Gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol: asesiad o effaith integredig
Crynodeb o effaith y gwasanaeth olrhain gwastraff digidol gorfodol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Enw’r cynnig: Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol Gorfodol
Swyddogion sy’n cwblhau’r Asesiad o Effaith Integredig (enwau ac enw’r tîm):
Jane Anstee
Tim Edwards
Yr Is-adran Effeithlonrwydd Adnoddau ac Economi Gylchol
Yr Ysgrifennydd Cabinet cyfrifol: Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2026 (Gosodwyd y rheoliadau ar 3 Mawrth 2026)
Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
1.1. Mae System Olrhain Gwastraff Ddigidol (DWTS) yn cael ei chyflwyno ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig (DU). Bydd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Yr Alban, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU (DEFRA), ac Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig Gogledd Iwerddon (DAERA) yn gosod rheoliadau. O 1 Hydref 2026, os cânt gymeradwyaeth y Senedd, bydd cyfnod cyntaf y rheoliadau DWTS yn dod i rym. Bydd y rheoliadau yng Nghymru yn ei gwneud yn orfodol i bob safle trwyddedig sy’n casglu gwastraff ddefnyddio DWTS, heblaw am wastraff masnachol sy’n cael ei anfon i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestig (HWRC). Bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw cynnwys y rhain mewn offeryn statudol ychwanegol yn y cam nesaf. Bryd hynny, rydym hefyd yn disgwyl y bydd symudiadau gwastraff yn cael eu holrhain yn ddigidol, o’r safleoedd lle caiff ei gynhyrchu yr holl ffordd i’r safleoedd sy’n casglu gwastraff, gan gynnwys pan fo’r gwastraff yn cael ei gludo.
1.2. Caiff diffyg data eglur a chywir ei grybwyll yn aml fel y pethau sy’n rhwystro rheoleiddwyr a llunwyr polisïau. Hefyd, mae troseddwyr yn aml yn manteisio ar y diffyg cofnodion digidol cyson yn y diwydiant gwastraff, gyda chofnodion papur yn eu galluogi i guddio tystiolaeth o gamddefnydd systemig o wastraff. Mae sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n gylchol yn un o’r colofnau allweddol sy’n cynnal strategaeth ‘Mwy Nag Ailgylchu’ Cymru. Mae cyflwyno DWTS gorfodol hefyd wedi’i gynnwys yn y strategaeth i olrhain gwastraff hyd ddiwedd ei daith .
1.3. Yn 2018, fe wnaeth Adolygiad Annibynnol o Droseddau Gwastraff Difrifol a Threfnedig argymell y dylid cyflwyno system ddigidol a gorfodol i olrhain gwastraff cyn gynted ag â phosibl . Hefyd, roedd Ail Adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru 2020 yn nodi bod cael system ddigidol a gorfodol i olrhain gwastraff yn allweddol os ydym am ddeall llifoedd gwastraff ac adnoddau, ac i allu targedu a chanolbwyntio ymyriadau yn sgil hynny.
1.4. Bydd DWTS yn cyfyngu ar allu troseddwyr gwastraff i gam-drin ac i gam-ddosbarthu gwastraff, ac yn lleihau digwyddiadau megis tipio anghyfreithlon sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol ac yn peryglu iechyd pobl. Hefyd, bydd cael data eglur a chywir yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno polisïau yn y dyfodol, a hynny trwy gynnig mwy o fanylder o ran tarddiad gwastraff a’r llwybrau trin.
1.5. Mae gwell data ar wastraff hefyd yn cefnogi buddsoddiad yn y sector preifat, gan fagu hyder busnesau a’r marchnadoedd ariannol. Ar hyn o bryd, nid oes gan fusnesau ddigon o wybodaeth ar gyfer adnabod a manteisio ar werth posibl deunyddiau gwastraff wrth leihau costau nwyddau crai ac wrth ddatblygu ffrydiau refeniw newydd. Mae’r methiant hwn yn y farchnad yn rhwystro twf busnesau ac yn mygu dyfeisgarwch. Dro ar ôl tro, mae grwpiau allweddol y diwylliant wedi pwysleisio pwysigrwydd cyflwyno DWTS. Yn yr ymgynghoriad â’r diwydiant a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2022, gwelwyd bod 79% o’r rhai a ymatebodd yn cytuno â’r cynigion ar gyfer y mathau o wastraff y dylid eu holrhain yn ddigidol, roedd 73% yn cytuno â’r cynigion o ran y gweithgareddau y dylid eu holrhain, a 71% yn cytuno â’r cynnig o ran pryd na ddylai olrhain gwastraff fod yn berthnasol.
1.6. Bydd DWTS yn cael ei gyflwyno mewn dau gam. Yng ngham un, bydd cwmpas y gwasanaeth gorfodol wedi’i gyfyngu i’r rhai yng Nghymru sy’n rhedeg safleoedd trwyddedig ac sy’n casglu gwastraff a reolir. Ni fydd y Rheoliadau’n cynnwys gwastraff masnachol sy’n cael i gasglu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Domestig (HWRC) gan y byddan nhw’n cael eu cynnwys mewn Rheoliadau newydd yn y cam dilynol. Un o fwriadau’r ail gam yw cynnwys rhai o’r safleoedd nad oeddent wedi’u cynnwys yn y cam cyntaf, a’i gwneud yn bosibl i olrhain gwastraff o ban gaiff ei gasglu hyd ddiwedd ei daith. Bydd yn cynnwys data sy’n cael ei gyflwyno i’r system gan gynhyrchwyr gwastraff, cludwyr, broceriaid, a gwerthwyr, yn ogystal â’r data a geir gan y safleoedd casglu yng ngham un.
1.7. Bydd DWTS, gydag amser, yn caniatáu i symudiad gwastraff gael ei olrhain o ddechrau’r daith hyd y diwedd, gan gefnogi rheoleiddwyr, llunwyr polisïau, a’r diwydiant i greu economi gylchol. Bydd yn gwella ansawdd, cwmpas, cywirdeb ac amseroldeb data gwastraff, ac yn ei gwneud yn fwy hygyrch ac yn gwella’r defnyddioldeb i fusnesau, rheoleiddwyr, a’r llywodraeth. Mae’r Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru wedi nodi y gall arloesi digidol arwain ar well gyfleoedd economaidd ac at greu cymdeithas sydd yn fwy cydlynol ac â gwell gallu digidol. Bydd DWTS yn galluogi busnesau gwastraff Cymru i ddigideiddio eu data a symud tuag at ddefnyddio modelau gweithredu sy’n fwy gwydn ac yn fwy parod ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. Bydd hyn yn galluogi twf cylchol yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi cyfleoedd i gymunedau fuddsoddi a datblygu Cymru a all gyflawni sero net yn ogystal â thwf cynaliadwy.
1.8. Mae’r diwygiad hwn yn rhan allweddol o’n dull o gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i greu economi gryfach a gwyrddach, i weithredu ar ddatgarboneiddio ac i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur.
1.9. Bydd CNC yn rheoli’r broses o weithredu'r system gyda'r diwydiant gwastraff wrth iddynt drosglwyddo o ddefnyddio system bapur i ddefnyddio’r un digidol. Bydd CNC hefyd yn un o ddefnyddiwr allweddol yr allbynnau data, gan eu defnyddio i wella gwaith gorfodi ac i atal gweithgareddau gwastraff anghyfreithlon. Mae CNC wedi bod yn bartner allweddol drwy gydol y gwaith o ddylunio'r DWTS, ochr yn ochr â’r rheoleiddwyr o'r cenhedloedd eraill.
1.10. Gwnaed gwaith ymgysylltu cynhwysfawr â’r diwydiant, trwy ymgynghoriad cyhoeddus yn ogystal â thrwy brofi systemau wrth ddatblygu adeiladwaith y DWTS. Mae fforymau diwydiant rheolaidd yn cael eu cynnal â phartneriaid ar draws y pedair cenedl i drafod cynnydd ar yr adeiladwaith digidol ac ar yr effeithiau posibl ar fusnes. Mae diwydiant yn rhan o grŵp cyd-ddylunio, ynghyd â llywodraethau a rheoleiddwyr ledled y DU, sy’n cefnogi datblygiad cam cyntaf y system. Mae tudalen GitHub bwrpasol wedi'i sefydlu i roi tryloywder i ddarparwyr meddalwedd y diwydiant rheoli gwastraff weld y dull digidol.
1.11. Bydd awdurdodau lleol yn ddefnyddwyr allweddol hefyd. Bydd y gwasanaeth DWTS, ymhen amser, yn disodli’r Llif Data Gwastraff sy'n cefnogi’r gwaith o gofnodi sawl tunnell o wastraff y mae awdurdodau lleol yn eu casglu. Caiff y data hwn ei ddefnyddio i gyfrifo cyfraddau ailgylchu awdurdodau lleol sy'n ymwneud â rhwymedigaeth statudol. Yng ngham un, bydd angen i awdurdodau lleol sydd â thrwyddedau casglu gwastraff gydymffurfio â'r rheoliadau (ac eithrio safleoedd HWRC awdurdodau lleol sy'n casglu gwastraff masnachol).
1.12. Gwerth Presennol Net (NPV) cyflwyno DWTS yng Nghymru yw £8.95 miliwn ar gyfer cam 2 a £-419m ar gyfer cam 1. Rydym yn ymwybodol bod yr NPV ar gyfer Opsiwn 2 (h.y. y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth, fel y'i disgrifir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol) yn negyddol, ond mae'n gam angenrheidiol i gyflawni'r ymarferoldeb llawn sy’n angenrheidiol (Opsiwn 3, fel y'i disgrifir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol) ac sydd â NPV cadarnhaol.
1.13. Ar gyfer rhai rhannau o'r sector gwastraff, bydd costau’n cael eu hysgwyddo wrth drawsnewid y gwasanaeth, oherwydd yr angen i ddiweddaru systemau TG presennol i gysylltu â'r DWTS. Bydd ffioedd gwasanaeth blynyddol hefyd i gefnogi’r gwaith o ddarparu'r gwasanaeth, er y bydd y rhain yn isel ac at ddibenion adennill costau a thaliadau rheoleiddiol yn unig. Bydd arbedion i fusnesau trwy symleiddio prosesau adrodd a thrwy wella argaeledd data ar gyfer targedu gwelliannau busnes.
Adran 8: Casgliad
Sut mae’r bobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys wrth ei ddatblygu?
8.1 Bydd diwygiadau DWTS yn arwain at arferion busnesau yn newid o ddefnyddio systemau papur i ddefnyddio system ddigidol. Cynhaliwyd ymgynghoriad â’r cyhoedd ar y cynigion i ddiwygio yn 2022, a hynny ar y cyd â llywodraethau cenhedloedd eraill y DU.
8.2 Daeth 164 o'r ymatebion i ymgynghoriad 2022 ar DWT o Gymru, 23% o gyfanswm yr ymatebion a gafwyd. Roedd ystod eang o'r ymatebwyr naill ai'n weithredwyr safleoedd gwastraff (13%), broceriaid gwastraff neu ddelwyr gwastraff (8%), cludwyr gwastraff (18%) neu gynhyrchwyr gwastraff (18%). Cafwyd ymatebion gan grwpiau neu unigolion eraill sy'n cynrychioli awdurdodau lleol, diwydiant trwy gyrff masnach, elusennau ac aelodau o'r cyhoedd hefyd.
8.3 Yn ogystal â'r ymgynghoriad, mae'r sector rheoli gwastraff ac awdurdodau lleol wedi cynnal profion beta preifat o'r system, wedi eistedd ar grŵp cyd-ddylunio pedair gwlad, ac wedi gallu gweld y dull digidol ar GitHub. Mae swyddogion polisi a rheoleiddwyr o'r pedair llywodraeth wedi cynnal gweminarau, wedi siarad â chyrff masnach ac wedi mynd i gynadleddau er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu diweddaru ar ddatblygiad y system.
8.4 Nid yw'r cynigion yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a'u grwpiau cynrychiolwyr. Efallai y bydd rhai pobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu heffeithio. Felly, mae'r Rheoliadau yn eithrio personau sydd wedi'u hallgau'n ddigidol (a ddiffinnir yn adran 34CA (12) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990) o'r gofynion digidol. Yn hytrach, bydd gofynion amgen ar bersonau o'r fath i greu, i gadw ac i ddarparu cofnodion ysgrifenedig o wybodaeth benodol. Dyfyniad:
““digitally excluded person” means a person—
- who is a practising member of a religious society or order whose beliefs are incompatible with using electronic communications or keeping electronic records, or
- for whom it is not reasonably practicable to use electronic communications or to keep electronic records for any reason (including age, disability or location);”
8.5 Bydd y gwasanaeth yn ddwyieithog yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011; y tu hwnt i hyn, ni fydd effaith uniongyrchol ar siaradwyr Cymraeg a grwpiau cynrychioliadol Cymraeg.
Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn gadarnhaol a negyddol?
8.6 Mae sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n gylchol yn un o’r colofnau allweddol sy’n cynnal strategaeth ‘Mwy Nag Ailgylchu’ Cymru. Fodd bynnag, caiff diffyg data eglur a chywir ei grybwyll yn aml blith y pethau sy’n rhwystro rheoleiddwyr a llunwyr polisi. Hefyd, mae troseddwyr yn aml yn manteisio ar y diffyg cofnodion digidol cyson yn y diwydiant gwastraff, gyda chofnodion papur yn eu galluogi i guddio tystiolaeth o gamddefnydd systemig o wastraff. Yn 2018, fe wnaeth Adolygiad Annibynnol o Droseddau Gwastraff Difrifol a Threfnedig argymell y dylid cyflwyno system ddigidol a gorfodol i olrhain gwastraff cyn gynted ag sy’n bosibl . Hefyd, roedd Ail Adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol Cymru 2020 yn nodi bod cael system ddigidol a gorfodol i olrhain gwastraff yn allweddol os ydym am ddeall llifoedd gwastraff ac adnoddau, ac i allu targedu a chanolbwyntio ymyriadau yn sgil hynny .
8.7 Bydd DWTS yn cyfyngu ar allu troseddwyr gwastraff i gam-drafod ac i gam-ddosbarthu gwastraff, gan leihau digwyddiadau megis tipio anghyfreithlon a safleoedd gwastraff anghyfreithlon sy’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol ac yn peryglu iechyd pobl. Hefyd, bydd cael data eglur a chywir ar gael yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno polisïau yn y dyfodol, gan gynnig mwy o fanylder o ran tarddiad gwastraff a’r llwybrau trin o ganlyniad.
8.8 Mae gwell data ar wastraff hefyd yn cefnogi buddsoddiad yn y sector preifat, gan fagu hyder busnesau a’r marchnadoedd ariannol. Ar hyn o bryd, nid oes gan fusnesau ddigon o wybodaeth ar gyfer adnabod a manteisio ar werth posibl deunyddiau gwastraff wrth leihau costau nwyddau crai ac wrth ddatblygu ffrydiau refeniw newydd. Mae’r methiant hwn yn y farchnad yn rhwystro twf busnesau ac yn mygu dyfeisgarwch. Dro ar ôl tro, mae grwpiau allweddol y diwylliant wedi pwysleisio pwysigrwydd cyflwyno DWTS. Yn yr ymgynghoriad â’r diwydiant a gynhaliwyd yn 2022, gwelwyd bod 79% o’r rhai a ymatebodd yn cytuno â’r cynigion ar gyfer y mathau o wastraff y dylid eu holrhain yn ddigidol, roedd 73% yn cytuno â’r cynigion o ran y gweithgareddau y dylid eu holrhain, a 71% yn cytuno â’r cynnig o ran pryd na ddylai olrhain gwastraff fod yn berthnasol.
8.9 Bydd DWTS, gydag amser, yn caniatáu i symudiad gwastraff gael ei olrhain o ddechrau’r daith hyd y diwedd, gan gefnogi rheoleiddwyr, llunwyr polisïau, a’r diwydiant i greu economi gylchol. Bydd yn gwella ansawdd, cwmpas, cywirdeb ac amseroldeb data gwastraff, ac yn ei gwneud yn fwy hygyrch ac yn gwella’r defnyddioldeb i fusnesau, rheoleiddwyr, a’r llywodraeth.
Mae’r Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru wedi nodi y gall arloesi digidol arwain ar well gyfleoedd economaidd ac at greu cymdeithas sydd yn fwy cydlynol ac â gwell gallu digidol. Bydd DWTS yn galluogi busnesau gwastraff Cymru i ddigideiddio eu data a symud tuag at ddefnyddio modelau gweithredu sy’n fwy gwydn ac yn fwy parod ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. Bydd hyn yn galluogi twf cylchol yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi cyfleoedd i gymunedau fuddsoddi a datblygu Cymru a all gyflawni sero net yn ogystal â thwf cynaliadwy.
8.10 Mae'r cyfle i leihau faint o lygryddion organig parhaus (POPs) a deunyddiau peryglus eraill sy’n cael eu gwaredu’n anghywir a gynigir gan DWTS yn fudd iechyd posibl i bobl Cymru.
8.11 Mae’r diwygiad hwn yn rhan allweddol o’n dull o gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i greu economi gryfach a gwyrddach, i weithredu ar ddatgarboneiddio ac i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur.
Gan ystyried yr effeithiau a nodwyd, sut fydd y cynnig:
- yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu;
- yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
8.12 Nod DWTS yw gwella cwmpas, ansawdd, cywirdeb a phrydlondeb data gwastraff er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch a defnyddiol i fusnesau, rheoleiddwyr a'r llywodraeth. Gallwn ddefnyddio’r data gwell hwn er mwyn creu Cymru sy’n ffynnu, sy’n gydnerth, ac sy’n fwy cyfartal. Gallwn wneud y mwyaf o werth adnoddau, ysgogi arloesedd a chynhyrchiant, a lleihau niwed amgylcheddol – gan gynnwys drwy atal a chanfod troseddau gwastraff.
8.13 Ar hyn o bryd, nid yw busnesau yn meddu ar y wybodaeth angenrheidiol er mwyn adnabod a datgloi gwerth posibl deunyddiau gwastraff—sy’n cyfyngu ar eu gallu i leihau costau deunyddiau crai ac i ddatblygu ffrydiau refeniw newydd. Mae hwn yn fethiant yn y farchnad sy'n rhwystro twf ac yn mygu arloesedd. Er y bydd gan fusnesau gostau ychwanegol wrth gydymffurfio â DWTS, bydd y system newydd yn darparu gwell data i fusnesau yng Nghymru, gan eu galluogi i ddatgloi cyfleoedd ar gyfer twf cylchol, i greu swyddi gwyrdd ac i weithredu ar newid hinsawdd.
8.14 Mae cyflwyno DWTS yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni amcanion llesiant canlynol Llywodraeth Cymru:
- ‘Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl’ ac ‘Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’. Mae’r gwasanaeth hwn yn cefnogi symudiad tuag at economi mwy cylchol, ac mae’n gwneud hynny trwy gynhyrchu data a allai wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau allyriad nwyon tŷ gwydr yn sgil hynny. Bydd hefyd yn lleihau’r nifer o weithgareddau gwastraff anghyfreithlon sy'n achosi niwed amgylcheddol.
- ‘Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol’. Bydd y system yn cefnogi’r gwaith o adeiladu economi sy'n seiliedig ar gynaliadwyedd, gan leihau arferion anghyfreithlon gan fusnesau ynghylch gwastraff a cham alluogi twf pellach yn y sector ailgylchu.
8.15 Mae'r cynllun hefyd yn cyfrannu'n uniongyrchol at y Nodau Llesiant drwy:
- Gymru Lewyrchus ͏– cefnogi'r symudiad tuag at gael Cymru sydd yn gylchol, yn diwastraff ac â charbon sero net erbyn 2050. Disgwylir y bydd DWTS yn cynyddu cyfraddau ailgylchu yng Nghymru, yn gwella effeithlonrwydd adnoddau ac yn lleihau'r defnydd o ddeunyddiau crai newydd, gan helpu i ddal adnoddau i'w defnyddio mewn economi gylchol yn fwy effeithiol.
- Cymru Gydnerth – cyfrannu at echdynnu llai o ddeunyddiau crai a’r dinistr cysylltiedig i gynefinoedd, a thrwy hynny hefyd ddiogelu bioamrywiaeth.
- Bydd lleihau achosion o dipio anghyfreithlon ac arferion rheoli gwastraff anghyfreithlon eraill yn gwella ardaloedd lleol ac yn lleihau llygredd amgylcheddol, gan arwain at Gymru Iachach.
- Cymru â Diwylliant Bywiog – cefnogi enw da Cymru fel cenedl sy’n ailgylchu ac sydd â diwylliant ailgylchu y mae pobl a chymunedau'n falch ohono.
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang – cymell cynnydd mewn effeithlonrwydd adnoddau a lleihau’r defnydd deunyddiau crai, a thrwy hynny gyfrannu at lai o ddinistrio cynefinoedd a llai o allyriadau.
Sut fydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?
8.16 Bydd Swyddfa Reoli Rhaglen (PMO) Casgliadau a Diwygio Pecynnu (CPR) Defra yn cydlynu'r gwaith o gasglu'r gwersi a ddysgwyd o'r prosiect DWTS, gan gynnwys cyfeiriadau at adroddiadau perthnasol, megis adroddiad gwersi a ddysgwyd ar gychwyn prosiect gan yr Awdurdod Prosiectau Annibynnol a Defra. Mae'r gwersi a ddysgwyd o brosiectau eraill wedi cael eu defnyddio, yn enwedig o iteriadau blaenorol o'r Prosiect Olrhain Gwastraff ac o Gyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig dros Becynwaith. Hefyd, fel y nodir yn y RIA, y bwriad yw monitro effaith y polisi olrhain gwastraff gyda'r bwriad o werthuso'r mesurau rheoleiddio mewn adolygiad ôl-weithredol yn 2028.
8.17 Bydd rheoleiddwyr, gan gynnwys CNC, yn cynhyrchu adroddiadau ar gydymffurfiaeth ac integreiddio'r system, gan weithio gyda diwydiant a'r sector rheoli gwastraff. Bydd y prosiect yn cymryd adborth gan randdeiliaid ac yn ei integreiddio i ddatblygiad parhaus y DWTS.
8.18 Bydd llunwyr polisi Llywodraeth Cymru yn parhau i gael adborth gan y diwydiant a chan awdurdodau lleol drwy fforymau sydd eisoes wedi'u sefydlu ar gyfer y sector gwastraff. Bydd gwaith ar y cyd yn parhau rhwng y pedair cenedl, gyda llywodraethau'n rhannu gwersi a ddysgwyd ac yn chwilio am welliannau yn y dyfodol i sicrhau bod y system yn effeithlon ac effeithiol i bob plaid.
