Grymuso addysgwyr: dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth i Gymru
Yn nodi gweledigaeth Dysgu dros y 4 blynedd nesaf i ysbrydoli dysgu, gwireddu uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru a gweithio gyda'n gilydd i wella ysgolion a gwella cyfleoedd bywyd dysgwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr
Mae pob un diwrnod, medden nhw, yn “ddiwrnod ysgol”, yn gyfle i ddysgu rhywbeth newydd, dipyn bach mwy bob dydd. Dyma hefyd grisialu barn Dysgu fel corff newydd sbon am bwysigrwydd dysgu proffesiynol o safon i’n haddysgwyr.
Fe sefydlwyd Dysgu ar 1 Medi 2025 i roi blaenoriaeth i ddysgu proffesiynol cenedlaethol rhagorol sy’n cael effaith ar ddysgwyr. Caiff y weledigaeth strategol hon ei hatgyfnerthu gan ein cynllun corfforaethol a gweithredol a fydd yn darparu manylion llawnach am ein dull cyflawni.
Trwy beilota ffyrdd newydd o weithio, rydyn ni eisoes wedi dangos awydd i fynd ati i weithredu’n syth.
Mae ein gweithlu, beth bynnag ei natur neu ei gymeriad, yn haeddu cefnogaeth gyson, gydlynol a safonol. Ydy, mae amser yn brin ac mae “diwrnod ysgol” eisoes yn cynnwys gofynion hyfforddiant lu. Ond eto, mae’n hanfodol ein bod ni’n creu lle i feithrin, mireinio ac adolygu pa mor effeithiol ydyn ni mewn meysydd o bwysigrwydd cenedlaethol a diddordeb personol i’r rhai sy’n arwain, addysgu a chefnogi ein dysgwyr.
O lwyddo, fe fyddwn yn darparu dysgu proffesiynol a chymorth arweinyddiaeth rhagorol sy’n gydlynus, yn genedlaethol gyson ac yn ddylanwadol. Mae cryfhau arweinyddiaeth, ansawdd addysgu a hunanwerthuso wrth galon ein cenhadaeth. Dyna bwrpas Dysgu, a dyna’n hymrwymiad i’r gweithlu.
Wrth lunio’r weledigaeth strategol, rydyn ni’n driw i argymhellion yr adolygiad annibynnol diweddar o rolau a chyfrifoldebau partneriaid addysg gan ddatgan mai’n prif flaenoriaeth ni fydd datblygu cynnig dysgu proffesiynol lle bydd “arweinyddiaeth genedlaethol gryfach gyda blaenoriaethau cenedlaethol mwy eglur”.
Rydyn ni’n gwbl ymwybodol o’r heriau niferus sy’n wynebu’n sector addysg.
Rydyn ni eisoes wedi clywed y galw am eglurder, pwrpas a gwaith partneriaeth: diffiniad clir o’n blaenoriaethau a chyfleoedd i addysgwyr ac ysgolion gyfrannu’n uniongyrchol at ein gwaith ynghyd â chefnogaeth ym meysydd arweinyddiaeth, llythrennedd a rhifedd ac ansawdd addysgu.
Gadewch i ni ddatgan yn glir felly mai un rhan bwysig o jig-so tipyn mwy yw gwaith Dysgu ac mai megis dechrau mae’r gwaith. Byddwn ni’n parhau i wrando a gweithredu’n hyblyg er mwyn bod yn ymatebol wrth i flaenoriaethau cenedlaethol newid a byddwn yn gyson effro i ddyheadau’r sector.
Trwy ein gwerthoedd craidd - bod yn ymatebol, yn gydweithredol, yn gynhwysol ac yn arloesol - byddwn yn gweithio fel un gyda’n partneriaid i gynnig dysgu proffesiynol rhagorol a chefnogi cynnydd parhaus ar draws Cymru.
Mae’r weledigaeth strategol hon yn gosod ein trywydd dros y pedair blynedd nesaf i gefnogi ac ysbrydoli dysgu, gwireddu dyheadau pellgyrhaeddol Cwricwlwm i Gymru a - dipyn bach mwy bob dydd - gwneud gwahaniaeth er gwell gyda’n gilydd i ysgolion a lleoliadau addysg ac felly i obeithion bywyd dysgwyr trwy Gymru.
Yr Athro Dylan E Jones
Cadeirydd
Dr Gwenllian Lansdown Davies
Prif Weithredwr
Ein hamcanion strategol craidd
Amcan 1
Sefydlu Dysgu fel darparwr dysgu proffesiynol cenedlaethol effeithiol, cynhwysol ac ymatebol ble mae ein gwaith yn arwain at ddeilliannau i ddysgwyr trwy Gymru yn unol â phedwar pwrpas y Cwricwlwm.
Amcan 2
Sicrhau mai blaenoriaethau cenedlaethol sydd flaenaf wrth ddylanwadu ar arlwy dysgu proffesiynol rhagorol sy’n ysbrydoli twf personol a datblygiad proffesiynol addysgwyr.
Amcan 3
Sicrhau bod darpariaeth gref o gefnogaeth gyson, gydlynus a safonol ar hyd y lled Cymru fel y gall addysgwyr dyfu fel arweinwyr ar bob cam o’u taith, trwy gymwysterau ffurfiol ac arlwy amrywiol o hyfforddiant a chefnogaeth.
Ein gweledigaeth
Gweledigaeth Dysgu yw bod gan holl addysgwyr Cymru gyfan fynediad rhwydd at ddysgu proffesiynol a chymorth arweinyddiaeth o ansawdd da, sy’n tanio’u dychymyg, yn hybu twf proffesiynol a phersonol ac yn eu cefnogi i roi o’u gorau. O ganlyniad, gall dysgu proffesiynol gwell helpu i greu’r amodau i sicrhau gwell deilliannau i ddysgwyr. Rydyn ni am feithrin atebolrwydd ar y cyd, cefnogaeth, dysgu trwy gydweithio a hunanwerthuso pwrpasol ar draws y sector cyfan trwy ddysgu proffesiynol rhagorol.
Cydweithio â’r sector bob cam o’r ffordd.
Ein cenhadaeth
Dysgu sy’n arwain yr arlwy cenedlaethol o ddysgu proffesiynol a chymorth arweinyddiaeth gan chwarae rôl ganolog yn y gwaith o wireddu Cynllun Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweithlu Addysg, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Cymraeg 2050.
Trwy gefnogi dull ‘Unwaith dros Gymru’ wrth ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol - llythrennedd a rhifedd, llesiant, dysgu ac addysgu a chymhwysedd digidol - bydd Dysgu yn “cyfrannu’n uniongyrchol at wella ysgolion a gwireddu’r Cwricwlwm i Gymru.”
Byddwn yn cefnogi’r dysgwyr trwy rymuso’r addysgwyr.
Ein gwerthoedd
Byddwn yn ymatebol: byddwn yn ystyried y sector, yn dysgu wrtho ac ymateb iddo gan gnoi cil a gweithredu ar yr hyn mae ysgolion a lleoliadau addysgiadol yn ei ddweud wrthym ni.
Byddwn yn gynhwysol: byddwn yn parchu ein gilydd ac yn hyrwyddo dysgu proffesiynol sy’n cydnabod anghenion amrywiol. Mae pawb yn dysgu’n wahanol.
Byddwn yn gydweithredol: byddwn yn cydweithio â phartneriaid am ein bod yn rhoi pwys mawr ar arbenigedd eraill ac yn croesawu tystiolaeth leol sy’n hybu’r arlwy yn genedlaethol.
Byddwn yn arloesol: gan gydnabod arfer rhagorol sydd eisoes ar waith, byddwn hefyd yn croesawu syniadau newydd a ffyrdd blaengar o ddarparu dysgu proffesiynol. Mae croeso hefyd i dechnoleg sy’n dod i’r amlwg sy’n cynnig cyfle i arloesi a hybu cyfleoedd i addysgwyr, tra’n gwerthuso’i heffaith ar ein gwaith mewn modd gofalus a thrwyadl.
Ein meysydd gwaith allweddol cychwynnol yn 2026 i 2027
Rydyn ni ami’n gwaith fod yn rymus ac effeithiol.
Ar ôl cynnal 300 o sgyrsiau dros gyfnod o 6 mis gyda phartneriaid allweddol, awdurdodau lleol a chyfarwyddwyr addysg, ystyried canlyniadau’n ciparolwg (gyda dros 550 o ymatebion) a pheilota ymyraethau newydd fel y gweithdai Mathemateg ar y cyd ag Estyn, byddwn yn gwireddu newid trwy ganolbwyntio, i ddechrau, ar y meysydd allweddol canlynol:
Cymorth arweinyddiaeth cadarn a chynaliadwy
- Arweinyddiaeth - ar gyfer arweinwyr canol, uwch a phrofiadol beth bynnag natur eu swydd (cynorthwyydd dosbarth, athro, pennaeth), gwaith ieuenctid a’r system ehangach.
- Datblygu neu barhau llwybrau dysgu proffesiynol ar gyfer cynorthwywyr dysgu, athrawon gyrfa gynnar, arweinwyr canol ac uwch arweinwyr ac ymgynghorwyr gwella ysgolion.
- Cyfleoedd ymchwil yn cynnwys cymwysterau Meistr a Doethuriaeth.
Dysgu proffesiynol rhagorol i ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol
- Gwella arfer addysgu ac addysgeg yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil.
- Ffocws ar feysydd blaenoriaeth allweddol: llythrennedd a rhifedd trwy raglenni cymorth cenedlaethol.
- Dysgu proffesiynol, wedi’i gwmpasu a’i ddylunio mewn partneriaeth â’r Tîm Gwella Addysg, i alluogi gweithredu Canllawiau Gwella Ysgolion trwy gefnogi hunanwerthuso a chynllunio gwelliant mewn ysgolion (gan gynnwys gwerthuso trwy ymholi cydweithredol), a datblygu arweinyddiaeth systemau.
- Datblygu’r Gymraeg mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg yn unol â Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (Cymraeg Craidd).
- Addysgu cyfrwng Cymraeg.
Cynhwysiant wrth galon dysgu
- Galluogi ysgolion i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant.
- Gwreiddio arferion cynhwysol ar sail dealltwriaeth eang o gynhwysiant, gan gynnwys creu amgylcheddau dysgu teg a chynhwysol, mynd i’r afael ag ymddygiad dysgwyr, gweithio tuag at Gymru wrth-hiliol, cefnogi dysgwyr LHDTC+, a lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad dysgwyr.
Ein sicrwydd o ran ansawdd
Cynnig sy’n gyson, yn gydlynus ac yn hygyrch
Bydd ein cynnig wedi’i gyllido’n llawn ac yn rhad ac am ddim. Bydd yn gynnig cenedlaethol a gaiff ei wireddu ar amrywiol amseroedd a thrwy amrywiaeth o fodelau a dulliau - darpariaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein ac yn anghydamserol - gydag ymyraethau sy’n ehangu gorwelion ac yn annog cydweithio rhwng disgyblaethau.
Dysgu parhaus trwy ymgysylltu, sgwrsio a phrofi
Byddwn yn cydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr a phartneriaid i ehangu ein gwybodaeth a gwreiddio meddylfryd hirdymor yn ein cynllunio. Byddwn yn parhau i siarad ag addysgwyr, gan gynnwys y sector yn y broses o greu, darparu ac adolygu ein gwaith.
Ymchwil a gwerthuso
Tystiolaeth fydd wrth wraidd pob dim a wnawn. Byddwn yn gweithio gyda chwmnïau ymchwil proffesiynol a Sefydliadau Addysg Uwch i gasglu gwybodaeth a data. Byddwn yn dryloyw ac yn cydweithio gan rannu’n canfyddiadau ag eraill, gan gynnwys partneriaid byd-eang.
Anelu at ragoriaeth
Wrth i ni ddatblygu ein fframwaith sicrhau ansawdd - ag ynddo gydnabyddiaeth o’r Safonau Proffesiynol - byddwn yn gosod disgwyliadau clir ac yn anelu at ragoriaeth. Bydd ein pwyslais ar arlwy rhagorol a chomisiynu’r hyn sy’n berthnasol, yn ddefnyddiol ac yn gynhwysol.
Cydraddoldeb a dwyieithrwydd
Un o hanfodion cenhadaeth y Cwricwlwm i Gymru yw bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Gwaith Dysgu fydd sicrhau bod cyfle i bob addysgwr gael cyfle teg i ddatblygu a defnyddio’r iaith, a chyfrannu at weledigaeth Cymraeg 2050.
Cydnabod pwysigrwydd partneriaeth
Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac amrywiol bartneriaid lleol a chenedlaethol i ddod o hyd i atebion sy’n ateb galwadau gwahanol, gan gynnal cynlluniau peilot mewn meysydd cymorth fel y sioeau teithiol Mathemateg rhwng Dysgu ac Estyn i roi cysyniadau ar waith.
Cynnig i bawb
Os yw pob dysgwr yng Nghymru i gyrraedd eu llawn botensial, mae’n allweddol bod pob addysgwr yn y sector addysg a gynhelir yn cael manteisio ar waith a chefnogaeth Dysgu. O weld cyfle addas, byddwn yn barod i rannu gwybodaeth ac arbenigedd y tu hwnt i ffiniau’r sector.
Adolygu effaith ein gwaith
Trwy ein cynllun gweithredu, bydd ein hagwedd tuag fesur effaith ein gwaith yn gadarn ac yn seiliedig ar ddulliau soffistigedig o gasglu tystiolaeth. Bydd dangosyddion perfformiad allweddol, sydd ynghlwm wrth fframwaith sicrhau ansawdd wedi’i ddilysu a’i fonitro gan ein Bwrdd, yn cael eu cyhoeddi yn ein hadroddiad blynyddol. Ffurf llwyddiant fydd addysgu sy’n gyson gadarn ac wedi’i seilio ar dystiolaeth, arweinyddiaeth hyderus a myfyriol a dysgu proffesiynol sy’n bwrpasol ac yn ymarferol wedi’i seilio ar flaenoriaethau cenedlaethol clir. Mae addysgwyr sy'n ymgysylltu â chynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol Dysgu yn dangos gallu proffesiynol cadarnach, sydd i’w weld trwy newidiadau mewn gwybodaeth broffesiynol, hyder, ymarfer ac ymddygiadau arweinyddiaeth sy'n cyd-fynd â'r safonau proffesiynol.
I grynhoi
Mae addysgu, a bod yn addysgwr, yn waith dyrys a chymhleth sy’n mynnu gwytnwch ac ymroddiad sylweddol.
Mae gorfod ymateb i anghenion amlweddog dysgwyr, tueddiadau a phwysau cymdeithasol tra hefyd yn gyson effro i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol yn heriol.
Ond eto, mae bod yn addysgwr hefyd yn llawn llawenydd, yn trawsnewid bywydau, a thra bod newid i fod - yn ôl y theori boblogaidd - yn Syml, I bawb, yn Annog ac mewn Pryd, yn rhoi SIAP ar bethau, mae Dysgu yn awyddus i ychwanegu S arall: Sbort! Rydyn ni am weld newid sy’n hwyl, sy’n ymegnïo yn hytrach na llethu, a thrwy ragoriaeth a chreadigrwydd, sy’n rhoi dysgu proffesiynol ar dir uwch.
Mae angen diwylliant dysgu proffesiynol sy’n ffynnu ar Gymru.
Mae cefnogi ac ysgogi addysgwyr o’r pwys cenedlaethol pennaf.
A dyna pam mae Dysgu yn awyddus i roi cyfle i bob addysgwr yn ysgolion a lleoliadau addysgiadol Cymru rymuso’n broffesiynol trwy gydol eu gyrfa a hynny trwy ddysgu proffesiynol rhagorol - i fireinio eu hymarfer, symbylu chwilfrydedd a datgloi potensial eu dysgwyr.
Addysgu - a dysgu - sy’n ysbrydoli, dipyn bach mwy bob dydd.
Mae Dysgu yn barod i wrando, i arwain ac i wasanaethu trwy anelu at lwyddiant gyda’n gilydd.
