewn cydweithrediad â phob rhanbarth, bod Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV yn adolygu bylchau yn argaeledd ymyriadau cyflawni trais VAWDASV ac yn ystyried opsiynau ar gyfer cynyddu darpariaeth yng Nghymru. Mae bylchau allweddol yn cynnwys trais rhywiol, cam-drin ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod a Thrais yn erbyn Rhieni a Cham-drin Rhieni gan Blant a’r Glasoed.

Argymhelliad 6

Ffrwd Waith Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais i adolygu canfyddiadau’r arolwg yn fanylach er mwyn cael gwell dealltwriaeth o heriau ac anghysondebau o ran achredu a gwerthuso ymyriadau.

Argymhelliad 7

Bod Llywodraeth Cymru a chyrff comisiynu rhanbarthol yn cynnal dadansoddiad o statws achredu a gwerthuso ymyriadau presennol (gan gynnwys dyddiad derbyn/cwblhau) a thystiolaeth o ganlyniadau.

Argymhelliad 8

Glasbrint VAWDASV ffrwd waith Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais i gydweithio â ffrwd waith y Dull System Gyfan Gynaliadwy i fynd i’r afael â heriau a nodwyd ynghylch cynaliadwyedd cyllid ymyriadau cyflawni trais yng Nghymru.

Argymhelliad 9

Glasbrint VAWDASV ffrwd waith Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais i gydweithio â ffrwd waith y Dull System Gyfan Gynaliadwy i sicrhau bod ymyriadau cyflawni trais yn cael eu cynnwys o fewn canllawiau newydd ar ddatblygu asesiadau o anghenion a sefydlu trefniadau comisiynu.

Argymhelliad 10

Bod ffrwd waith Glasbrint Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais VAWDASV yn cynnal adolygiad dilynol ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026 i ddeall sut mae’r dirwedd ymyrraeth gyflawn wedi datblygu, pa gynnydd sydd wedi’i wneud a sut mae canfyddiadau’r arolwg wedi llywio’r broses o wneud penderfyniadau.