Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn cyflwyno terfyn cyflymder o 40mya ar y ffyrdd sy’n dynesu at gefnffyrdd yr A477 a’r A4075 wrth Gyffordd Mynegbost Nash ym Mhenfro, Sir Benfro, a gwahardd symudiadau tro pedol.
Dogfennau
Gorchymyn cefnffordd yr A477 (Cyffordd Mynegbost Nash, Sir Benfro) (terfyn cyflymder 40mya a gwahardd troeon pedol) 202-: gorchymyn drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 170 KB
Gorchymyn cefnffordd yr A477 (Cyffordd Mynegbost Nash, Sir Benfro) (terfyn cyflymder 40mya a gwahardd troeon pedol) 202-: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 184 KB
Gorchymyn cefnffordd yr A477 (Cyffordd Mynegbost Nash, Sir Benfro) (terfyn cyflymder 40mya a gwahardd troeon pedol) 202-: cynllun drafft 1 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 220 KB
Gorchymyn cefnffordd yr A477 (Cyffordd Mynegbost Nash, Sir Benfro) (terfyn cyflymder 40mya a gwahardd troeon pedol) 202-: cynllun drafft 2 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 288 KB
Gorchymyn cefnffordd yr A477 (Cyffordd Mynegbost Nash, Sir Benfro) (Cyfyngiad a Gwaharddiad traffig dros dro) 2025: gorchymyn sy’n cael ei ddirymu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 53 KB
Manylion
Mae angen y Gorchymyn arfaethedig er mwyn cyflwyno terfyn cyflymder o 40 mya ar y ffyrdd sy’n dynesu at gefnffyrdd yr A477 a’r A4075 wrth Gyffordd Mynegbost Nash ym Mhenfro, Sir Benfro, a gwahardd symudiadau tro pedol.
Mae cyffordd a reolir gan oleuadau traffig wedi ei gosod yn y lleoliad hwn, sydd hefyd yn ymgorffori croesfan gyfunol ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae angen y terfyn cyflymder is i ostwng cyflymderau dynesu cerbydau a gwella diogelwch i holl ddefnyddwyr y ffyrdd.
Cynhaliwyd Adroddiad Adolygu Diogelwch ar y Ffyrdd gan Atkins, a gwblhawyd yn 2020, oherwydd pryderon ynghylch diogelwch wrth y gyffordd. Tynnodd hwn sylw at nifer sylweddol o symudiadau tro pedol yn cael eu gwneud (yn bennaf gan gerbydau nwyddau trwm a cherbydau mwy), gan achosi problemau diogelwch a damweiniau a fu bron â digwydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
Felly, roedd gorchymyn i gyfyngu ar symudiadau tro pedol yn un o'r argymhellion ar gyfer mesurau diogelwch i'w gweithredu.
