Bydd y Gorchymyn hwn yn cau priffyrdd er mwyn caniatáu gwaith datblygu arnynt yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir gan yr Awdurdod Lleol.
Dogfennau
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Tir A Elwid Gynt Yn Weithfeydd Whitehead, Mendalgief Road, Casnewydd NP20 2NT) 202- , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 194 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Tir A Elwid Gynt Yn Weithfeydd Whitehead, Mendalgief Road, Casnewydd NP20 2NT) 202-: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 150 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (Tir A Elwid Gynt Yn Weithfeydd Whitehead, Mendalgief Road, Casnewydd NP20 2NT) 202-: cynllun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 529 KB
Manylion
Bydd y Gorchymyn hwn yn cau darn o briffordd ar gyfer adeiladu 529 o unedau preswyl, 24 o unedau byw â chymorth, tafarn/bwyty, unedau manwerthu, ysgol gynradd a seilwaith tirwedd a phriffordd cysylltiedig ar y tir a elwid gynt yn Weithfeydd Whitehead ar Mendalgief Road, Casnewydd, NP20 2NT, yn unol â chaniatâd cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Dinas Casnewydd ar 11 Medi 2018 o dan y rhif cyfeirnod 15/0775, ar y cyd â’r materion a gadwyd yn ôl o dan y rhif cyfeirnod 18/1039 a roddwyd ar 17 Mawrth 2020, 18/1142 a roddwyd ar 9 Ebrill 2020 a 21/0464 a roddwyd ar 22 Rhagfyr 2021, ac a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.
Ystyrir bod angen cau darn o’r briffordd bresennol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwn.
