Neidio i'r prif gynnwy

Gair am y canllawiau

Dechrau’n Deg yw rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar sydd wedi’i hanelu at deuluoedd â phlant o dan 4 oed yn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae elfennau craidd y rhaglen yn dylanwadu'n gadarnhaol ar blant a'u teuluoedd. gan gynnwys y canlynol:

  • Gofal rhan-amser o ansawdd a ariennir i blant 2-3 oed
  • Gwell gwasanaeth ymweliadau iechyd
  • Mynediad at gymorth magu plant
  • Cymorth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Cyd-destun polisi

Mae gwaith Llywodraeth Cymru ar hawliau plant yn seiliedig ar ein hymrwymiad i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar hawliau plant, gan eu diogelu mewn cyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny. Mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i’r Confensiwn wrth arfer eu swyddogaethau.

Ar sail hawliau plant, uchelgais Llywodraeth Cymru yw bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Dyma’r sbardun y tu ôl i raglenni a pholisïau allweddol fel Dechrau’n Deg.

Mae Cynllun Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru yn amlinellu dull traws-lywodraethol o ymdrin â pholisi, gwasanaethau a chefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Diben y Cynllun hwn yw galluogi plant i gael eu hawliau. Mae'n nodi Saith Blaenoriaeth ar gyfer cyflawni yn ystod tymor y Senedd hon. Mae un o'r Blaenoriaethau hyn yn canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar plant:

Dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd, gan gynnwys gwasanaethau blynyddoedd cynnar da a chymorth i rieni neu ofalwyr. Dylai gael ei gefnogi gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac wrth iddo symud rhyngddynt.

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (y Ddeddf) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ei nod yw cael y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i feddwl mwy am y tymor hwy, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ceisio atal problemau ymysg cenedlaethau’r dyfodol a mynd ati mewn ffordd fwy gydgysylltiedig yn ogystal ag integreiddio mesurau perfformiad a chanlyniadau.

Mae darparu gwasanaethau gofal plant Dechrau’n Deg o safon yn cyd-fynd yn union â nodau’r Ddeddf sy’n ymwneud â ‘Cymru Iachach’ a ‘Cymru Fwy Cyfartal’. Mae’r pwyslais a roddir gan Dechrau’n Deg ar ymyrraeth gynnar yn cyd-fynd â’r gofynion ataliol a hir dymor yn yr ‘Egwyddor Datblygu Cynaliadwy’, sy’n nodwedd o’r Ddeddf.

Mae profiadau plentyndod, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar, yn cael dylanwad sylweddol ar iechyd a llesiant yn y dyfodol. Dengys astudiaethau fod cysylltiad cryf rhwng Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a chanlyniadau bywyd gwaeth. Er mai atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yw'r nod bob amser, un o'r ffyrdd o liniaru effaith profiadau o’r fath, a gwella canlyniadau, yw trwy weithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod wedi cydweithio â Straen Trawmatig Cymru, a rhanddeiliaid, i ddatblygu fframwaith ymarfer Cymru sy'n Ystyriol o Drawma. Mae'r fframwaith yn nodi prif egwyddorion arferion sy’n ystyriol o drawma ac yn sefydlu ystod o wahanol lefelau ymarfer Cymru sy’n Ystyriol o Drawma

Ffactor amddiffynnol bwysig arall, yn erbyn adfyd plentyndod, yw gwytnwch. Ceir amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer adeiladu gwytnwch, gan gynnwys datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, sgiliau cyfathrebu, mynediad at weithgareddau cymdeithasol a hamdden, ffrindiau, a pherthynas ag oedolyn dibynadwy. Nid oes raid iddo fod yn rhiant/gofalwr a gall fod yn aelod o dîm y lleoliad gofal plant Adroddiad Gwytnwch ACE Prifysgol Bangor

Mae staff Dechrau’n Deg, ar y cyd â gweithwyr proffesiynol amlasiantaeth eraill (fel rhan o ddull tîm o amgylch y teulu), yn hanfodol er mwyn adnabod yn gynnar bryderon yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma, a gallant chwarae rhan hanfodol wrth liniaru eu heffaith ar blant.

Cynulleidfa

Mae’r canllaw hwn ar gyfer y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu, cynllunio a rheoli gofal plant i blant sy’n cael cefnogaeth Dechrau’n Deg. Mae’n cefnogi darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg ac nid i’w ddefnyddio fel fframwaith arolygu. Dylid ei ddarllen ar y cyd â chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â Dechrau’n Deg, sydd i’w gweld yn Dechrau’n Deg: canllawiau.

Cyflwyniad

Mae darparu gofal plant rhan-amser o ansawdd ar gyfer plant 2-3 oed yn rhan annatod o raglen Dechrau'n Deg. Mae gofal plant o ansawdd da yn cyfrannu at gaffael sgiliau a galluoedd, cymdeithasoli a'r gallu i chwarae ac i ganolbwyntio. Mae'r rhain yn hanfodol nid yn unig i allu'r plentyn i ddysgu yn y dyfodol ond hefyd i gymryd rhan yn effeithiol mewn grwpiau, p'un ai yn yr ystafell ddosbarth, yn y farchnad lafur neu yn y gymdeithas.

Mae ymchwil yn awgrymu bod gofal plant blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn arwain at welliannau yn natblygiad plant yn y blynyddoedd wedyn, megis gwell sgiliau iaith; gwell perfformiad addysgol mewn mathemateg a darllen; a chynnydd mewn ymddygiad/canlyniadau cadarnhaol. Mae plant sy'n mynychu lleoliadau blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn fwy annibynnol, yn canolbwyntio ar eu chwarae am gyfnod hirach a hefyd, pan maent yn dechrau yn yr ysgol, yn fwy parod i gydweithredu ac wedi’u paratoi'n well ar gyfer yr heriau sy'n eu hwynebu [Effective Provision of Pre-School Education (EPPE) (2003); Schweinhart et al (1993), Love et al (2005)]. Un o ganfyddiadau'r astudiaeth EPPE yw bod cysylltiad rhwng gofal cyn-ysgol o ansawdd da a gwell cyrhaeddiad deallusol a gwell perthnasoedd cymdeithasol.

Mae canfyddiadau The Effective Pre-school, Primary and Secondary Education Project (EPPSE), a gyhoeddwyd yn 2014, yn pwysleisio ymhellach arwyddocâd profiadau cyn-ysgol o safon a’r effeithiau hydredol y gall y profiadau hyn eu cael ar gyrhaeddiad addysgol.

Felly, dylai ffocws ar ddarpariaeth o ansawdd da fod yn sylfaen i bob agwedd ar ofal plant Dechrau'n Deg[1]. Nid yn unig y dylai gofal plant Dechrau'n Deg anelu at fod o’r ansawdd gorau, ond dylai hefyd ymdrechu i fod yn feincnod ar gyfer gofal plant o ansawdd da ledled Cymru.

Ceir 3 mesur allweddol o ansawdd mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg llwyddiannus:

    1. Oedolion sy’n galluogi
    2. Profiadau difyr
    3. Amgylcheddau effeithiol
Image
3 mesur allweddol o ansawdd mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg llwyddiannus

Mae oedolion sy’n galluogi, amgylcheddau effeithiol a phrofiadau difyr i gyd yn cyfrannu at ddarparu gofal plant o ansawdd a darparu'r sylfeini y bydd pob datblygiad yn y dyfodol yn cael ei adeiladu arno.

Mae Dechrau'n Deg wedi’i seilio ar y disgwyliadau canlynol:

  1. Dylai’r staff sy'n gweithio gyda phlant ifanc fod wedi'u hyfforddi'n briodol a meddu ar gymwysterau priodol, deall sut mae plant yn datblygu ac yn dysgu, a bod yn sensitif ac yn ymatebol i'w hanghenion a'u teimladau.
  2. Rôl yr oedolyn yn y lleoliad yw cefnogi a chyfoethogi dysgu’r plant yn hytrach na'i gyfarwyddo.
  3. Mae plant angen amgylchedd ysgogol a gofalgar. Bydd yr amgylchedd dan do ac yn yr awyr agored yn ddiogel ac yn cynnig her priodol, ac yn fan lle gall plant fod yn hapus a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel unigolion.
  4. Dylai plant ddysgu trwy brofiadau uniongyrchol sy'n seiliedig ar chwarae a darganfod, lle anogir arbrofi ac annibyniaeth.
  5. Dylai cyfleoedd dysgu a chwarae ar gyfer plant o dan dair oed ystyried eu diddordebau a'u hanghenion, cynnig cyfleoedd iddynt feithrin eu hyder a'u hunan-barch, a datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r cysyniadau cynnar sy'n briodol i'w cam datblygiadol.
  6. Dylai gweithgareddau a phrofiadau a gynllunir ar gyfer plant fod yn sensitif i'w gwahaniaethau unigol a dylent ystyried normau a gwerthoedd diwylliannol. Dylai plant gael y cyfle i ddysgu am ddiwylliannau eraill a phrofiadau unigolion a dylid datblygu arferion a pholisïau’r lleoliad gyda phartneriaid ethnig leiafrifol a'u cynllunio o safbwynt gwrth-hiliol. Ewch i Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  7. Dylai'r cyfleoedd a ddarperir adeiladu ar yr hyn mae plant wedi’i brofi yn y cartref ac wrth fynd i weithgareddau cynnar fel grwpiau Rhieni a Phlant neu Gylch Ti a Fi. Dylai fod cysylltiad clir â datblygiad iaith cynnar, chwarae a'r Cyfnod Sylfaen.
  8. Dylai asesu trylwyr drwy arsylwi ar weithgareddau dyddiol y plant gael ei ddefnyddio i gefnogi cynnydd a'u datblygiad y plant.
  9. Mae trefniadau asesu sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys asesu datblygiad plentyn ar ddechrau eu cyfnod mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg. Dylai hyn fod yn sail i asesu cynnydd yn barhaus i lywio cynlluniau yn y dyfodol. Dylai’r trefniadau asesu nodi plant ag anghenion ychwanegol yn gynnar a dylai staff ddefnyddio'r wybodaeth hon i weithio gyda gweithwyr proffesiynol priodol.
  10. Rhaid datblygu partneriaethau o ymddiriedaeth rhwng rhieni/gofalwyr a’r staff. Dylid cynnwys rhieni/gofalwyr yn yr holl drafodaethau am eu plentyn, a dylid cynnig awgrymiadau iddynt ar sut i gefnogi datblygiad eu plentyn y tu allan i'r lleoliad.
  11. Dylai lleoliadau feithrin cysylltiadau agos ag asiantaethau perthnasol a all gefnogi plant a'u teuluoedd. Dylid rhannu gwybodaeth a gofyn am gymorth neu gyngor yr asiantaethau fel bo'r angen.
  12. Rhaid bod amrywiaeth o strategaethau ar waith i sicrhau proses bontio hwylus rhwng gwahanol amgylcheddau, yn enwedig y pontio rhwng y cartref a Dechrau'n Deg ac wedyn i addysg gynnar.

Amgylcheddau effeithiol

Mae safon yr amgylchedd ffisegol yn cael effaith ar ansawdd y ddarpariaeth gofal plant. Dylai'r amgylchedd ffisegol mewn lleoliadau Dechrau'n Deg fod yn ddiogel a chynnig mynediad at adnoddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant ac yn adeiladu ar eu chwilfrydedd naturiol. Dylai lleoliadau fod yn groesawgar a chyfeillgar i blant a rhieni/gofalwyr a darparu amgylchedd cyfoethog ar gyfer chwarae. Gall cyfleusterau gwael gyfyngu ar brofiadau plant a gallai hyn gael effaith andwyol ar eu datblygiad.

Dylai lleoliadau Dechrau’n Deg gael mannau awyr agored cwbl hygyrch o safon i’w ddefnyddio bob dydd. Dylai cynlluniau ar gyfer datblygu/ailwampio lleoliadau ystyried mynediad at amgylcheddau awyr agored o safon. Dylai’r holl fannau awyr agored gynnig y meysydd dysgu priodol a dylid cefnogi staff i wneud y mwyaf o’r mannau agored hyn gan fanteisio i’r eithaf arnynt.

Mae plant angen mynediad at fan diogel yn yr awyr agored sy'n ddiddorol ac yn hawdd mynd iddo. Mae'r awyr agored yn lle delfrydol ar gyfer dysgu gweithredol, annog plant i gymryd risgiau priodol, dysgu'n uniongyrchol am natur a’r tywydd, a chynnal gweithgareddau ar raddfa fawr ac sy'n gwneud llanastr. Mae ymchwil yn awgrymu bod yr amgylchedd awyr agored yn dylanwadu’n gadarnhaol ar agwedd plant at ddysgu a’u hunanreolaeth. Mae lefel y gofal a welir wrth reoli'r amgylchedd hefyd yn cyfleu negeseuon cryf i blant ac i oedolion am y ffordd mae'r lleoliad yn eu gwerthfawrogi. Mae sawl sefydliad yn rhoi gwybodaeth am ddarparu amgylcheddau chwarae ysgogol i blant. Mae'r rhain yn cynnwys Chwarae Cymru a Learning Through Landscapes.

Rhaid bod gofod diogel digonol ar gael, dan do ac yn yr awyr agored, i greu lleoedd chwarae mawr a bach lle gall plant, er enghraifft, ddefnyddio deunyddiau adeiladu mawr a bach. Rhaid i’r amgylchedd ddarparu cyfleoedd ar gyfer chwarae rôl, arbrofi ac ymchwilio, gweithgareddau celf a chrefft, a rhannu llyfrau. Dylid darparu mannau priodol hefyd i oedolion allu gweithio gyda phlant unigol a grwpiau bach. Yn ogystal, dylid cynnwys mannau tawel lle gall plant fyfyrio a gorffwys.

Dylai fod lleoedd ar gael i storio gwaith y plant, a lleoedd y gellir mynd atynt yn hawdd i annog plant i ddewis deunyddiau ac offer sy'n cefnogi eu datblygiad fel dysgwyr ymreolus.

Bydd y staff hefyd angen mannau tawel sy’n eu galluogi i weithio gyda rhieni/gofalwyr neu gynnal trafodaethau cyfrinachol pan fo angen.

Ar gyfer datblygiad iach y plant, mae'n bwysig creu amgylchedd sy’n hyrwyddo manteision bod yn iach, a lle caiff agweddau ac ymddygiad iach eu hannog. Caiff lleoliadau addysg a gofal plentyndod cynnar eu hannog i weithio, gyda chefnogaeth leol, tuag at Feini Prawf Gwobr Genedlaethol y Cvnllun Cvn-Ysqol lach a Chvnaliadwv. Mae hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd ar sail y lleoliad cyfan ac yn cael ei asesu'n lleol.

Mae derbyn maeth da yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol i'n plant gael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae'r cyfnod hwn yn adeg dyngedfennol pan sefydlir y sylfeini ar gyfer datblygiad plentyn fydd yn effeithio ar ei iechyd a'i les gydol ei oes.

Adroddodd data o Raglen Mesur Plant Cymru 2020-21[2] bod tua un o bob tri phlentyn wedi dechrau'r ysgol gynradd eisoes dros eu pwysau neu'n ordew, ac mae'r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ordew. Mae plant gordew bum gwaith yn fwy tebygol o fod yn oedolion gordew. Er bod gordewdra yn bryder mawr oherwydd ei ganlyniadau iechyd sylweddol, mae yna bryderon eraill sy'n gysylltiedig â deiet gwael yn ystod plentyndod, gan gynnwys pydredd deintyddol (y prif reswm y mae plant bach yn mynd i’r ysbyty) a chyfraddau twf gwael.

Mae lleoliadau addysg a gofal plentyndod cynnar, gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg, yn chwarae rhan hanfodol o ran dylanwadu ar ymddygiadau deietegol plant a'u hiechyd gydol oes.

Dylai lleoliadau Dechrau'n Deg fod yn gweithio i'r safonau uchaf er mwyn sicrhau'r cynnig gorau o ran bwyd a diod i'r plant o dan eu gofal trwy weithredu'r canllawiau arfer gorau Bwyd a Maeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant (Llywodraeth Cymru, 2018). Bydd dietegwyr iechyd cyhoeddus lleol hefyd yn gallu cefnogi lleoliadau gyda chyngor ar fentrau lleol fel gwobrau byrbrydau iach, ac ar hyfforddiant achrededig ar faeth yn y blynyddoedd cynnar a ddarperir drwy 'Sgiliau Maeth am Oes’.

Mae plant angen amser i ymgartrefu mewn amgylchedd newydd, i ddatblygu perthynas gyda’r staff a chyfoedion ac i ymaddasu i arferion newydd. Mae plant angen amser i arsylwi ac i drin deunyddiau cyfarwydd y gallant ddychwelyd atynt bob dydd. Dylai’r staff gefnogi'r cam ymgartrefu hwn a pheidio â gorlethu plant gyda gormod o weithgareddau ac adnoddau.

Mae'n bosibl y bydd angen newid neu addasu adeiladau ac adnoddau er mwyn sicrhau y gall pob plentyn ddefnyddio'r lleoliad, beth bynnag fo'i anghenion neu unrhyw anabledd.

Dylai’r lleoliadau hyn fod o fewn pellter ‘gwthio pram’ o gartref y plentyn lle bo modd. Yn ymarferol, mae hynny rhwng 10 a 15 munud ar y mwyaf. Rhaid nodi atebion lleol a chael cytundeb Llywodraeth Cymru iddynt lle nad yw hyn yn bosibl.

Rhaid i fodelau cyflenwi gofal plant Dechrau'n Deg ddiwallu anghenion a ddynodir yn lleol. Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd a'r disgresiwn i benderfynu ar gyfansoddiad eu darpariaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg a allai gynnwys:

  • Lleoliadau cymysg (plant Dechrau’n Deg a phlant nad ydynt yn rhan o fenter Dechrau’n Deg)
  • Lleoliadau Dechrau’n Deg yn unig
  • Ysgolion a gynhelir
  • Lleoliadau gwirfoddol/cymunedol/annibynnol gan gynnwys meithrinfeydd dydd, grwpiau chwarae cyfrwng Cymraeg a Saesneg, cylchoedd meithrin a gwarchodwyr plant.

Mae angen i awdurdodau lleol ddilyn eu rheolau caffael eu hunain wrth lunio Cytundebau Lefel Gwasanaeth. Rhaid i’w hadran gwasanaethau cyfreithiol wirio'r rhain.

Rhaid cofrestru holl leoliadau Dechrau'n Deg gydag AGC a rhaid iddynt fodloni'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir. Fodd bynnag, disgwylir i leoliadau Dechrau’n Deg fod o ansawdd uwch na’r rhan fwyaf o ddarpariaeth gofal plant, a dylent fod yn esiampl o’r arfer gorau.

Wrth gynllunio darpariaeth gwasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg yn lleol, dylai awdurdodau lleol wneud y cysylltiadau angenrheidiol â Chynnig Gofal Plant Cymru, y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (gynt Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif) a chyda Chynlluniau Strategol Addysg Gymraeg (CSCA) lleol i sicrhau y caiff y ddarpariaeth yn lleol ei chynllunio’n strategol. 

Oedolion sy'n galluogi

Rhaid i'r staff a benodir i weithio mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg fod o'r radd flaenaf er mwyn darparu darpariaeth o ansawdd da. Dylai'r staff fod yn ymatebol, yn serchog ac ar gael i'r plant bob amser a dylent fod yn ymroddedig i'w gwaith gyda phlant ac i ethos gwella ansawdd, sef conglfaen y rhaglen Dechrau’n Deg. I gefnogi a gwella datblygiad y plant, dylai’r staff fod wedi'u hyfforddi'n briodol (Fframwaith Cymwysterau - Gofal Cymdeithasol Cymru), a dylai datblygiad staff sicrhau dilyniant, sefydlogrwydd a hefyd gwella ansawdd (Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) | Gofal Cymdeithasol Cymru).

Canfu’r astudiaeth EPPE (2003) po uchaf yw cymwysterau'r staff, yn enwedig yr arweinydd/rheolwr, y mwyaf o gynnydd mae’r plant yn ei wneud.

Rhaid bod gan staff sy'n gweithio mewn lleoliadau Dechrau'n Deg brofiad o weithio gyda phlant ifanc. Rhaid eu bod yn meddu ar y cymwysterau a nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio yn Sector y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru. Mae’r rhestr yn nodi’r cymwysterau sydd eu hangen i weithio mewn lleoliadau Dechrau’n Deg (yn ogystal â cymwysterau cyfatebol). Mae’n nodi’r cymwysterau cyfredol sydd eu hangen, yr hen gymwysterau a dderbynnir a chymwysterau seiliedig ar waith a awgrymir er mwyn camu ymlaen mewn gyrfa a datblygiad proffesiynol parhaus.

Os nad oes gan aelodau o’r staff y cymhwyster gofynnol, rhaid i’r Cynllun Dechrau'n Deg nodi sut ac erbyn pryd bydd y staff wedi'u hyfforddi i'r safon ofynnol. Bydd angen i hyn gael ei fonitro gan y Tîm Cynghori Gofal Plant er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud yn amserol a bod y cymwysterau yn cael eu cwblhau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni.

Rhaid i'r holl staff gofal plant gyflawni o leiaf pum niwrnod o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus bob blwyddyn, fel y'u dynodir gan y Tîm Cynghori Gofal Plant. Mae'r hyfforddiant hwn yn ychwanegol at unrhyw ofynion hyfforddiant a nodir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Dylai'r dysgu proffesiynol ddiwallu anghenion aelodau unigol o’r staff a sicrhau bod gan yr holl staff yr wybodaeth, y sgiliau, yr agweddau a'r ddealltwriaeth sy’n ofynnol ar gyfer y swydd. Dylid cynnwys cost cyflenwi oriau staff yn ystod hyfforddiant yng nghyllideb yr awdurdod lleol ar gyfer cyflwyno Dechrau’n Deg.

Mae Cyngor Gofal Cymru hefyd wedi datblygu pecyn cymorth datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer rheolwyr a gweithwyr gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant y gellir ei ddefnyddio i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus,

Mae parhad o ran staff yn bwysig. Gall plant ddangos arwyddion o orbryder cynyddol neu ymgilio cymdeithasol pan fydd eu gofalwyr yn newid o hyd. Bydd plant sy'n dysgu cyfathrebu yn aml yn defnyddio eu ffyrdd unigryw eu hunain a mathau o gyfathrebu y bydd staff cyson yn dod yn gyfarwydd â nhw. Mae gofalwr sy'n gyfarwydd â'r plentyn yn debygol o ddysgu’r mathau hynny o gyfathrebu a gallu ymateb iddynt, lle byddai gofalwr newydd yn fwy tebygol o beidio â’u deall (Melhuish, 1991). Yn ogystal â hynny, i fanteisio i’r eithaf ar brofiadau chwarae, mae’n rhaid i blentyn gael perthynas ddiogel ac ymlyniad tuag at ffigur rhiant mewn amgylchedd gofal plant (Ainsworth a Bowlby, 1991). Mae'n arfer da felly i awdurdodau lleol gyflwyno strategaethau a fydd yn gwella parhad staff mewn lleoliadau Dechrau'n Deg.

Wrth drafod arferion, mae Selleck a Griffin (1996) yn awgrymu bod gweithio gyda phlant o dan 3 oed a'u teuluoedd, a diwallu eu hanghenion, yn dasg gwerth chweil ond heriol, sy'n gallu bod yn flinedig yn emosiynol ac yn gorfforol. Mae’r staff angen amser i fyfyrio ar eu harferion a rhannu pryderon gyda chydweithwyr. Gall goruchwyliaeth sensitif, hyfforddiant mewn swydd a sefydlu rhwydweithiau helpu i ddiwallu'r angen hwn.

Mae'r gymhareb oedolion:plant mewn lleoliadau Dechrau'n Deg yr un peth â lleoliadau gofal plant eraill. Ceir manylion llawn am y cymarebau oedolion:plant gofynnol yn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant Rheoleiddiedig.

Yn ogystal â’r cymarebau staffio gofynnol, dylid cyflogi staff hyfforddedig a chymwys ychwanegol i gyflenwi er mwyn caniatâu i'r arweinydd/rheolwr gyflawni dyletswyddau ychwanegol, megis cyfarfod yn rheolaidd â rhieni/gofalwyr, cynnal ymweliadau â chartrefi a mynychu cyfarfodydd lle bo angen. Dylai'r staff cyflenwi fod ar gael ar gyfer tri sesiwn y mis o leiaf lle mae’r trefniadau staffio’n caniatáu hynny.

Ni ellir cynnwys gwirfoddolwyr yn nifer yr oedolion sy'n rhan o'r gymhareb oedolion:plant gofynnol mewn lleoliad Dechrau'n Deg.

Mae Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn un o linynnau craidd Dechrau'n Deg, ac o'r herwydd mae'n rhaid i bob ymarferydd mewn lleoliadau Dechrau'n Deg gael, fel isafswm, y lefel 'craidd' o ddatblygiad sgiliau a bennir yn y llwybr hyfforddi Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu Cymru Gyfan. Mae rhyngweithio ymatebol rhwng oedolyn a phlentyn yn allweddol i gefnogi datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Profiadau difyr

Mae cyfleoedd i chwarae yn hanfodol ar gyfer datblygu hunan-ymwybyddiaeth plant a'r ffordd y maent yn dysgu rheolau ymddygiad cymdeithasol. I sicrhau bod y cyfleoedd i ddysgu yn cael eu defnyddio i'r eithaf, mae angen awyrgylch llawn ffydd a pharch.

Bydd yr amgylchedd hwn yn hyrwyddo synnwyr o berthyn lle mae plant yn dangos lefelau uchel o lesiant corfforol ac emosiynol ac wedi ymrwymo'n llawn i'w dysgu.

Mae'n rhaid rhoi gwerth ar ddyfalbarhad ac annog agwedd bositif at ddysgu. Dylid cydnabod a dathlu ymdrechion, cyflawniadau a chynnydd plant.

Mae cyfleoedd chwarae yn hanfodol er mwyn datblygu'n wybyddol a deallusol, sy'n galluogi i blant ddatblygu dyheadau uchel, hunanddelwedd cadarnhaol ac awydd i ddysgu. Bydd plant yn datrys problemau'n naturiol wrth chwarae a dylent gael digon o gyfleoedd i gymryd rhan ar lefel ddwys ac i ddysgu'n weithredol yn ddi-dor yn unol â'u datblygiad. Yn ystod y cyfnodau hyn, dylid rhoi amser i greu, rhesymu, cwestiynu, dyfalu ac ystyried.

Bydd angen i staff mewn lleoliadau Dechrau'n Deg feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o'r ffordd y mae plant yn datblygu ac yn dysgu. Bydd angen iddynt allu hwyluso dysgu drwy chwarae o ansawdd uchel. Rhaid i ofal plant Dechrau'n Deg gynnwys addysgeg sy'n gwerthfawrogi rôl bwysig chwarae i gefnogi datblygiad plant. Dylai dealltwriaeth o brofiadau sy'n addas i'w datblygiad fod wrth wraidd profiad plentyn mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg. Nid yw cyflwyno cyfarwyddyd academaidd ffurfiol yn ystod y cyfnod cyn ysgol bob amser er budd pennaf llawer o blant, ac yn wir, gallai fod yn niweidiol i rai ohonynt dros y tymor hwy (Katz, 2015).

Mae Lleferydd, Iaith ac Cyfathrebu (SLC yn sylfaen i bob maes dysgu ac mae cyfathrebu effeithiol yn sgil bywyd hanfodol. Rhaid i leoliadau gofal plant Dechrau'n Deg gynllunio'n ofalus i gefnogi datblygiad sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu’r plant. Bydd rhyngweithio ymatebol gydag oedolion yn ystod profiadau synhwyraidd uniongyrchol fel rhannu llyfrau, canu, chwarae rôl a'r amgylchedd awyr agored yn rhoi profiad dysgu cyfoethog ac ymarferol i’r plant.

Drwy ddatblygu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu (a llythrennedd, yn ddiweddarach), mae plant yn datblygu ffyrdd o gael mynediad at wybodaeth yn ogystal â'r gallu i feddwl a dysgu (Riley, 1999). Mae angen iaith ar blant i ddatblygu sgiliau meddwl, a'r mwyaf y maent yn meddwl y mwyaf y bydd eu hiaith yn datblygu (Siraj-Blatchford, 2005).

Mae blynyddoedd cynnar bywyd plentyn yn bwysig ynddynt eu hunain ac nid yn unig i baratoi ar gyfer addysg ffurfiol a byd oedolion. Ceir tystiolaeth gref sy'n dangos mai'r ffordd orau o baratoi ar gyfer y cyfnodau diweddarach yw cael y profiadau mwyaf cyfoethog a mwyaf priodol yn ystod pob cyfnod yn hytrach na pharatoi plant am rywbeth sydd i ddod (Tovey, 2017).

Mae pob plentyn yn mynd i mewn i leoliad fel unigolyn gyda'i brofiadau personol eu hunain mewn bywyd a byddant yn eu cyfnod unigryw eu hunain o ddatblygiad. Dylid gwneud trefniadau i sicrhau trosglwyddiad llyfn i leoliad Dechrau'n Deg i'r plentyn a'r rhiant/gofalwr, gan gynnwys y tîm aml-asiantaeth ehangach. Dylai gwybodaeth y plant, yr hyn y gallant wneud, eu diddordebau a'r hyn sydd ei angen arnynt fod yn fan cychwyn ar gyfer eu dysgu, a dylid nodi hyn yn y proffil un tudalen.

Dylai'r broses gynllunio fod yn ddigon hyblyg i alluogi staff i addasu ac ailstrwythuro cynlluniau wrth arsylwi o ddydd i ddydd yn y lleoliad.

Fframweithiau addysgol hyblyg gyda phwyslais ar chwarae awyr agored a datrys problemau sy'n canolbwyntio ar brosesau a nodau datblygiadol, yn hytrach nag ar ganlyniadau pwnc, sy'n ffurfio'r dulliau dysgu mwyaf priodol ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Dylai ymarferwyr a rhieni/gofalwyr gydweithio i ddatblygu amrywiaeth o brofiadau ysgogol dan do ac yn yr awyr agored a fydd yn cyffroi ac yn ennyn diddordeb plant ac yn ysgogi ac ehangu eu dysgu.

Mae cynnal asesiad sensitif a chadarn o blant sy'n dechrau mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg yn hanfodol i nodi'r cymorth ychwanegol ac unrhyw ymyraethau sy'n ofynnol i helpu i ddiwallu anghenion unigol. Dylid cynnal asesiadau parhaus drwy gydol taith plentyn yn y lleoliad Dechrau'n Deg, a dylent ddathlu llwyddiannau a chynnydd. Dylid cadw cofnod parhaus wrth arsylwi er mwyn cyfrannu at y camau cynllunio nesaf. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwaith cynllunio yn canolbwyntio ar y plentyn unigol a'i fod yn datblygu’r hyn y maent yn gallu ei wneud i ddiwallu eu hanghenion datblygu. Drwy hyn, bydd hefyd modd adnabod yn gynnar unrhyw anghenion sy'n codi wrth baratoi i bontio i'r Cwricwlwm i Gymru.

Fel arfer, bydd plant yn symud i addysg gynnar ar ddiwedd eu cyfnod mewn gofal plant Dechrau'n Deg. Dylai staff gofal plant Dechrau'n Deg felly ddefnyddio athroniaeth ac addysgeg tebyg i’r hyn a hyrwyddwyd drwy ddysgu sylfaen yn eu harferion. Mae pontio llyfn yn sicrhau bod plant yn setlo'n gyflym yn eu lleoliad newydd. Rhaid cynnal asesiad o gynnydd y plentyn ar ddiwedd ei gyfnod yn y lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg er mwyn llywio’r trefniadau pontio. Dylai staff Dechrau'n Deg a phartneriaid perthnasol eraill weithio'n agos â darparwyr addysg i feithrin cysylltiadau cryf i’w hymgorffori i'r broses bontio.

Gwarchodwyr plant

Mae gwarchodwyr plant yn cynnig gofal plant proffesiynol ac addysg gynnar i blant o'u genedigaeth hyd at 12 oed mewn mangre ddomestig nad yw'n gartref i'r plentyn ei hun. Mae gwarchodwyr plant mewn sefyllfa dda i gefnogi datblygiad cynnar plant ac yn gweithio'n agos gyda rhieni a gofalwyr i ddarparu gwasanaethau gofal plant hyblyg ac ymatebol sydd wedi'u teilwra.

Diben Gofal Plant Dechrau'n Deg yw darparu profiadau cyfoethog i blant ddysgu, datblygu a chymdeithasu â'u cyfoedion mewn amgylchedd proffesiynol a chefnogol. Mae gwarchodwyr plant yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gofal plant Dechrau'n Deg yn diwallu anghenion rhieni neu ofalwyr ac yn cynnal y safonau proffesiynol a’r ansawdd sy'n nodwedd o ddarpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg.

Lle mae gwarchodwyr plant yn darparu gofal plant Dechrau'n Deg, dylai Timau Cynghori Gofal Plant weithio gyda nhw, yn yr un modd â darparwyr Dechrau'n Deg eraill, i gefnogi eu darpariaeth i sicrhau bod plant 2-3 oed o dan eu gofal yn cael gwasanaethau gofal plant o ansawdd uchel.

[1] Mae'r Fframwaith Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar yn cael ei ddatblygu a bydd yn offeryn ar gyfer deall ansawdd mewn yng nghyd-destun addysg a gofal plentyndod cynnar pan gaiff ei gyhoeddi.

[2] Dim ond wedi'i adrodd ar gyfer dau fwrdd iechyd oherwydd y pandemig Coronafeirws

Cymorth ar gyfer sicrhau ansawdd uchel

Y ffordd orau i gael cymorth i sicrhau ansawdd uchel yw drwy Dîm Cynghori Gofal Plant. Prif swyddogaeth y tîm hwn yw gwella ansawdd lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg a chefnogi staff Dechrau’n Deg yn eu hardaloedd. 

Mae angen i Athro Ymgynghorol proffesiynol blynyddoedd cynnar sy’n meddu ar statws athro cymwysedig arwain y swyddogaeth hon, neu gael ei gynnwys ynddi. Fodd bynnag, dylid ystyried sgiliau a chymwysterau’r Tîm Cynghorol Gofal Plant ‘yn gyffredinol’ ac mae modd pennu union aelodau’r Timau hyn yn lleol drwy gynnwys cymysgedd o sgiliau. Dylai aelodau cymysg y Tîm Cynghori Gofal Plant feddu ar y cymwysterau a gydnabyddir ar gyfer Dechrau’n Deg, fel yr amlinellir yn Rhestr Gofal Cymdeithasol Cymru o’r Cymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru.

Mae’n rhaid i’r Tîm Cynghori feddu ar ddealltwriaeth o wahanol anghenion a chamau datblygiadol plant ifanc, yn arbennig y gwahaniaethau rhwng plentyn 2 oed a phlentyn 3 oed. Bydd y Tîm Cynghori yn hybu arfer da ymsg staff Dechrau'n Deg fel bod plant yn gallu pontio'n llyfn i ddysgu yn y Cwricwlwm i Gymru.

Rhaid bod gan y Tîm Cynghori brofiad o weithio yn y sector, a gallu datblygu a darparu dysgu proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal plant. Bydd y Tîm yn ymgysylltu â â phob lleoliad Dechrau'n Deg o leiaf unwaith y mis i ddarparu cymorth a chyngor i’r staff. Bydd hefyd yn cytuno ar gynllun cyflawni gyda phob lleoliad Dechrau'n Deg.

Dylai pob lleoliad Dechrau'n Deg fod â system sicrhau ansawdd ar waith sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y system hon yn cael ei monitro gan yr awdurdod lleol drwy ddefnyddio offeryn priodol, a dylai yn ei dro gyfrannu at y Cynllun Gwella’r Lleoliad. Dyma enghreifftiau o offer sicrhau ansawdd ac offer asesu eraill y gellir eu defnyddio i wella ansawdd: ITERS 3 (Graddfa Fesur Amgylchedd Babanod/Plant Bach), SSTEW (y Raddfa Cyd-feddwl Parhaus a Lles Emosiynol), Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy (SPSS), Cynlluniau Sicrhau Ansawdd Cenedlaethol neu offer a luniwyd yn lleol. Mae sicrhau ansawdd yn fath penodol o wella ansawdd sy'n darparu cydnabyddiaeth bod lleoliad wedi gwneud cynnydd yn erbyn set o safonau cytunedig ac i lefel achrededig. Dylai'r offeryn sicrhau ansawdd a fabwysiadwyd fod yn sensitif, ac yn gymesur â'r ystod eang o ddarparwyr gofal plant sy'n cael eu defnyddio ar draws rhaglen Dechrau'n Deg yng Nghymru.

Mae hyn yn gofyn am adolygiad annibynnol o ansawdd y lleoliad gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig, a ategir gan weithdrefnau i sicrhau cysondeb, cydraddoldeb a gwrthrychedd. Mae gan lawer o sefydliadau yn y sector gofal plant eu cynlluniau sicrhau ansawdd eu hunain, ac fel arfer maent yn darparu cymorth i weithredu’r cynllun.

Anogir lleoliadau i weld pa gymorth sydd ar gael drwy fod yn aelod o un o’r prif sefydliadau ambarél[3] yng Nghymru sy’n darparu cyngor a chymorth proffesiynol yn ogystal ag amrywiaeth o fanteision eraill.

Dylid annog rhannu arfer gorau drwy fforymau neu rwydweithiau lleol a dylid annog darparwyr gofal plant i ymweld â lleoliadau eraill o fewn yr awdurdod lleol ac yn ehangach er mwyn rhannu arfer o safon uchel. Dylai fod disgwyl i staff adrodd yn ôl i’r tîm ehangach am unrhyw arsylwadau ac unrhyw beth a ddysgwyd i helpu eu lleoliad i ddatblygu’n barhaus.

[3] Hynny yw Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Mudiad Meithrin, NDNA Cymru a PACEY Cymru.

Nifer a hyd y sesiynau

Bydd gofal plant Dechrau'n Deg yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant ifanc er mwyn iddynt allu symud ymlaen i addysg gynnar a thu hwnt i’r tymor hwy. Gall plant fanteisio ar y ddarpariaeth hon o ddechrau'r tymor yn dilyn eu hail ben-blwydd hyd ddiwedd y tymor y maent yn dathlu eu trydydd pen-blwydd. Efallai y bydd rhywfaint o hyblygrwydd yn cael ei roi lle nad yw hyn yn cydamseru â threfniadau derbyn ysgolion lleol. 

Mae cynnig gofal plant craidd Dechrau'n Deg ar gael i rieni pob plentyn 2 a 3 oed sy'n gymwys i gael 12.5 awr yr wythnos, am 39 wythnos y flwyddyn, yn unol â’r tymhorau ysgol. Yn ogystal, dylid darparu o leiaf 15 sesiwn o ofal plant hyblyg a/neu chwarae i'r plentyn neu'r teulu yn ystod gwyliau ysgol.

Dylai’r sesiynau fod am 2.5 awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos, er mwyn i’r plentyn gael y budd mwyaf posibl o'r rhaglen. Fodd bynnag, mae gan leoliad Dechrau'n Deg rywfaint o hyblygrwydd o ran y ffordd y rhennir y 5 sesiwn ar draws yr wythnos os bydd rhiant/gofalwr yn gofyn am drefniant gwahanol, megis pan fo’r rhiant/gofalwr yn mynychu cwrs hyfforddiant neu'n gweithio. Rhaid i'r lleoliad Dechrau'n Deg a'r teulu gytuno ar y trefniant hwn.

Yn aml, mae angen bod yn hyblyg o ran nifer y sesiynau y mae plant yn eu mynychu er mwyn darparu ar gyfer anghenion y rhieni/gofalwyr neu’r plant. Er enghraifft, os yw rhiant/gofalwr yn penderfynu dod â'i blentyn i dri sesiwn yn unig, dylid caniatâu hynny. Fodd bynnag, dylai darparwyr annog rhieni/gofalwyr i fanteisio ar yr holl ofal plant mae ganddynt hawl i’w gael, lle bo modd.

Dylai cynlluniau Dechrau'n Deg nodi trefniadau ar gyfer rheoli lleoedd gofal plant gyda'r nod o lenwi'r nifer fwyaf posibl o leoedd a sicrhau gwerth am arian yn nhermau ailddyrannu.

Cydraddoldeb, cynhwysiant ac anghenion dysgu ychwanegol

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn dweud bod gan bob plentyn yr hawl i ofal o ansawdd da, sy'n gosod sylfeini cadarn ar gyfer gweddill ei fywyd ac yn gwneud y mwyaf o'i allu cynhenid. Mae'r confensiwn yn pwysleisio'r angen i barchu hunaniaeth plentyn ochr yn ochr â'i draddodiadau teuluol trwy gydnabod ei ddiwylliant neilltuol a rhoi gwerth ar iaith y cartref.

Dylid trin pob plentyn a'i rieni/gofalwyr yn gyfartal ni waeth am oedran, anabledd, rhywedd, statws priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol, a rhaid iddynt fod yn rhan lawn o fywyd a gwaith y lleoliad. Mae'n hanfodol nodi anghenion dysgu ychwanegol yn gynnar er mwyn darparu cymorth priodol, gan fod ymyrraeth gynnar yn fwy effeithiol na chymorth a ddarperir yn ddiweddarach.

Dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn cael ei chynnig i’r holl rieni/gofalwyr yn yr ardal sydd â phlant cymwys, a'u bod yn cael eu hannog i fanteisio arni. Bydd hyn yn helpu i nodi anghenion yn gynnar a, lle bo angen, yn sicrhau y gellir darparu cymorth cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae'r astudiaeth ‘Prosiect Pontio Blynyddoedd Cynnar ac Anghenion Addysgol Arbennig' (EYTSEN) (Sammons et al, 2003) yn tynnu sylw at fuddion darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd da i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu sydd â risg o’u datblygu. Ar gyfer deilliannau gwybyddol, canfu astudiaeth EYTSEN fod plant ag anfanteision lluosog (yn nhermau nodweddion y plentyn, y teulu a’r cartref) yn fwy tebygol o gael eu nodi fel rhai â risg o ddatblygu anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r ymchwil yn awgrymu bod darpariaeth o ansawdd da o bosibl yn helpu i leihau nifer yr achosion o anghenion ychwanegol (gwybyddol a chymdeithasol/ymddygiadol), yn arbennig ymysg y grwpiau mwyaf difreintiedig ac agored i niwed o blant ifanc. Canfu'r astudiaeth hefyd fod plant nad oedd Saesneg (neu Gymraeg) yn iaith gyntaf iddynt yn fwy tebygol o fod â risg pan roeddent yn dechrau yn y lleoliad cyn-ysgol, ond eu bod yn dal i fyny pan oeddent yn hyn a hynny fwy na thebyg wrth i’w gallu ieithyddol wella. Canfuwyd bod plant a oedd yn tueddu i aros gartref ac nad oeddent yn cael addysg gynnar yn arbennig o agored i niwed. Awgrymwyd y gallai annog y plant hynny i fynychu darpariaeth fel Dechrau'n Deg helpu i wella eu deilliannau addysgol.

Dylai penderfyniadau ynghylch y rhaglenni ymyrraeth mwyaf priodol i'r plant hyn gael eu gwneud gan banel aml-asiantaeth o arbenigwyr, sydd wedi'i sefydlu gan yr awdurdod lleol, er mwyn sicrhau y darperir cymorth priodol. Dylid cynnwys rhieni/gofalwyr a staff Dechrau'n Deg yn llawn ym mhob cam o'r broses hon.

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd angen addasu'r safle a darparu adnoddau ac offer penodol er mwyn sicrhau y gall pob plentyn, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau, fanteisio ar y ddarpariaeth Dechrau'n Deg.

Mae dyletswyddau gan yr awdurdodau lleol o dan y Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod ADY Cymru[4] mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgol a gynhelir. Mae canllawiau pellach ar gael ym mhennod 11 o’r Cod Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol. O dan y system ADY, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch a oes gan blentyn sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol, ac nad yw'n mynychu ysgol a gynhelir, anghenion dysgu ychwanegol a, lle bo angen, paratoi a chynnal Cynllun Datblygu Unigol.

Mae darparwyr addysg gynnar a gofal yn hanfodol i helpu i sicrhau mynediad cyfartal. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r system ADY, dylai hyfforddiant ADY helpu darparwyr i ddeall sut i hwyluso cyfarfodydd cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a phwysleisio pa mor bwysig yw pontio da i sicrhau cefnogaeth mewn Meithrinfa i blant ag ADY a'r plant hynny sydd ag anghenion sy'n dod i'r amlwg ond ADY anhysbys neu Gynllun Datblygu Unigol.

Disgwylir i staff mewn lleoliadau Dechrau'n Deg fynychu hyfforddiant ADY a, cyn belled ag y bo modd, gweithredu strategaethau a argymhellir gan y Tîm Cynghori Gofal Plant.

[4] Mae'r system ADY fel y darperir ar ei chyfer gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru, yn disodli'r system anghenion addysgol arbennig (AAA) flaenorol.

Darpariaeth cyfrwng y Gymraeg

Dylai Dechrau’n Deg gefnogi’n llawn nod Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn gadael y system addysg yn barod ac yn falch o ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun. Golyga hyn sicrhau bod darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn cael eu hyrwyddo’n weithredol a bod llwybrau clir ar gael tuag at addysg Gymraeg. Mae hefyd yn golygu darparu gwybodaeth glir a defnyddiol i’r holl rieni am y cyfleoedd sy’n codi drwy fod yn ddwyieithog, a’r opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn sicrhau y gallant ddod i benderfyniad doeth ynghylch datblygiad ieithyddol eu plentyn.

Mae canllawiau lleferydd, iaith a chyfathrebu Dechrau'n Deg yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am fanteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, gan gynnwys y sylfaen dystiolaeth ar gyfer nodi a chefnogi plant dwyieithog ac amlieithog gydag anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.

Mae'n ofynnol i bob awdurdod baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA). Mae'r cynlluniau statudol hyn yn nodi sut mae awdurdodau lleol yn bwriadu tyfu addysg Gymraeg dros y ddeng mlynedd nesaf. Mae pob awdurdod lleol wedi ymrwymo i'w targedau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg i gefnogi'r nodau a'r amcanion a nodir yn Cymraeg 2050. Cafodd y Rheoliadau CSCA eu diwygio yn 2019 i gynnwys pwyslais ar gynllunio darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yn ofalus er mwyn cefnogi cyflwyno canlyniadau CSCA yn llwyddiannus. Cydnabyddir, fel y nodir yn Cymraeg 2050, mai cyflwyno’r Gymraeg yn gynnar trwy ddarpariaeth Gofal Plant cyfrwng Cymraeg yw'r llwybr gorau i'n plant ddatblygu sgiliau dwyieithog. Rhaid i awdurdodau lleol ystyried eu targedau CSCA wrth gynllunio cyflwyno darpariaeth Dechrau'n Deg a gallent elwa ar archwilio'r cymorth sydd ar gael gan y prif sefydliadau ymbarél gofal plant yng Nghymru.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnal Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant er mwyn canfod bylchau yn y ddarpariaeth, gan gynnwys bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant Gymraeg. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau y darperir gofal plant cyfrwng Cymraeg digonol, gan gynnwys gofal plant Dechrau'n Deg, fel y nodwyd yn Neddf Gofal Plant 2006.

Rydym yn gwybod bod gwasanaethau blynyddoedd cynnar Cymraeg a chaffael iaith yn gweithio orau lle mae llwybr clir i mewn i addysg gynradd a thu hwnt. Fodd bynnag, gwyddom hefyd y gallwn, drwy sefydlu gwasanaethau Cymraeg mewn ardaloedd lle nad ydynt wedi bod yn gyffredin yn hanesyddol, godi ymwybyddiaeth a chreu cyfleoedd newydd i gael mynediad at ddarpariaeth Gymraeg. Dylai hyn gael ei ystyried gan awdurdodau lleol wrth gynllunio eu gwasanaethau gofal plant Dechrau'n Deg.

Rhaid rhoi i blant mewn ardaloedd Dechrau'n Deg yr opsiwn o fynychu lleoliad gofal plant sy'n cynnig darpariaeth Gymraeg. Fel rhan o waith Monitro Data Perfformiad Dechrau'n Deg, rhaid i awdurdodau lleol gofnodi nifer y plant y mae eu rhieni wedi gofyn yn benodol am ofal plant cyfrwng Cymraeg. Hefyd rhaid cofnodi nifer y ceisiadau sy'n arwain at gynnig yn eu dewis iaith.

Cynnwys rhieni/gofalwyr

Dylai tîm Dechrau’n Deg gyfeirio rhieni/gofalwyr cymwys at ofal plant Dechrau’n Deg ar yr adeg briodol. Dylai rhieni/gofalwyr gael eu cynnwys wrth ddewis y math o leoliad y bydd eu plant yn ei fynychu.

Pan mae rhieni'n chwarae rhan yn addysg eu plentyn o oedran ifanc, mae hyn yn cael effaith arwyddocaol ar gyflawniad addysgol, ac yn parhau i wneud hynny mewn blaenlencyndod ac oedolaeth (yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd, 2008). Felly, dylai staff feithrin partneriaethau agos gyda rhieni/gofalwyr a rhannu gwybodaeth am eu plentyn er mwyn iddynt allu manteisio i’r eithaf ar y ddarpariaeth. Dylid annog rhieni/gofalwyr i gymryd rhan mewn trefniadau pontio cyn dechrau gofal plant Dechrau’n Deg. Dylai asiantaethau eraill hefyd gyfrannu a rhannu gwybodaeth berthnasol a fydd yn galluogi'r holl bartneriaid i ddarparu ar gyfer pob plentyn yn unol â'i anghenion.

Dylai staff fod yn sensitif wrth weithio gyda rhieni/gofalwyr, yn enwedig wrth ymdrin â'r teuluoedd mwyaf difreintiedig, megis rhieni yn eu harddegau, rhieni/gofalwyr sengl ac aelwydydd di-waith. Rhaid i staff Dechrau'n Deg sicrhau nad yw’r teuluoedd hyn yn teimlo eu bod wedi'u llethu, er mwyn i’r plentyn allu manteisio’n llawn ar y cynllun.

Wrth weithio gyda rhieni/gofalwyr, os yw staff yn teimlo bod angen mwy o gefnogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r gefnogaeth a ddarperir gan Dechrau'n Deg, gall rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf gefnogi rhieni, teuluoedd a phobl ifanc i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a’r cyfleoedd gorau sydd ar gael i roi'r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf ar gael i bawb ac yn hyrwyddo darparu systemau cymorth amlasiantaeth i deuluoedd, gyda ffocws clir ar ymyrryd yn gynnar ac atal. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen wirfoddol y gellir ei chyrchu gan un rhiant/gofalwr neu’r ddau.

Canfu ymchwil EPPE (2003) fod ansawdd yr amgylchedd dysgu yn y cartref yn cael effaith ar ddatblygiad plant. Mae’r ymchwil yn dangos, tra bod cysylltiad rhwng dosbarth cymdeithasol a lefelau addysg rhieni a deilliannau plant, bod yr hyn mae rhieni yn ei wneud gyda'u plant yn bwysicach na phwy ydynt.

Nododd yr ymchwil os yw rhieni'n gwneud gweithgareddau fel darllen i blant, dysgu caneuon a rhigymau iddynt, paentio a thynnu lluniau, chwarae â llythrennau a rhifau; a darparu cyfleoedd iddynt chwarae â'u cyfoedion, bod hyn yn helpu i hybu datblygiad deallusol a chymdeithasol plant. Mae canfyddiadau EPPSE (2014) yn atgyfnerthu pwysigrwydd yr amgylchedd dysgu yn y cartref yn y blynyddoedd cynnar a'r effaith gadarnhaol y mae hyn yn parhau i'w chael ar ddeilliannau academaidd. Felly, dylai’r staff mewn lleoliadau Dechrau'n Deg fod yn rhagweithiol wrth helpu rhieni/gofalwyr i gefnogi datblygiad a dysgu eu plentyn yn y cartref.

Dylai’r staff fod yn rhagweithiol wrth gysylltu â theuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg, er mwyn sicrhau cefnogaeth rhieni/gofalwyr a phresenoldeb plant yn y lleoliadau. Efallai bydd angen sensitifrwydd a dyfeisgarwch i ymgysylltu â rhai teuluoedd sy’n anoddach eu cyrraedd, fel bod eu plant yn cael eu dyraniad gofal plant llawn. Gellir llenwi bylchau parhaus mewn presenoldeb trwy drefniadau hyblyg neu drefniadau allgymorth. Mae angen i bob awdurdod lleol fod â pholisïau i annog rhieni/gofalwyr i wneud defnydd llawn o'r gofal plant sydd ar gael, megis sesiynau blasu sy’n amlinellu’r manteision i’w plant ac iddyn nhw, cyn dechrau'r cyfnod pan fo’r hawl i ofal plant yn dechrau.

Rhaid cynnwys rhieni mewn trafodaethau am eu plentyn a rhoi arweiniad iddynt ar ffyrdd o gefnogi datblygiad eu plentyn, yn ogystal â'i les a'i ddatblygiad y tu allan i'r lleoliad. Dylai’r staff groesawu rhieni/gofalwyr i'r lleoliad a dangos iddynt eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel addysgwyr a gofalwyr cyntaf y plant.

Mae sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn ymwybodol o nodau'r lleoliad a chaniatau iddynt weld sut mae ymarferwyr yn ymgysylltu â phlant ifanc yn gallu meithrin hyder rhieni/gofalwyr, a gallai ailgynnau eu diddordeb mewn dysgu. Dylid annog rhieni/gofalwyr hefyd i gyfrannu cymaint ag sy’n bosibl i fywyd a gwaith y lleoliad.

Wrth i blant ddod yn gymwys i gael addysg gynnar, mae hefyd yn bosibl y bydd rhai plant rhieni/gofalwyr sy'n gweithio yn gymwys oriau ychwanegol o ofal plant sy'n cael ei ariannu gan y llywodraeth o dan Gynnig Gofal Plant Cymru. Mae'r Cynnig hwn yn cynnwys dwy elfen, sef yr hawl presennol i addysg gynnar a ddarperir drwy’r Cwricwlwm i Gymru ac oriau ychwanegol gofal plant a ariennir gan y llywodraeth. Gall rhieni/gofalwyr gael rhagor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant a’u cymhwystra gan eu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Dylai ymarferwyr gofal plant Dechrau'n Deg hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Cymru, fel sy'n briodol, a chyfeirio teuluoedd at ffynonellau gwybodaeth addas wrth i blant gyrraedd diwedd eu cyfnod mewn lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg.

Cefnogi presenoldeb

Mae cyfraddau presenoldeb da yn hanfodol i sicrhau bod plant yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfnod mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg. Mae lefel uchel o bresenoldeb mewn gofal plant yn golygu y caiff plant y cysondeb a’r parhad sy’n ofynnol i ddatblygu sgiliau gwybyddol a chymdeithasol allweddol, yn ogystal â’r sefydlogrwydd sydd ei angen arnynt i feithrin ymdeimlad o berthyn.

Mae mynychu lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn gyfle gwerthfawr i blant elwa ar amgylchedd gofal plant proffesiynol o oedran cynnar er mwyn sefydlu patrymau sefydlog a helpu i hwyluso cyfnod pontio llyfn i’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae gosod disgwyliadau clir ar rieni/gofalwyr ynghylch lefelau presenoldeb uchel nid yn unig yn atgyfnerthu gwerth ymwneud yn llawn â’r rhaglen, ond hefyd yn helpu i baratoi plant i fynychu’r ysgol yn rheolaidd yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Dylai awdurdodau lleol gael trefniadau cadarn ar waith i reoli presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg a dylai’r rhain gael eu hamlinelli’n glir mewn polisïau rheoli presenoldeb ffurfiol. Dylai polisïau effeithiol atgyfnerthu rôl y lleoliad gofal plant unigol o ran rheoli presenoldeb a dylent amlinellu’n glir y camau i’w cymryd pan nad yw plentyn yn mynychu ei sesiwn gofal plant Dechrau’n Deg arferol. Caiff awdurdodau lleol lunio polisïau a gweithdrefnau addas yn lleol, ond dylai’r rhain fodloni’r gofynion sy’n cael eu hamlinellu yn Atodiad 1.

Yn ogystal, dylai awdurdodau lleol annog presenoldeb drwy gyfathrebu’n effeithiol â rhieni a theuluoedd, a thrwy hyrwyddo negeseuon cadarnhaol drwy eu dulliau cyfathrebu hy taflenni gwybodaeth, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac ati.

Data a monitro

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau y caiff presenoldeb ei gofnodi’n effeithiol ar draws pob lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg. Dylai rheolwyr rhaglenni / Timau Cynghori Gofal Plant gael adroddiadau presenoldeb rheolaidd gan reolwyr y lleoliadau. Dylid defnyddio’r adroddiadau hyn i fonitro presenoldeb a, lle’n bosibl, i gymryd camau cywiro lle mae lefelau presenoldeb yn achosi pryder.

Targedau presenoldeb

Mae disgwyl i awdurdodau lleol ymdrechu i wella cyfraddau presenoldeb yn barhaus mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg; er y cydnabyddir ei bod yn anodd cael cydbwysedd rhwng rheoli presenoldeb yn effeithiol a darparu gwasanaethau hyblyg i blant a theuluoedd.

I annog ymrwymiad at wella’n barhaus, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau presenoldeb cenedlaethol ar gyfer lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg a fydd yn cael eu gosod ar gyfer awdurdodau lleol yn unigol. Mae’r rhain yn seiliedig ar gyfartaleddau cenedlaethol[5] ac maent yn darparu cyfres o gyfraddau targed i awdurdodau lleol anelu atynt. Dyma’r cyfraddau sydd wedi’u gosod ar gyfer lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg:

75% - Targed isaf

80% - Targed canolig

85% - Targed uwch

Yn y pen draw, byddai’n fuddiol i rieni/gofalwyr a phlant gyfarwyddo â disgwyliadau lefelau presenoldeb uwch gan mai’r disgwyliad ar gyfer presenoldeb mewn ysgolion, i blant o oedran ysgol statudol, yw 95%.

Bydd rheolwyr cyfrifon yn trafod cyfraddau presenoldeb lleol mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg gydag awdurdodau lleol yn ystod cyfarfodydd rheoli cyfrifon ffurfiol ac ar adegau eraill drwy’r flwyddyn yn ôl yr angen.

Lleoedd heb eu dyrannu

Mae lleoedd heb eu dyrannu yn codi pan fydd lle mewn lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn cael ei ariannu ac ar gael ond nad yw wedi’i ddyrannu i blentyn. Gall sawl ffactor effeithio ar hyn, gan gynnwys:

  • Lleoedd heb eu dyrannu o ganlyniad i gymarebau staffio a ragnodwyd gan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol.
  • Lleoedd heb eu dyrannu oherwydd nad oes modd rhagweld y galw lleol am leoedd a’r niferoedd fydd yn manteisio arnynt.
  • Lleoedd heb eu dyrannu o ganlyniad i fodelau comisiynu gofal plant lleol.

Rydym yn cydnabod ei bod yn anochel y bydd rhai lleoedd heb eu dyrannu, ond dylai awdurdodau lleol wneud pob ymdrech i gyfyngu ar nifer y lleoedd hyn yn eu lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg. Dylai awdurdodau lleol ddilyn y camau canlynol i sicrhau cyn lleied â phosibl o leoedd heb eu dyrannu:

  • Dylai staff gofal plant awdurdod lleol fod yn hyblyg a symud lleoliadau i gyd-fynd â’r galw lle’n bosibl.
  • Dylid cynnig lleoedd sydd heb eu dyrannu ers amser hir ar sail angen drwy'r cynllun allgymorth.
  • Dylid prynu lleoedd â gomisiynir yn ôl yr angen pan fo hynny’n bosibl. Os nad yw hynny’n bosibl, dylai awdurdodau lleol fynd ati i leihau’n raddol nifer y lleoedd y maent yn eu prynu gyda’i gilydd fel bloc fel rhan o’u model comisiynu, neu geisio eu llenwi drwy elfen allgymorth y rhaglen.

[5] Y gyfradd bresenoldeb genedlaethol mewn lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg yn 2017/18 oedd 78% .

Crynodeb

Mae deilliannau cadarnhaol yn un o egwyddorion sylfaenol Dechrau'n Deg. Fel mae'r ddogfen hon wedi esbonio, mae ymchwil helaeth yn dangos bod gofal plant o ansawdd da yn helpu i sicrhau deilliannau cadarnhaol. Elfen bwysicaf cynnig gofal plant Dechrau’n Deg i blant 2 a 3 oed yw bod yn rhaid i’r gofal plant a ddarperir fod o'r ansawdd gorau posibl. Bydd amgylchedd gofal plant o ansawdd uchel, ynghyd â staff a phrofiadau o ansawdd uchel, yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.

Llyfryddiaeth

Ainsworth, M.D.S, and Bowlby, J. (1991), An Ethological Approach to Personality Development’ American Psychologist. Vol 6 (4)

DfES /Sure Start (2004), A Code of Practice on the provision of free nursery education places for three and four year olds 2004-2005

Children In Wales (2011), Flying Start 2006 – 2011: Experiences, Lessons and Recommendations for the Future

Department for Children, Schools and Families (DCSF) (2008), The Impact of Parental Involvement on Children’s Education

Estyn (2011), An evaluation of the implementation of the Foundation Phase for five to six-year-olds in primary schools, with special reference to literacy (report)

Katz, L.G. (2015), Lively Minds: Distinctions Between Academic versus Intellectual Goals for Young Children

Love, John M. et al (2005), The Effectiveness of Early Head Start for 3-Year-Old Children and Their Parents: Lessons for Policy and Programs (Developmental Psychology, American Psychological Association 2005, Vol. 41, No.6)

Meade, A. and Podmore, V.N. (2002), Early Childhood \ Education Policy Co-ordination under the Auspices of the Department/ Ministry of Education, New Zealand UNESCO

Melhuish, E. (1991), Research on day care for young children in the United Kingdom’, from Day Care for Young Children: An International Perspective. Routledge.

Melhuish, E. (2004), A Literature Review of the Impact of Early Years Provision on Young Children, with Emphasis given to Children from Disadvantaged Backgrounds National Audit Office

Melhuish, E., Belsky, J. and Leyland et al (2005), Early Impacts of Sure Start Local Programmes on Children and Families

Atodiad 1: Safonau Gofynnol Rheoli Presenoldeb ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant Dechrau’n Deg

Dylai pob darparwr gofal plant Dechrau’n Deg fod â’r canlynol ar waith fel rhan o’u prosesau cofrestru gofal plant/polisi rheoli presenoldeb.

Rhieni/Gofalwyr

  • Dylai awdurdodau lleol hyrwyddo manteision mynychu lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg i blentyn, h.y. mae plant sy’n mynychu gofal plant cyn-ysgol yn datblygu sgiliau gwybyddol gwell ac maent yn fwy parod i ddysgu pan fyddant yn cyrraedd addysg gynnar.
  • Dylid gosod disgwyliadau clir o’r cychwyn cyntaf ynghylch presenoldeb gan gynnwys canlyniadau presenoldeb gwael.
  • Dylid rhoi gwybodaeth i rieni/gofalwyr am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn rheswm dilys dros beidio â bod yn bresennol.
  • Dylid cynnig gwasanaeth gostyngol i rieni/gofalwyr os yw hyn yn fwy addas i’w hanghenion.
  • Dylai gweithdrefnau clir fod ar waith pan fo’n ofynnol i riant neu ofalwr gysylltu â lleoliadau gofal plant cyn dechrau’r sesiwn i roi gwybod am absenoldeb y plentyn.

 Y gweithlu

  • Dylai prosesau clir fod ar waith ar gyfer pob math o absenoldeb (wedi a heb ei awdurdodi) gan gynnwys proses ar wahân i staff ei dilyn ar gyfer plant sy’n wynebu materion diogelu. Rhaid i leoliadau fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau cyfreithiol wrth ymdrin ag unrhyw faterion diogelu.
  • Dylai staff gofal plant gael cyfarwyddiadau clir ynghylch pa brosesau y mae angen eu dilyn os oes absenoldeb.
  • Dylai prosesau fod ar waith i reoli’r hyn yr ystyrir ei fod yn absenoldeb parhaus. Dylid hefyd darparu diffiniad o absenoldeb parhaus i rieni/gofalwyr wrth dderbyn cynnig gofal plant Dechrau’n Deg neu wrth iddynt gael eu cyflwyno i’r lleoliad gofal plant.
  • Dylai pob lleoliad gofal plant gael cytundeb presenoldeb. Dyma gytundeb â’r rhieni/gofalwyr sy’n cydnabod pwysigrwydd lle y plentyn ac sy’n ymrwymo’r plentyn i fynychu pob sesiwn lle bo’n bosibl. Dylai hefyd amlinellu’r broses uwchgyfeirio a’r camau dilynol os yw’r presenoldeb yn wael. Dylid rhoi copi o’r cytundeb i’r rhiant/gofalwr a dylid cadw copi arall yng nghofnodion unigol y plentyn yn y lleoliad gofal plant.
  • Dylai lleoliadau gofal plant hyrwyddo’r gweithgareddau a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y lleoliad er mwyn dangos gwerth y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu ac i hyrwyddo’r rhaglen.
  • Dylai pob awdurdod lleol fod â system i adolygu data misol lleoliadau gofal plant, gan sicrhau y caiff camau ymyrraeth eu cymryd i fynd i’r afael â materion sy’n codi.
  • Dylid adolygu polisïau a gweithdrefnau’n rheolaidd, a dylid cyfathrebu’n glir â staff a’r rhieni pan fo unrhyw newidiadau/diweddariadau yn cael eu gwneud iddynt.