Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd cyfarfod cyntaf o Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C y Prif Weinidog ei gynnal ar 20 Gorffennaf 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Aelodau yn bresennol:

  • Jane Davidson (Cadeirydd)
  • Professor Roger Falconer
  • Dr Rhoda Ballinger
  • Dr Justin Gwynn
  • Dr Huw Brunt
  • Rachel Sharp
  • Dr James Robinson

Hefyd yn bresennol:

  • Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
  • John Howells
  • Wyn Roberts (ysgrifenyddiaeth)

Cafodd y Grŵp ei sefydlu gan y Prif Weinidog i randdeiliaid allu mynegi eu barn am ddatblygiad y pwerdy niwclear newydd yn Hinkley Point fel a ddisgrifiwyd mewn Datganiad Ysgrifenedig diweddar.

Cadeirydd y Grŵp yw Jane Davidson, Dirprwy Is Ganghellor Emeritws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac roedd yr holl aelodau enwebedig yn bresennol.  Roedd y Prif Weinidog Mark Darkeford AS hefyd yn bresennol i esbonio pam yr oedd am weld sefydlu’r Grŵp gan fynegi rhai o’i feddyliau am amrywiaeth o bynciau y gallai’r Grŵp ddymuno eu hystyried. 

Roedd yn ymwybodol o faint ac effaith bosibl Hinckley Point C ar Gymru ac yn awyddus i’r grŵp deimlo y gallent gynnig cyngor i Lywodraeth Cymru gan adlewyrchu hyn, hynny ar amrywiaeth eang o faterion economaidd, diplomataidd ac amgylcheddol nad ydynt wedi’u datganoli ond yn bynciau y carai Llywodraeth Cymru efallai eu trafod â’r awdurdodau perthnasol.

Trafododd y Grŵp nifer o faterion amgylcheddol cysylltiedig oedd o ddiddordeb i Aber Hafren.  Cytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth i ystyried y materion hyn, am eu bod yn faterion brys a hefyd am eu perthnasedd posib i gylch gwaith y Grŵp o ran Hinkley Point C.

Trafododd y Grŵp hefyd ei gylch gwaith a chytunodd y dylai agendâu cyfarfodydd yn y dyfodol a nodyn byr am y cyfarfodydd gael eu cyhoeddi’n electronig ynghyd â rhestr o’r rheini’n bresennol.  Câi cyfeiriad e-bost penodol ei greu hefyd er mwyn i aelodau’r cyhoedd a grwpiau buddiant allu cyfathrebu â’r Grŵp a chodi materion o bryder.

Cytunodd y Grŵp y dylai’r cyfarfod nesaf gael ei gynnal ar 24 Awst 2020.