Neidio i'r prif gynnwy

1. Hysbysiad preifatrwydd

1.1 Mae'r hysbysiad hwn yn eich hysbysu am y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth wedi'i darparu yn eich cais am gyfrif ar-lein Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Mae’n esbonio hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018. Rheolydd data’r wybodaeth yw Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Y swyddog diogelu data ar gyfer yr un wybodaeth yw’r Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. 

Ebost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

1.2 Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu a'i rheoli gan Lywodraeth Cymru a'i defnyddio at ddibenion adnabod unigolion a busnesau i ddarparu mynediad diogel i wasanaethau ar-lein RPW a Cyswllt Ffermio. Bydd y dilysu hwn yn gofyn am rywfaint o rannu gwybodaeth â gwasanaethau dilysu Llywodraeth y DU. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth i wella a chynnal y wefan(nau) a gwella'r ffordd rydyn ni’n cyfathrebu â chi a'ch cysylltiadau, a darparu ystadegau ar ddefnydd ar gyfer Llywodraeth Cymru. 

1.3 Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu yw bod angen gwneud hynny er mwyn cyflawni tasg yn unol â'r awdurdod swyddogol a roddwyd i Lywodraeth Cymru.

1.4 Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data personol i gadarnhau pwy ydych chi ac i adnabod eich lleoliad a'ch busnes(au) fferm. 

1.5 Mae'r data'n cael eu prosesu drwy broses awtomataidd o reolau busnes. Mae gwasanaethau ar-lein RPW a Cyswllt Ffermio yn storio ffeiliau testun bach o'r enw "cwcis" ar eich cyfrifiadur neu ddyfais (e.e. llechen neu ffôn symudol) tra byddwch wedi mewngofnodi i'r gwasanaeth. Gweler yma am ein polisi cwcis.

2. Rhesymau dros rannu data personol

2.1 Mae RPW Ar-lein a Cyswllt Ffermio yn defnyddio One Login GOV.UK i gynnal a chadw eich manylion diogelwch a mewngofnodi. Gall defnyddio eich cyfrif RPW Ar-lein i gael mynediad at wasanaethau RPW pellach neu Cyswllt Ffermio arwain at brosesu'r wybodaeth hon ymhellach, a bydd hyn wedi'i nodi mewn hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer pob gwasanaeth/cynllun. 

2.2 Â phwy y byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth:

  • One Login GOV.UK
  • awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • APHA

2.3 Gallai’r wybodaeth gael ei defnyddio at y dibenion a ganlyn:

  • dilysu sesiynau ar-lein
  • llunio adroddiadau o ddata o wahanol ffynonellau a/neu grynodebau ystadegol i'w rhannu'n gyhoeddus
  • adnabod perchnogion/defnyddwyr tir mewn argyfwng e.e. rheoli clefydau a rheoli tramgwyddau
  • caniatáu i bartneriaid allu gwneud eu dyletswyddau cyfreithiol
  • ei rhannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio pwy ydych chi
  • cyhoeddi gwybodaeth benodol ac ymateb i geisiadau am wybodaeth

3. Cyhoeddi a datgelu gwybodaeth

3.1 Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol.

4. Hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

4.1 Mae’r GDPR yn rhoi hawliau i unigolion mewn perthynas â'r data personol a gedwir amdanyn nhw. 

Mae'r hawliau hyn yn cynnwys:

  • yr hawl i gael eu hysbysu (yr hysbysiad hwn)
  • yr hawl i ofyn am gopïau o'r data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanyn nhw a'i weld, er y gall Llywodraeth Cymru weithiau atal rhywfaint o ddata neu beidio â darparu copïau
  • yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i atal neu gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i brosesu data personol
  • yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i sicrhau bod data anghywir yn cael ei gywiro
  • yr hawl, o dan rai amgylchiadau, i sicrhau bod data yn cael ei ddileu (i gael ei anghofio)
  • os ydych am arfer unrhyw rai o'ch hawliau o dan y GDPR, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad a roddir ar ddechrau'r hysbysiad hwn

4.2 Mae gan unigolion yr hawl hefyd i ofyn i'r Comisiynydd Gwybodaeth, sy'n gorfodi ac yn cadw golwg ar y GDPR, i asesu a fyddai prosesu eu data personol yn debygol o gydymffurfio â'r GDPR neu beidio. Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn:

01625 545745 neu 03031 231113

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.