Effaith y Gorchymyn yw rhoi caniatâd dros dro i gerbydau modur a ddefnyddir gan swyddogion awdurdodedig y digwyddiad gael eu gyrru heb fod yn gyflymach na 30 mya ar y darnau o’r cefnffyrdd a’r briffordd leol a bennir isod:
Dogfennau
Gorchymyn yr A470 a’r A479 (Llys-wen, Powys) a’r B4350 (Y Clas-ar-Wy, Bochrwyd, Powys) (Terfyn Cyflymder 30 mya Dros Dro ar gyfer Cerbydau Esempt) 2026 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 169 KB
Gorchymyn yr A470 a’r A479 (Llys-wen, Powys) a’r B4350 (Y Clas-ar-Wy, Bochrwyd, Powys) (Terfyn Cyflymder 30 mya Dros Dro ar gyfer Cerbydau Esempt) 2026: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 124 KB
Manylion
1) ar y B435, y Clas-ar-Wy, o’i chyffordd â’r A438 hyd at 165 o fetrau i’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â’r is-ffordd o’r enw Glanrhyd;
2) ar y B4350, Bochrwyd, o bwynt 50 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â’r is-ffordd o’r enw Parc y Ffawydd hyd at bwynt 5 metr i’r gogledd-ddwyrain o’i chyffordd â’r A470;
3) ar yr A470, Glan-yr-afon, Llys-wen, o bwynt 250 o fetrau i’r gogledd-orllewin o’i chyffordd â’r is-ffordd o’r enw Church Road hyd at bwynt 5 metr i’r de-ddwyrain o gyffordd yr A479 â’r is-ffordd o’r enw Llys Meillion.
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Mai 2026
