Neidio i'r prif gynnwy

Cylch Gorchwyl y Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant.

Crynodeb

Mae'r Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant wedi'i sefydlu mewn ymateb i argymhellion 1 a 4 Ymchwiliad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i Gydlyniant Cymdeithasol (2025). Grŵp anstatudol yw hwn i gynghori Llywodraeth Cymru.

Diben

Mae'r Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant wedi'i greu er mwyn rhoi cyngor a chynnig camau gweithredu i Lywodraeth Cymru ar sut i gryfhau cydlyniant ledled Cymru.

Nodau

Bydd y Grŵp:

  • yn tynnu ar arbenigedd amrywiol a phrofiad i nodi camau gweithredu, fframweithiau a dulliau cydweithredol effeithiol i fynd i'r afael â'r heriau a hyrwyddo cymunedau cynhwysol, cydlynol
  • yn mabwysiadu a hyrwyddo egwyddorion arweiniol ar gyfer cydlyniant yng Nghymru
  • yn nodi camau gweithredu i'w cymryd ar unwaith, yn y tymor canolig ac yn y tymor hir i wella cydlyniant ar draws cymunedau
  • yn nodi heriau penodol sy'n deillio o eithafiaeth gynyddol ac yn argymell ymatebion effeithiol i atal a rheoli tensiynau cymunedol
  • yn ystyried ac yn cynnig fframwaith ar gyfer mesur cydlyniant
  • yn archwilio ac yn argymell mecanweithiau ar gyfer rhannu arferion gorau ar draws sectorau a rhanbarthau

Cwmpas

O fewn cwmpas ei waith:

  • Cydlyniant yng Nghymru, fel y'i disgrifir yn niffiniad Atodiad A.
  • Polisi Cydlyniant Llywodraeth Cymru.
  • Er mwyn sicrhau y gall y Grŵp ddatblygu'r camau gweithredu hyn o fewn y cyfnod byr hwn, bydd angen i'w waith ganolbwyntio ar gydlyniant ac argymhellion Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Gydlyniant Cymdeithasol.

Y tu hwnt i gwmpas ei waith:

Ni fydd y Grŵp Arbenigol yn gwneud penderfyniadau. Dim ond cynghori Gweinidogion Cymru am gamau y mae'n argymell eu cymryd y gall ei wneud. 

Ni fydd y Grŵp Arbenigol yn dyblygu nac yn disodli unrhyw un o fforymau presennol Llywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar faterion cysylltiedig, megis Bwrdd Casineb a Thensiwn Cymunedol Cymru a Fforymau Gweinidogol amrywiol sy'n gysylltiedig â Chydraddoldeb.

Roles and responsibilities

Bydd aelodau'r grŵp:

  • yn mynychu'r cyfarfodydd ac yn cymryd rhan weithredol ynddynt
  • yn tynnu ar arbenigedd eu rhwydweithiau ehangach, tystiolaeth a phrofiadau, ac yn rhannu mewnwelediad gyda'r grŵp
  • yn cyfrannu at ddatblygu cyngor ac opsiynau i lywio'r camau gweithredu a nodir
  • yn helpu i ledaenu a gweithredu arferion gorau
  • yn cynnal egwyddorion parch, cynhwysiant a chydweithredu
  • yn ymwybodol o egwyddor datblygu cynaliadwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer gweithio mewn pum ffordd benodol

Llywodraethiant a gweithredu

Mae'r Grŵp Arbenigol yn cael ei gadeirio gan Gaynor Legall CBE.

Grŵp 'gorchwyl a gorffen' yw hwn a fydd yn dod i ben erbyn Mawrth 2026. 

Mae 3 chyfarfod i'w cynnal:

  • Tachwedd 2025
  • Chwefror 2026 
  • Mawrth 2026 

Disgwylir i'r Grŵp ddod i ben ar ôl hynny. Bydd y cyfarfodydd yn rhithwir oni nodir yn wahanol. 

Darperir cymorth ysgrifenyddiaeth gan Is-adran Cymunedau Cydlynus Llywodraeth Cymru. Ni fyddai gan yr ysgrifenyddiaeth y capasiti i gefnogi is-grwpiau. Gellir cysylltu â'r ysgrifenyddiaeth drwy cydlyniant@llyw.cymru

Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gefnogi gwaith y Grŵp Arbenigol drwy ddadansoddi'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac unrhyw dystiolaeth berthnasol arall am fentrau cydlyniant llwyddiannus sy'n dod i'w sylw. Bydd y gwaith dadansoddi hwn yn cael ei esbonio yng nghyfarfod cyntaf y Grŵp Arbenigol ym mis Tachwedd 2025, a'r canfyddiadau yn cael eu cyflwyno ym mis Chwefror 2026. Gofynnir i'r Grŵp Arbenigol ystyried y canfyddiadau hyn wrth argymell ei gamau gweithredu.

Bydd allbynnau'r grŵp yn cynnwys argymhellion a fframweithiau a gyflwynir i Weinidogion Cymru eu hystyried.

Ni fydd cofnodion gair am air o'r cyfarfodydd hyn yn cael eu creu, ond bydd pynciau trafod cyffredinol a chamau gweithredu yn cael eu cofnodi. Gellir storio trawsgrifiadau neu recordiadau dros dro, ond bydd y rhain yn cael eu dileu unwaith y bydd y nodyn swyddogol wedi'i ddrafftio.

Aelodaeth

Bydd y Grŵp Arbenigol yn cynnwys cynrychiolwyr o'r canlynol:

  • llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus
  • plismona yng Nghymru
  • sefydliadau yn y trydydd sector
  • sefydliadau academaidd ac ymchwil
  • arbenigwyr polisi a strategol
  • arweinwyr cymunedol 
  • arbenigwyr drwy brofiad

Atodiad A: diffiniad gweithredol Llywodraeth Cymru o gydlyniant

Cydlyniant: i ba raddau y mae pobl mewn cymuned yn trin ei gilydd â pharch, yn cyd-dynnu, yn cyfrannu ac yn cyfranogi, i sicrhau bod pawb yn cael mwynhau eu hawliau dynol a chyflawni eu potensial. Mae cymunedau cydlynus yn galluogi pobl i deimlo'n ddiogel a meithrin gwydnwch yn wyneb rhaniadau a naratifau ffug, yn ogystal â sicrhau ymdeimlad o berthyn i'w cymuned. Er mwyn cael cymunedau cydlynus, rhaid wrth gysylltiadau cymdeithasol cryf rhwng ac o fewn cymunedau, ffocws ar hunaniaeth a gwerthoedd cyffredin, ac ymdrechion cynhwysol i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.

Pan fo diffyg cydlyniant, gwelir cymunedau wedi'u polareiddio, lle mae ymddieithrio, carfanu, ynysu, colli golwg ar werth pobl ac erledigaeth yn gyffredin neu'n cael eu hystyried yn dderbyniol.