Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025, holodd Arolwg Cenedlaethol Cymru bobl am waith teg, yn ogystal ag am wahaniaethu yn y gweithle. Roedd yr arolwg yn cynnwys tua 6,000 o bobl 16 oed a hŷn. Cafodd ei gynnal mewn dwy ran: adran o dan arweiniad cyfwelydd (naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb) ac yna adran hunanlenwi (ar-lein neu, os oedd yn gyfweliad wyneb yn wyneb, ar gyfrifiadur llechen y cyfwelydd). Gofynnwyd y cwestiynau am waith teg yn yr adran o dan arweiniad cyfwelydd.

Cafwyd problemau gwaith maes yn ystod Ebrill 2024 i Fawrth 2025 gan arwain at gyfraddau ymateb is na’r blynyddoedd blaenorol, meintiau sampl llai, a rhai gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl (gweler gwybodaeth am ansawdd a methodoleg). Oherwydd y meintiau sampl llai, mae’r cyfyngau hyder mewn cysylltiad ag amcangyfrifon yn ehangach nag yn y blynyddoedd blaenorol, yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai. 

Er hynny, mae’n dal yn briodol defnyddio’r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae’r arolwg yn parhau i roi amcangyfrifon rhesymol, yn enwedig pan gaiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Mae maint llai y sampl yn golygu nad oes modd gwneud rhai dadansoddiadau manwl o’r data ar waith teg yn y datganiad hwn.

Prif ganfyddiadau

Pensiynau gweithle oedd y budd mwyaf cyffredin yn y gweithle, a dywedodd 95% o weithwyr bod ganddynt un. Cael dewis gweithio’n rhan-amser oedd y budd mwyaf cyffredin o ran oriau gwaith: roedd gan 82% o weithwyr y dewis hwn.

Ffactorau sy’n gysylltiedig yn annibynnol â chael tâl llawn am absenoldeb salwch

  • Gweithio yn y sector cyhoeddus, neu mewn rôl elusennol/wirfoddol.
  • Bod â chontract parhaol.
  • Gweithio o bell.
  • Bod ag iechyd cyffredinol da.

Nododd 87% o bobl bod eu mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu yn y gwaith yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn’.

Ffactorau sy’n gysylltiedig yn annibynnol â gallu dysgu Cymraeg yn y gweithle

  • Bod yn fenyw.
  • Bod yn grefyddol.
  • Gweithio yn y sector cyhoeddus.
  • Byw yn y Gogledd-orllewin.
  • Bod â chontract parhaol neu am gyfnod penodol.
  • Byw yn y 20% canol o ardaloedd difreintiedig o ran incwm yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Buddion y gweithle

Yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025, roedd 56% o bobl sy’n byw yng Nghymru mewn cyflogaeth â thâl neu’n hunangyflogedig. Mae hyn yn 74% o bobl rhwng 16 a 64 oed. O’r grŵp hwn, roedd 85% yn weithwyr, 13% yn hunangyflogedig, a 2% yn y ddau gategori. O’r rhai a oedd yn hunangyflogedig yn unig, roedd 63% yn gwneud y rhan fwyaf neu’r cyfan o’u gwaith i un cwmni.

Gofynnwyd i weithwyr a phobl hunangyflogedig a oedd yn gweithio’n bennaf i un cwmni am eu buddion yn y gweithle.

Yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025, roedd gan 95% o weithwyr bensiwn gweithle (pensiwn y mae eu cyflogwr yn cyfrannu ato). Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â 92% yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Roedd 42% o bobl yn gweithio o bell. Roedd 13% o bobl yn gweithio o bell yn unig, ac roedd 30% yn gweithio’n hybrid.

Tâl yn ystod absenoldeb

Ffigur 1: canrannau’r bobl a oedd yn cael tâl llawn am amser i ffwrdd, yn ôl math o absenoldeb, Mai 2020 i Fawrth 2021 a Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 1: yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025, cafodd 89% o bobl wyliau blynyddol â thâl, a chafodd 76% o bobl dâl llawn wrth gymryd absenoldeb salwch, yn debyg i ganlyniadau Mai 2020 i Fawrth 2021. Yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025, dywedodd 59% o rieni y byddent yn cael tâl llawn pe bai’n rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd mewn argyfwng i ofalu am eu plant. Byddai 52% o bobl yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025 yn cael tâl llawn pe bai’n rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd i ofalu am unrhyw aelod o’r teulu mewn argyfwng, sy’n gynnydd o’i gymharu â chanlyniad Mai 2020 i Fawrth 2021 (46%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Nid oedd cyfran sylweddol o bobl yn siŵr a fyddent yn cael tâl llawn mewn sefyllfa gofal brys. Nid oedd 7% o rieni yn gwybod a fyddent yn cael tâl llawn pe bai’n rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd i ofalu am eu plant ac nid oedd 13% o bobl yn gwybod a fyddent yn cael tâl llawn pe bai’n rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd mewn argyfwng i ofalu am aelod arall o’r teulu.

Absenoldeb salwch

Cynhaliwyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng cael tâl llawn wrth gymryd absenoldeb salwch ac amrywiaeth o wahanol ffactorau. Fel sy’n wir am bob dadansoddiad o’r math hwn, ni allwn briodoli achos ac effaith ar gyfer y cysylltiadau hyn, nac ystyried ffactorau na chawsant eu mesur yn yr arolwg. Gweler gwybodaeth am ansawdd i gael rhagor o fanylion.

Nodwyd bod y sector gwaith yn gysylltiedig â gallu cymryd absenoldeb salwch. Roedd 90% o weithwyr y sector cyhoeddus a 87% o weithwyr elusennau / mudiadau gwirfoddol yn cael tâl llawn pan oeddent ar absenoldeb salwch. Roedd hyn yn uwch nag ar gyfer y sector preifat, yr oedd 72% ohonynt yn cael absenoldeb salwch â thâl llawn.

Gweithwyr ar gontractau parhaol oedd y mwyaf tebygol o gael absenoldeb salwch â thâl llawn: roedd 85% yn cael y budd hwn. Roedd hyn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol (76%), ac yn uwch na chyfradd gweithwyr ar gontractau cyfnod penodol (73%). Roedd gweithwyr ar gontractau dim oriau a gweithwyr asiantaeth yn llai tebygol o gael absenoldeb salwch â thâl llawn. Dim ond 13% a 6% o’r grwpiau hyn, yn y drefn honno, oedd yn cael y budd hwn.

Canfuwyd bod gweithio o bell hefyd yn gysylltiedig â chael tâl llawn ar absenoldeb salwch. Dywedodd 88% o bobl a oedd yn gweithio o bell eu bod yn cael absenoldeb salwch â thâl llawn, o’i gymharu â 67% o’r rhai nad oeddent yn gweithio o bell. Roedd 35% o’r holl weithwyr yn cael y ddau fudd hyn ar yr un pryd, ac roedd hyn yn fwy tebygol o ddigwydd i weithwyr ar gontract parhaol, sef 41%, ac yn llai tebygol i weithwyr ar gontract dim oriau, sef 1%.

Nodwyd hefyd bod iechyd cyffredinol yn gysylltiedig â chael absenoldeb salwch â thâl llawn; fodd bynnag, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng pobl mewn iechyd da, iechyd teg, ac iechyd gwael.

Ni chanfuwyd cysylltiadau annibynnol rhwng cael absenoldeb salwch â thâl llawn ac oedran, rhyw, salwch hirdymor cyfyngol, statws priodasol, ethnigrwydd, credoau crefyddol, cyfeiriadedd rhywiol, safle amddifadedd incwm ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, na rhanbarth yng Nghymru.

Buddion oriau gwaith

Ffigur 2: buddion gweithle yn gysylltiedig ag oriau gwaith yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart far yn dangos buddion yn y gweithle sy’n ymwneud ag oriau gwaith. O’i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020, mae pob un o’r buddion hyn yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025 wedi cynyddu o leiaf 10 pwynt canran. Y budd mwyaf cyffredin oedd y gallu i weithio’n rhan-amser, a oedd ar gael i 82% o bobl. Gofynnwyd i rieni a oedd yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig a oedd ganddynt y gallu i weithio yn ystod tymhorau ysgol yn unig, ac roedd hyn yn wir am 43% ohonynt. Dyma’r budd oriau gwaith lleiaf cyffredin. 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gwneud penderfyniadau

Gofynnwyd i’r ymatebwyr pwy sy’n penderfynu ar eu gwaith o ddydd i ddydd, ac mae’r canlyniadau i’w gweld yn ffigur 3.

Ffigur 3: pwy sy’n penderfynu sut mae gwaith o ddydd i ddydd yn cael ei wneud, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart far sy’n dangos pwy sy’n penderfynu ar waith y person o ddydd i ddydd. O’i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020, nid oedd unrhyw wahaniaeth i’w weld yn y rhan fwyaf o gategorïau. Fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer y bobl sy’n penderfynu ar eu gwaith eu hunain yn bennaf, o 36% yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 i 44% yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hefyd pa mor aml yr oeddent yn cael llais mewn penderfyniadau ar draws y sefydliad. Mae 18% o bobl yn cael llais bob amser yn y penderfyniadau hyn, ac mae 18% arall yn cael llais fel arfer. Dywedodd 36% eu bod yn cael llais mewn penderfyniadau weithiau ac nid oedd y 28% sy’n weddill byth yn cael llais. Ni chanfuwyd unrhyw newidiadau o’i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Cyfleoedd dysgu a datblygu

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd eu mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu yn y gwaith yn ‘dda iawn’, yn ‘eithaf da’, ‘ddim yn dda iawn’, neu ‘ddim yn dda o gwbl’.

Dywedodd 87% o bobl bod eu mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu yn y gwaith yn ‘dda’ neu ‘dda iawn’, sy’n gynnydd o’i gymharu â 79% yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Ffigur 4: barn am gyfleoedd dysgu a datblygu, Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart golofn sy’n dangos barn pobl am y gyfleoedd dysgu a datblygu yn eu gweithleoedd, ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a Ebrill 2024 i Fawrth 2025. ‘Da iawn’ oedd y farn fwyaf cyffredin ar gyfer y naill flwyddyn a’r llall, gyda 49% yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025 - cynnydd o 43% o’i gymharu â Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Roedd gostyngiadau cyfatebol ar gyfer safbwyntiau negyddol wrth gymharu Ebrill 2024 i Fawrth 2025 â Ebrill 2019 i Fawrth 2020, gan ostwng o 8% ar gyfer ‘ddim yn dda o gwbl’ a 13% ar gyfer ‘ddim yn dda iawn’ yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 i 4% ar gyfer ‘ddim yn dda o gwbl’ a 9% ar gyfer ‘ddim yn dda iawn’ yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Roedd pobl sy’n gweithio o bell yn fwy tebygol o ddweud bod eu cyfleoedd dysgu a datblygu yn ‘dda iawn’ (56%) na’r rhai nad oeddent yn gweithio o bell (45%).

Dywedodd 51% o’r bobl oedd mewn iechyd ‘da iawn’ neu ‘dda’ bod eu cyfleoedd dysgu a datblygu yn rhai ‘da iawn’, sy’n gyfran uwch na’r bobl mewn iechyd ‘gweddol’ (43%). Yn ôl 16% o’r rhai mewn iechyd ‘gwael’ neu ‘wael iawn’, doedd eu cyfleoedd dysgu a datblygu ‘ddim yn dda o gwbl’.

Yn ôl 2% o weithwyr y sector cyhoeddus, doedd eu cyfleoedd dysgu a datblygu ‘ddim yn dda o gwbl’, sy’n gyfran is na gweithwyr y sector preifat (5%) a chyfartaledd Cymru (4%).

Cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle

Dywedodd 46% o weithwyr eu bod wedi cael cynnig cyfle i ddysgu Cymraeg gan eu cyflogwyr, sy’n gynnydd o’i gymharu â 31% o weithwyr yn 2018-19.

Cynhaliwyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng mynediad at gyfleoedd dysgu’r Gymraeg ac amrywiaeth o nodweddion. Gan reoli cysylltiadau â ffactorau eraill, roedd y ffactorau canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol â gallu dysgu Cymraeg drwy’r gweithle.

Roedd gweithwyr benywaidd yn fwy tebygol na rhai gwrywaidd i ddweud eu bod yn gallu dysgu Cymraeg yn y gweithle. Cafodd 55% o weithwyr benywaidd gyfle i ddysgu Cymraeg, o’i gymharu â 36% o weithwyr gwrywaidd.

Roedd pobl â chredoau crefyddol hefyd yn fwy tebygol o gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn y gweithle, sef 51% ohonynt, o’i gymharu â 42% o’r rhai heb unrhyw gredoau crefyddol.

Yn yr un modd ag absenoldeb salwch â thâl llawn, canfuwyd bod y sector gwaith hefyd yn gysylltiedig â gallu dysgu Cymraeg yn y gweithle.

Ffigur 5: y gallu i ddysgu Cymraeg yn y gweithle yn ôl sector gwaith, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart far yn dangos a allai pobl ddysgu Cymraeg yn eu gweithleoedd, wedi’i grwpio yn ôl sector. Gweithwyr y sector cyhoeddus oedd y rhai mwyaf tebygol o allu dysgu Cymraeg (sef 75%). Gweithwyr y sector preifat oedd y rhai lleiaf tebygol o gael cyfleoedd i ddysgu Cymraeg (sef 18%).

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Canfuwyd hefyd fod y math o gontract yn gysylltiedig â’r gallu i ddysgu Cymraeg yn y gweithle.

Ffigur 6: y gallu i ddysgu Cymraeg yn y gweithle yn ôl math o gontract, Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart far sy’n dangos cyfrannau’r bobl a oedd yn gallu dysgu Cymraeg yn eu gweithleoedd, wedi’i grwpio yn ôl math o gontract. Roedd pobl ar gontractau dim oriau yn llai tebygol o gael y cyfle i ddysgu Cymraeg o’i gymharu â’r rhai ar gontractau parhaol neu am gyfnod penodol. Roedd 24% o’r rhai â chontractau dim oriau yn cael y cyfle, o’i gymharu â 47% a 53% o’r rhai ar gontractau parhaol a chyfnod penodol, yn y drefn honno.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Roedd gweithwyr o bell hefyd yn fwy tebygol o allu dysgu Cymraeg yn y gweithle. Roedd 53% o weithwyr o bell yn cael y cyfle, o’i gymharu â 40% o’r rhai nad oeddent yn gweithio o bell.

Roedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019 (MALlC) yn rancio cymdogaethau yng Nghymru yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau. Canfuwyd bod y mesurau a ddefnyddiwyd i bennu amddifadedd incwm cymdogaeth yn gysylltiedig â’r gallu i ddysgu Cymraeg yn y gweithle, fel y dangosir yn y siart isod.

Ffigur 7: y gallu i ddysgu Cymraeg yn y gweithle yn ôl safle incwm MALlC (yn ôl cwintel), Ebrill 2024 i Fawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart far sy’n dangos a allai pobl ddysgu Cymraeg yn eu gweithleoedd, wedi’i grwpio yn ôl cwintelau incwm MALlC. Roedd gweithwyr sy’n byw yn yr ail gwintel mwyaf difreintiedig o ran incwm (C2) yn llai tebygol o gael y cyfle i ddysgu Cymraeg o’u cymharu â’r rhai mewn cwintelau llai difreintiedig o ran incwm, sef 39% o weithwyr sy’n byw yn yr ail gwintel mwyaf difreintiedig o ran incwm (C2) o’i gymharu â 52% o’r rhai sy’n byw yn y cwintel canol (C3). 

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Roedd 57% o weithwyr yng Ngogledd-orllewin Cymru yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn y gwaith, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o 45%. Nid oedd unrhyw ranbarthau eraill yn wahanol i’r cyfartaledd cenedlaethol.

Nodwyd bod salwch cyfyngus hirdymor hefyd yn gysylltiedig â chael absenoldeb salwch â thâl llawn; fodd bynnag, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng pobl mewn iechyd da iawn, iechyd teg, ac iechyd gwael.

Ni ddarganfuwyd unrhyw gysylltiadau annibynnol rhwng cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac oedran, statws priodasol, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, neu ddosbarthiad trefol-gwledig.

Y cyd-destun polisi

Buddion gweithle

Mae buddion gweithle, megis absenoldeb â thâl, tâl salwch a phensiynau, yn ganolog i bolisi Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, sy’n hyrwyddo cydnabyddiaeth ariannol deg, diogelwch incwm a mynediad at y buddion ehangach sydd eu hangen ar weithwyr i dalu costau byw sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru yn annog yr amodau hyn yn weithredol drwy ddylanwad a thrwy ysgogiadau meddal. Fodd bynnag, mae hawliau cyflogaeth, gan gynnwys hawliau statudol i wyliau â thâl a thâl salwch yn parhau i fod yn faterion a gedwir yn ôl, sy’n golygu na allwn reoleiddio na gorfodi cyflogwyr yn uniongyrchol yn y meysydd hyn.

Penderfyniadau yn y gweithle

Mae polisi Gwaith Teg Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais ar roi gwybodaeth a chynrychiolaeth i weithwyr, a chyfle iddynt ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau ar lefel sefydliad ac mewn arferion gwaith o ddydd i ddydd. Bydd y data yn ein helpu i ddeall y dirwedd yn well. Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiadau ehangach Llywodraeth Cymru i bartneriaeth gymdeithasol a chydgynrychiolaeth drwy undebau llafur. Fodd bynnag, mae’r fframwaith deddfwriaethol ar gysylltiadau diwydiannol sy’n sail i hynny, gan gynnwys hawliau ymgynghori a chyfraith bargeinio ar y cyd, yn parhau i fod yn fater a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU.

Cyfleoedd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle

Mae Cynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Genedlaethol yn cynnig hyfforddiant amrywiol a hyblyg, sydd wedi’i ariannu’n llawn, i gyflogwyr. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael ar bob lefel o ddysgu Cymraeg, o ddysgu dwys dan arweiniad tiwtoriaid i gyrsiau hunanastudio byr. Mae’r Cynllun hefyd yn darparu hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth i gyflogwyr i gynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu. Mae hyn yn cynnwys adnabod eu gofynion o ran sgiliau Cymraeg, a chyngor ar gefnogi dysgwyr yn y gweithle.

Cymharu â ffynonellau eraill

Mae’r Arolwg Barn a Ffordd o Fyw, a gynhelir gan yr SYG, yn casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â gweithio rhan-amser a gweithio o bell. Gellir cymharu’r data i raddau â data’r Arolwg Cenedlaethol, lle gwelir cyfraddau tebyg o weithwyr hybrid a gweithiwyr o bell.

Mae’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, sydd hefyd yn cael ei gynnal gan yr SYG, yn casglu data ar gyfraddau cyflogaeth yng Nghymru a’r DU. Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng y cyfraddau cyflogaeth a ddisgrifir gan yr Arolwg Poblogaeth Cenedlaethol a’r Arolwg Cenedlaethol.

Gwybodaeth am ansawdd

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru Ebrill 2024 i Fawrth 2025 yn arolwg hapsampl, graddfa fawr, a oedd yn cynnwys pobl 16 oed a hŷn ledled Cymru.

Methodoleg

Dewiswyd cyfeiriadau ar hap, ac anfonwyd gwahoddiadau drwy’r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellid darparu rhif ffôn drwy borth ar-lein neu linell ymholiadau dros y ffôn. Os na chafodd rhif ffôn ei ddarparu, cynhaliwyd teleparu â chronfeydd data o rifau ffôn sydd ar gael i weld a ellid dod o hyd i un ar gyfer y cyfeiriad.

Yna, fe wnaeth y cyfwelydd alw’r rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad, darganfod faint o oedolion a oedd yn byw yno, a dewis un ar hap (y person a oedd â’r pen-blwydd nesaf) i gymryd rhan yn yr arolwg. Cafodd y person a ddewiswyd ei gyf-weld dros y ffôn. Ar ôl cwblhau’r adran ffôn, gofynnwyd iddynt gwblhau adran ar-lein ac anfonwyd manylion atynt. 

Os na chafwyd rhif ar gyfer y cyfeiriad, dewiswyd 46% o’r achosion hyn ar hap ac fe wnaeth y cyfwelydd ymweld â’r cyfeiriad i ddewis ymatebydd. Yna, cynhaliwyd cyfweliad wyneb yn wyneb gyda nhw yn y cartref neu (os oedd yn well ganddynt gyfweliad dros y ffôn) casglwyd rhif ffôn ar eu cyfer. 

Roedd yr arolwg yn para tua 40 i 45 munud ar gyfartaledd ac yn ymdrin ag ystod o bynciau. Cynigwyd taleb £15 i’r ymatebwyr i ddiolch iddynt am gymryd rhan. Roedd maint y sampl a gyflawnwyd bob mis yn rhyw 500 o bobl ar gyfartaledd, a’r gyfradd ymateb oedd 18.7% o’r rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan.

Pwysoli’r arolwg

Defnyddir pwysoliadau arolwg i ddod â sampl o boblogaeth yn agosach at y boblogaeth lawn o ran oedran, rhyw, a maint awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o’r targed yn nifer y cyfweliadau ym mhob bwrdd iechyd ym mhob chwarter. Mae’r pwysoliadau’n lleihau ond ni fyddant yn dileu effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol ac â’r boblogaeth gyffredinol. Ar gyfer sampl Ebrill 2024 i Fawrth 2025, mae lledaeniad llai cyfartal o gyfweliadau ar draws y flwyddyn (er enghraifft, llai yn gymesur ym mis Chwefror a Mawrth) o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Dylid cymryd gofal, felly, wrth gymharu’r canlyniadau â’r blynyddoedd blaenorol, a dylid archwilio unrhyw wahaniaethau yng nghyd-destun ffynonellau eraill. 

Dadansoddiad ystadegol

Mae’r datganiad hwn yn defnyddio dadansoddiad atchweliad i archwilio perthnasoedd rhwng gwahanol nodweddion, megis rhyw neu fath o gontract cyflogaeth, a ffactor penodol o ddiddordeb, megis absenoldeb salwch â thâl neu gyfleoedd i ddysgu Cymraeg. Mae’r dull yn cadw ffactorau eraill yn gyson (gelwir hyn weithiau yn “rheoli ar gyfer ffactorau eraill”). Mae’r canlyniadau’n dangos cysylltiadau posibl rhwng ffactorau, ond nid ydynt yn dangos bod unrhyw un ffactor yn achosi un arall.

Pan fo testun y datganiad hwn yn nodi gwahaniaeth rhwng dau ganlyniad arolwg, rydym wedi gwirio i sicrhau nad yw’r cyfyngau hyder (a elwir weithiau’n “ffin cyfeiliornad”) ar gyfer y ddau ganlyniad yn gorgyffwrdd. Mae hyn yn awgrymu bod y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol, h.y. bod siawns o lai na 5% neu 1 o bob 20 fod y canlyniadau yn deillio o hynodrwydd yn sampl yr arolwg yn hytrach nag yn adlewyrchu gwahaniaeth gwirioneddol yn y boblogaeth ehangach. Pan na nodir gwahaniaeth, mae’r cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd.

Mae holiadur yr arolwg ar gael ar ein tudalennau ar y we.

Mae siartiau a thablau manwl o’r canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu’r data a’r fethodoleg, gweler ein Hadroddiad ansawdd a’n Hadroddiad technegol.

Datganiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein hymarfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Y swyddfa sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (SRY) hyn yn dangos y safonau disgwyliedig mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Mae’r holl ddata personol sy’n sail i’r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Cyhoeddir ystadegau Arolwg Cenedlaethol Cymru mewn modd hygyrch a threfnus, gyda rhag-gyhoeddiad ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9:30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae’r holl ddatganiadau ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Mae’r holl allbynnau’n cadw at y Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ar dudalennau gwe’r calendr o ddigwyddiadau i ddod. Yn ystod y prosesu, mae’r mynediad at y data wedi’i gyfyngu i’r rhai sy’n ymwneud â chynhyrchu’r ystadegau neu sicrhau ansawdd, neu sydd angen eu gweld at ddibenion gweithredol. Derbynwyr cymwys yn unig sy’n cael mynediad at y data cyn eu rhyddhau yn unol â’r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau’r DU).

Caiff y ffigurau a gyhoeddir eu creu gan ddadansoddwyr proffesiynol, gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael.

Ansawdd

Fel y nodwyd uchod, mae maint y sampl a gyflawnwyd ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Ebrill 2024 i Fawrth 2025 (6,000 o ymatebwyr) yn llai nag a gynlluniwyd yn wreiddiol. Mae maint y sampl yn llai am i’r contractwr ddod ar draws problemau gwaith maes gan gynnwys cyfraddau ymateb is nag yn y blynyddoedd blaenorol. Mae newidiadau hefyd yng nghyfansoddiad y sampl heb ei phwysoli a gyflawnwyd o’i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.

Felly, ym mis Gorffennaf 2025, gofynnwyd i’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau atal dros dro ein statws ystadegau swyddogol achrededig ar gyfer y datganiad cyntaf hwn ac ar gyfer allbynnau eraill yn seiliedig ar ddata Ebrill 2024 i Fawrth 2025 ac fe roddwyd ataliad dros dro inni. Mae’r ataliad dros dro yn adlewyrchu’r ffaith nad yw allbynnau Ebrill 2024 i Fawrth 2025 yn gyffredinol yn darparu canlyniadau digon manwl gywir ar gyfer ardaloedd daearyddol bach ac is-grwpiau bach eraill, ac y dylid cymryd gofal wrth gymharu rhai o ganlyniadau Ebrill 2024 i Fawrth 2025 â chanlyniadau blynyddoedd blaenorol. Mae’r holl allbynnau a seilir ar ddata Ebrill 2024 i Fawrth 2025 wedi’u nodi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. 

Mae’n dal yn briodol defnyddio’r ystadegau hyn. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o amcangyfrifon i Gymru, yn enwedig os cânt eu defnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill. Er hynny, dylai defnyddwyr nodi’r cyfyngau hyder ehangach yn enwedig ar gyfer daearyddiaethau llai ac is-grwpiau poblogaeth llai.

Mae’r holl gamau sydd ynghlwm wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu’r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr proffesiynol ac mae’r ystadegau yn cael eu cynhyrchu heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol. Sicrhawyd ansawdd yr holl ystadegau cyn eu cyhoeddi.

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Mae’r gwaith sefydlu ar gyfer dyluniad arolwg ar-lein newydd yn mynd rhagddo’n dda. Bydd y prif waith maes yn dechrau ym mis Mawrth 2026, ac fe ddisgwylir y canlyniadau cyntaf yn haf 2027. Un o fanteision allweddol y dull newydd yw y bydd yn bosibl darparu meintiau sampl llawer mwy, ac felly amcangyfrifon llawer mwy manwl gywir ar gyfer is-grwpiau bach. Ar ôl i’r prif waith maes ddechrau o dan y dyluniad newydd yn Ebrill 2026 i Mawrth 2027, byddwn yn gofyn bod bathodynnau ystadegau swyddogol achrededig yn cael eu hadfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar gyfer allbynnau arolygon o Ebrill 2026 i Mawrth 2027 ymlaen.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw o ffyrdd. Dyma ambell enghraifft:

  • darparu cyngor i’r Gweinidogion; a
  • llywio ystod eang o benderfyniadau polisi.

Mae’r sylwebaeth a’r nodiadau yn y datganiad hwn wedi’u datblygu i geisio gwneud yr wybodaeth mor hygyrch â phosibl i ddefnyddwyr.

Mae croeso ichi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am y ffordd rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion llesiant cenedlaethol (megis dangosydd 21: ‘canran y bobl sydd mewn cyflogaeth’, neu ddangosydd 37: ‘nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg’) a gallant gael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Tîm arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Y cyfryngau: 0300 025 8099

SB 5/2026