Mae'r grant hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu arwynebeddau mwy o goetir.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r grant hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu arwynebeddau mwy o goetir, neu ardaloedd llai nad ydynt yn addas ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.
Mae dyddiadau y cyfnodau nesaf ar gyfer ymgeisio ar Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio.
Pwy sy'n cael gwneud cais
Caiff ffermwyr, rheolwyr tir a pherchnogion tir eraill wneud cais i'r cynllun. Rhaid i ymgeiswyr fod â Chynllun Creu Coetir wedi'i ddilysu ar waith cyn gwneud cais. Mae cyllid ar gael i greu cynllun drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.
Isafswm arwynebedd y tir y gellir gwneud cais ar ei gyfer yw 0.25 hectar. Nid oes uchafswm arwynebedd.
Yr hyn mae'r cynllun yn ei gynnig
Mae'r cynllun yn darparu cyllid ar gyfer plannu coed a gosod ffensys a gatiau.
Mae hefyd yn cynnig taliadau cynnal a chadw a thaliadau premiwm am 12 mlynedd (digolledu am golli incwm amaethyddol)
Ni fydd plannu coed o dan y cynllun yn effeithio ar Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gymhwysedd tir.
Cyfraddau’r taliadau
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu am bob hectar o goed maent yn ei blannu. Bydd swm y taliadau'n dibynnu ar y math o blannu coed a nifer y coed a blannir ar bob hectar o dir:
| Categori | Coed fesul hectar | Tâl fesul Hectar |
|---|---|---|
| Bioamrywiaeth frodorol | 1,100 | £3,302 |
| Bioamrywiaeth frodorol | 1,600 | £4,550 |
| Cymysgedd gwell | 2,500 | £5,146 |
| Carbon brodorol | 2,500 | £6,170 |
Amaeth-goedwigaeth ar dir isel (coed gwasgaredig)
| 50 | £2,000 |
| Amaeth-goedwigaeth ar dir uchel (coed gwasgaredig) | 80 | £2,500 |
| Ffrwythau a chnau | 800 | £4,000 |
Mae'r cynllun hefyd yn talu i ffensys a gatiau gael eu gosod o amgylch yr ardaloedd plannu. Y cyfraddau talu yw:
- ffensys – £8.32 fesul metr
- ffensys ceirw (o Gyfnod 3) – £11.93 fesul hectar
- gât safonol (metel) – £221 yr un
- gât safonol (pren meddal) – £291.75 yr un
- gât safonol (pren caled) – £669.41 yr un
- cilbyst a giât ceffyl o bren – £220.83 yr un
- cilbyst a gât mochyn o bren – £237.80 yr un
Mae'r cynllun yn darparu taliadau cynnal a chadw fesul hectar i ofalu am y coed am gyfnod o 12 mlynedd, fel isod. Y gyfradd cynnal a chadw fesul hectar ar gyfer blwyddyn 1 yw £400, £300 ar gyfer blwyddyn 2 a £250 ar gyfer blwyddyn 3. Y gyfradd fesul blwyddyn o flwyddyn 4 i flwyddyn 12 yw £70.
I ddigolledu am golli incwm amaethyddol o'r tir y mae coed yn cael eu plannu arno, mae'r cynllun hefyd yn darparu taliadau premiwm blynyddol o £350 fesul hectar (nid yw hyn ar gael ar gyfer cynlluniau amaeth-goedwigaeth).
Mae taliad cynnal a chadw ar gyfer y categorïau amaeth-goedwigaeth ar dir uchel a thir isel (coed gwasgaredig) am 12 mlynedd (£70/hectar/blwyddyn) ond nid yw ar gael ar dir cyhoeddus. Nid oes taliadau premiwm ar gael ar gyfer y ddau opsiwn hyn gan y byddant yn parhau i gael eu defnyddio at ddibenion cynhyrchu amaethyddol.
Sut i wneud cais
Bydd nifer o gyfnodau ymgeisio yn ystod y flwyddyn. Cyn gwneud cais mae angen i ymgeiswyr fod â chynllun creu coetir ar waith drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.
I wneud cais i'r cynllun, cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb ar Daliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Mae cyngor technegol ar gael gan Cyswllt Ffermio a Hyb Creu Coetir CNC
Mae rhagor o wybodaeth am:
- sut i wneud cais,
- canllawiau technegol
- rheolau cynlluniau
- amodau a thelerau
- canllawiau sut i lenwi
ar gael yn Grant Creu Coetir
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o gyngor ar bolisïau a grantiau ffoniwch y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm – Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm.
