Neidio i'r prif gynnwy
Llun o Dr Rhoda Ballinger

Mae gan Dr Ballinger radd mewn Daearyddiaeth, Tystysgrif uwchraddedig mewn Addysg a PhD o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Arweiniodd ei thraethawd hir ar lygredd metelau trwm mewn pridd a phlanhigion at astudio llygredd yn ei gyrfa gynnar fel cynorthwy-ydd ymchwil. Ond yn sgil symud i UWIST ym 1987, cafodd ei chefndir mewn llygredd ac astudiaethau amgylcheddol ei weddnewid yn yrfa dysgu ac ymchwil ym maes rheolaeth arfordirol.

Droes y degawd diwethaf, ac yn arbennig fel aelod o grŵp ymchwil Amgylchedd y Môr a’r Arfordir, mae hi wedi bod yn chwilio am fframweithiau polisi a sefydliadol enghreifftiol ar gyfer Rheoli Arfordiroedd mewn ffordd Integredig (ICM).  Yn y cyfnod hwn, mae hi wedi cynnal amrywiaeth o brosiectau ymchwil mewn rheoli arfordiroedd ac aberoedd ar ran asiantaethau Llywodraeth y DU ac eraill. Mae rhai o’i phrosiectau, yn fwyaf arbennig y rheini ar gyfer Cyngor Cefn Gwlad Cymru, wedi bod yn adolygiadau a dadansoddiadau nodedig o gyflwr y ffordd y rheolir yr arfordir.

Mae ei diddordeb academaidd mewn ICM (mae ei holl bapurau ymchwil a chyhoeddiadau yn dyst o hynny) wedi arwain at ei phenodi’n oruchwylydd ar nifer o brosiectau PhD, gan gynnwys rhai ar faterion trefniadol a pholisi ym maes amddiffynfeydd arfordirol, rheoli’r arfordir a rheoli gwybodaeth.  Ar hyn o bryd, mae ei diddordeb mewn prosesau anstatudol a chyfranogol ar gyfer ICM i’w weld ym mhynciau ymchwil ei myfyrwyr olraddedig.  Yn eu plith y mae rhai ar brosesau cyfranogi ac ymrymuso a chynrychiolaeth rhanddeiliaid mewn rhaglenni ICM gwirfoddol a rhanbarthol.  Mae rhai o’r prosiectau hyn yn gofyn am ddadansoddi profiadau tramor, yn arbennig yng Nghanada a Seland Newydd.

A hithau’n awyddus i ddatblygu mwy na phersbectif academaidd ar reoli arfordiroedd, mae Rhoda wedi cyfrannu’n fawr at ddatblygu a rhedeg nifer o brosiectau rheoli arfordiroedd ac aberoedd rhyngwladol, cenedlaethol a mwy lleol, gan gynnwys EUROCOAST, CoastNET, Arfordir ac yn fwyaf nodedig Strategaeth Aber Hafren (SES a symudwyd i ofal EARTH). O ran yr olaf, mae hi’n goruchwylio gwaith ymchwil Stephen Knowles, Cynorthwy-ydd y Prosiect, fel rhan o’i MPhil, i dechnegau gwerthuso ar gyfer rheoli aberoedd, prosiect amserol ac o bosibl dylanwadol iawn ar gyfer ICM yn y DU.  Mae hi wedi bod yn gysylltiedig hefyd â nifer o brosiectau’n ymwneud â dysgu’r pwnc, yn enwedig fel rhan o Consortiwm Traws-Iwerydd UE/UDA ar ddysgu Polisi Morol a Rheoli Arfordirol Integredig.

Ymhlith y prosiectau hynny yr oedd prosiect ymchwil diweddar i waith interniaid ym maes ICM fel pwnc addysg uwch yn UDA ac Ewrop gyda’r Dr Chandra Lalwani (CARBS).  Fel rhan o’r rhwydwaith hwn, mae hi wedi bod yn darlithio ar ICM yn y DU yn y Ganolfan Polisi Morol ym Mhrifysgol Delaware.

Mae gan Rhoda ddiddordeb hefyd yn sawl agwedd ar reoli’r amgylchedd morol. Mae hi wedi gweithio ar nifer o brosiectau ar effeithiau gwastraff a llygredd ar forgludiant a marinas ar ran WWF(UK) ac mae hi’n goruchwylio nifer o gyweithiau PhD ar asesu’r risg i forgludiant a rheoli gwastraff mewn marinas.