Is-grŵp Caffael Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (Y CPG): hysbysiad preifatrwydd
Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Isgrŵp Caffael Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Bydd yr Is-grŵp yn cyfarfod tua dair gwaith y flwyddyn a bydd yn cael ei gadeirio gan aelodau’r CPG.
Fel arfer, bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb er y bydd cyfleuster i gynrychiolwyr gymryd rhan yn rhithwir. Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cofnodion o'r cyfarfod ac yn defnyddio'r swyddogaeth drawsgrifio er mwyn cael cofnodion cywir.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolwr data ar gyfer data personol mewn perthynas â recordio'r weminar. At ddibenion y recordiad, rydym yn dibynnu ar ein buddiant tasg gyhoeddus (Erthygl 6(1)(E)) o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU):
Dylid diffodd meicroffonau / camerâu trwy gydol y weminar, ond caiff y rhai sy'n gwylio'r weminar eu troi ymlaen ar unrhyw adeg os cânt eu gwahodd i siarad. Os byddwch yn dewis cymryd rhan yn y weminar yn rhithwir, byddwch yn ymwybodol y gallai data eich llun a'ch llais ymddangos ar y sgrin a bydd eich enw'n weladwy. Os nad ydych yn dymuno ymddangos mewn recordiadau, gwnewch yn siŵr bod eich camera a / neu feicroffon wedi'u diffodd yn y meddalwedd.
Dylai cyfranwyr fod yn ymwybodol bod recordiadau yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod recordiadau yn cael eu cadw'n ddiogel a dim ond drwy rwydweithiau Llywodraeth Cymru y byddant ar gael. Byddwn yn cadw eich data personol am oes eich penodiad. Ar ôl hynny, byddant yn cael eu dileu'n ddiogel.
Eich hawliau unigol
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
- (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) cludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd yma, gallwch cysylltu â CPG.Caffael.Penodiadau@llyw.cymru.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’i defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113.
Gwefan: www.ico.gov.uk
