Neidio i'r prif gynnwy

Sut i dynnu ffotograffau a'u hanfon gyda'ch cais grant gwledig neu gais.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bydd rhai ceisiadau a hawliadau’n gofyn am ffotograffau â geotag. Dylech gadw’ch ffotograffau mewn lle hwylus a’u cyflwyno gyda’r cais perthnasol. Fyddwn ni ddim yn gallu’ch talu heb ffotograffau â geotag.

Beth yw ffotograff â geotag?

Ar ffotograff â geotag, mae gwybodaeth am leoliad y llun wedi’i storio yn ffeil y ffotograff. Mae gan y rhan fwyaf o ffonau symudol gamera a chyswllt â’r rhyngrwyd ac maen nhw’n cofnodi’r cyfesurynnau GPS yn awtomatig. Maen nhw hefyd yn cofnodi dyddiad ac amser tynnu’r ffotograff.

Mae geotagio’n golygu y bod y ffôn symudol yn storio gwybodaeth am y ffotograff. Mae’r wybodaeth honno’n cynnwys ble cafodd y ffotograff ei dynnu. Mae’n cael ei storio yn ffeil y ffotograff.

Pam mae angen ffotograffau â geotag?

Bydd staff Llywodraeth Cymru yn edrych ar amser a lleoliad y ffotograffau â geotag yr ydych wedi'u lanlwytho. Byddwn yn cymharu’r manylion hyn â’r manylion yn eich cais neu’ch contract. Drwy hynny, byddwn yn gallu

  • cadarnhau’ch hawliad
  • gwneud yn siŵr bod y gwaith cyfalaf wedi’i wneud yn unol â’r cytundeb ac o fewn amser y contract
  • gwneud yn siŵr bod y gweithgareddau wedi’u cynnal yn unol â’r cytundeb ac o fewn amser y contract
  • gwneud yn siŵr bod yr eitemau’n bodloni’r manylebau neu’n rhagori arnyn nhw

Sut mae rhoi geotag ar fy ffotograffau?

Bydd bron pob ffôn symudol sydd â chamera a chysylltiad â'r rhyngrwyd yn rhoi geotag ar eich ffotograffau.

Noder: ni fydd y lleoliad GPS i’w weld ar y ffotograff, mae’r bennod ‘Sut i weld manylion eich ffotograff’ yn egluro sut i gadarnhau bod gan eich ffotograff dag daearyddol

I wneud yn siŵr bod eich ffôn symudol wedi’i osod yn gywir, dilynwch y camau isod. Gallai’r camau a’r termau a ddefnyddir amrywio ychydig bach gan ddibynnu ar eich ffôn.

Ar gyfer pob dyfais, gofalwch eich bod yn defnyddio’r camera sydd wedi dod gyda’ch ffôn. Mae camerâu trydydd parti yn gallu cael trafferthion wrth gofnodi lleoliad.

iPhones ac iPads Apple

  1. Lansiwch yr ap ‘Settings’ (eicon y cog) ar brif sgrin eich iPhone neu iPad
  2. Pwyswch ar ‘Privacy’
  3. Pwyswch ar ‘Location Services’ a throi’r opsiwn ymlaen
  4. Pwyswch ar eicon y Camera
  5. Dewiswch ‘While Using the App’

Os ydych chi'n defnyddio iPhone 8 neu'n uwch bydd angen i chi ddewis y gosodiadau canlynol hefyd:

  1. Lansiwch yr ap ‘Settings’
  2. Pwyswch ar ‘Camera’
  3. Pwyswch ar ‘Formats’
  4. Dewiswch ‘Most Compatible’

Os ydy’r fformat wedi’i osod ar ‘High Efficiency’, wnaiff ffeil eich ffoto ddim cofnodi manylion y lleoliad.  Dyma fformat awtomatig iPhone 8 ac uwch, a rhaid i chi ei newid er mwyn gallu tynnu lluniau â geotag. Os na wnewch chi newid hwn, bydd eich ffeil yn dangos bod camgymeriad pan fyddwch yn ei lanlwytho i RPW Ar-lein.

Os ydych chi'n defnyddio iPhone 7 neu is, bydd angen i chi hefyd ddewis y gosodiadau canlynol:

  1. Lansiwch yr ap ‘Settings’
  2. Pwyswch ar ‘Camera’
  3. Sicrhewch fod y ‘Keep Normal Photo’ ar “On”

Ffonau Android

Mae’r rhan fwyaf o ffonau symudol yn defnyddio system gweithredu Android. Mae ffonau Sony, Samsung, LG a HTC yn ei defnyddio.

Yn gyntaf, gosodwch eich ffôn er mwyn iddo allu defnyddio GPS (Global Positioning System) i gofnodi’ch lleoliad.

  1. Ar eich prif sgrin, ewch i ‘Settings’ (eicon y cog). Efallai y bydd angen pwyso’r icon ‘Applications’ neu ‘Menu’ yn gyntaf.
  2. Ewch i ‘Location’. Efallai bod hwn yn bennawd ar wahân neu wedi’i restru o dan ‘General Settings’ neu ‘Privacy and Safety’.
  3. Gofalwch fod yr opsiwn ‘Location’ ymlaen. Os bydd yn gofyn, dewiswch ‘High accuracy’ neu ‘GPS’.

Yn ail, gwnewch yn siŵr fod eich camera wedi’i osod i roi geotag ar eich ffotos.

  1. Lansiwch ap y camera
  2. Pwyswch ar yr eicon ‘Settings’
  3. Gofalwch fod yr opsiwn ‘Geotag’ neu ‘Location tag’ neu ‘GPS’ ymlaen

Ffonau Windows

  1. Ar eich prif sgrin, pwyswch ar yr opsiwn neu’r eicon ‘Settings’ (y cog)
  2. Pwyswch ar ‘Privacy’
  3. Pwyswch ar ‘Location Service’ a throi’r opsiwn ymlaen
  4. Sgroliwch i lawr y rhestr apiau o dan ‘Choose apps that can use your precise location’ gan wneud yn siŵr fod ‘Camera’ ymlaen

Dyfeisiau eraill

Bydd eich tabled neu’ch camera digidol hefyd yn gallu rhoi geotag ar eich ffotograffau os oes GPS yn rhan o’r ddyfais.

Tynnu ffotograffau addas

Mae ffotograffau sy’n rhoi tystiolaeth dda:

  • mewn ffocws
  • yn dangos terfynau’r gwaith fydd yn cael ei wneud
  • yn cynnwys pwynt cyfeirio, fel coeden fawr neu adeilad

Sut mae trosglwyddo a chadw ffotograffau â geotag

Trosglwyddwch eich ffotograffau â geotag i’ch cyfrifiadur neu liniadur gan ddilyn cyfarwyddiadau’ch dyfais. Gallech ddewis e-bostio’r ffoto atoch chi’ch hun o’ch ffôn symudol.

Mae’n bwysig iawn cadw’ch ffotograffau mewn lle hawdd ei gofio.

Byddwch yn ofalus wrth enwi’ch ffotograffau, er mwyn ichi allu eu hadnabod yn rhwydd a’u cysylltu â’r prosiect priodol pan fyddwch yn lanlwytho’ch ffotograffau wrth wneud cais neu hawlio taliad. Efallai y byddwch am gynnwys rhif adnabod neu gyfeirio sy’n  unigryw i’ch hawliad. Gallech gynnwys hefyd y CRN os ydych yn hawlio ar ran llawer o gwsmeriaid.

Enghraifft o ffeil wedi’i chadw: A0099999_YC001234_Pencochbottom_After_Wideshot

Dylech gadw’ch ffotograffau fel ffeiliau jpeg, a dylent fod ag eglurder o o leiaf 400 x 600 picsel.

Sut i weld manylion eich ffotograff

Ar ôl arbed y llun a’i drosglwyddo i’ch cyfrifiadur neu liniadur, gallwch edrych i weld a yw’n eglur a gweld manylion ei leoliad.

Windows

Daliwch ‘Alt’ i lawr a phwyso ‘Enter’ neu gliciwch â botwm dde’r llygoden ar y ffotograff a dewis ‘priodweddau/properties’ neu ‘gwybodaeth ffeil/file information’.

Apple Mac

Daliwch y fysell ‘command’ i lawr a phwyso’r llythyren ‘i’.

Bydd y ddau opsiwn yn dangos manylion ffeil y ffotograff. Bydd y manylion hynny’n cynnwys eglurder y llun yn ogystal â’r cyfesurynnau GPS. Maen nhw’n dangos hefyd pryd y gwnaethoch chi dynnu’r llun.

Gallwch fwydo cyfesurynnau’r GPS i’ch peiriant chwilio a gweld ar y map lle y cafodd y ffotograff ei dynnu.

Sut mae lanlwytho fy ffotograffau â geotag?

Wrth hawlio taliad

Mae hyn yn berthnasol wrth:

  • hawlio taliad Gwaith Cyfalaf
  • hawlio taliad Tyfu er mwyn yr Amgylchedd
  • hawlio Grantiau Bach – Effeithiolrwydd
  • hawlio Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau

Ar ôl cyflwyno’ch ffurflen hawlio, bydd angen i chi gyflwyno'r ffotograffau â geotag er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cadarnhau’ch hawliad a gwneud yn siŵr bod y gwaith wedi’i wneud yn unol â’r cytundeb

Gallwch wneud hyn trwy bwyso’r botwm ‘Lanlwytho Dogfen’ ar eich cyfrif RPW Ar-lein

Bydd y sgrin lanlwytho dogfennau yn dangos yr hawliadau y bydd angen i chi gyflwyno ffotograffau â geotag ar eu cyfer. Bydd y sgrin yn dangos hefyd:

  • manylion y contract
  • faint o ffotograffau ‘cyn’, ‘yn ystod’ ac ‘ar ôl’ sydd wedi'u lanlwytho
  • a ydych wedi gorffen lanlwytho eich ffotograffau.
  1. Cliciwch ar y botwm ‘Lanlwytho’ wrth ymyl adrannau 'cyn' ac 'ar ôl' y contract er mwyn ychwanegu eich ffotograffau â geotag.
  2. Cliciwch ar ‘Ychwanegu ffeiliau’ er mwyn agor porwr eich cyfrifiadur a dewiswch y ffotograffau perthnasol.
  3. Ar ôl ichi ddewis y ffotograff sydd ei angen cliciwch ar ‘Open’.
  4. Bydd ffeiliau sydd wedi'u hychwanegu'n llwyddiannus yn dangos tic gwyrdd. Bydd ffotograffau aflwyddiannus yn dangos croes goch a’r rheswm pam na chawsant eu derbyn.
  5. Cliciwch ar ‘Lanlwytho’ er mwyn ychwanegu'r ffotograff at eich hawliad.
  6. Ar ôl ichi ychwanegu'r holl ffotograffau 'cyn' ac 'ar ôl' cliciwch ar ‘Wedi’i Gwblhau’. Os bydd angen ichi ychwanegu ffotograffau ar unrhyw adeg byddwch yn gallu gwneud hynny o hyd.

I hawlio grantiau

Dyma’r cyfarwyddiadau wrth hawlio Grantiau Bach – Creu Coetir.

Ar ôl i chi gyflwyno'ch ffurflen Hawlio Grant, bydd angen i chi gyflwyno ffotograffau â geotag er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cadarnhau’ch hawliad a gwneud yn siŵr bod y gwaith cyfalaf wedi’i wneud yn unol â’r cytundeb

Gallwch wneud hyn trwy ychwanegu eich lluniau â geo-tag at y neges ‘Dogfennau wedi dod i law Taliadau Gwledig Cymru - Crynodeb Ffurflen Hawlio Grant’.  Mae’r neges hon yn cael ei chreu wrth i chi hawlio’r grant. Bydd yn adran ‘Negeseuon’ eich cyfrif RPW Ar-lein.

O fewn y neges ‘Crynodeb Ffurflen Hawlio Grant’, cliciwch y botwm ‘Ychwanegu Ffeiliau’ i ychwanegu eich lluniau geo-tag.

Ar gyfer Datgan Diddordeb

Byddwch yn gallu ychwanegu ffotograffau â geotag pan fyddwch yn dewis eitem ar y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.

Ar ôl dewis eitem, bydd botwm yn ymddangos i chi allu ychwanegu ffotograff.

Fe welwch ragor o wybodaeth yn y canllaw Sut i Lenwi.

Beth dylwn ei wneud os gwela i fod camgymeriad wrth lanlwytho fy ffeil?

Rhaid tynnu’r ffotograffau â geotag yn lleoliad y gwaith neu’r eitem, a rhaid iddynt gyd-fynd â’r gwaith neu’r eitem honno.

Efallai y gwelwch fod camgymeriad wedi digwydd wrth lanlwytho ffeil i RPW Ar-lein am y rhesymau canlynol:

  • nid yw’r ffeil yn ffeil jpeg
  • nid yw manylion y lleoliad ar y ffeil yn gywir
  • mae manylion y lleoliad ar goll ar y ffeil

Os gwelwch gamgymeriad wrth lanlwytho’ch ffotograff:

  1. Gofalwch fod ffeil eich ffotograff yn ffeil jpeg. I weld priodweddau’ch ffeil, dilynwch y camau yn yr adran ‘Sut i weld manylion eich ffotograff’ yn y canllaw hwn.
  2. Gofalwch fod manylion y lleoliad ym mhriodweddau’r ffeil yn gywir. Os nad yw’r wybodaeth yno, ni fyddwn yn gallu derbyn y ffeil.
  3. Gofalwch fod gosodiadau’ch dyfais yn gywir. Gallwch wneud hynny trwy ddilyn y camau yn ‘Sut mae rhoi geotag ar fy ffotograffau?’ yn y canllaw hwn.
  4. Am unrhyw broblemau eraill, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.