Neidio i'r prif gynnwy

Cylchlythyr rheoliadau adeiladu

Rhif y cylchlythyr:    WGC 003/2023

Dyddiad cyhoeddi:    03/11/2023

Statws:    Er gwybodaeth

Teitl:    Cyhoeddi safonau, rheolau a chodau ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu a gwirio cymhwysedd ar gyfer cofrestru fel arolygydd cofrestredig adeiladu

Cyhoeddwyd gan:    Simon Jones, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu

Cyfeiriwyd at:    

Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
Cymdeithas Arolygwyr Cymeradwy Corfforaethol

Anfonwch ymlaen at:

Swyddogion Rheoli Adeiladu'r Awdurdodau Lleol
Aelodau o'r Senedd

Crynodeb:

Cylchlythyr yw hwn sy'n cyflwyno'r safonau, y codau a'r rheolau newydd y bydd yn rhaid i'r proffesiwn rheoli adeiladu gydymffurfio â nhw o fis Ebrill 2024 ymlaen, a chynlluniau gwirio cymhwysedd gan drydydd parti ar gyfer unigolion sydd am fod yn arolygydd cofrestredig adeiladu yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF48 1UZ

Llinell uniongyrchol:        0300 060 4400

E-bost:    enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan:   Adeiladu a chynllunio

Hysbysiad cymeradwyo codau, safonau a rheolau ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu a chynlluniau gwirio cymhwysedd

  1. Mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn imi dynnu eich sylw at gyfres o godau, safonau a rheolau sydd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu a chynlluniau gwirio cymhwysedd gan drydydd parti ar gyfer darpar arolygwyr cofrestredig adeiladu.

Cwmpas y Cylchlythyr hwn

  1. Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru.

Hysbysiad am safonau, codau a rheolau newydd ar gyfer y proffesiwn rheoli adeiladu

  1. Mae sawl dogfen safonau, codau a rheolau newydd wedi cael eu cyhoeddi yng Nghymru
     
  2. Bydd gofyn i arolygwyr adeiladu a chyrff rheoli adeiladu gydymffurfio â'r rhain o fis Ebrill 2024 ymlaen o dan newidiadau i Ddeddf Adeiladu 1984, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.
     
  3. Dyma’r dogfennau:
  • Y Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Arolygwyr Adeiladu

    Mae'r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Arolygwyr Adeiladu yn nodi'r sgiliau, yr wybodaeth, y profiad a'r ymddygiad angenrheidiol sydd eu hangen ar unigolion sy'n cyflawni eu rôl fel arolygydd cofrestredig adeiladu.
     
  • Cod Ymddygiad

    Mae'r Cod Ymddygiad yn nodi'r safonau a'r egwyddorion o ran ymddygiad proffesiynol y disgwylir i arolygwyr cofrestredig adeiladu eu bodloni.
     
  • Rheolau Ymddygiad Proffesiynol

    Mae'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol yn nodi'r egwyddorion a'r safonau o ran arferion proffesiynol, moeseg ac ymddygiadau y disgwylir i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu eu bodloni.
     
  • Rheolau Safonau Gweithredol

    Mae'r Rheolau Safonau Gweithredol yn berthnasol i bob corff rheoli adeiladu, boed yn gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu preifat neu'n awdurdodau lleol, ac yn nodi'r safonau sydd i'w bodloni, ac arferion a gweithdrefnau i'w mabwysiadu, wrth arfer swyddogaethau rheoli adeiladu.
     
  • Trefniadau Monitro Rheolau Safonau Gweithredol

    Mae'r Trefniadau Monitro Rheolau Safonau Gweithredol yn cefnogi'r rheolau hynny ac yn cynnwys gwybodaeth am drefniadau monitro, gan gynnwys data adroddadwy a dangosyddion perfformiad allweddol.
  1. Yn ogystal, mae'r cyd-destun strategol ar gyfer y fframwaith rheoleiddio yng Nghymru wedi cael ei gyhoeddi hefyd. Mae hyn yn dangos y cysylltiad rhwng cymhwysedd y proffesiwn rheoli adeiladu a reoleiddir a pherfformiad y maes rheoli adeiladu.

Hysbysiad am gynlluniau gwirio cymhwysedd gan drydydd parti ar gyfer unigolion sydd am ddod yn arolygydd cofrestredig adeiladu

  1. Bydd arolygwyr adeiladu unigol ac arolygwyr cymeradwy yn gorfod cofrestru gyda'r awdurdod rheoleiddio o fis Ebrill 2024 ymlaen er mwyn gallu parhau i weithio yn y proffesiwn rheoli adeiladu yng Nghymru, yn amodol ar drefniadau pontio.
     
  2. Amod cofrestru ar gyfer arolygwyr fydd gwirio cymhwysedd pob ymgeisydd i weithio ym maes rheoli adeiladu, fel y disgrifir yn y Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Arolygwyr Adeiladu. Bwriedir i'r cofrestrau ar gyfer Cymru agor ym mis Ionawr 2024. Cyn hyn, gall unigolion geisio sicrhau bod eu cymhwysedd yn cael ei wirio gan gynllun trydydd parti. 
     
  3. Gall darpar arolygwyr cofrestredig adeiladu bellach ddefnyddio'r cynlluniau rheoli adeiladu a ddarperir gan y sefydliadau canlynol i wirio'u cymhwysedd:
  1. Drwy wirio cymhwysedd drwy un o'r cynlluniau hyn, gall gweithwyr proffesiynol gymryd cam pwysig tuag at gofrestru fel arolygydd cofrestredig adeiladu a bod yn barod ar gyfer pan fydd y cofrestrau'n agor yng Nghymru.
     
  2. Bydd mwy o wybodaeth am y broses gofrestru ar gael yn fuan.

Ymholiadau

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y cylchlythyr hwn at:

Y Tîm Rheoliadau Adeiladu,
Llywodraeth Cymru,
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful,
CF48 1UZ.

E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru

Yn gywir

Neil Hemington 
Y Prif Gynllunydd