Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabyddiaethau

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a fu'n ymwneud â darparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Mae'r wybodaeth a ddaeth i law wedi bod yn hynod werthfawr o ran asesu'r trefniadau cyfredol ar gyfer tâl ac amser digyswllt CADY a'r materion sy'n effeithio ar gyflwyno dull cenedlaethol cyson. Mae rhestr o gyfranwyr ynghlwm yn Atodiad 1.

Rhestr Termau

 

AcronymDiffiniad
AAAAnghenion addysgol arbennig
ADAAnawsterau dysgu a/neu anableddau
ADYAnghenion Dysgu Ychwanegol
ALNETDeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
ALlAwdurdod Lleol
CAauCynorthwywyr Addysgu
CADY/CADYauCynorthwywyr Addysgu
CAUCynllun Addysg Unigol
CDUCynllun Datblygu Unigol
DCAAY(C)Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru)
DDdYDarpariaeth Ddysgu Ychwanegol
NAELAcademi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Cyflwyniad

Paratowyd yr adroddiad hwn mewn ymateb i her benodol o fewn y system trawsnewid addysg yng Nghymru. Ers cyflwyno Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (Cod ADY), mae rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) wedi bod yn rhan o'r newid trawsnewidiol hwn. Mae'r adroddiad yn cyfeirio'n benodol at effaith newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET)

Mae'r symud o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn golygu bod y CADY yn ymgymryd ag un o'r rolau mwyaf heriol a chymhleth mewn lleoliadau addysgol. Mae'n cynnwys nifer helaeth o dasgau arwain, cydweithio, gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol sylweddol o anghenion, wedi'u hymgorffori mewn cyfrifoldeb statudol. Mae'r heriau a amlygir yn y ddogfen hon yn deillio o dystiolaeth ymarferwyr. 

Mae CADYau wedi gweld newid sylweddol i'w rôl, mewn perthynas â'u llwyth gwaith ac mewn perthynas â'u cyfrifoldeb hefyd. Tynnodd trafodaethau â chynrychiolwyr Awdurdodau Lleol (ALlau) sylw at y llwyth gwaith cynyddol hwn ar gyfer y CADY. Mae gan lawer o CADYau rolau arwain a/neu addysgu eraill yn eu hysgol. Mae hyn yn lleihau'r amser y gallant ei neilltuo i oruchwylio ansawdd y ddarpariaeth a'r cymorth i ddisgyblion ag ADY. Roedd llawer o’r CADYau a gymerodd ran yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o amser i gyflawni eu rôl mor effeithiol ag yr hoffent.

Mae'n bwysig nodi na ellir rhagnodi amser i ymgymryd â rôl CADY. Dylid cefnogi’r CADY, a dylid diogelu ei amser, er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau, ymateb i anghenion sy'n codi mewn sefyllfaoedd amser real a diwallu’r anghenion hynny mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Defnyddir y term 'digyswllt' yn gyfnewidiol gydag amser 'dynodedig', 'wedi’i neilltuo' neu 'warchodedig'.

Cefndir

Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen CADY mewn ymateb i argymhelliad 6 Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Mae ei bedwerydd adroddiad yn nodi: 

Nid ydym o’r farn bod diwygiad tymor byr i DCAAY(C) yn ymarferol nac yn ddymunol, oherwydd y cyfnodau gweithredu cychwynnol a’r dysgu y mae angen eu coladu a’u dadansoddi yn ei sgil. Mae gan Ddeddf ADYTA (Cymru) oblygiadau eang ar draws cyflog ac amodau athrawon ysgol, yn cynnwys pennu grŵp prifathrawiaeth ysgol.

Yr argymhelliad oedd y dylid sefydlu grŵp gorchwyl i adolygu amser digyswllt a chydnabyddiaeth ariannol y CADY, yn benodol i ystyried:

  1. A yw'r broses o roi cydnabyddiaeth ariannol i CADY yn briodol ac yn gyson
  2. Pa agweddau ar y broses neu'r arweiniad presennol y gellid eu gwella i adlewyrchu rôl newydd a chydnabyddiaeth ariannol y CADY
  3. Pa newidiadau y gallai fod angen eu gwneud i'r gofynion statudol presennol ar ad-dalu Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn enwedig o fewn y DCAAY(C).

Rhoddwyd arweiniad clir i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen fwrw ymlaen â'r adolygiad hwn gyda'r amcanion canlynol:

  • Cynnal adolygiad annibynnol i archwilio dyraniad digyswllt a chydnabyddiaeth ariannol cyfredol CADYau, yn seiliedig ar dystiolaeth a data
  • Rhoi cyfle i argymell sut mae CADYau yn cael eu talu wrth symud ymlaen
  • Ymgysylltu ac ymgynghori, drwy bartneriaethau cymdeithasol presennol sy'n gweithio ar unrhyw faterion a nodwyd
  • Rhoi cyfle i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ystyried adroddiad yn ffurfiol fel rhan o ystyriaeth ehangach o Gyflog ac Amodau Athrawon.

Er bod y Grŵp wedi canolbwyntio ar yr amcanion a nodir uchod, rhagwelir y bydd yr ystyriaethau pellach yn dilyn y prif argymhellion yn cael eu hystyried yn llawn.

Crynodeb o'r dystiolaeth

Gwrandawodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar lais ymarfer gan ystod o ymarferwyr ar wahanol lefelau yn y system. Mae tystiolaeth wedi'i chasglu o wahanol ffynonellau, gan gynnwys cynrychiolwyr ar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (Atodiad 1) ac o drafodaethau â chynrychiolwyr ALlau a Phenaethiaid. 

 Casglwyd y dystiolaeth rhwng mis Mehefin a mis Hydref 2023 ac mae'n amlygu heriau penodol o ran y newidiadau a gynhyrchwyd ers dechrau'r broses o roi’r diwygiadau ADY ar waith.

Bu'r grŵp hefyd yn ystyried ystod o dystiolaeth o ddata cyhoeddedig. Mae adroddiad diweddar Estyn yn tynnu sylw at heriau yn y system addysg ers y diwygiadau hyn. 

Mae adroddiad a gomisiynwyd gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) yn nodi nad yw 37% o CADYau yn debygol o aros yn eu swydd bresennol o ystyried yr heriau y maent yn eu hwynebu nawr. 

Er bod dysgu gwahaniaethol mewn lleoliadau addysgol yn gyfrifoldeb ar yr holl athrawon a staff i sicrhau bod dysgu a'r amgylchedd dysgu mor hygyrch a chynhwysol â phosibl, rôl y CADY yw sicrhau bod anghenion pob dysgwr ag ADY yn cael eu diwallu. Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi esbonio meysydd penodol lle mae rôl y CADY wedi'i thrawsnewid ers i'r system ADY gael ei rhoi ar waith yn 2021. Mae'r rhain yn cynnwys:

  1. Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau)
    • Paratoi
    • Adolygu
    • Cynnal
       
  2. Rheoli eraill
    • Rhannu gwybodaeth
    • Cyngor dysgu proffesiynol
       
  3. Cysylltu ag eraill
    • Mewnol 
    • Allanol
       
  4. Cyfrifoldebau statudol
    • CDUau
    • Cysylltiadau â’r Uwch Dîm Rheoli
    • Cydweithio â’r ALl
       
  5. Arall 
  • Cyfrannu at y Corff Llywodraethu ar wybodaeth ADY
  • Cydweithio ynghylch rhyddhau staff ar gyfer cwblhau CDU
  • Cyfathrebu â rhieni, teuluoedd, gofalwyr ar gyfer pob mater ADY
  • Mynd i'r afael â heriau o ran ceisiadau am wasanaethau e.e. Therapi Lleferydd, Iechyd Meddwl

Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a dylid nodi bod heriau gwahanol yn bodoli yn dibynnu ar leoliad a sefyllfa'r CADY dynodedig. Gellir nodi heriau o ran materion byrdymor, tymor canolig a hirdymor (Atodiad 2). Fel y nodir yn y Cod ADY:

mae pob aelod o staff sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY yn gyfrifol am sicrhau bod anghenion eu dysgwyr yn cael eu hadnabod a’u diwallu,

fodd bynnag, y CADY sydd, ar lefel strategol, yn sicrhau bod anghenion pob dysgwr ag ADY yn y lleoliad addysg yn cael eu diwallu. O ystyried y cyfrifoldebau statudol sydd ganddo, mae'r Cod yn nodi y dylai'r CADY naill ai fod yn aelod o'r uwch dîm arwain neu fod â llinell gyfathrebu glir i'r tîm hwnnw. 

Mae'r adroddiad hwn drwyddo draw yn cyfeirio at ddogfennau penodol, yn enwedig Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021, fodd bynnag, er hwylustod adrodd, ni fydd yn cyfeirio at bob pwynt unigol.

Prif Ganfyddiadau

Amcan 1: Cynnal adolygiad annibynnol i archwilio dyraniad digyswllt a chydnabyddiaeth ariannol cyfredol CADYau, yn seiliedig ar dystiolaeth a data

Dyraniad digyswllt a chydnabyddiaeth ariannol cyfredol CADYau, yn seiliedig ar dystiolaeth a data

Ers cyflwyno'r Cod ADY, mae'r amser digyswllt wedi cynyddu'n sylweddol i gwmpasu'r dyletswyddau y mae'r CADY bellach yn gyfrifol amdanynt. Mae 'cyfredol' yn ymwneud â'r sefyllfa bresennol mewn lleoliadau addysgol, ond mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi gallu nodi newidiadau a wnaed i rôl y CADY, y mae llawer ohonynt yn golygu amser ychwanegol ar gyfer gweithgareddau digyswllt. 

Mae'r CADY bellach yn ymwneud â chydlynu adnoddau ADY yn strategol, gan gynnwys trefnu a chefnogi staff a gweithio gyda chydweithwyr ar yr uwch dîm arwain i gynllunio a phenderfynu ar yr adnoddau priodol sydd eu hangen i gefnogi staff yn y lleoliad. Mae'r Cod yn nodi ei bod yn hanfodol bod gan y CADY ddigon o amser ac adnoddau i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol, gan gynnwys amser wedi’i neilltuo y tu allan i’r ystafell ddosbarth. 

Gan amlaf, athro dosbarth, dirprwy bennaeth neu bennaeth yw’r CADY, sy'n cyflawni'r rôl yn ychwanegol at ei ddyletswyddau arferol. Mae tystiolaeth yn dangos bod yr amser digyswllt/wedi’i neilltuo hwn wedi cynyddu'n sylweddol i'r pwynt lle mae llawer o CADYau yn cael eu herio i ddod o hyd i amser i ymgymryd â phob tasg sy'n angenrheidiol o fewn yr wythnos waith. Byddai darparu digon o amser ac adnoddau i'r CADY gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol, fel y nodir yn glir yn y Cod ADY, yn cynnwys amser digyswllt wedi’i neilltuo y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Roedd y Memorandwm Esboniadol i Reoliadau Drafft Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 yn glir yn ei nodyn y bydd angen i lwfansau a delir i'r CADY gael eu trafod fel rhan o'r broses flynyddol o adolygu cyflogau athrawon. Mae'r memorandwm yn cyfeirio at yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 sy'n nodi bod rôl flaenorol CADY wedi'i rhoi ar waith mewn amrywiol ffyrdd mewn ysgolion, a bod amrywiad o ran yr unigolion a ddynodwyd, felly bryd hynny nid oedd modd nodi’r union gostau cyflog cenedlaethol. Roedd y memorandwm yn glir ynghylch y fantais bod:

…Rheoliadau Cydlynydd ADY yn amlinellu’r tasgau sy’n gysylltiedig â’r bwriad polisi i greu rôl strategol a fydd yn help i feithrin dull gweithredu ar lefel ysgol/coleg cyfan mewn perthynas ag ADY.

Mae'r Cod ADY wedi cyflwyno'r CDU [troednodyn 1] sy'n ddogfen gyfreithiol sy'n disgrifio angen/anghenion dysgu ychwanegol disgybl, y gefnogaeth sydd ei hangen arno a'r canlyniadau yr hoffai eu cyflawni. Bydd y CDU yn disodli'r holl gynlluniau a oedd yn bodoli’n flaenorol, gan gynnwys:

  • Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
  • Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) ar gyfer dysgwyr a gefnogwyd drwy Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar/Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy/ Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
  • Cynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 oed)

O ran amser y tu allan i'r ystafell ddosbarth, mae cwblhau'r CDU yn ei gwneud yn ofynnol i'r CADY gysylltu ag eraill, yn fewnol a'r tu allan i'r lleoliad addysgol, paratoi ffurflen anghenion cymhleth, llunio map a llinell amser, adolygu gwaith paratoi cychwynnol o fewn mis, ac adolygu wedyn yn flynyddol. Wrth reoli Datganiadau sy’n bodoli eisoes, mae cyflwyno'r CDU wedi creu her tymor byrrach o ran amser digyswllt ychwanegol i'r CADY yn yr amserlen drawsnewid o AAA i ADY.

Mae CADYau wedi nodi'r amser ychwanegol sydd ei angen i drafod ac ailgyflwyno'r CDU os na fydd CADY yn sicrhau cefnogaeth yr ALl ar gyfer darpariaeth. Mae'n ymddangos bod hyn yn creu proses gymhleth ac ailadroddus lle mae angen chwe adroddiad i gefnogi'r CDU. Mae'r holl adroddiadau a gwybodaeth yn cael eu casglu i'w coladu gan y CADY. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae'r Cod ADY yn glir bod yn rhaid i'r CADY gael digon o amser ac adnoddau i ymgymryd â'i gyfrifoldebau'n effeithiol, gan gynnwys amser wedi’i neilltuo y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Dylai amser gwarchodedig fod yn ystyriaeth bwysig i uwch arweinwyr er mwyn galluogi CADYau i gyflawni holl ofynion eu rôl yn effeithiol.

Nid yw'n bosibl mesur 'digon o amser' ar gyfer gweithgareddau digyswllt. Mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ganolog i'r system ADY, felly, ni ellir mabwysiadu fformiwla un ateb sy'n addas i bawb i benderfynu faint o amser digyswllt sydd ei angen ar CADY er mwyn nodi, cefnogi a hyrwyddo anghenion pob dysgwr unigol.

Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys

  • Sicrhau cyfathrebu parhaus gydag uwch-reolwyr ynghylch rhyddhau staff i gyfrannu at gwblhau'r CDU. 
  • Nodi anghenion hyfforddi pob aelod o staff, gan gynnwys cymorth gydag adnoddau sydd eu hangen i ddarparu mwy o wahaniaethu yn yr ystafell ddosbarth, a ddylai fod ar gael i bob plentyn a pherson ifanc fel y gall ffynnu yn ei leoliad. Mae'r Cod yn manylu bod yn rhaid i'r CADY gynghori athrawon ynghylch dulliau addysgu gwahaniaethol sy'n briodol ar gyfer dysgwyr unigol.
  • Cyfrannu at hyfforddiant mewn swydd i athrawon i gynorthwyo'r CADY i gyflawni'r tasgau a nodir yn y Cod (8.11 – 8.17), ac i gynghori a chyfrannu at y cymorth ehangach a ddarperir yn y lleoliad, yn ogystal â'r dysgu proffesiynol ar gyfer aelodau eraill o staff.
  • Goruchwylio a threfnu hyfforddiant gweithwyr cymorth dysgu sy'n gweithio gyda disgyblion ag ADY.
  • Hwyluso cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol ar ddarpariaeth iechyd ac addysg a gwneud ceisiadau i wasanaethau am gymorth.
  • Mynychu fforymau ALl a chlwstwr CADY, lle mae materion yn ymwneud â phrosesau ac achosion yn cael eu codi. Mae'r rhain yn elfen allweddol o'r broses o rannu gwybodaeth ledled Cymru.
  • Dylai'r CADY weithredu fel pwynt cyswllt allweddol gyda gwasanaethau cynhwysiant a chymorth yr Awdurdod Lleol yn ogystal â chydag asiantaethau allanol, sefydliadau annibynnol/gwirfoddol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, seicolegwyr addysg ac eraill lle bo angen.

Mae Estyn yn nodi mai un o uchelgeisiau'r Ddeddf ADY a'r diwygio yw gwell cydweithio a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau ac mae'n nodi bod hyn yn rhy amrywiol ar hyn o bryd.

Argymhelliad 1

Dylai’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei benodi’n aelod o Uwch Dîm Arwain y lleoliad er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau gofynnol yn effeithiol.

Amcan 2: rhoi cyfle i argymell sut mae CADYau yn cael eu talu wrth symud ymlaen

Argymhellion ar sut mae CADYau yn cael eu talu wrth symud ymlaen

Mae yna feysydd penodol o rôl CADY sy'n dod o fewn swyddi uwch-reolwyr a chyfrifoldeb statudol. Ar hyn o bryd, nid oes graddfa gyflog sefydlog na chydnabyddiaeth ariannol am rôl CADY i adlewyrchu statws uwch y rôl, gan arwain at amrywiad ar draws ysgolion a lleoliadau eraill. 

  1. Mae'r Cod yn manylu y dylai'r CADY naill ai fod yn aelod o'r uwch dîm arwain neu fod â llinell gyfathrebu glir i'r uwch dîm arwain.
  2. Mae angen i'r CADY fod yn rhan o benderfyniadau ynghylch cyllidebau ac adnoddau i helpu i gynllunio a dyrannu darpariaeth briodol.
  3. Mae'n rhaid i'r CADY sicrhau gwasanaethau perthnasol i gefnogi Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) disgybl yn ôl yr angen.
  4. Mae’n rhaid i'r CADY fonitro effeithiolrwydd unrhyw DDdY, gan fonitro effaith ymyriadau a chynnydd yn erbyn canlyniadau a gynlluniwyd ar gyfer pob dysgwr ag ADY.

Argymhelliad 2

Dylai’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei dalu yn unol â'i benodiad i Uwch Dîm Rheoli'r lleoliad er mwyn adlewyrchu cyfrifoldebau rheoli'r rôl.

Amcan 3: ymgysylltu ac Ymgynghori, drwy bartneriaethau cymdeithasol presennol sy'n gweithio ar unrhyw faterion a nodwyd

Materion yn cael eu nodi drwy ymgysylltu ac ymgynghori â phartneriaethau cymdeithasol presennol

Mae llawer o faterion a godir yn benodol i'r lleoliad, fodd bynnag, mae'r cyfrifoldebau'n parhau i fod yn debyg. Mae rhai modelau o arferion da mewn llawer o Awdurdodau Lleol. Dylai'r mater o ddysgu proffesiynol fod yn elfen allweddol i ALlau a chyrff llywodraethu ei hystyried o ran amser digyswllt, ochr yn ochr â chefnogaeth a darpariaeth gyflenwi ar gyfer y gweithgaredd hwn.

  1. Dylai'r CADY fod yn ffynhonnell arbenigedd ar ADY drwy ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol.
  2. Mae'n rhaid i CADYau gynghori athrawon yn yr ysgol neu'r Sefydliad Addysg Bellach ynghylch dulliau addysgu gwahaniaethol sy'n briodol ar gyfer disgyblion unigol neu fyfyrwyr ag ADY.
  3. Bydd y CADY yn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am ADY ymhlith staff a fydd yn helpu i godi safonau ymhlith y gweithlu addysg wrth ddarparu cymorth i bob dysgwr ag ADY.
  4. Bydd y pecyn hyfforddi a datblygu a fydd ar gael i bob CADY yn helpu i alluogi’r CADY i gyflawni'r cyfrifoldebau a nodir yn y Rheoliadau a'r canllawiau ategol yn effeithiol, gan gynnwys hyfforddi a darparu cymorth i staff eraill.
  5. Dywed Estyn y dylai ysgolion sicrhau bod gan CADYau ddigon o amser ac adnoddau i gyflawni eu dyletswyddau a bod dysgu proffesiynol staff ysgol yn cynnwys ffocws digonol ar addysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion ag ADY[5].

Argymhelliad 3

Dylai'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gael cynnig pecyn dysgu proffesiynol sy'n briodol i'w rôl, profiad ac anghenion, a dylid neilltuo amser digyswllt i ymgymryd â hyn.

Amcan 4: rhoi cyfle i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ystyried adroddiad yn ffurfiol fel rhan o ystyriaeth ehangach o Gyflog ac Amodau Athrawon

Argymhellion i Weinidog y Gymraeg ac Addysg ystyried adroddiad yn ffurfiol fel rhan o ystyriaeth ehangach o Gyflog ac Amodau Athrawon.

Nod y rhaglen trawsnewid ADY oedd creu system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr 0 i 25 oed ag ADY drwy drawsnewid y systemau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion ac anawsterau dysgu a/neu anableddau (ADA) mewn lleoliadau addysg bellach. 

  1. O dan y system flaenorol, nid oedd gan y Cydlynydd AAA rôl statudol. Mae gan y CADY rôl statudol nawr o fewn y system ADY.
  2. Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu pob lleoliad sicrhau bod gan CADYau gymwysterau a/neu brofiad rhagnodedig. Gall hyn ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd wrth ddylunio'r rôl felly gallai gael effaith negyddol os na fydd y corff llywodraethu yn cael ei hysbysu'n llawn.
  3. Mae amrywiaeth o strwythurau ar waith mewn lleoliadau addysg ac awdurdodau lleol o ran defnyddio'r cyllidebau ychwanegol a ddyfernir ar gyfer trawsnewid ADY.
  4. Er y dylai fod gan bob aelod o staff ym mhob lleoliad addysg o leiaf wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o'r system ADY, y CADY sydd, ar lefel strategol, yn sicrhau bod anghenion pob dysgwr ag ADY yn cael eu diwallu.
  5. Mae galwadau sylweddol ar amser y CADY na chafodd pob un ohonynt eu rhagweld cyn y trawsnewidiad.

Argymhelliad 4

Dylid ystyried nodi lefel sy'n adlewyrchu'r rôl a ddynodwyd i'r CADY. Dylai hyn fod ar lefel Uwch Reoli yn y lleoliad a dylai’r gydnabyddiaeth ariannol fod yn gymesur â'r rôl

Crynodeb o'r argymhellion

  1. Dylai’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei benodi’n aelod o Uwch Dîm Arwain y lleoliad er mwyn cyflawni ei gyfrifoldebau gofynnol yn effeithiol.
  2. Dylai'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei dalu yn unol â'i benodiad i Uwch Dîm Rheoli'r lleoliad er mwyn adlewyrchu cyfrifoldebau rheoli'r rôl.
  3. Dylai'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol gael cynnig pecyn dysgu proffesiynol sy'n briodol i'w rôl, profiad ac anghenion, a dylid neilltuo amser digyswllt i ymgymryd â hyn.
  4. Dylid ystyried nodi lefel sy'n adlewyrchu'r rôl a ddynodwyd i'r CADY. Dylai hyn fod ar lefel Uwch Reoli yn y lleoliad a dylai’r gydnabyddiaeth ariannol fod yn gymesur â'r rôl.

Ystyriaethau pellach

Er mai rôl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen oedd rhoi gwybod am yr amser digyswllt a’r gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer CADYau, amlygwyd heriau pellach y gall fod angen eu hystyried.

  1. Mae anghysondebau ar draws awdurdodau lleol o ran perthnasoedd ysgolion a chydweithio. Mae rhai modelau o arferion da y gellid eu rhannu ledled Cymru.
  2. Mae diwygio addysg yn llwyr wedi creu cyfyngiadau cyllidebol sylweddol, yn enwedig mewn perthynas â Chynorthwywyr Addysgu (CAau). Mae anghysondebau wrth ddyrannu cyllideb ADY rhwng ALlau yn effeithio ar allu ysgolion i recriwtio CAau a sicrhau y gallant gefnogi pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag ADY.
  3. Nid yw cyllid a dyraniadau cyllideb ar gyfer ADY bob amser yn glir ac yn dryloyw. Er mai'r CADY sy'n llunio'r dogfennau ac yn cynghori staff cymorth ynghylch y rhaglenni y dylent eu gweithredu ar gyfer pob disgybl, oherwydd bod cyllidebau'n dynn iawn, mae toriadau wedi’u gwneud sy’n golygu bod disgwyl i rai CAau Lefel 1 gyflawni'r rhaglenni hyn pan nad ydynt wedi'u hyfforddi, wedi’u contractio nac yn cael eu talu i wneud hynny. Mae hyn hefyd yn wir pan ddisgwylir i CAau roi mewnbwn ac adborth ar CDUau. 
  4. Nid yw dealltwriaeth o ADY bob amser yn gynhwysfawr ar draws y system. Byddai creu 'pyramid o wybodaeth' yn diwallu anghenion pawb dan sylw, gan gynnwys CADYau, Penaethiaid, Staff Cymorth, Staff Addysgu, Llywodraethwyr ac ati, lle byddai'r CADY ar ben y pyramid gyda'r dyfnder a'r ddealltwriaeth fwyaf o ADY.
  5. Mae llawer o CADYau yn profi straen sy'n arwain at absenoldeb o'r gwaith oherwydd salwch. Mae hyn yn creu her fawr i lawer o ysgolion.
  6. Nid yw wedi bod o fewn gallu'r grŵp hwn i gasglu data manwl mewn perthynas â'r oriau y mae CADYau yn ymrwymo i'w rôl ar hyn o bryd. Cyngor y grŵp hwn yw y dylid cynnal ymchwil benodol bellach ledled Cymru i ystyried yr agwedd hon ar rôl CADY. 
  7. Ni ellir rhagnodi'r amser sydd ei angen i ymgymryd â rôl CADY. Yr uwch-arweinwyr mewn lleoliad ddylai arwain wrth gefnogi'r CADY a gwarchod ei amser er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau, ymateb i anghenion sy'n codi mewn sefyllfaoedd amser real a diwallu’r anghenion hynny, mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
  8. Dylai amser gwarchodedig, dynodedig neu ddigyswllt fod yn ystyriaeth bwysig i uwch-arweinwyr er mwyn galluogi'r CADY i gyflawni holl ofynion ei rôl yn effeithiol. 

Atodiad 1: Cyfranwyr

Aelodaeth Grŵp Gorchwyl a Gorffen CADY

Cadeirydd

  • Dr Sue Davies, Cadeirydd Annibynnol

Aelodau

  • Urtha Felda, NASUWT
  • Laura Doel, NAHT
  • Liz McLean, NEU
  • Sara Allen, UNISON
  • Cei Pryderi, UCAC
  • Suzanne Hamer, NAHT Cymru
  • Ffion Davies, Ysgol Henry Richard
  • Gaynor Davies, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Tystiolaeth ysgrifenedig a/neu lafar ychwanegol i Grŵp Gorchwyl a Gorffen CADY

  • Yr Athro John Gardner – Cyn-gadeirydd Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon)

Awdurdodau lleol

  • Ceredigion 
  • Sir y Fflint 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen

Llywodraeth Cymru

  • Cangen Anghenion Dysgu Ychwanegol, Is-adran Cymorth i Ddysgwyr
  • Ystadegau Gweithlu Ysgolion, Cyfarwyddiaeth Addysg
  • Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol

Rhanddeiliaid

  • Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Atodiad 2: Heriau

Parhaus

  • Cydlynu tîm amlddisgyblaethol i gwblhau adolygiad blynyddol o CDUau.
  • Ymdrin ar ôl i ALl wrthod dyfarnu lefel yr adnodd y gofynnir amdano.
  • Cael mynediad at wasanaethau cymorth.

Byrdymor

Dros dro, yn ystod y cyfnod gweithredu.

  • Hyfforddi staff addysg ar adnabod ADY.

Tymor canolig

Agweddau parhaol ar y rôl, a ychwanegwyd yn ystod y cyfnod gweithredu.

  • Rheoli ymholiadau gan rieni sydd â diddordeb mewn ymateb i fwy o weithgarwch hyrwyddo ADY.
  • Mynediad at systemau CDU ar-lein sy’n hawdd eu defnyddio. 

Hirdymor

  • Cymhwyster CADY Proffesiynol.

Troednodiadau

[1] Mae CDUau yn wahanol iawn i'w cyfwerth agosaf (CAU) o dan y system flaenorol (AAA). Mae'r amser a gymerir i baratoi, llunio, cynnal, adolygu a diwygio CDU wedi rhoi galwadau cynyddol ar CADYau. Dim ond targedau uniongyrchol yr oedd y CAUau blaenorol yn eu nodi. Roeddent yn fyr a dim ond ychydig o amser roedd yn ei gymryd i'w llunio. Erbyn hyn mae dull gwahanol, llawer mwy ystyrlon gydag CDUau sy'n ceisio datblygu annibyniaeth i ddysgwyr o ran cyflawni dyheadau.