Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi’r economi wledig a’r newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, ac i gymryd camau hefyd i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a helpu i wrth-droi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y 3 blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd - yn cyflawni yn unol â’r themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar raddfa fferm
  • Gwella’r amgylchedd ar ffermydd
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli tir ar raddfa tirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi’r gwaith gweithredu sy’n ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn ogystal â llywio datblygiad parhaus y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella’r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a’r cynlluniau sy’n cael eu datblygu ar gael yn: Rhwydwaith Gwledig Cymru (ar wefan businesswales.gov.wales).

Adran A – cyflwyniad

Mae’r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio’r Cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd. Darllenwch nhw’n ofalus. Os byddwch yn credu wedyn y gallai eich cynlluniau fod yn gymwys am gymorth o dan y cynllun hwn, gweler ‘Sut i Wneud Cais’ yn adran E llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 9 Ionawr 2023 ac yn cau ar 17 Chwefror 2023. Mae cyllideb ddangosol o £3 miliwn wedi’i dyrannu ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn.  

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn gynllun ar wahân i gynlluniau eraill ac yn cynnig uchafswm o £7,500 o gyllid fesul ffenest ar gyfer cynnal Prosiectau Gwaith Cyfalaf.  Mae rhestrau penodol o Waith Cyfalaf ar gael i helpu i sicrhau canlyniadau amgylcheddol llesol o dan y pedair thema ganlynol:

  • Carbon
  • Dŵr
  • Tirwedd a Phryfed Peillio
  • Creu gwrychoedd

Bydd rownd hon y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn canolbwyntio ar Greu Gwrychoedd.

Bydd rheolwyr tir a busnesau ffermio yn cael eu dewis ar gyfer Grantiau Bach - Amgylchedd, ar ôl Datgan Diddordeb wrth Lywodraeth Cymru. Caiff y Datganiad o Ddiddordeb ei sgorio yn ôl ei allu i gyfrannu at gyflawni amcanion thema Grantiau Bach – Amgylchedd. Y rheini fydd yn gallu cyfrannu fwyaf at gyflawni amcanion y thema fydd yn cael y sgôr uchaf. (Gweler Dewis Adran E)

Darllenwch y ddogfen hon ar reolau’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd, a’r canllawiau cyn cyflwyno Datgan o Diddordeb.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Adran B – pwy sy’n gymwys am Grantiau Bach – Amgylchedd

Rydych yn gymwys i wneud cais os:

  • Ydych chi wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN).
  • Yw eich tir wedi’i gofrestru o fewn System Adnabod Parseli Tir (LPIS) Llywodraeth Cymru o fis Rhagfyr 2022.
  • Darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru ar wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Nid ydych yn gymwys os ydych os:

  • Ydych chi wedi cael eich gwahardd (Gweler Cael eich gwahardd yn y dyfodol yn Adran G)

Pa dir sy’n gymwys:

  • rhaid i’r tir fod yn dir amaethyddol.
  • rhaid i’r holl gaeau fod yng Nghymru.
  • bydd gennych reolaeth lwyr ar y tir tan ddyddiad ola’r contract er mwyn ichi allu cyflawni ymrwymiadau’r cynllun.

Nid yw’r canlynol yn gymwys ar gyfer Grantiau Bach - Amgylchedd (oni nodir yn wahanol):

  • tir y mae rheolwr tir neu fusnes fferm arall yn hawlio cymhorthdal neu gynllun grant yr UE neu ddomestig arno (hawlio ddwywaith ar yr un tir).
  • tir sydd â Thrwydded Bori 
  • tir Comin cofrestredig
  • tir o dan gontract y cynlluniau canlynol:
    • Glastir Uwch
    • Creu Coetir Glastir
    • Adfer Coetir Glastir
    • Cynllun Coetir Ffermydd/Cynllun Premiwm Coetir Ffermydd
    • Premiwm Tir wedi’i Wella
    • Premiwm Creu Coetir Glastir
    • Cynllun Adfer Coetir
  • safleoedd â thir sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf ar gyfer gweithgareddau hamdden neu weithgareddau anamaethyddol eraill, megis:
    • meysydd pebyll/carafanau
    • cyrsiau ymarfer ar gyfer ceffylau rasio
    • paneli solar
    • cyfleusterau chwaraeon parhaol neu gaeau hamdden

Mae’r opsiwn Creu Gwrychoedd yn gymwys yn y lleoliadau a ganlyn:

  • Ar hyd ffiniau caeau presennol lle nad oes unrhyw wrych wedi bod yno yn flaenorol.
  • Mewn caeau, er mwyn creu ffiniau newydd.
  • Ar gloddiau â pherthi (cloddiau pridd a chloddiau cerrig) lle nad oes gweddillion planhigion gwrychoedd coediog ar hyd y darn cyfan sydd i’w blannu.
  • Ar gloddiau â pherthi presennol lle y mae rhai gweddillion planhigion gwrychoedd coediog yno eisoes. (Byddai bylchau sylweddol rhwng y gweddillion hyn, ac ni fyddai angen eu tocio â pheiriannau).
  • Ar gloddiau â pherthi presennol lle y mae rhai coed aeddfed sy’n cael eu cadw yno eisoes. (Nid rhes ddi-dor o goed).
  • Er mwyn creu bylchau ymysg gwrychoedd presennol sy’n 20m neu’n hirach.

Nid yw’r opsiwn hwn yn gymwys pan fo:

  • Planhigion gwrychoedd coediog yn ddi-dor ar hyd darn cyfan y rhan y bwriedir plannu arni.
  • Rhes ddi-dor o goed aeddfed eisoes.
  • Gweddillion presennol o berth wedi eu torri neu eu tocio â pheiriannau er mwyn cynnal nodwedd gwrych.
  • Er mwyn creu bylchau ymysgu gwrychoedd presennol sy’n llai na 20m.

Dim ond ar gyfer diogelu rhannau o wrychoedd sydd newydd eu plannu y telir am ffensys newydd.

Adran C – tir mewn cynlluniau eraill

Dyma fanylion y berthynas rhwng Grantiau Bach - Amgylchedd a thir sy’n perthyn i gynlluniau eraill:

Glastir Uwch

Nid yw parseli tir o dan gontract Glastir Uwch yn gymwys am Grantiau Bach –Amgylchedd. Os caiff parseli tir eu trosglwyddo i fusnes fferm ac nad ydynt o dan gontract Glastir Uwch, maen nhw’n gymwys am Grantiau Bach - Amgylchedd.

Glastir Tir Comin

Nid yw tir sy’n Dir Comin Cofrestredig yn gymwys am Grantiau Bach – Amgylchedd.

Mae tir a ddefnyddir fel tir comin ond nad yw’n dir comin cofrestredig, yn gymwys am Grantiau Bach - Amgylchedd. Ond os oes gennych gontract Tir Comin Glastir eisoes ar dir o’r fath, bydd yna gyfyngiadau. Ni chewch ddatgan diddordeb mewn gwaith fydd yn newid amodau rheoli Contract Tir Comin Glastir sydd gennych eisoes.

Glastir Organig

Mae tir o dan gontract Glastir Organig yn gallu bod yn gymwys am Grantiau Bach –Amgylchedd.

Os bydd tir yn peidio â bod yn gymwys am Glastir Organig yn sgil prosiect Grantiau Bach - Amgylchedd, bydd yn rhaid ad-dalu arian Glastir Organig sydd wedi’i dalu.

Coetiroedd Glastir

Ni fydd caeau o dan gynlluniau Adfer Coetir Glastir, Creu Coetir Glastir na’r cynllun Adfer Coetir yn gymwys am Grantiau Bach – Amgylchedd.

Os bydd rheolwyr tir a busnesau fferm yn ystyried plannu coetir newydd dros 0.25ha o faint, gallai fod yn gymwys am gynlluniau creu coetir yn y dyfodol. Yn wahanol i’r cynllun Creu Coetir Glastir, nid oes premiwm blynyddol na thaliadau cynnal ar sail arwynebedd yn cael eu talu o dan gynllun Grantiau Bach - Amgylchedd. Hefyd, os daw tir yn anghymwys am y Taliad Sylfaenol oherwydd Grantiau Bach - Amgylchedd, ni fydd bellach yn gymwys, hyd yn oed os cafodd Taliad Sengl ei dalu yn 2008.

Os yw’r Gwaith Cyfalaf wedi’i ariannu o’r blaen o dan unrhyw un o’r cynlluniau isod, nid yw’n gymwys am Grantiau Bach - Amgylchedd:

  • Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
  • Holl gynlluniau Glastir

Tir cynefin sensitif

Efallai na fydd yr opsiwn o godi gwrychoedd ar gael ar dir sy’n ddarostyngedig i reoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol (EIA). Mae tir cynefin yn dod o dan gwmpas rheoliadau Asesu’r Effaith Amgylcheddol. Am ragor o fanylion, darllenwch y Llyfryn Canllawiau Technegol Grantiau Bach – Amgylchedd.

Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)

Gall Grantiau Bach – Amgylchedd effeithio ar hawl rheolwyr tir a busnesau fferm i gael y BPS. Am ragor o fanylion, darllenwch y Llyfryn Canllawiau Technegol Grantiau Bach - Amgylchedd.

Darllenwch Lyfryn Rheolau’r Ffurflen Cais Sengl i gael manylion ar sut i asesu caeau sydd â nodweddion anghymwys, gan gynnwys coed.

Cael eich talu ddwywaith

Peidiwch â gwneud cais am Grantiau Bach - Amgylchedd os ydych eisoes yn derbyn arian o le arall i wneud yr un gwaith.  Os oes gennych gontract Glastir, ni fyddwch yn gymwys am ragor o arian i gynnal yr un gwaith, hynny am y byddech yn cael eich talu ddwywaith am wneud yr un peth.

Os gwelir wedyn eich bod wedi cael arian o ffynhonnell arall i wneud gwaith Grantiau Bach – Amgylchedd, gallai hynny arwain at gosb ariannol, gofyn ichi ad-dalu taliadau’ch contract Grantiau Bach – Amgylchedd a’ch gwahardd yn y dyfodol.

Tir sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal Gweithgareddau Chwaraeon a/neu Hamdden

Ni fyddwn yn ystyried eich bod yn cynnal maes chwarae neu hamdden parhaol oni bai bod unrhyw rai o’r canlynol yn gymwys:

  • bod y maes wedi’i neilltuo ac yn cael ei gadw gydol y flwyddyn i gynnal chwaraeon neu weithgareddau hamdden arno. Er enghraifft, cwrs golff, cae pêl-droed neu ménage (arena marchogaeth). Mae’r tir yn anghymwys hyd yn oed os oes gweithgareddau amaeth yn cael ei gynnal arno os nad amaeth yw ei brif ddefnydd.
  • mae’r tir yn cynnwys un neu fwy o adeileddau parhaol sy’n cael eu defnyddio gan bobl i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon neu hamdden – neu adeileddau parhaol ar gyfer gwylwyr, i’w gwneud yn fwy cyfforddus (er enghraifft, ystafelloedd newid, cawodydd neu doiledau, caffi, seddi i wylwyr neu gaban gwylio). Ni chynhwysir meysydd parcio.
  • pan fo manège wrth ysgol farchogaeth neu stablau llog, ystyrir bod eisteddle neu gaban gwylio’r manège yn adeiledd parhaol ond nid adeiladau a stablau’r stablau llog neu’r ysgol.
  • nid yw’r tir na’r cyfleusterau at ddefnydd personol yn unig

Adran D – ymgynghori a chaniatáu

Rhaid sicrhau nad yw unrhyw waith a wneir fel rhan o’r prosiect yn torri rhwymedigaethau amgylcheddol o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol arall, gan gynnwys rheoliadau ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS), nac yn niweidio unrhyw nodweddion amgylcheddol hanesyddol.

Bydd angen ymgynghori neu ganiatâd i gynnal prosiect ar dir sydd yn y sefyllfaoedd canlynol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â'r awdurdod perthnasol ac yn gofyn am y caniatâd neu’r cydsyniad isod ar eich rhan:

Caniatâd neu Gydsyniad 
Rhedyn yn ardaloedd y fritheg
Ardaloedd ffyngau glaswelltir
Cynefin posibl rhywogaethau a warchodir (adar)
Cynefin posibl rhywogaethau a warchodir (madfallod dŵr cribog
Cofnod o blanhigion âr sensitif
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Clustogfeydd SoDdGA
Cynefinoedd sensitif
Ffos
Henebion Cofrestredig
Parciau a Gerddi Cofrestredig
Nodweddion Amgylcheddol Hanesyddol
Tirweddau Hanesyddol

Chi fydd yn gyfrifol am gael y caniatâd neu'r cydsyniad canlynol, lle bo angen:

Caniatâd neu Gydsyniad

Yr Awdurdod Caniatáu

Hawliau tramwy cyhoeddus

Awdurdod Lleol

Caniatâd Cwrs Dŵr cyffredin

Awdurdod Lleol

Gorchymyn Cadw Coed

Awdurdod Lleol

Caniatâd Draenio Tir 

Cyfoeth Naturiol Cymru

Trwydded Gweithgarwch Risg Llifogydd

Cyfoeth Naturiol Cymru

Trwydded Cwympo Coed

Cyfoeth Naturiol Cymru

Trwydded Rhywogaethau a Warchodir

Cyfoeth Naturiol Cymru

Rhaid i chi gysylltu â'r awdurdod perthnasol cyn Datgan Diddordeb, i gadarnhau a fydd angen unrhyw ganiatâd perthnasol ar unrhyw Brosiect Gwaith Cyfalaf.

Mae angen caniatâd cyn derbyn a chynnal Gwaith Cyfalaf Grantiau Bach –Amgylcheddd. Mae manylion Gwaith Cyfalaf penodol i'w gweld yn Llyfryn Canllaw Technegol Grantiau Bach - Amgylchedd.  

Rhaid i chi gadw at amodau unrhyw ganiatâd a gewch gan yr awdurdod perthnasol. Gall peidio â gwneud hynny arwain at eich erlyn.

Os na fyddwch yn gallu cael y caniatâd, ni fydd y Prosiect Gwaith Cyfalaf yn ddilys mwyach a rhaid i chi beidio â’i gynnal, hyd yn oed â chithau’n talu.

Hawl tramwy cyhoeddus

Fel perchennog neu feddiannydd tir sydd â hawl tramwy cyhoeddus arno, rhaid i chi gadw'r llwybr yn weladwy a pheidio â rhwystro na pheryglu defnyddwyr. 

Mae pedwar categori gwahanol o hawl tramwy cyhoeddus:

Llwybrau cyhoeddus, ar gyfer cerddwyr yn unig. Llwybrau troed yw'r rhan fwyaf o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru.

Llwybrau ceffylau, y gall cerddwyr, beicwyr a marchogion eu defnyddio.

Llwybrau ceffylau o dan gyfyngiadau, yn agored i ddefnyddwyr llwybrau ceffylau, a hefyd i gerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau a cherbydau eraill heb fodur.

Cilffyrdd sy'n agored i bob traffig, yn agored i bob defnyddiwr, gan gynnwys cerbydau modur.

Maen nhw i gyd yn briffyrdd cyhoeddus ac mae gan y cyhoedd yr hawl i'w defnyddio. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am reoli hawliau tramwy cyhoeddus.  Ni ddylai gwaith Grantiau Bach – Amgylchedd arwain at greu rhwystr nac achosi perygl i'r cyhoedd arnyn nhw.  Dylech holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os bydd angen celfi mynediad neu arwyddion ar eich gwaith Grantiau Bach – Amgylchedd i sicrhau bod yr hawl tramwy yn parhau’n agored ac yn addas i'w defnyddio.

Gorchmynion Cadw Coed

Mae Gorchmynion Cadw Coed (TPO) yn orchymyn gan awdurdod cynllunio lleol (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol neu awdurdod parc cenedlaethol) sydd, yn gyffredinol, yn ei gwneud yn drosedd torri, tocio neu ddadwreiddio coeden neu ei difrodi neu ei dinistrio’n fwriadol heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio.

Er mwyn gwneud gwaith ar goeden a warchodir gan Orchymyn Cadw Coed, rhaid gwneud cais i'ch Awdurdod Cynllunio Lleol.

Gwaith ger afon neu seilwaith amddiffyn rhag llifogydd

Mae cyrsiau dŵr yn nodweddion naturiol pwysig ac yn gynefinoedd sy'n cefnogi amrywiaeth eang o fioamrywiaeth yn yr amgylchedd. Maent wedi’u diogelu gan amrywiaeth o ddeddfwriaeth. Mae cyrsiau dŵr yn amrywio o ran maint, o nentydd bychain iawn, sy’n aml yn debyg i ffosydd, i afonydd mawr. Gall nentydd bach neu diroedd gwlyb sychu yn yr haf, ond maent yn dal i gael eu diogelu o dan y ddeddfwriaeth hon, hyd yn oed pan nad oes dŵr yn bresennol ynddynt.

Mae'n rhaid i chi osgoi niwed i gyrsiau dŵr a sicrhau bod gweithgareddau sy'n cael eu cynnal ynddynt neu'n gyfagos iddynt yn cydymffurfio â'r gyfraith. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd gan CNC (Trwydded Gweithgarwch Perygl Llifogydd) neu'r Awdurdod Lleol (Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin) ar gyfer rhai mathau o waith mewn cyrsiau dŵr a'u hardaloedd torlannol. Mae gwaith a all niweidio cyrsiau dŵr a/neu sydd angen caniatâd ffurfiol yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i’r canlynol:

  • Cael gwared ar gynefin torlannol fel cwympo coed neu lwyni wrth ymyl cwrs dŵr.
  • Gosod neu ddisodli ffensys yn rhy agos at ymyl y lan neu ar draws cwrs dŵr.
  • Tynnu deunyddiau naturiol o'r sianel fel graean, clogfeini a phren.
  • Sythu neu fewnlenwi sianeli.
  • Gosod neu ddisodli croesfannau fel ceuffosydd, pontydd neu greu mannau ar gyfer croesi.
  • Gosod neu ddisodli gwaith diogelu glannau gan gynnwys addasu proffil y glannau (e.e. mannau dyfrio, gollyngfeydd).

Gall methu â chael caniatâd ar gyfer gweithgarwch a allai niweidio cwrs dŵr arwain at ddirwy a/neu erlyniad.

I helpu i ganfod a yw nodwedd dŵr yn cael ei dosbarthu fel ffos neu gwrs dŵr a wnaed gan bobl, edrychwch ar fap diweddar (deng mlynedd diwethaf) 1:10,000 yr Arolwg Ordnans (sydd ar gael ar-lein neu mewn llyfrgelloedd lleol). Mae cyrsiau dŵr wedi'u marcio ar y mapiau hyn fel llinellau glas. Os yw’n bosibl i’ch gweithgarwch arfaethedig effeithio ar gwrs dŵr, neu os ydych yn ansicr, fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael cyngor i sicrhau bod eich gwaith yn cydymffurfio â'r gyfraith.

  • Prif afon

Diffinnir prif afon yn gyfreithiol fel cwrs dŵr a ddangosir ar fap prif afon. Mae prif afonydd wedi'u dynodi oherwydd pwysigrwydd rheoli perygl llifogydd. Sylwer, gallai  hyd yn oed cwrs dŵr bach fod yn brif afon.

Os ydych am wneud gwaith mewn, dros, o dan neu ger (o fewn 8 metr) prif afon neu amddiffynfa lifogydd (gan gynnwys amddiffynfa fôr), neu o fewn gorlifdir, efallai y bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gweithgarwch Risg Llifogydd (FRAP). Bydd angen i chi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) am FRAP i sicrhau nad yw’ch gweithgareddau'n creu perygl o lifogydd nac yn gwneud y perygl llifogydd presennol yn waeth.  Mae angen trwydded hefyd i sicrhau na fydd eich gwaith yn amharu ar seilwaith atal llifogydd CNC nac yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd, pysgodfeydd na bywyd gwyllt lleol.

CNC fydd yn penderfynu ar geisiadau FRAP i reoli perygl llifogydd drwy reoleiddio gwaith a gweithgareddau datblygu.

Rhoddir caniatâd yn ddi-dâl ar gyfer cynnal rhai gweithgareddau mewn, dros, o dan neu ger prif afon, heb fod angen trwydded, cyn belled â’ch bod yn bodloni amodau penodol. Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu hystyried yn weithgareddau eithriedig neu gyfyngedig:

Bydd angen FRAP pwrpasol ar gyfer yr bob gweithgaredd arall.

Gallai canlyniadau peidio â gwneud cais am FRAP fod yn ddrud. Gall CNC hawlio costau unioni pethau a gallech hefyd gael eich erlyn. Gall Llywodraeth Cymru hefyd atal neu adfer Grantiau Bach – Amgylchedd.

  • cyrsiau dŵr cyffredin

Os nad yw'r cwrs dŵr yn brif afon, gallai fod yn gwrs dŵr cyffredin.

Os ydych am wneud gwaith o fewn neu dros gwrs dŵr cyffredin, bydd angen i chi gysylltu â'r Awdurdod Lleol i gael Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin. O fewn Ardaloedd Draenio Mewnol (IDDs), mae cyrsiau dŵr cyffredin yn dod o dan awdurdod CNC, a bydd angen i chi gysylltu â CNC, nid yr Awdurdod Lleol, i gael Caniatâd Draenio Tir o fewn IDD.

Os nad ydych yn siŵr a yw'r cwrs dŵr dan sylw yn brif afon, yn gwrs dŵr cyffredin, neu'n rhan o IDD, cysylltwch â CNC.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau’ch bod yn cydymffurfio â holl ofynion CNC/yr Awdurdod Lleol. Pan fydd angen trwydded/caniatâd a'i fod wedi'i rhoi, rhaid cadw'r drwydded a sicrhau ei bod ar gael i’w dangos os gofynnir amdani. Os yw CNC a/neu'r Awdurdod Lleol wedi cadarnhau nad oes angen trwydded, rhaid cadw'r dystiolaeth hon hefyd a sicrhau ei bod ar gael i’w dangos. Byddwch wedi torri’r rheolau os byddwch yn gwneud y gwaith heb gael y trwyddedau perthnasol.

Trwydded Cwympo Coed

Bydd angen i chi wneud cais i CNC am drwydded cwympo coed os ydych yn bwriadu torri coeden mewn perth/gwrych ac nad yw'r gwaith yn un o eithriadau'r drwydded cwympo coed.  Os oes taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol neu gynllun Datblygu Gwledig (e.e. Taliadau Glastir Uwch) yn cael eu talu i chi, gallai cynnal gwaith gwaharddedig ar berth/gwrych olygu’ch bod yn torri amodau trawsgydymffurfio a gallai’ch taliadau gael eu cosbi.

Trwyddedau Rhywogaethau a Warchodir

Raid i chi wneud cais i CNC am Drwydded Rhywogaethau a Warchodir os ydych yn bwriadu gwneud gwaith sy'n effeithio ar rywogaeth a warchodir. Mae hyn yn cynnwys:

  • Tarfu ar rywogaethau a warchodir, eu trapio neu eu trin.
  • Difrodi eu cynefin, er enghraifft drwy adfer pwll neu adeiladu tai.

Efallai y bydd angen i chi ddangos bod y gwaith yn angenrheidiol ac nad oes unrhyw ffordd o wneud y gwaith heb effeithio ar y rhywogaethau a warchodir.

Gall CNC wrthod cais am drwydded os nad yw'r gwaith yn angenrheidiol neu os nad oes modd cyfiawnhau'r niwed y byddai'n ei achosi i'r rhywogaethau a warchodir.

 

Adran E – gwneud cais am y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

Rhaid Datgan Diddordeb yn Grantiau Bach – Amgylchedd ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, fe ddylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Defnyddio arno ichi allu agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Iau 8:30am – 5.00pm, Gwener 8:30am – 4.30pm) a rhoi’ch CRN i’r cysylltydd. Caiff Cod Defnyddio newydd ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen i chi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion eich busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd gofyn iddo gofrestru fel asiant ar RPW.  Os nad yw wedi gwneud hyn eto, dylai gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Defnyddio RPW Ar-lein ato. Hefyd, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Cysylltiad ar ôl cofrestru gyda RPW Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Mae’n bwysig cymryd gofal wrth ddewis Prosiectau Gwaith Cyfalaf a gofalu eu bod yn addas i’r lleoliad. Ni fydd modd ichi newid y lleoliad ar ôl derbyn contract oherwydd amserlen dynn ffenest y thema a’r amserlen ar gyfer hawlio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru ar RPW Ar-lein neu am Ddatgan Diddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Byddan nhw’n gallu’ch cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd am help digidol.

Cewch fwy o fanylion am RPW Ar-lein ar wefan Llywodraeth Cymru: Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein.

Atebwch gwestiynau gan Lywodraeth Cymru am eich Datganiad o Ddiddordeb yn y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd cyn gynted â phosibl.  Os na chawn ateb erbyn yr amser gofynnol, efallai y bydd yn rhaid i ni wrthod rhoi contract Grantiau Bach –Amgylchedd i chi.

Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa i Ddatgan Diddordeb trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Themâu Grantiau Bach – Amgylchedd

Mae Grantiau Bach - Amgylchedd wedi’u rhannu’n Themâu, bob un yn dod â budd amgylcheddol. Gall pob busnes fferm yng Nghymru Ddatgan Diddordeb ym mhob thema.

Byddwn yn darparu mapiau ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n dangos gwerth Gwaith Cyfalaf Grantiau Bach – Amgylchedd o dan bob thema ym mhob rhan o Gymru.

Y broses ddewis

Fel rhan o broses ddewis y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd, byddwn yn asesu pob prosiect Gwaith Cyfalaf y bydd busnesau Fferm yn Datgan Diddordeb i’w cynnal. Rhoddir sgôr i bob prosiect Gwaith Cyfalaf yn ôl ei allu i gyfrannu at gyflawni amcanion Grantiau Bach - Amgylchedd o fewn y thema.

Y prosiectau Gwaith Cyfalaf sy’n cael y sgôr uchaf fydd yn cael eu dewis a rhoddir gwybod i reolwyr y tir neu’r busnesau fferm pa brosiect Gwaith Cyfalaf sy’n llwyddiannus - hyd at £7,500 fesul CRN, fesul Datganiad o Ddiddordeb.

Thema ffenest hon y cynllun Grantiau Bach - Amgylchedd yw ‘Creu Gwrychoedd ac mae’r gweithgareddau sydd ar gael wedi’u dewis am eu gallu i gyfrannu at wella nodweddion y dirwedd, gwella bioamrywiaeth, atafaelu carbon a chreu cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio.

Mae pob parsel tir cymwys yng Nghymru wedi cael sgôr ar gyfer pob gweithgaredd sydd ar gael. Mae’r sgôr hon wedi’i rhannu fel a ganlyn;

Sgôr Sylfaen Grantiau Bach – Amgylchedd: mae un pwynt wedi’i neilltuo ar gyfer pob parsel cae cymwys i gydnabod y gall yr holl dir gyfrannu at nodau’r cynllun.

Amcanion targed: mae nifer o amcanion targed wedi’u nodi ledled Cymru. Mae’r amcanion hyn yn cynnwys nifer o fuddion ar gyfer canlyniadau amgylcheddol.

Dyfarnwyd nifer wahanol o bwyntiau i bob parsel tir yn dibynnu ar y gweithgaredd penodol a’r cyfuniad o amcanion targed sy’n gorgyffwrdd arno.

Bydd y sgrin ‘Creu Prosiect’ yn dangos i chi’r sgoriau sydd wedi’u neilltuo i’r parsel ar gyfer pob gweithgaredd. Mae’r gweithgaredd sy’n sgorio uchaf ar y parsel dan sylw wedi’i liwio’n wyrdd o dan deitl y prif waith cyfalaf.

Bydd ‘n/a’ (ddim ar gael) wedi’i nodi ar rai parseli, naill ai am nad yw’r parsel hwnnw’n gymwys, neu am nad yw rhai gweithgareddau’n gymwys os gallent fod yn niweidiol i nodwedd amgylcheddol. Er enghraifft, ni fydd opsiynau plannu coed ar gael ar dir sy’n cael ei ystyried yn bwysig ar gyfer cornchwiglod sy’n bridio. Mae’r adar prin hyn yn nythu ar y ddaear ac mae brain yn bwyta eu hwyau a’u cywion. Byddai coed newydd yn denu rhagor o frain ac yn fannau iddyn nhw glwydo wrth hela am nythod. Felly, ni fyddai’n briodol plannu mwy o goed yn yr ardaloedd hyn. Pan fydd y dewis wedi’i wneud, bydd llythyr sy’n nodi’r canlyniad yn cael ei roi ar eich cyfrif RPW Ar-lein i nodi a yw’ch Datganiad o Ddiddordeb wedi’i ddewis neu beidio. Bydd yn cael ei roi dan bennawd gwahanol er mwyn ichi allu adnabod prosiectau llwyddiannus ac aflwyddiannus yn hawdd.

Ar ôl eu cadarnhau’n llwyddiannus, caiff contractau eu paratoi a bydd yna 30 diwrnod i chi naill ai "dderbyn" neu "wrthod" y prosiect ar RPW Ar-lein. Os na fyddwch wedi derbyn eich contract o fewn 30 diwrnod calendr, caiff y cynnig ei dynnu’n ôl.  

Os ydych yn derbyn contract ar gyfer Grantiau Bach – Amgylchedd ac yn tynnu’n ôl wedyn, cewch eich gwahardd rhag ymgeisio yn y cyfnod nesaf sydd ar gael o dan holl themâu Grantiau Bach – Amgylchedd (gweler Eich Gwahardd yn y Dyfodol).

Adran F – amodau’r grant

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth yn berthnasol i’r Cynllun Grantiau Bach –Amgylchedd (gweler Adran M). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd / derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant Grantiau Bach – Amgylchedd yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau, a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u nodi isod. Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r contract arwain at ganslo’ch contract a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu i chi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y Datganiad o Ddiddordeb a’r ffurflen hawlio ac yn yr ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Gellid erlyn person sy’n gwneud datganiad ffug neu na fydd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y cais hwn. Gallai rhoi datganiad ffug, anghywir neu anghyflawn neu beidio â rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am newid perthnasol i’r wybodaeth a roddwyd yn y Datganiad o Ddiddordeb hwn arwain at ddod â’r contract i ben a/neu adennill unrhyw daliadau.

Mae gofyn i’r ymgeisydd ddarllen a deall rheolau a chanllawiau perthnasol y cynllun.

Mae’r manylion rydych wedi’i rhoi yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol, hyd eithaf eich gwybod a’ch cred, yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r ceisiadau a/neu’r cynlluniau datblygu busnes, a’ch bod yn llwyr gyfrifol am y penderfyniadau busnes a wneir.

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol megis Iechyd a Diogelwch; cyflogaeth; hylendid; rheoli a diogelu’r amgylchedd; iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau a fydd yn gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru’r rheolau a’r amodau yng ngoleuni newidiadau i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi gytuno i gadw at unrhyw newidiadau ar ôl cael gwybod amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Rhaid ichi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau neu reoliadau domestig neu ryngwladol neu gyfarwyddebau swyddogol cymwys.

Rhaid ichi hysbysu Llywodraeth Cymru ymlaen llaw am unrhyw newidiadau a wneir i natur neu saernïaeth y prosiect hwn.

Rhaid ichi hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau i’r manylion a roddir yn adran Manylion y Ceisydd ar y ffurflen.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu hasiant awdurdodedig priodol, gael mynd ar dir ac archwilio tir ac unrhyw offer, cyfleusterau a’r holl gofnodion a gwybodaeth berthnasol sydd eu hangen i gadarnhau’ch bod yn gymwys a chywirdeb y wybodaeth a ddarperir ar gyfer gwneud y Datganiad o Ddiddordeb hwn.

Rhaid i chi beidio â gwneud gwaith cyn ymuno â’r Grantiau Bach – Amgylchedd sy’n niweidio’r amgylchedd a rhaid deall y gallai gwneud hynny arwain at wrthod eich Datganiad o Ddiddordeb.

Ni fyddwch wedi cynnwys tir sydd o dan gytundebau rheoli eraill neu sy’n destun grant neu gais am grant arall, a allai fod â photensial i’ch talu ddwywaith.

Rhaid ichi gynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Rydym yn cadw’r hawl i ofyn ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant.

Mae’n bosibl y bydd angen i Lywodraeth Cymru rannu gwybodaeth am eich Datganiad o Ddiddordeb yn y cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd â sefydliadau eraill, ac rydych yn cytuno i ni ddatgelu neu rannu unrhyw wybodaeth angenrheidiol.

Gallai Llywodraeth Cymru ofyn hefyd am wybodaeth amdanoch oddi wrth sefydliadau eraill, neu roi gwybodaeth amdanoch iddyn nhw er mwyn cadarnhau cywirdeb yr wybodaeth, er mwyn atal neu ganfod troseddau, ac er mwyn diogelu arian cyhoeddus. Mae’r sefydliadau eraill hynny’n cynnwys adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff eraill, fel sy’n briodol.         

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn datgelu gwybodaeth yn unol â’r ymrwymiadau a’r dyletswyddau sydd arni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Caiff gwybodaeth arall a roddir ei datgelu hefyd os caniateir hynny o dan y gyfraith.

Adran G – taliadau

Hawliadau

Bydd yn rhaid ichi hawlio’r Grantiau Bach – Amgylchedd ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Chewch chi ddim mo’ch talu nes bod eich hawliad am Waith Cyfalaf wedi cael ei ddilysu’n llwyddiannus.

Er mwyn derbyn Grantiau Bach – Amgylchedd, rhaid ichi:

  • Arwyddo contract Grantiau Bach - Amgylchedd a chadw at yr holl ofynion.
  • Peidio â gwneud gosodiad na datganiad ffug neu gamarweiniol, na rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol.
  • Peidio â ffugio’r amodau sydd eu hangen i gael taliad.
  • Caniatáu i dir gael ei archwilio ar unrhyw adeg yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw un arall sydd â chaniatâd a darparu unrhyw ddogfen neu gofnod y gallai Llywodraeth Cymru neu’r sawl sydd â chaniatâd ofyn amdanynt.
  • Cyflwyno hawliadau dilys a chyflawn ar-lein am Waith Cyfalaf erbyn y terfyn amser. Ni fydd hawliad yn ddilys nes bod yr holl wybodaeth ategol hefyd wedi’i chyflwyno.

Pwysig: Ar gyfer pob Prosiect Gwaith Cyfalaf rydych yn ei hawlio, rhaid cyflwyno ffotograffau â Geotag o’r safle ‘cyn’ y gwaith ac ‘ar ôl’ y gwaith (Gweler Cadw Cofnodion)

  • Rhaid hawlio’r taliad cyn y dyddiad terfyn fydd wedi’i nodi yn eich contract. Byddwn yn gwrthod hawliadau fydd yn ein cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn.
  • Peidiwch â hawlio’r taliad nes bod y Gwaith Cyfalaf wedi’i gwblhau. Ni chewch hawlio ar Brosiect sydd heb ei orffen ac ni chewch hawlio ar unrhyw waith sy’n cael ei wneud ar ôl hawlio’r taliad.
  • Byddwn yn anfon hyd at 2 nodyn i’ch atgoffa bod hawliadau heb eu gwneud trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio.
  • Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir derbyn cais am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer hawlio a rhaid ei wneud yn ysgrifenedig drwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio. 

Ni roddir unrhyw estyniadau y tu hwnt i 31 Mawrth 2024.

Cam-hawlio a chosbau

Os gwelwn fod eitemau heb eu gorffen neu heb eu cynnal yn unol â manylebau technegol y prosiect, caiff y taliad ei leihau i swm y gwaith sydd wedi’i wneud yn unol â’r fanyleb.

Os bydd y gostyngiad hwn yn fwy na 10% o werth yr hawliad, byddwn yn eich cosbi am orddatgan.

Os nad yw Prosiect y Prif Waith Cyfalaf yn cyfateb i’r fanyleb a bod hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar allu’r prosiect i wireddu’r amcanion amgylcheddol, bydd Prosiect y Prif Waith Cyfalaf yn anghymwys a bydd yn rhaid ichi ad-dalu’r arian sydd wedi’i dalu ichi ar gyfer y Prif Waith Cyfalaf a Gwaith Cyfalaf Ategol.

Cyfrifir llog ar gyfer y cyfnod rhwng y dyddiad cau ar gyfer talu a nodir yn y gorchymyn adfer, na chaiff ei bennu ar fwy na 60 diwrnod, a dyddiad naill ai ad-dalu neu ddidynnu.

Rhaid i bob ad-daliad o Gyllid gael ei wneud i ni o fewn 60 diwrnod i ddyddiad ein cais amdano.

Gorddatgan

Fe welwch isod enghraifft o gosbau cyffredin am Orddatgan.

Sefyllfa:

Nid yw holl hyd y Prosiect Prif Waith Cyfalaf neu ran ohono yn cyfateb i’r fanyleb ond nid yw hynny’n cael effaith uniongyrchol ar allu’r prosiect i gyflawni’r amcan amgylcheddol.

Enghraifft 1:

Prosiect Gwaith Cyfalaf: Creu 100 metr o berth/gwrych â ffens bob ochr iddi.

Mae’r buddiolwr yn hawlio ar y 100m cyfan.

Mae archwiliad yn dangos mai dim ond 91m o’r berth gafodd ei chreu.

Tynnir y 9m sydd wedi’i orddatgan o’r hawliad.

Gan fod hyn yn llai na 10% o’r swm a hawlir, caiff yr hawliad ei leihau ond ni fydd cosb am orddatgan. Caiff yr hawliad am weddill cymwys y Prosiect Gwaith Cyfalaf, gan gynnwys unrhyw waith ategol, ei dalu.

Enghraifft 2:

Prosiect Gwaith Cyfalaf: Creu 100 metr o berth/gwrych â ffens bob ochr iddi.

Mae’r buddiolwr yn hawlio ar y 100m cyfan.

Mae archwiliad yn dangos mai dim ond 81m o’r berth gafodd ei chreu.

Tynnir yr 19m sydd wedi’i orddatgan o’r hawliad.

Gan fod hyn yn fwy na 10% o’r swm a hawlir, caiff yr hawliad ei leihau a bydd cosb am orddatgan (y gwahaniaeth). Caiff yr hawliad am weddill cymwys y Prosiect Gwaith Cyfalaf, gan gynnwys unrhyw waith ategol, ei dalu.

Enghraifft 3:

Prosiect Gwaith Cyfalaf: Creu 100 metr o berth/gwrych â ffens bob ochr iddi

2 Gât Bren:

Mae’r buddiolwr yn hawlio ar y 100m cyfan a’r 2 gât.

Mae archwiliad yn dangos bod perth 100m o hyd wedi’i chreu ond mai dim ond 1 gât sydd wedi’i chodi.

Mae 1 gât wedi’i gorddatgan a chaiff ei thynnu o’r hawliad.

Gan fod y gât yn fwy na 10% o’r swm a hawlir, caiff yr hawliad ei leihau a bydd cosb am orddatgan. Caiff yr hawliad am weddill cymwys y Prosiect Gwaith Cyfalaf, gan gynnwys unrhyw waith ategol, ei dalu.

Eich gwahardd yn y dyfodol

Os na fyddwch wedi gorffen 80% o werth y Prosiectau Gwaith Cyfalaf yn y thema, neu’n derbyn contract ac yn tynnu’n ôl wedyn, cewch eich gwahardd rhag ymgeisio yn y ffenest nesaf o dan holl themâu Grantiau Bach – Amgylchedd.

Diben y gwaharddiad yw sicrhau bod cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn creu buddiannau amgylcheddol trwy sicrhau mai dim ond y rheini fydd am ymroi i gynnal y gwaith fydd yn Datgan Diddordeb.

Gallai peidio â chwblhau contract olygu bod rheolwyr tir a busnesau fferm eraill ddim yn cael eu dewis ar gyfer thema Grantiau Bach –Amgylchedd.

Os bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn nad ydych yn gallu gorffen prosiect Grantiau Bach - Amgylchedd oherwydd amgylchiadau eithriadol, caiff y prosiect ei dynnu o’r contract ac efallai y caiff ei ychwanegu at gais rywdro yn y dyfodol. Caiff pob cais ei asesu fesul achos.

Troseddau

Mae rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig. Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r Cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd. Mae enghreifftiau o droseddau yn cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu drwy esgeulustod, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig, rhwystro arolygydd neu swyddog, a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H – trosglwyddo neu werthu tir o dan gontract

Cofiwch, ni chewch werthu na lesio contractau Grantiau Bach – Amgylchedd. Os caiff tir ei werthu neu ei drosglwyddo (tenantiaeth lafar neu ysgrifenedig) cyn ichi orffen y Prosiect Gwaith Cyfalaf, caiff eich contract ei ganslo ac ni chewch unrhyw daliad.

Adran I – newidiadau i reolau’r cynllun

Newidiadau mewn Deddfwriaeth (gan gynnwys newid dehongliad)

Caiff deddfwriaeth ei newid o dro i dro a bydd gofyn i chi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun ar ôl i Lywodraeth Cymru roi gwybod ichi amdanynt.

Newidiadau i reolau neu gontract y cynllun

Mae’n bosibl y bydd angen i ni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau yn y ddeddf. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen

Adran J - rheoliadau, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r Cynllun Grantiau Bach –Amgylchedd.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y gwaith cyfalaf wedi’i wneud cyn talu’r grant ichi neu ar ôl i chi talu’r grant i chi.

Bydd yr holl fanylion yn eich Datganiad o Ddiddordeb, manylion eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’ch Datganiad a’ch hawliad i gyd yn cael eu harchwilio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu ddim yn rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl y byddwn yn gwrthod eich talu, y gallwn ofyn ichi dalu arian sydd wedi’i dalu i chi yn ôl ac fe allech gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n ofyn fod yr holl grantiau yn cael eu monitro a bod eu heffaith ar y busnes yn cael ei mesur.

Mae’n rhaid i chi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru neu eu cynrychiolwyr archwilio’r gwaith sydd wedi’i orffen ar unrhyw adeg resymol o fewn y cyfnod o bum mlynedd.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

 Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Roi unrhyw wybodaeth am eich Contract Grantiau Bach – Amgylchedd i Lywodraeth Cymru a hynny’n brydlon yn unol â chais Llywodraeth Cymru amdani.
  • Gofalu bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, am eich contract Grantiau Bach – Amgylchedd ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld. Bydd gofyn ichi ganiatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.
  • Darparu tystiolaeth ffotograffig, gan gynnwys cyfeirnod map Geotag, o’r safle cyn ac ar ôl gwneud y gwaith, o bob Prosiect Gwaith Cyfalaf  a’i chyflwyno gyda’r hawliad Grantiau Bach - Amgylchedd. Bydd angen y dystiolaeth ar Lywodraeth Cymru iddi allu cadarnhau bod y Prosiect Gwaith Cyfalaf wedi’i orffen a’i gynnal yn y lle cywir yn unol â’r manylebau gofynnol. Mae help digidol ar gael os oes angen.

Adran K - y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio  

Nid oes sail dros apelio yn y cam Datgan Diddordeb.

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd i chi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 - £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw trwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg.  Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen apelio ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: complaints@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: www.ombwdsmon.cymru

Adran L - hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant i chi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae’n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu’r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi’r gorau i ddarparu’r cyllid grant presennol i chi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu o wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwyster efallai y bydd angen i ni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gydag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall aelod o’r cyhoedd ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data am bob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad y cawsant eu cyhoeddi. Bydd yr wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau’r grant, a phob taliad wedi’i wneud. . Fodd bynnag, os dyfernir y cyllid dan Reoliad Eithriad Bloc Cyffredinol neu reoliad De Minimus, bydd eich data personol yn cael eu cadw am 10 mlynedd o ddiwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • I weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch.
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hynny.
  • i wrthwynebu neu gyfyngu (o dan amgylchiadau penodol) ar brosesu eich data personol.
  • I ofyn (o dan rai amgylchiadau) inni ‘ddileu’ eich data.
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD

CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd

CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru

Adran M – gofynion cyfreithiol

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn cyflawni amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth sydd wedi’u rhestru isod, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd).

Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru trwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y’i diwygir o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328) 

Cynllun grantiau gwaith cyfalaf yw Grantiau Bach – Amgylchedd, sydd ar gael i reolwyr tir a busnesau fferm yng Nghymru. Mae’r prosiectau Gwaith Cyfalaf sydd ar gael wedi’u dewis am eu bod yn dod â budd eang a chyffredinol i’r amgylchedd ac am eu bod yn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ynghylch pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef: 

  • meithrin cystadleurwydd amaethyddiaeth;
  • cyfrannu tuag at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016;
  • sicrhau cadernid rhag yr hinsawdd;
  • sicrhau datblygiad tiriogaethol cytbwys o economïau a chymunedau gwledig gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol i’r Cynllun Grantiau Bach – Amgylchedd:

  • lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd;
  • arloesi
  • yr amgylchedd

Bydd gweithgareddau yn berthnasol i o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

  1. meithrin y broses o drosglwyddo gwybodaeth ac arloesi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig;
  1. gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
  2. hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd, lles anifeiliaid a rheoli risg ym maes amaethyddiaeth;
  3. adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
  4. hyrwyddo defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi’r newid tuag at economi carbon isel sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
  5. hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

  1. Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd’.
  2. O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn wedi’u heithrio o Gytundeb Masnach a Chydweithredu y DU-UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran N – diffiniadau

Ystyr “tir amaethyddol" mae rheolau’r Cais Sengl ar gyfer Cynllun y Taliad Sylfaenol yn seiliedig ar Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (c.2). Rheoliadau Rheolau ar gyfer Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Diwygio) 2020 rhif 91. Rheoliadau Cyllido, Rheoli a Monitro Taliadau Uniongyrchol (Diwygio) 2020 rhif 90. Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 rhif 104 (w.17) a Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol ac ati) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 rhif 1556 (cy.328);

Ystyr “tir y contract” yw’r cae(au) lle cynhelir Prosiect Contract Grantiau Bach - Amgylchedd;

Diffinnir “tir cymwys" fel tir amaethyddol sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Tir comin lle mae gan y Buddiolwr yr unig hawliau pori cofrestredig ac sydd wedi cael ei gofrestru fel "tir comin ag un porwr" o fewn System Adnabod Parseli Tir Llywodraeth Cymru;

Mae “cynefin" yn unrhyw lystyfiant sydd â chyfansoddiad o lai na 25% o rywogaethau amaethyddol wedi’u hau fel yn ôl Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007;

Diffinnir “tir anghymwys” fel tir nad oes gan y Buddiolwr ddigon o reolaeth drosto i gynnwys cyfnod llawn y contract, gan gynnwys tir a ddelir o dan Drwydded Pori; tir a ddefnyddir ar gyfer datblygu, meysydd carafanau parhaol, meysydd parcio, cyrsiau carlamu, meysydd awyr, ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer storio parhaol, cyrsiau golff a chyfleusterau chwaraeon eraill ac ati; tir comin cofrestredig a thir a ddefnyddir gan fwy nag un porwr nad yw’n dir comin cofrestredig; parseli tir o dan gytundeb contractiol ar gyfer Glastir Uwch, Glastir – Creu Coetir, Glastir – Adfer Coetir, Premiwm Creu Coetir Glastir, Cynllun Coetir Ffermydd/Cynllun Premiwm Coetir Ffermydd, Premiwm Tir wedi’i Wella, Cynllun Adfer Coetir; tir a ddefnyddir gan ffermwr arall i hawlio taliadau o dan gynlluniau cymorth sy’n rhan o fframwaith polisi amaethyddol cyffredin Ewrop a hawlir gan reolwr tir neu fusnes fferm arall ar gyfer cymhorthdal neu gynllun grant yr UE neu ddomestig (hawlio ddwywaith ar yr un tir); caeau neu barseli tir sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru;

Ystyr “rheolaeth lawn" yw bod Tir y Contract ar gael i’r Buddiolwr iddo allu cyflawni ymrwymiadau contract Grantiau Bach - Amgylchedd am gyfnod y Contract.

Adran O - cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Wrth ymweld â’r wefan, gallwch hefyd gofrestru i gael yr e-gylchlythyr Materion Gwledig sy’n anfon y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch e-bost.

Gwlad

E-gylchlythyr Gwlad yw e-gylchlythyr Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys straeon newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn Gwlad. I gofrestru, ewch i Hysbysiadau Llywodraeth Cymru neu Cofrestrwch ar gyfer newyddion amaethyddiaeth a choedwigaeth. 

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Ar gyfer tir o dan gytundeb SoDdGA, GNG,AGA ac ACA:

Cyfoeth Naturiol Cymru

d/o Y Ganolfan Gwsmeriaid
Tyˆ Cambria
29 Ffordd Casnewydd
Caerdydd

CF24 0TP

Ffôn: 0300 065 3000

Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun-Gwe, 8am – 6pm)

Ymholiadau cyffredinol: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ar gyfer Henebion Rhestredig/parciau a gerddi cofrestredig:

CADW

Llywodraeth Cymru
Plas Carew
Unit 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd

CF15 7QQ

Ffôn: 01443 33 6000

Ffacs: 01443 33 6001

E-bost: Cadw@Wales.gsi.gov.uk

Ar gyfer henebion heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol:

Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys

41 Broad Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7RR

Ffôn: 01938 553670

Ffacs: 01938 552179

E-bost: trust@cpat.org.uk

Gwefan: www.cpat.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed

Neuadd y Sir
Stryd Caerfyrddin
Llandeilo
Dyfed
SA19 6AF

Ffôn: 01558 823121

Ffacs: 01558 823133

E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk

Gwefan: www.dyfedarchaeology.org.uk

Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent

Heathfield House
Heathfield
Abertawe
SA1 6EL

Ffôn: 01792 655208

Ffacs: 01792 474469

E-bost: enquiries@ggat.org.uk

Gwefan: www.ggat.org.uk/index_cym.html

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

Craig Beuno
Ffordd y Garth
Bangor
Gwynedd
LL57 2RT

Ffôn: 01248 352535

Ffacs: 01248 370925

E-bost: gat@heneb.co.uk

Gwefan: www.heneb.co.uk