Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o ddiben y grŵp a sut y bydd yn gweithio.

Cyflwyniad

Un elfen allweddol o'r Cytundeb Cydweithio (2021) rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i lywio gwaith Llywodraeth Cymru yn y Senedd bresennol yw'r ymrwymiad i adolygu'r cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael i ddysgwyr a chyflogwyr yng Nghymrui. Nodir yr amcanion canlynol yn y Cytundeb Cydweithio:

Gan weithio gyda'n gilydd, byddwn yn arwain y ffordd drwy ddiwygio cymwysterau mewn ffordd sylfaenol, gan ganolbwyntio ar brofiadau a lles. Bydd ein cymwysterau diwygiedig yr un mor uchelgeisiol â chwricwlwm newydd Cymru. Byddwn yn ehangu cryn dipyn ar yr amrediad o gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu ‘gwneud yng Nghymru’ er mwyn diwallu anghenion ein dysgwyr a’n heconomi.

Mae’r angen i ddechrau'r adolygiad hwn yng Ngwanwyn 2022 ac i ystyried y camau sy’n angenrheidiol i "ehangu cryn dipyn ar yr amrediad o gymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu ‘gwneud yng Nghymru’” wedi’u lywio gan benderfyniad Llywodraeth San Steffan i ddadariannu nifer fawr o gymwysterau galwedigaethol lefel 2 a 3 erbyn 2024 fel rhan o’r broses o gyflwyno lefelau T yn Lloegr.

Mae'n debygol y bydd y gostyngiad arfaethedig yn nifer y dyfarniadau galwedigaethol sydd ar gael yn Lloegr yn effeithio ar holl wledydd y Deyrnas Unedig gan y bydd cost-effeithiolrwydd a hyfywedd masnachol rhai dyfarniadau penodol yn llai os ydynt ond ar gael mewn un neu fwy o wledydd llai'r DU. Mae hyn yn broblem am dri rheswm. Yn gyntaf, bydd o bosibl yn effeithio ar argaeledd cymwysterau galwedigaethol sydd eu hangen ar gyfer diwydiannau a galwedigaethau pwysig yng Nghymru, e.e. afioneg, gofal plant, seiberddiogelwch, yswiriant Fintech, gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ail, efallai na fydd ffurf cymwysterau a ddarperir yn y dyfodol, fel y maent wedi’u llunio gan y cyrff dyfarnu ar hyn o bryd, yn cyd-fynd â gofynion fframweithiau prentisiaethau Cymreig neu lwybrau hyfforddi cysylltiedig sy’n seiliedig ar waith. Yn olaf, mae angen i ni ystyried hefyd goblygiadau'r newidiadau o ran argaeledd cymwysterau galwedigaethol sy'n cael eu darparu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nodau ac amcanion

Bydd chwe amcan i’r adolygiad o gymwysterau galwedigaethol, fel a ganlyn:

  1. Cofnodi a rhoi sylwadau ar berthnasedd ac effeithiolrwydd y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, ar lefelau 1, 2, 3, 4 a 5, gan nodi'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer camau gweithredu pellach.
  2. Nodi’r modelau rhyngwladol gorau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol, gan gynnwys unrhyw dueddiadau a newidiadau diweddar, a'u haddasrwydd a'u cymhwysedd yma, yn enwedig yn sgil uchelgeisiau a nodau'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
  3. Ystyried effaith y cymwysterau Lefelau T newydd ar Gymru a'r opsiynau, gan gynnwys dewisiadau amgen, ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. 
  4. Ystyried y gwaith a wnaed gan Cymwysterau Cymru i ganfod beth mae cyrff dyfarnu cymwysterau galwedigaethol cyfredol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwriadu ei wneud i newid yr ystod o gymwysterau galwedigaethol y maent yn eu cynnig ar lefelau 1, 2, 3, 4 a 5 dros y pedair blynedd sy'n weddill yn y Senedd bresennol.
  5. Amlinellu a gwerthuso'r opsiynau ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a darparwyr cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru yn sgil y newidiadau tebygol a nodwyd o dan bwyntiau 1 i 4 uchod.
  6. Gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ac Aelodau Dynodedig ar ffurf ac amseriad y broses o ehangu cryn dipyn ar y cymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu "gwneud yng Nghymru" a’u "gwneud ar gyfer Cymru" dros y cyfnod rhwng 2023 a 2026. Bydd hyn yn cynnwys y gofynion o ran adnoddau a chyllid ychwanegol i gefnogi unrhyw newidiadau arfaethedig.

Llywodraethu a threfniadaeth

Bydd yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio dan gadeiryddiaeth arweinydd yn y maes sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Bydd aelodaeth y grŵp llywio hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol:

  • Colegau Cymru
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Cydffederasiwn Diwydiant Prydain)
  • Estyn
  • Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu
  • Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
  • Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru
  • Cymwysterau Cymru
  • Undeb Prifysgolion a Cholegau

Bydd gwaith y grŵp llywio yn cael ei adrodd a'i drafod ym Mwrdd Polisi Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Bwrdd Strategaeth a Gweithredu. Bydd yr adroddiadau hyn yn manylu ar gynnydd, materion a risgiau yn ogystal â chynlluniau a rhagolygon yn y dyfodol.

Amserlen waith

Canolbwynt yr adolygiad o gymwysterau galwedigaethol fydd pum gweithdy lle bydd swyddogion Llywodraeth Cymru ac arbenigwyr allanol yn cael eu gwahodd i amlinellu crynodeb o waith ymchwil diweddar ar bolisi a gweithgarwch mewn meysydd perthnasol, yn ogystal â hwyluso trafod y cwestiynau canlynol.

  1. Pa gymwysterau galwedigaethol sydd ar gael ac yn cael eu defnyddio yng Nghymru?
  2. Beth mae Llywodraeth San Steffan yn cynnig ei wneud i ddiwygio cymwysterau galwedigaethol yn Lloegr?
  3. Beth mae cyrff dyfarnu cymwysterau galwedigaethol y Deyrnas Unedig yn bwriadu ei wneud dros y pedair blynedd nesaf i newid patrwm darpariaeth cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru?
  4. Pa opsiynau sydd gan Lywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a darparwyr i newid y cymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu cynnig yng Nghymru? Pa opsiynau sydd ar gael i ehangu’n sylweddol nifer ac ystod y cyfleoedd o ran cymwysterau galwedigaethol sy’n cael eu "gwneud yng Nghymru"? Sut bydd y rhain yn ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg orau? Beth yw'r modelau Ewropeaidd gorau o gymwysterau galwedigaethol y gallai Cymru ystyried eu mabwysiadu? Pa ddiwygiadau sydd eu hangen i gyd-fynd ag uchelgais a gwerthoedd y Cwricwlwm newydd i Gymru?
  5. Pa gamau y dylid eu cymryd er mwyn gweithredu unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru?

Bydd yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer gwaith y grŵp llywio a'r gweithdai cysylltiedig yn cael ei darparu gan yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau yn Llywodraeth Cymru.

Bydd crynodeb o drafodaethau a chasgliadau'r pum gweithdy a thrafodaethau'r Grŵp Llywio ynghyd â’r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru yn cael ei lunio gan yr ysgrifenyddiaeth a’i gymeradwyo gan y grŵp llywio er mwyn eu cyhoeddi a'u cyflwyno i'r Gweinidog Addysg ac Aelodau Dynodedig yng Ngwanwyn 2023.