Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 24 Mai, 2026.
Dogfennau
Gorchymyn yr A4081 North Avenue (Llandrindod, Powys) terfyn cyflymder 30mya dros dro ar gyfer cerbydau esempt, 2026: Gorchymyn wedi'i wneud , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 184 KB
Gorchymyn yr A4081 North Avenue (Llandrindod, Powys) terfyn cyflymder 30mya dros dro ar gyfer cerbydau esempt, 2026: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 129 KB
Manylion
Effaith y Gorchymyn yw rhoi caniatâd dros dro i gerbydau modur a ddefnyddir gan swyddogion awdurdodedig y digwyddiad gael eu gyrru ar gyflymder heb fod yn gyflymach na 30 mya ar yr A4081 North Avenue o’r arwyddion 20mya sydd gerllaw Mynwent Llandrindod hyd at yr arwyddion 30mya ar y ffordd fynediad i’r gylchfan â Ffordd Cadwallader ac Ystad Ddiwydiannol Ddole Road.
Bydd hyn yn eu galluogi i fod ychydig o flaen y ras er mwyn cyflawni eu dyletswyddau o sicrhau bod y ffordd yn glir a dal traffig, pan fo’n briodol.
Bydd yn gweithredu “swigen ddiogelwch” a ddylai sicrhau bod y ras yn cael ei chynnal yn ddiogel i feicwyr a’r cyhoedd.
