Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i’r ffordd y mae darparwyr gofal plant yn cael eu talu yn dilyn cyflwyno gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru?

Cyn Ionawr 2023 roedd Cynnig Gofal Plant Cymru yn cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio nifer o systemau gwahanol i brosesu ceisiadau rhieni a thalu darparwyr gofal plant am yr oriau a ddarperir.

Mae gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru wedi disodli’r systemau hynny sy’n galluogi pob awdurdod lleol, rhiant a darparwr gofal plant i ddefnyddio un gwasanaeth cyffredin.

Pam mae hyn wedi newid?

Roedd profiad rhieni a darparwyr sy’n defnyddio Cynnig Gofal Plant Cymru yn amrywio yn dibynnu ar ble roedden nhw wedi’u lleoli a pha system roedd eu hawdurdod lleol yn ei defnyddio.

Roedd hyn yn broblem i leoliadau gofal plant a oedd yn darparu gofal i blant o ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol, gan fod angen iddynt ymdrin â nifer o systemau awdurdodau lleol gwahanol a chydbwyso gwahanol amserlenni talu.

Bydd pob rhiant sy’n gwneud cais am ffurflen Cynnig Gofal Plant Cymru o fis Ionawr 2023 yn defnyddio’r gwasanaeth digidol newydd ac yn profi proses ymgeisio fwy cyson.

Mae’r gwasanaeth digidol yn gwbl ddwyieithog gan alluogi darparwyr gofal plant Cymraeg eu hiaith a rhieni i ymgysylltu â’r Cynnig Gofal Plant yn eu dewis iaith.

A yw'n ddiogel?

Mae gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru wedi’i ddatblygu i’r safon uchaf o ran diogelwch data. Dim ond staff awdurdod lleol sydd â chaniatâd i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn all weld y manylion y mae rhieni a darparwyr yn eu cyflwyno i greu cyfrif.

Beth sydd wedi digwydd i’r hen systemau awdurdodau lleol?

Mae rhieni a phlant a fanteisiodd ar y Cynnig Gofal Plant cyn ei gyflwyno yn aros ar hen systemau’r awdurdod lleol.

Sut yr effeithir ar daliadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant?

Mae gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru yn galluogi taliadau cyflym a rheolaidd i ddarparwyr gofal plant. Gellir hawlio taliadau wythnosol neu fisol mewn ôl-daliadau. Mae’r taliadau’n cael eu prosesu’r diwrnod gwaith nesaf a bydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif banc mewn ychydig ddyddiau.

Gall ceisiadau a wneir drwy'r llwybr Grant Cymorth Ychwanegol gymryd mwy o amser.

Mae rhieni a phlant a fanteisiodd ar y Cynnig Gofal Plant cyn ei gyflwyno yn aros ar hen systemau’r awdurdod lleol. Mae taliadau ar gyfer y plant hynny yn parhau i gael eu gwneud drwy'r awdurdodau lleol.

Sut y bydd rhieni'r plant sy'n mynychu fy lleoliad yn gwybod beth i'w wneud?

Mae canllawiau ar gael ar-lein i gefnogi rhieni i ddefnyddio’r gwasanaeth i wneud cais am y Cynnig Gofal Plant a chytuno ar eu horiau.

Mae llinell gymorth ffôn genedlaethol ar gael i unrhyw riant neu ddarparwr sydd angen cymorth pellach. Rhif y llinell gymorth genedlaethol yw: 03000 628 628

Rydym wedi darparu deunyddiau marchnata i awdurdodau lleol eu lledaenu’n lleol, gan gynnwys lleoliadau gofal plant, i hyrwyddo’r Cynnig Gofal Plant a chyfeirio rhieni at gymorth a gwybodaeth.

Rwy’n gofalu am blant sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i fanteisio ar y Cynnig Gofal Plant. A yw cyllid yn dal ar gael drwy'r Grant Cymorth Ychwanegol?

Mae cyllid ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol yn dal i fod ar gael drwy'r Grant Cymorth Ychwanegol.

Cyfeiriwch at ganllawiau'r awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth am sut y gellid defnyddio hwnnw.