Neidio i'r prif gynnwy

Esbonio sut y gallwch ailddefnyddio gwybodaeth am y gwasanaeth hon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r deunydd a welir ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol.

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (ac eithrio fel y disgrifir isod) yn rhad ac am ddim ar unrhyw fformat neu gyfrwng, yn unol â thelerau ac amodau Trwydded Llywodraeth Agored f3.0 ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fo unrhyw un o eitemau hawlfraint y Goron ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.

Nid yw'r caniatâd uchod i ddefnyddio cynnwys ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ymestyn i:

  • unrhyw enw neu logo ar gyfer Gwasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Cymru neu unrhyw logo neu enw arall ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru
  • unrhyw ddelweddau a allai ymddangos ar Wasanaeth Swyddi Llywodraeth Cymru (dim ond gyda'n caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw y gellir defnyddio'r rhain)
  • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu Gwasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru
  • unrhyw ddeunydd ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru y nodir sy’n hawlfraint trydydd parti neu’n nodau masnach sy'n perthyn i drydydd parti. Mae'n rhaid i chi gael caniatâd i ddefnyddio unrhyw hawlfraint trydydd parti yn uniongyrchol gan y trydydd parti.

Bydd unrhyw hawlfraint neu hawl eiddo deallusol arall mewn unrhyw gynnwys neu ddeunydd a gyflwynir gennych chi i ni drwy ddefnyddio Gwasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi'i freinio i chi neu wedi'i drwyddedu i chi. Drwy gyflwyno cynnwys neu ddeunydd tybir eich bod wedi rhoi'r holl drwyddedau di-freindal angenrheidiol i ni (neu, fel y bo'n briodol, is-drwyddedau) i'n galluogi i ddefnyddio'r cynnwys neu'r deunydd hwnnw at y dibenion y cyfeirir atynt yn y polisi preifatrwydd perthnasol.

Mae'r enwau, y delweddau a'r logos sy'n nodi Llywodraeth Cymru yn nodau perchnogol o eiddo Llywodraeth Cymru. Ni chaniateir copïo na defnyddio logos Llywodraeth Cymru nac/neu unrhyw logos trydydd parti arall a gyrchir drwy'r wefan hon heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y perchennog perthnasol.

Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logos Llywodraeth Cymru at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru.