Neidio i'r prif gynnwy
Llun o Dr James Robinson

Mae’r Dr Robinson yn bencampwr brwd a llwyddiannus dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol ac mae’n enwog am fynd â’r maen i’r wal ac arwain timau uchel eu perfformiad.

Mae’n ymroi i ddiogelu ac adfer ein byd naturiol a’r bywyd gwyllt y mae’n ei gynnal ac mae wedi seilio ei yrfa ar wella’i sgiliau, ei wybodaeth a’i brofiadau i gyflawni’r nod hwn.

Ef ar hyn o bryd yw Cyfarwyddwr Cadwraeth WWT, yn Slimbridge, Swydd Gaerloyw. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Dwyrain Lloegr, Pennaeth Polisi Natur, Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon a Rheolwr Cadwraeth Gogledd Iwerddon gyda’r RSPB; Pennaeth Uned Bioamrywiaeth Gwlypdiroedd WWT; Cynorthwy-ydd Ymchwil ym Mhrifysgol Durham a Darlithydd yng Ngholeg Bishop Burton.  Enillodd BSc Anrhydedd mewn Gwyddorau Biolegol a PhD mewn ecoleg adar y môr, y ddwy ym Mhrifysgol Durham. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli WWT, gan gyfrannu at bynciau llosg o fewn yr Ymddiriedolaeth ac ysbrydoli staff a gwirfoddolwyr.

Sgiliau

  • Arweinydd a rheolwr tîm mawr a gwasgaredig (220+ staff a nifer fawr o wirfoddolwyr), datblygu cerdyn sgorio cytbwys a diwygio’r sefydliad.
  • Datblygu, arwain a rheoli cyllidebau (£15m+) a phrosiectau mawr
  • Datblygu strategaeth gadwraeth a’i rhoi ar waith ar lefel byd, gwlad a rhanbarth.
  • Rheoli a lliniaru risg.
  • Datblygu timau hyfedrus a rheoli newid trwy ysbrydoli gwelliant ac arloesedd parhaus.
  • Meithrin perthynas effeithiol â rhanddeiliaid pwysig a ffurfio partneriaethau sy’n cyflawni cydamcanion.
  • Datblygu polisi ac eiriolaeth (y DU, Iwerddon, rhyngwladol)
  • Caffael a rheoli tir ac eiddo
  • Creu ac adfer cynefinoedd ar raddfa fawr, gan gynnwys addasu i’r newid yn yr hinsawdd.
  • Rhoi cyngor  ar gadwraeth, yn fewnol ac yn allanol.
  • Datblygu a chynnal ymgyrchoedd.
  • Cyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd ar lafar ac yn ysgrifenedig a gweithredu fel llysgennad.
  • Datblygu cynlluniau cadwraeth rhyngwladol a threfnu gweithdai rhyngwladol.
  • Cynnal a chyhoeddi gwyddoniaeth ecolegol a chadwraethol.