Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a plam?

Mae erthygl 23 o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (‘y Gorchymyn Cynnal Etholiadau’) yn nodi bod gan Swyddogion Canlyniadau hawlogaeth i adennill eu taliadau mewn cysylltiad â threuliau yr eir iddynt ac i adennill, ar ran gweinyddwyr etholiadol, daliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir. Yn y ddau achos, rhaid bod wedi mynd i'r taliadau a darparu ar eu cyfer, ar gyfer cynnal etholiad i'r Senedd, neu mewn cysylltiad â hynny, pan aed i daliadau o'r fath o reidrwydd er mwyn cynnal yr etholiad yn effeithlon ac yn effeithiol.

O dan erthygl 23(4)(a)-(c) o'r Gorchymyn Cynnal Etholiadau, rhaid i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn:

  1. pennu'r cyfanswm mwyaf y gellir ei adennill ar gyfer y taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau/treuliau;
  2. darparu dull o gyfrifo'r cyfanswm mwyaf na chaiff y taliadau hynny fod yn fwy nag ef; ac 
  3. pennu, neu ddarparu dull ar gyfer cyfrifo, y cyfansymiau mwyaf sy'n adenilladwy ar gyfer gwasanaethau neu dreuliau o fathau penodol

Mae'r pŵer hwn i wneud gorchymyn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

Bydd Gorchymyn Senedd Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2026 (‘y Gorchymyn Taliadau’) yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol mewn cysylltiad â chynnal yr etholiadau i'r Senedd y bwriedir eu cynnal ar 7 Mai 2026.

Mae'r Gorchymyn Taliadau yn pennu'r cyfansymiau mwyaf sy'n adenilladwy gan Swyddogion Canlyniadau am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad i'r Senedd a ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath, a'r cyfanswm mwyaf cyffredinol sy'n adenilladwy gan Swyddogion Canlyniadau am wasanaethau a ddarperir a threuliau yr eir iddynt ar gyfer etholiad i'r Senedd nas ymleddir, neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath.

Bydd y Gorchymyn Taliadau hefyd yn gymwys i unrhyw is-etholiadau dilynol i'r Senedd a gynhelir cyn cynnal yr etholiad llawn nesaf i'r Senedd, oni bai bod gorchymyn arall yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud yn benodol ag is-etholiad o'r fath.

Wrth ddatblygu'r Gorchymyn Taliadau, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Llywodraeth y DU, Swyddogion Canlyniadau yng Nghymru, a rhanddeiliaid etholiadol eraill fel Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol. 

Daw'r cyllid ar gyfer etholiadau i'r Senedd o Gronfa Gyfunol Cymru. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 

Mae cyfatebiaeth glir rhwng y Gorchymyn Taliadau a'r pum ffordd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol”). Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynnig hwn, mae'r Pum Ffordd o Weithio wedi'u hystyried a rhoddir sylw iddynt isod.

Ffyrdd o weithio: hirdymor 

Drwy wneud y Gorchymyn Taliadau, mae hyn yn sicrhau bod deddfwriaeth etholiadol mor gyfredol â phosibl a bod y cyfansymiau adenilladwy mwyaf a ddarperir i Swyddogion Canlyniadau yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael ac yn ystyried chwyddiant. Mae hyn yn sicrhau bod Swyddogion Canlyniadau ac awdurdodau lleol yn cael eu had-dalu'n ddigonol am gostau cynnal yr etholiad i'r Senedd. 

Ffyrdd o weithio: atal 

Drwy wneud y Gorchymyn Taliadau, a sicrhau bod Swyddogion Canlyniadau ac awdurdodau lleol yn cael eu had-dalu'n ddigonol am gostau cynnal yr etholiad i'r Senedd, bydd hyn yn helpu i sicrhau gwydnwch wrth gynnal etholiadau yn y dyfodol. 

Ffyrdd o weithio: integreiddio 

Mae'r Gorchymyn Taliadau yn rhan o fframwaith deddfwriaeth etholiadau ehangach a fydd yn helpu i gynnal yr etholiadau i'r Senedd.

Ffyrdd o weithio: cydweithredu 

Rydym wedi gweithio'n agos ar draws Llywodraeth Cymru gyda swyddogion polisi i sicrhau bod y Gorchymyn Taliadau yn cynnwys y data diweddaraf sydd ar gael ac yn ystyried chwyddiant. Rydym hefyd wedi gweithio gyda Swyddogion Canlyniadau a'n rhanddeiliaid etholiadol i geisio eu barn.

Ffyrdd o weithio: cyfranogiad 

Ymgynghorwyd â Swyddogion Canlyniadau ar y polisi a'r tablau sy'n nodi'r cyfansymiau adenilladwy ar gyfer pob etholaeth a gynhwysir yn y Gorchymyn Taliadau. Daeth 7 ymateb i law gan Swyddogion Canlyniadau a'u gweinyddwyr. Roedd data ar goll mewn perthynas ag un etholaeth, a diwygiwyd y cyfansymiau ar ei chyfer. Ar wahân i hynny, roedd mwyafrif yr ymatebion yn fodlon bod y cyfansymiau yn ddigonol. Mae Nodyn Cyfarwyddyd a ffurflen hawlio newydd, i gyd-fynd â'r Gorchymyn Taliadau, wedi'u cynhyrchu yn dilyn yr ymgynghoriad i roi eglurder pellach i Swyddogion Canlyniadau.

Effaith y Cynnig 

Mae'r Gorchymyn Taliadau yn cyd-fynd ag egwyddorion diwygio etholiadol, a amlinellir isod, a ddefnyddir i feincnodi agenda diwygio etholiadol a dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo ymgysylltu a chyfranogiad democrataidd. 

Egwyddorion diwygio etholiadol: 

  • Tegwch: rhaid galluogi pob person sy'n dymuno cymryd rhan mewn democratiaeth i wneud hynny, a gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a pharchus, er mwyn i'n sefydliadau fod yn amrywiol ac yn gynrychioladol o'r bobl y maent yn eu gwasanaethu.
  • Hygyrchedd: dylai newidiadau i systemau etholiadol a'r gyfraith etholiadol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o wneud pleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth mor hygyrch a chyfleus â phosibl, gan feithrin gallu i ganiatáu i hynny ddigwydd a hybu creadigrwydd ar bob lefel o ddemocratiaeth.
  • Cyfranogiad: rydym am i gynifer o bobl â phosibl arfer eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio. Rôl pawb sy'n ymwneud â gweinyddu etholiadol yw cynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio mewn etholiadau.
  • Gwella profiad dinasyddion: dylid rhoi'r adnoddau i ddinasyddion lunio eu cymunedau a'u gwlad drwy ymgysylltu, cynrychioli a chyfranogi.
  • Symlrwydd: rhaid moderneiddio'r system etholiadol weinyddol a'r gyfraith etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cofrestru i bleidleisio, pleidleisio a chymryd rhan yn symlach i ddinasyddion.
  • Uniondeb: rhaid i uniondeb a thryloywder fod yn sail i'r holl ddiwygiadau etholiadol yng Nghymru. Rhaid inni gael system y mae dinasyddion yn ymddiried ynddi yn ogystal â rhannu gwybodaeth o ffynonellau dilys.

Arbedion a Chostau'r Cynnig 

Mae'r costau a'r arbedion amcangyfrifedig wedi'u nodi yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft a gyhoeddir yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Gorchymyn Taliadau ochr yn ochr â'r Asesiad hwn. 

Mecanwaith y Cynnig 

Mae angen is-ddeddfwriaeth i gyflawni'r cynnig. 

Adran 8: casgliad

Sut cafodd y bobl, y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt, eu cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?

Bwriedir i'r Gorchymyn Taliadau gael ei ddefnyddio gan ymarferwyr etholiadol. 

Ymgynghorwyd â Swyddogion Canlyniadau ar y polisi a'r tablau sy'n nodi'r cyfansymiau adenilladwy ar gyfer pob etholaeth a gynhwysir yn y Gorchymyn Taliadau. Daeth 7 ymateb i law gan Swyddogion Canlyniadau a'u gweinyddwyr. Roedd data ar goll mewn perthynas ag un etholaeth, a diwygiwyd y cyfansymiau ar ei chyfer. Ar wahân i hynny, roedd mwyafrif yr ymatebion yn fodlon bod y cyfansymiau yn ddigonol. Mae Nodyn Cyfarwyddyd a ffurflen hawlio newydd, i gyd-fynd â'r Gorchymyn Taliadau, wedi'u cynhyrchu yn dilyn yr ymgynghoriad i roi eglurder pellach i Swyddogion Canlyniadau.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Bydd y Gorchymyn Taliadau yn galluogi Swyddogion Canlyniadau i fwrw ymlaen â'u paratoadau ar gyfer cynnal yr etholiad i'r Senedd ym mis Mai 2026, a bydd yn sicrhau bod holl gostau cyfreithlon yr etholiad hwnnw yn cael eu had-dalu i Swyddogion Canlyniadau ac awdurdodau lleol. 

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: 

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu,

  • yn osgoi, yn lleihau, neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Diben y Gorchymyn Taliadau yw darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau Swyddogion Canlyniadau a gweinyddwyr etholiadol mewn cysylltiad â chynnal yr etholiad i'r Senedd y bwriedir ei gynnal ar 7 Mai 2026.

Nodau Llesiant

Ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar nodau llesiant.

Amcanion Llesiant

Mae gan Lywodraeth Cymru 10 amcan llesiant a ddefnyddir i sicrhau'r cyfraniad mwyaf tuag at y nodau llesiant. 

Mae'r 10 amcan llesiant fel a ganlyn: 

  1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  2. Parhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  3. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  4. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  5. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  6. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a'r celfyddydau i ffynnu: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  7. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni wneud cymaint o gynnydd ag y bo modd tuag at ddatgarboneiddio: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  8. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd gwell byth i fyw a gweithio ynddynt: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  9. Ymgorffori ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 
  10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â'n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi'r presenoldeb cryfaf posibl i'n gwlad ar y llwyfan byd-eang: ni fydd y Gorchymyn Taliadau yn effeithio'n uniongyrchol ar yr amcan hwn. 

Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Bydd effaith y Gorchymyn Taliadau yn cael ei monitro a'i gwerthuso drwy weithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid.