Darparu cymorth ariannol ar gyfer ardaloedd bach o blannu coed.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r cynllun yn darparu cymorth ariannol i blannu coed ar arwynebeddau llai o dir rhwng 0.1 a 2 hectar.
Gall y plannu fod ar gyfer:
- coed cysgodol
- ar hyd cyrsiau dŵr
- yng nghorneli caeau neu mewn caeau bach
- mannau cysgodi stoc
- bioamrywiaeth
- tanwydd pren
Mae dyddiadau y cyfnodau nesaf ar gyfer ymgeisio ar Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio.
Pwy sy'n cael gwneud cais
Caiff ffermwyr a pherchnogion tir eraill wneud cais i'r cynllun. Rhaid i goed gael eu plannu ar dir sydd:
- wedi'i wella’n amaethyddol
- o werth amgylcheddol isel
Mae map Grantiau Bach – Creu Coetir yn dangos y tir sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn.
Yr hyn mae'r cynllun yn ei gynnig
Mae'r cynllun yn darparu cyllid ar gyfer plannu coed a gosod ffensys a gatiau.
Mae hefyd yn cynnig taliadau cynnal a chadw a thaliadau premiwm am 12 mlynedd (digolledu am golli incwm amaethyddol).
Ni fydd plannu coed o dan y cynllun yn effeithio ar Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gymhwysedd tir.
Fel rhan o'r cynllun, bydd cynllun creu coetir sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU yn cael ei greu gan system ar-lein RPW.
Cyfraddau’r taliadau
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu am bob hectar o goed maent yn ei blannu. Bydd swm y taliadau'n dibynnu ar y math o blannu coed a nifer y coed a blannir ar bob hectar o dir:
| Categori | Coed fesul hectar | Tâl fesul Hectar |
|---|---|---|
| Coetir gwlyb a glan nant | 1,100 | £3,302 |
| Bioamrywiaeth frodorol | 1,100 | £3,302 |
| Coetir gwlyb a glan nant | 1,600 | £4,550 |
| Bioamrywiaeth frodorol | 1,600 | £4,550 |
| Tanwydd pren (cynhyrchiol) | 2,500 | £5,146 |
| Coed cysgodol (cynhyrchiol) | 2,500 | £5,146 |
| Gwiwer goch | 1,600 | £4,550 |
| Gwiwer goch | 2,500 | £5,146 |
| Coed cysgodol brodorol | 2,500 | £6,170 |
| Arfordirol (o’r ffenestr nesaf ar gyfer mynegi diddordeb 19 Mai 2025) | 800 | £4,000 |
| Ffrwythau a chnau (o’r ffenestr nesaf ar gyfer mynegi diddordeb 19 Mai 2025) | 800 | £4,000 |
Mae'r cynllun hefyd yn talu i ffensys a gatiau gael eu gosod o amgylch yr ardaloedd plannu. Y cyfraddau talu yw:
- ffensys – £8.32 fesul metr
- ffensys ceirw (o gyfnod 3) – £11.93 fesul hectar
- cilbyst a gât ceffyl o bren – £220.83 yr un
- cilbyst a gât mochyn o bren – £237.80 yr un
- giât arferol (metel) - £221 yr un
- giât arferol (pren meddal) - £291.75 yr un
- giât arferol (pren caled) - £699.41 yr un
- cyllid ar gyfer cyngor - £300
Mae'r cynllun yn darparu taliadau cynnal a chadw fesul hectar i ofalu am y coed am gyfnod o 12 mlynedd, fel isod. Y gyfradd cynnal a chadw fesul hectar ar gyfer blwyddyn 2 yw £300 a’r gyfradd ar gyfer blwyddyn 3 yw £250. Y gyfradd o flwyddyn 4 i flwyddyn 12 yw £70.
I wneud iawn am golli incwm amaethyddol ar y tir lle caiff y coed eu plannu, mae’r cynllun hefyd yn darparu taliadau premiwm blynyddol o £350 fesul hectar.
Sut i wneud cais
Bydd nifer o gyfnodau ymgeisio yn ystod y flwyddyn. Dylid gwneud cais ar Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am:
- sut i wneud cais
- canllawiau technegol
- rheolau cynlluniau
- amodau a thelerau
- canllawiau sut i lenwi
ar gael yn Grantiau Bach – Creu Coetir.
Cymorth wrth wneud cais a rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o gyngor ar bolisïau a grantiau ffoniwch y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm
Mae cyngor technegol ar gael gan Cyswllt Ffermio a Hyb Creu Coetiroedd CNC.
