Neidio i'r prif gynnwy

Beth sy'n rhaid ichi ei wneud er mwyn dod â'ch ci, eich cath neu'ch ffured anwes i mewn i'r DU o wledydd nad ydynt yn yr UE ac sydd heb eu rhestru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gosod microsglodyn yn eich anifail anwes

Y cam cyntaf yw sicrhau bod modd adnabod eich anifail anwes drwy ddefnyddio microsglodyn.  Mae'n rhaid i'r microsglodyn gael ei osod gan berson cymwys.  Gall unigolyn cymwys fod yn:

  • filfeddyg, yn nyrs filfeddygol neu'n fyfyriwr milfeddygol
  • rhywun sydd wedi bod ar gwrs gosod microsglodion ag elfen ymarferol cyn 29 Rhagfyr 2014
  • rhywun sydd wedi bod ar gwrs cymeradwy ar osod microsglodion (cwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban neu Defra)

Brechu'ch anifail anwes

Unwaith y bydd y microsglodyn wedi ei osod, bydd yn rhaid brechu'ch anifail anwes rhag y gynddaredd. Nid oes unrhyw eithriad, hyd yn oed os yw'ch anifail anwes wedi cael ei frechu rhag y gynddaredd yn barod. Ni cheir brechu anifeiliaid anwes rhag y gynddaredd at ddibenion teithio os ydyn nhw'n ifancach na 12 wythnos. Ni cheir brechu anifeiliaid anwes rhag y gynddaredd at ddibenion teithio os ydyn nhw'n ifancach na 12 wythnos. Rhaid aros am 21 diwrnod ar ôl y dyddiad brechu cyn i'ch anifail anwes gael dod i mewn i'r DU. Os oes dwy ran i'r brechiad, bydd y cyfnod aros o 21 diwrnod yn dechrau ar ddyddiad yr ail frechiad. Felly, nid yw anifeiliaid yn gallu teithio nes y byddan nhw o leiaf yn 15 wythnos oed.

Trefnu prawf gwaed

Bydd prawf gwaed yn cadarnhau a yw'r brechlyn wedi rhoi lefel foddhaol o ddiogelwch yn erbyn y gynddaredd. Mae'n rhaid cymryd y sampl gwaed o leiaf 30 niwrnod wedi'r brechiad. Ni allwch deithio i'r DU am dri mis wedi'r dyddiad y bu i'ch milfeddyg gymryd sampl gwaed boddhaol.

Trefnu dogfennau teithio ar gyfer eich anifail anwes

Bydd angen ichi gael tystysgrif milfeddygol swyddogol trydydd gwlad.

Trin eich ci rhag llyngyr rhuban

Cyn iddo ddod i mewn i'r DU, rhaid i filfeddyg drin eich chi (gan gynnwys cŵn cymorth) rhag llyngyr rhuban. Rhaid rhoi'r driniaeth o leiaf 24 awr cyn ichi gyrraedd y DU a dim mwy na 120 awr (5 diwrnod) cyn hynny.

Sylwer. Nid oes angen ichi drin eich ci rhag llyngyr rhuban os ydych yn teithio i'r DU o'r Ffindir, Iwerddon, Malta neu Norwy).

Trefnu ffordd gymeradwy o deithio ar gyfer eich anifail anwes

Pan fydd eich anifail anwes yn dod i mewn i'r DU o wlad sydd heb ei rhestru, rhaid iddo: