Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac amodau ar gyfer gwasanaeth swyddi a phenodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gwasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel "y Gwasanaeth") yn System Olrhain Ymgeiswyr e-recriwtio sy'n cael ei rheoli ar ran Gweinidogion Cymru, a chyfeiriad eu prif swyddfa yw Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Derbyn y telerau ac amodau defnyddiwr hyn

Mae'r telerau ac amodau hyn (ynghyd â'r dogfennau y cyfeirir atynt yma) yn nodi ar ba delerau y gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth.

Wrth greu cyfrif defnyddiwr, gofynnir i chi dderbyn a chytuno ar y telerau ac amodau hyn. Os na fyddwch yn derbyn y telerau ac amodau hyn, ni fyddwch yn gallu sefydlu cyfrif defnyddiwr a chael mynediad at y gwasanaethau. Wrth gael cyfrif defnyddiwr a mynediad at y Gwasanaeth, rydych chi’n cytuno i’r canlynol:

  • i fod yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau hyn
  • darparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn mewn unrhyw ffurflen gais neu mewn perthynas ag unrhyw un o'r gwasanaethau rydych chi'n eu cyrchu trwy’r Gwasanaeth
  • rhoi gwybod i ni yn brydlon am unrhyw newid i unrhyw wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi i ni er mwyn cadw'r wybodaeth a gedwir gennym yn wir, yn gywir ac yn gyflawn

Enw defnyddiwr a chyfrinair

Eich enw defnyddiwr fydd y cyfeiriad e-bost a ddarperir gennych wrth wneud cais am gyfrif defnyddiwr. Fel rhan o'r cais am gyfrif defnyddiwr, gofynnir i chi ddarparu cyfrinair sy'n bodloni ein gofynion.

Rhaid i'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair fod yn bersonol i chi. Rhaid i chi gadw’ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser a rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i'w diogelu.

Rhaid i chi beidio â rhannu eich cyfrinair gyda pherson arall na chaniatáu i unrhyw berson arall gyrchu neu ddefnyddio’r Gwasanaeth gan ddefnyddio'ch cyfrif defnyddiwr.

Rydych chi'n gyfrifol am yr holl weithgaredd ar y Gwasanaeth a wnaed gan ddefnyddio'ch cyfrif defnyddiwr p'un ai chi sy’n ei ddefnyddio mewn gwirionedd ai peidio. Os ydych chi’n amau bod unrhyw berson arall wedi defnyddio neu yn defnyddio'ch cyfrif defnyddiwr, rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith drwy e-bostio'r Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol.

Efallai y byddwn yn defnyddio'r manylion a ddarperir ar eich cyfrif defnyddiwr i gysylltu â chi ynglŷn â'ch defnydd o'r Gwasanaeth. Gallwch ddiweddaru'r rhain ar unrhyw adeg trwy fewngofnodi i'ch cyfrif personol a diweddaru'r adran Manylion Personol.

Defnyddio Gwasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a’ch platfform wedi'u ffurfweddu er mwyn cael mynediad at y Gwasanaeth.

Rydych chi’n cydnabod ac yn cytuno, drwy gyflwyno unrhyw ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth:

  • eich bod yn cynrychioli ac yn gwarantu bod y cyfryw ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol; ac,
  • y gellir eich dal i gyfrif am unrhyw anghywirdebau neu gamsylwadau sy'n ymwneud â’r cyfryw ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd.

Bydd unrhyw ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd a gyflwynir gennych wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio gennym ni yn unig (neu ein cynrychiolwyr awdurdodedig) at y dibenion y cawsant eu cyflwyno ar eu cyfer ac i wirio bod y wybodaeth a ddarperir yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol.

Rydym yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg i'w gwneud yn ofynnol i chi (a) ddarparu unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol i gefnogi gwybodaeth a gyflwynir gennych; neu (b) fodloni gofynion ychwanegol i ddiwallu ein hanghenion.

Wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r telerau ac amodau hyn.

Rydych chi hefyd yn cytuno i:

(a) peidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu ailddefnyddio unrhyw ran o’r Gwasanaeth yn groes i ddarpariaethau'r telerau ac amodau hyn a/neu ein datganiad hawlfraint a/neu ein hysbysiad preifatrwydd

(b) peidio â chael mynediad heb awdurdod, ymyrryd â, difrodi neu darfu ar:      

  1. unrhyw ran o’r Gwasanaeth
  2. unrhyw offer neu rwydwaith lle mae'r Gwasanaeth yn cael ei storio
  3. unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu’r Gwasanaeth

Gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth at ddibenion cyfreithiol yn unig. Ni chewch ddefnyddio’r Gwasanaeth:

  1. mewn unrhyw ffordd sy'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol
  2. mewn unrhyw ffordd sy'n anghyfreithlon neu'n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw ddiben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus
  3. i drosglwyddo, neu drefnu i anfon unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo digymell neu anawdurdodedig neu unrhyw fath arall o ddeisyfiad tebyg (sbam)
  4. i drosglwyddo unrhyw ddata yn fwriadol, anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys feirysau, ffeiliau cuddliw (trojans), mwydod, bomiau rhesymeg, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw ddeunydd arall sydd wedi'i gynllunio i effeithio'n andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol neu sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol
  5. ymyrryd â neu geisio ymyrryd ag unrhyw fesurau diogelwch sy'n perthyn i’r Gwasanaeth neu'n ymwneud ag ef
  6. i gael mynediad, copïo, addasu neu geisio cyrchu, copïo neu addasu unrhyw ran o'r meddalwedd cyfrifiadurol ar gyfer y Gwasanaeth
  7. defnyddio’r Gwasanaeth mewn unrhyw ffordd a allai ei niweidio neu amharu ar unrhyw ddefnydd arall ohono

Ni ddylech:

  1. geisio cael mynediad heb awdurdod at y Gwasanaeth, y gweinydd y mae'r Gwasanaeth yn cael ei storio arno neu unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â’r Gwasanaeth
  2. ymosod ar y Gwasanaeth trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth dosbarthedig
  3. cyrchu neu geisio cael mynediad at gyfrifon sy'n perthyn i ddefnyddwyr eraill y Gwasanaeth neu i unrhyw wasanaeth, dyfais, data, cyfrif neu rwydwaith arall nad oes gennych awdurdod i'w defnyddio

Drwy fynd yn groes i’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Mae'n anghyfreithlon achosi niwed iddo yn fwriadol neu i unrhyw gyfleuster neu ddata electronig o eiddo Llywodraeth Cymru drwy drosglwyddo’n fwriadol unrhyw god neu orchymyn gwybodaeth am raglenni.  Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o'r fath i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol a byddwn yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu pwy ydych chi iddynt. Os bydd toriad o'r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Gwasanaeth yn dod i ben ar unwaith.

Diogelu ac amddiffyn rhag feirysau

Er y byddwn yn cymryd camau rhesymol i wirio a phrofi’r Gwasanaeth, rhaid i chi gymryd eich rhagofalon eich hun i sicrhau nad yw'r broses rydych chi'n ei defnyddio i gael mynediad at y Gwasanaeth yn eich amlygu i'r risg o feirysau, codau cyfrifiadur maleisus neu fathau eraill o ymyrraeth a allai niweidio eich system gyfrifiadurol. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-feirws ar unrhyw beth rydych chi'n ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd.

Ni ellir gwarantu trosglwyddiad cwbl ddiogel unrhyw ddata dros y rhyngrwyd. Er ein bod yn ymdrechu i ddiogelu unrhyw ddata neu wybodaeth a ddarperir i ni, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei throsglwyddo i ni. Yn unol â hynny, mae trosglwyddiad o'r fath ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled sy'n deillio o ddefnyddio’r Gwasanaeth. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch system gyfrifiadurol na'ch data a achosir wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth neu sy’n deillio o ganlyniad i fod wedi defnyddio’r Gwasanaeth.

Argaeledd Gwasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Os bydd unrhyw darfu i’r mynediad at y Gwasanaeth, byddwn yn cymryd camau rhesymol i'w adfer cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, gellir atal mynediad at y Gwasanaeth ar unrhyw adeg heb rybudd.

Eich cyfrifoldeb chi yw ffeilio unrhyw gais neu wybodaeth arall yn brydlon. Os bydd unrhyw darfu i’r mynediad at y Gwasanaeth neu os bydd mynediad yn cael ei atal mewn unrhyw ffordd, eich cyfrifoldeb chi o hyd yw cydymffurfio ag unrhyw derfynau amser cymwys.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw darfu neu fethiant i sicrhau bod y Gwasanaeth ar gael.

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad at y Gwasanaeth os bernir bod hynny’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn cyfanrwydd y Gwasanaeth. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled sy'n deillio o ddefnyddio’r Gwasanaeth.

Cysylltu â ac o wefannau trydydd parti

Dim ond gyda chaniatâd penodol Llywodraeth Cymru y gallwch ac y caniateir i chi ddarparu dolenni i hafan y Gwasanaeth. Er mwyn gofyn am ganiatâd o'r fath, e-bostiwch y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol.

Os cewch ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â hafan y Gwasanaeth gallwch wneud hynny ar yr amod:

  • eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n deg a chyfreithiol ac nad yw'n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno; ac
  • nad ydych yn cysylltu yn y fath fodd ag y byddai’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan lle nad yw’n bodoli.

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.

Darperir unrhyw ddolenni a ddarperir ar y Gwasanaeth at unrhyw wefannau ac adnoddau trydydd parti er gwybodaeth yn unig ac ni ddylid eu cymryd fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau hynny, eu hadnoddau na'r data a gesglir ganddynt ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o'ch defnydd ohonynt.

Ni allwn warantu y bydd unrhyw ddolenni a ddarperir ar y Gwasanaeth yn gweithio bob amser.

Hawlfraint perchnogaeth a hawliau perchnogaeth

Mae'r deunydd a welir ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i ddiogelwch hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol.

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (ac eithrio fel y disgrifir isod) yn rhad ac am ddim ar unrhyw fformat neu gyfrwng, yn unol â thelerau ac amodau Trwydded Llywodraeth Agored f3.0 ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.  Pan fo unrhyw un o eitemau hawlfraint y Goron ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.

Nid yw'r caniatâd uchod i ddefnyddio cynnwys ar Wasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ymestyn i:

  • unrhyw enw neu logo ar gyfer neu gan y Gwasanaeth, Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Cymru neu unrhyw logo neu enw arall ar y Gwasanaeth;
  • unrhyw ddelweddau a allai ymddangos ar y Gwasanaeth (dim ond gyda'n caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw y gellir defnyddio'r rhain);
  • unrhyw feddalwedd a ddefnyddir i ddarparu’r Gwasanaeth; ac
  • unrhyw ddeunydd ar y Gwasanaeth y nodir sy’n hawlfraint trydydd parti neu’n nodau masnach sy'n perthyn i drydydd parti. Mae'n rhaid i chi gael caniatâd i ddefnyddio unrhyw hawlfraint trydydd parti yn uniongyrchol gan y trydydd parti.

Bydd unrhyw hawlfraint neu hawl eiddo deallusol arall mewn unrhyw gynnwys neu ddeunydd a gyflwynir gennych chi i ni drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth yn parhau i fod wedi'i freinio i chi neu wedi'i drwyddedu i chi. Drwy gyflwyno cynnwys neu ddeunydd tybir eich bod wedi rhoi'r holl drwyddedau di-freindal angenrheidiol i ni (neu, fel y bo'n briodol, is-drwyddedau) i'n galluogi i ddefnyddio'r cynnwys neu'r deunydd hwnnw at y dibenion y cyfeirir atynt yn y polisi preifatrwydd perthnasol.

Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logos Llywodraeth Cymru at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru.

Cwcis a pholisi preifatrwydd: gwybodaeth amdanoch chi a'ch defnydd o'r Gwasanaeth

Byddwn yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd. Trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth rydych chi’n cydsynio i’r cyfryw brosesu ac rydych chi’n gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych chi’n gywir.

Rhyddid Gwybodaeth

Rydym yn ddarostyngedig i'r cyfreithiau sy'n llywodraethu mynediad at wybodaeth fel y nodir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ("DRhG") ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â mynediad at wybodaeth. Er y gall yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu i ni fod yn ddatgeladwy, mae eithriadau o ran datgeliad a lle byddwn yn ystyried bod hynny'n bosibl, byddwn yn ceisio dibynnu ar y cyfryw eithriadau. Byddwn yn ymgynghori â chi pryd bynnag y bo hynny’n bosibl os byddwn yn derbyn cais am y wybodaeth rydych wedi'i darparu. Fodd bynnag, rydych chi’n cydnabod y gallwn ddatgelu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi y barnwn sydd, yn ôl ein disgresiwn llwyr, yn ofynnol i ni ei datgelu yn unol â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a/neu unrhyw ofyniad statudol arall.

Atebolrwydd

Er ein bod yn cymryd camau rhesymol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd y wybodaeth sy'n ymddangos ar y Gwasanaeth, darperir y Gwasanaeth ar sail 'fel y mae' a ‘phan mae ar gael' heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a wneir a heb warant o unrhyw  fath boed yn benodol neu’n oblygedig, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r gwarantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, cadw at reolau, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb.

Nid ydym yn gwarantu y bydd y deunyddiau sy'n ymddangos ar y gwasanaeth TG yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau, y bydd eich defnydd o’r Gwasanaeth yn ddi-dor,  y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu nad yw'r Gwasanaeth neu'r gweinydd sy'n  sicrhau ei fod ar gael yn rhydd o feirysau. Nid ydym ychwaith yn cynrychioli swyddogaeth lawn, cywirdeb neu ddibynadwyedd y deunyddiau.

Ni fyddwn yn cymryd cyfrifoldeb nac yn atebol am unrhyw hawliad, golled neu ddifrod (gan gynnwys dirwyon heb gyfyngiad, costau a threuliau) sut bynnag y byddant yn codi mewn contract, camwedd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, esgeulustod) neu ddyletswydd statudol mewn cysylltiad â defnyddio neu golli defnydd o'r Gwasanaeth gan gynnwys, heb gyfyngiad, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol; unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddefnyddio neu golli defnydd neu lygredd data; colled economaidd; colli busnes; colli elw neu golli ewyllys da.

Nid yw'r uchod yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy'n deillio o'n hesgeulustod, na'n hatebolrwydd am gamliwio neu gamliwio twyllodrus ynghylch mater sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu ei gyfyngu o dan y gyfraith berthnasol.

Cyffredinol

Mae'r Gwasanaeth yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Os bydd yr angen yn codi, efallai y byddwn yn atal mynediad at y Gwasanaeth, neu yn ei gau am gyfnod amhenodol.

Efallai y byddwn yn adolygu'r telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw a disgwylir i chi eu gwirio o bryd i'w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn rhwymo chi. Gall rhai o'r darpariaethau a gynhwysir yn y telerau ac amodau hyn hefyd gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar y Gwasanaeth.

Os byddwn yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael i ni o dan y telerau ac amodau hyn ar unrhyw achlysur, nid yw hyn yn golygu y bydd yr hawliau hynny'n cael eu hepgor yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall neu ddilynol.

Os tybir bod unrhyw ran o'r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu'n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau a'r amodau sy'n weddill yn parhau mewn grym llawn er hynny.

Bydd y telerau ac amodau hyn yn llywodraethu eich mynediad at y Gwasanaeth ac yn eithrio unrhyw delerau ac amodau eraill a gynigir gennych chi.

Cyfraith lywodraethol

Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y telerau ac amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Adborth a chwynion

Os oes gennych chi unrhyw gwynion, unrhyw gwestiynau neu os hoffech ddarparu adborth am y Gwasanaeth, cysylltwch â'r Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol.