Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru'n derbyn gwybodaeth gan unigolion, busnesau a chymunedau, fel rhan o'u cais wrth wneud cais am arian grant band eang. Derbynnir data gan ymgeiswyr ar y camau canlynol yn y broses o roi grant:

  • Y cam ymgeisio
  • Y cam cynnig arian
  • Y cam hawlio o’r gronfa
  • Adborth o unrhyw arolwg uniongyrchol a gynhaliwyd gan Dîm Grantiau Band Eang Seilwaith TGCh

Ar ôl derbyn yr wybodaeth sydd wedi'i chasglu, daw Llywodraeth Cymru yn rheolwr data.

Sut byddwn ni’n defnyddio’ch data

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio i gefnogi'r gwaith o werthuso eich cais, a dyfarnu cyllid grant sy'n berthnasol i gynlluniau'r grant band eang. Bydd manylion ariannol yn cael eu rhannu gydag Is-adran Cyllid Canolog Llywodraeth Cymru ac unrhyw asiantaethau atal twyll/gorfodi'r gyfraith wrth ganfod, ymchwilio ac atal troseddu. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol arall yn cael ei rhannu y tu hwnt i Is-adran Seilwaith TGCh Llywodraeth Cymru.

Bydd gwybodaeth yn cael ei chasglu o geisiadau grant yn ymwneud â chyflymder band eang a gyflawnwyd. Ni fydd yr wybodaeth hon yn eich adnabod fel unigolyn; gall gael ei goladu a'i rannu gyda Gweinidogion Cymru mewn ymateb i gwestiynau yn ymwneud â'r cynulliad. Bydd ymatebion i gwestiynau'r Cynulliad ar gyflymder yn cael eu cyflwyno ar lefel generig, ehangach yn unig.

O bryd i'w gilydd gall y dystiolaeth sy'n cyd-fynd â'r ceisiadau band eang gynnwys cyfeiriad IP. Ni fydd tîm Grantiau Band Eang Llywodraeth Cymru yn rhannu'r wybodaeth hon y tu hwnt i'r Is-adran Seilwaith TGCh. Yr unig eithriad sy'n bod ar y cais am wybodaeth gan asiantaethau cyfraith perthnasol pan gaiff ei ddefnyddio at ddiben atal neu ganfod troseddau.

Bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil a fydd yn helpu i lywio, dylanwadu a gwella polisïau wrth gynllunio gwasanaethau band eang a chymorth band eang i bobl/ busnesau yng Nghymru. Bydd unrhyw adroddiadau sy'n cael eu creu fel rhan o ymchwil o'r fath yn cael eu gwneud yn ddienw.

Beth yw sail cyfreithiol Llywodraeth Cymru wrth ddefnyddio eich gwybodaeth?

Mae prosesu yr wybodaeth bersonol a ddarperir yn angenrheidiol ar gyfer perfformiad, monitro ac arfarnu eich cais am gyllid gan ei fod yn ymwneud â chynlluniau'r grant band eang.

Cyn i ni ddarparu cyllid i chi neu'ch sefydliad, rydym yn cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae'r gwiriadau hyn yn gofyn i ni brosesu data personol amdanoch chi.

Pan fyddwn yn prosesu'ch data personol rydym yn gwneud hynny ar y sail ei fod er budd y cyhoedd i atal twyll a gwyngalchu arian, ac i gadarnhau hunaniaethau, er mwyn ein diogelu a chydymffurfio â deddfwriaeth sy'n berthnasol i ni. Mae prosesu o'r fath hefyd yn ofynnol o'r cyllid yr ydych wedi gofyn amdano.

 phwy mae Llywodraeth Cymru'n rhannu eich gwybodaeth?

  • Ar ôl gwneud y data yn ddienw yn gyntaf, unrhyw bersonau sy'n cynnal ymchwil i gyflawni'r cynlluniau grantiau band eang.
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r broses o werthuso eich cais am grant, a lle bo hynny'n berthnasol, prosesu cynnig o gyllid.
  • Gall data rydych wedi'i ddarparu gael ei rannu gydag asiantaetha atal twyll /  gorfodi'r gyfraith os ydym yn amau neu'n canfod twyll.

Dim ond ar gyfer pwrpas penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu data ac am gyfnod cyfyngedig, ac ar ôl hynny mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei fod wedi'i ddinistrio. Rhaid i unrhyw ddadansoddiad sy'n cael ei gynhyrchu ddilyn rheolau datgelu Llywodraeth Cymru. At ddibenion ymchwil mewn unrhyw arolygon sy'n digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio technegau sy'n sicrhau fod y data'n cael eu gwneud yn ddienw cyn i unrhyw waith ymchwil ddigwydd. Mae rhannu data dienw y tu allan i GDPR.

Dylid nodi, os yw Llywodraeth Cymru, neu asiantaeth atal twyll/ gorfodi’r gyfraith, yn penderfynu eich bod yn peri risg o dwyll neu wyngalchu arian, fod Llywodraeth Cymru'n cadw'r hawl i wrthod darparu'r cyllid yr ydych wedi gofyn amdano, neu efallai y byddwn yn rhoi'r gorau i ddarparu cyllid sy'n bodoli eisoes i chi. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth gan ddefnyddio'r manylion a ddarperir isod.

Bydd cofnod o unrhyw dwyll neu risg gwyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a gallent arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, gyllid neu gyflogaeth i chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth gan ddefnyddio'r manylion a ddarperir isod.

Am ba hyd y byddwn yn cadw'r data hwn (Cyfnod Cadw)?

Bydd Llywodraeth Cymru'n cadw'r data hwn tan i saith mlynedd (84 mis) fynd heibio o'r taliad terfynol sy'n ymwneud â dyfarnu cyllid, neu ddwy flynedd (24 mis) wedi derbyn cais aflwyddiannus am gyllid (pa un bynnag fydd y cyfnod byrraf). Ar ôl y pwynt hwn bydd y data'n cael eu gwneud yn ddienw/yn cael eu dinistrio. Os ystyrir eich bod chi neu'ch sefydliad yn peri risg o dwyll neu wyngalchu arian, gellir cadw eich data gan asiantaethau atal twyll/gorfodi'r gyfraith am hyd at chwe blynedd ar ôl ei dderbyn.

Eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Mae gennych hawl i:

  • gael mynediad i'r data personol y mae cynlluniau grantiau band eang Llywodraeth Cymru yn prosesu amdanoch
  • ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu prosesu ar seiliau sy'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • wneud cais i'ch data personol gael ei ddileu neu ei gywiro
  • cyflwyno cwyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Am fwy o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraethau Cymru a'r defnydd ohoni, neu os ydych am arfer ein hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Os ydych yn anhapus am sut mae eich data personol wedi cael ei ddefnyddio, cyfeiriwch at bolisi cwynion Llywodraeth Cymru.

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n rheoleiddio prosesu data personol.

I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 029 2067 8400 (Llinell Gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (Llinell Gymorth y DU)

Ebost: wales@ico.org.uk

Gwefan: https://ico.org.uk/