Neidio i'r prif gynnwy

Gall cŵn, cathod a ffuredau sy'n anifeiliaid anwes deithio i'r DU ac oddi yno ar yr amod eu bod yn dilyn y rheolau perthnasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y rheolau'n amrywio, gan ddibynnu ar o ble y daw'r anifail anwes.

Mae'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes yn caniatáu'r canlynol:

  • gall cŵn, cathod a ffuredau sy'n anifeiliaid anwes ddod i mewn i'r DU heb gwarantin ar yr amod eu bod yn bodloni'r rheolau
  • gall pobl o'r DU:
    • fynd â'u cŵn, cathod a ffuredau i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd
    • mynd â'u cŵn, cathod a ffuredau i wledydd eraill nad ydynt yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd
    • dychwelyd gyda nhw i'r DU heb yr angen am gwarantin

Y rheolau

Nod y rheolau yw sicrhau bod y DU yn glir o'r gynddaredd a rhai clefydau eraill. O dan y rheolau:

  • mae angen i anifeiliaid fod yn 12 wythnos oed man lleiaf cyn iddynt gael eu brechu
  • mae'n rhaid i'r microsglodyn gael ei osod gan berson cymwys
  • caiff Pasbort Anifail Anwes ei roi
  • bydd datganiad ar gael a fydd yn ei gwneud hi'n haws i deithio os yw mwy na 5 o anifeiliaid yn rhan o sioe neu gystadleuaeth. Eto i gyd, mae angen i chi allu profi fod yr anifeiliaid wedi'u cofrestru i fynychu digwyddiad a hefyd ddarparu manylion cyswllt

Mae'n rhaid i anifeiliaid nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau gael eu trwyddedu mewn cwarantin. Gallent gael eu rhyddhau'n gynnar os byddant yn bodloni'r gofynion.

Gwledydd rhestredig

Mae perygl y gynddaredd yn is mewn rhai gwledydd, ac mae gan rai gwledydd systemau effeithiol ar gyfer ei reoli. Mae'r DU yn derbyn pasbortau anifeiliaid anwes gan wledydd yr UE a rhai gwledydd eraill. Mae hefyd yn "rhestru" gwledydd eraill fel rhai perygl isel. Gofynion y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes ar gyfer anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r DU o drydydd gwledydd rhestredig. 

Gwledydd heb eu rhestru

Os yw gwlad y tu allan i'r UE, neu os bernir bod y perygl yn isel, mae'n rhaid ei hystyried yn wlad perygl uchel. Gofynion y Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes ar gyfer anifeiliaid sy'n mynd i mewn i'r DU o wledydd heb eu rhestru

I weld y gwledydd rhestredig, a'r rhai y mae'r DU yn derbyn pasbortau anifeiliaid anwes ganddynt, ewch i gov.uk.

Gallai'r rheolau ynghylch teithio i anifeiliaid anwes newid ar ôl i ni ymadael â'r UE. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Paratoi Cymru.