Gwasanaeth ynni: adroddiad effaith 2025 i 2026
Sut mae’r Gwasanaeth Ynni wedi cefnogi prosiectau effeithlonrwydd ynni, fflyd ac ynni adnewyddadwy rhwng 2025 a 2026.
Ar y dudalen hon
Ein heffaith
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol, gyda'r nod o greu Cymru wyrddach, gryfach a thecach.
Ers 2018, mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol ledled Cymru i fwrw ymlaen â phrosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Rydym yn ysgogi cynnydd, o ddatblygu a dylunio cysyniadau, hyd at sicrhau cyllid a chaffael cyflenwyr. Ochr yn ochr â'n cymorth technegol, rydym yn defnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer gwres carbon isel, prosiectau ynni adnewyddadwy a datblygu cyfnod cynnar, gan helpu i gyflymu a thyfu cynnydd tuag at sero net.
Mae'r gwaith hwn yn cynnwys prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gosodiadau solar ffotofoltaidd, gwelliannau effeithlonrwydd ynni, gwella systemau gwresogi carbon isel, a chyflwyno fflydoedd di-garbon, pob un ohonynt yn cyfrannu at uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
Nid yw byth yn hawdd troi uchelgais yn effaith. Gan weithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol, rwy'n falch o effaith gynyddol y Gwasanaeth Ynni. Er bod allyriadau'r sector cyhoeddus yn parhau i fod yn uchel ac mae angen gweithredu’n gyflymach, mae ein gwaith hefyd yn creu swyddi, yn meithrin sgiliau, yn darparu gwerth cymdeithasol ac yn cefnogi twf economaidd ledled Cymru. Gyda llywodraeth newydd yn ei lle, mae cyfle ar gyfer uchelgais o'r newydd, ac mae'r Gwasanaeth Ynni yma i helpu i'w wireddu.
David Powlesland, Pennaeth y Gwasanaeth Ynni.
Manylion cyfrifo
Mae'r arbedion oes yn amcangyfrif o gyfanswm arbedion ariannol a charbon dros oes weithredol y prosiect. Mae arbedion carbon wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio'r ffactorau trosi carbon cyfredol a ddarperir gan Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU a'u lluosi ag oes economaidd amcangyfrifedig y prosiect. Mae'r cyfrifiad carbon bellach hefyd yn adbrisio datgarboneiddio grid y DU a ragwelir dros oes economaidd gan ddefnyddio ffactorau carbon trydan a ragwelir o Senarios Ynni Dyfodol y Grid Cenedlaethol. Mae hyn yn welliant ar y 'fethodoleg ffactor dyfalbarhad' a ddefnyddiwyd yn flaenorol ac mae'n ystyried llai o arbedion carbon wrth i'r DU barhau i ddatgarboneiddio'r grid. Amcangyfrifwyd arbedion ariannol dros oes economaidd bosibl technoleg, gan ddefnyddio cyfraddau cyfleustodau a ragwelir ar gyfer y Sectorau Masnachol a Chyhoeddus o'r 'Green Book Supplementary Guidance'
Mae 'cwblhau ariannol' yn golygu bod y prosiectau wedi ymrwymo cyllid yn ffurfiol a bod tebygolrwydd uchel y bydd y prosiect yn bwrw ymlaen i weithredu/gosod. Gallai'r cyllid hwn ddod o amrywiaeth o ffynonellau megis cronfeydd mewnol sefydliad ei hun, Rhaglen Ariannu Cymru, Cronfa Benthyciadau Ynni Lleol Llywodraeth Cymru, cyfranddaliadau cymunedol neu ffynonellau eraill. Nid yw cyfran fach o brosiectau yn symud ymlaen i weithredu, am wahanol resymau. Ar gyfer unrhyw brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, byddai cyllid prosiect sydd wedi'i derfynu yn cael ei ryddhau ar gyfer prosiectau datgarboneiddio eraill.
Effaith gyffredinol Gorffennaf 2018 i Mawrth 2026
Effeithiau prosiectau a weithredwyd
Rydym wedi llwyddo i gefnogi'r gwaith o osod ynni adnewyddadwy, systemau ynni adeiladau, gwres carbon isel a phrosiectau trafnidiaeth di-allyriadau ledled Cymru:
Lefel y buddsoddiad
- Mae mentrau sector cyhoeddus a chymunedol wedi buddsoddi £344 miliwn i osod ynni adnewyddadwy, systemau ynni adeiladau, gwres carbon isel a phrosiectau trafnidiaeth di-allyriadau.
Cynhyrchu ynni
- Wedi gosod 64 MW o allu ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru, gan gryfhau cydnerthedd ynni Cymru a lleihau cysylltiau ag anwadalrwydd prisiau.
Rhagolwg effaith ariannol
- Amcangyfrifir y bydd £560 miliwn mewn arbedion ac incwm lleol dros oes y prosiectau.
Rhagolwg arbedion carbon
- Bydd y prosiectau hyn yn arbed amcangyfrif o 1.5 miliwn tunnell o CO2e dros oes y prosiectau.
Dysgwch sut mae'r Gwasanaeth Ynni wedi cefnogi uchelgeisiau sero net a phrosiectau llwyddiannus ar lawr gwlad ers 2018: Y Gwasanaeth Ynni: troi uchelgais Sero Net yn gyflawniad
Prosiectau
Nifer y prosiectau a osodwyd gennym yn ôl math o dechnoleg, 2018 i 2026
- 381 prosiect fflyd cerbydau di-allyriadau (ZEV) a phrosiectau gwefru cerbydau trydan
- 222 o osodiadau effeithlonrwydd ynni adeiladau a phaneli solar ar y to
- 141 o systemau gwresogi carbon isel
- 34 o oleuadau stryd ynni-effeithlon wedi’u gosod
- 14 o ffermydd solar annibynnol
- 4 prosiect pŵer gwynt
- 3 prosiect ynni dŵr
Nifer y prosiectau a osodwyd gennym yn ôl math o sefydliad, 2018 i 2026
- 562 prosiect ar gyfer awdurdodau lleol
- 64 prosiect ar gyfer byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru
- 51 prosiect ar gyfer sefydliadau cymunedol
- 32 prosiect ar gyfer prifysgolion
- 27 prosiect ar gyfer gwasanaethau tân ac achub
- 16 prosiect ar gyfer colegau
- 10 prosiect ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- 11 prosiect ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
- 9 prosiect ar gyfer cynghorau cymuned
- 17 prosiect ar gyfer sefydliadau eraill gan gynnwys y Cyngor Chwaraeon, Parciau Cenedlaethol, yr Heddlu, Trafnidiaeth Cymru ac ar draws Ystad Llywodraeth Cymru
Ein cyflawniadau yn 2025 i 2026
Yr hyn y gwnaethom ei gefnogi a’u lleoliad yn 2025 i 2026
Yn 2025 i 2026, sicrhawyd £146 miliwn ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, gwres carbon isel a fflyd di-allyriadau, gan gynnwys £42.7 miliwn mewn grantiau sy'n cefnogi 163 o brosiectau ar draws chwe chynllun (cefnogi hyd at gwblhau ariannol):
- 136 prosiect ar gyfer 21 awdurdod lleol
- 12 prosiect ar gyfer 6 prifysgol
- 10 prosiect ar gyfer 8 menter gymunedol
- 10 prosiect ar gyfer 3 gwasanaeth tân ac achub
- 9 prosiect ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru
- 8 prosiect ar gyfer 5 bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau
- 4 prosiect ar gyfer 2 goleg
- 3 prosiect ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Cymru
- 3 prosiect ar gyfer Ystad Llywodraeth Cymru
- 1 prosiect ar gyfer 1 parc cenedlaethol
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi grwpiau sector cyhoeddus a chymunedol ar bob cam o’r llwybr datblygu prosiect. Ochr yn ochr â'r prosiectau a gyrhaeddodd y cam cael yr arian, fe wnaethom gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy strategol ar raddfa fawr i fodloni gatiau cyfnod allweddol y llynedd. Fe wnaethom sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer tri phrosiect adnewyddadwy gyda chynhwysedd cynhyrchu ynni cyfunol o 9.9 MW. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, bydd y prosiectau hyn yn rhoi hwb i allu ynni adnewyddadwy ledled Cymru, yn ogystal â chyfraniad perchnogaeth leol.
Y tu hwnt i sicrhau cyllid, mae ein ffocws wedi bod ar ddatblygu llif cryf o brosiectau’r dyfodol, gan sicrhau cynnydd hirdymor tuag at sero net. Bydd bwrw ymlaen â chynlluniau adnewyddadwy strategol yn chwarae rhan allweddol wrth gynyddu capasiti, diogelwch ynni a pherchnogaeth leol i Gymru yn y blynyddoedd nesaf.
Sam Wright-Green, Uwch Reolwr, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Gwrandewch ar straeon y bobl y tu ôl i'r prosiectau. Tapiwch isod i wylio astudiaeth achos fideo o ddau o'n prosiectau.
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: Energy Service Case Study: Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru/North Wales Fire and Rescue Service
Fferm Solar Bwlchygwynt Ynni Teg: Energy Service Case Study: Fferm Solar Bwlchygwynt / Bwlychygwynt Solar Farm
Adrodd ar sero net gan sector cyhoeddus Cymru
Mae tryloywder ac atebolrwydd yn rhan hanfodol o lwybr sector cyhoeddus Cymru tuag at sero nesaf. Yn ogystal â thracio cynnydd a galluogi penderfyniadau polisi a chyllido mwy gwybodus, mae mesur allyriadau'r sector cyhoeddus yn gywir yn ein galluogi i gydnabod a dathlu'r cynnydd y mae cyrff cyhoeddus Cymru yn ei wneud. Mae mesur allyriadau'r sector cyhoeddus yn gywir yn rhan annatod o olrhain cynnydd yn erbyn yr uchelgais hon gan alluogi penderfyniadau polisi a chyllido mwy gwybodus.
Cyflwynodd 82 o sefydliadau sector cyhoeddus eu data allyriadau yn wirfoddol trwy dempled casglu data allyriadau. Y cyfnod cyflwyno ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus oedd rhwng mis Ebrill a mis Medi 2025. Yna fe wnaeth y Gwasanaeth Ynni gasglu, sicrhau ansawdd a dadansoddi'r canlyniadau, gan weld cynnydd o 12% yng nghyfanswm allyriadau Cymru gyfan rhwng 2023 i 2024 a 2024 i 2025.
Fe wnaeth y Gwasanaeth Ynni gyflawni’r prif ofynion adrodd, yn ogystal â ffrydiau gwaith datblygu cynlluniau ychwanegol sy'n canolbwyntio ar wella cywirdeb adrodd, darparu offer newydd a safoni prosesau adrodd, yn enwedig ar gyfer allyriadau'r cadwyni gyflenwi.
Yn 2024 i 2025, cynhyrchodd Sector Cyhoeddus Cymru amcangyfrif o 3,958 cilo tunnell o garbon deuocsid cyfwerth (ktCO2e), sy'n cyfateb i allyriadau gwresogi blynyddol 1.4 miliwn o gartrefi (Sylwch fod Colegau a Phrifysgolion wedi adrodd allyriadau yn seiliedig ar flwyddyn academaidd 2023 i 2024). Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 12% yn allyriadau Sector Cyhoeddus Cymru o'i gymharu â 2023-24.
Nid yw'r cynnydd yng nghyfanswm yr allyriadau yn golygu bod y sector cyhoeddus yn dod yn fwy carbon dwys. Mae llawer o'r newid yn cael ei ysgogi gan bod mwy o sefydliadau sy’n adrodd yn cymryd rhan (cynnydd 74% ers 2020, a 4% ers 2023-24), data mwy cyflawn a setiau data cenedlaethol wedi'u diweddaru (wedi’u cynhyrchu gan yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net a Defra) ar ddwyster carbon economi'r DU.
Mae'r cyhoeddiadau'n cynnwys adroddiad technegol llawn, crynodeb byr a dangosfwrdd rhyngweithiol i archwilio allyriadau yn ôl sector a chategori.
Cyfanswm yr allyriadau ar gyfer holl gyrff sector cyhoeddus Cymru yn 2025 oedd 3,958 ktCO2e, i’w weld isod yn ôl math o sefydliad a ffynhonnell allyriadau:
Math o sefydliad
- Awdurdodau Lleol: 1,784 ktCO2e (45%)
- GIG Cymru: 1,371 ktCO2e (35%)
- Cyrff sector cyhoeddus eraill: 337 ktCO2e (9%)
- Prifysgolion: 265 ktCO2e (7%)
- Llywodraeth Cymru: 131 ktCO2e (3%)
- Colegau: 45 ktCO2e (1%)
- Gwasanaethau Tân ac Achub: 20 ktCO2e (<1%)
- Awdurdod Parc Cenedlaethol: 3 ktCO2e (<1%)
- Cyd-bwyllgor Corfforedig: 2 ktCO2e (<1%)
Ffynhonnell allyriadau
- Y gadwyn gyflenwi: 2,963 ktCO2e (75%)
- Adeiladau: 546 ktCO2e (14%)
- Trafnidiaeth: 430 ktCO2e (11%)
- Nwyon meddygol: 11 ktCO2e (<1%)
- Gwastraff: 8 ktCO2e (<1%)
Sut mae'r Gwasanaeth Ynni yn cefnogi'r sector cyhoeddus a chymunedau i gyflawni eu huchelgeisiau sero net
Systemau Ynni Adeiladau
Yn ystod 2025 i 2026, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus ledled Cymru i gefnogi datgarboneiddio parhaus yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Fe wnaethom gefnogi cyflwyno prosiectau effeithlonrwydd ynni, gwresogi carbon isel ac ynni adnewyddadwy mewn adeiladau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys gosod pympiau gwres, goleuadau LED, paneli solar ffotofoltaidd, systemau trin aer newydd, inswleiddio a dulliau rheoli Systemau Rheoli Adeiladau, pob un yn canolbwyntio ar ddefnyddio llai o ynni.
Y tu hwnt i arbedion ynni, mae’r mesurau y mae’r ffrwd waith hon yn eu cefnogi hefyd yn darparu buddsoddiad hanfodol i asedau cyhoeddus, gwella cyfleusterau i bobl a chymunedau lleol, lleihau llygredd aer a chreu swyddi i fusnesau lleol.
Helpu adeiladau ledled Cymru i drosglwyddo i sero net
Nifer y prosiectau sy'n dod i ben yn ariannol yn 2025 i 2026
- 80 o brosiectau effeithlonrwydd ynni adeiladau ac ynni adnewyddadwy ar y safle ar gyfer 26 sefydliad.
- 9.7 MW o gynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd ar doeau.
- 12.8 MWth o allu gwres carbon isel newydd, gan gymryd lle systemau tanwydd ffosil.
Buddsoddiad
- Cyfanswm o £38.45 miliwn wedi'i sicrhau drwy raglenni Grant Ymestyn, Gwres Carbon Isel ac Ynni Cymru.
- Cyfanswm o £74 miliwn wedi'i sicrhau drwy Rhaglen Ariannu Cymru a chynlluniau benthyciadau Digarbon.
Rhagolwg arbedion carbon gydol oes
- 675,000 tunnell o CO2e.
Astudiaeth achos: Coleg Gŵyr, Abertawe
Ers 2021, mae Coleg Gŵyr wedi gweithio gyda'r Gwasanaeth Ynni i ddatblygu dull hirdymor, safle cyfan ar gyfer datgarboneiddio ei ystad ar dri champws yn Abertawe. Cafodd y Coleg gefnogaeth y Gwasanaeth Ynni i nodi tua £1.8 miliwn o gyfleoedd carbon isel, cryfhau data ynni ac achosion busnes, a chydweddu buddsoddi mewn ystadau â blaenoriaethau datgarboneiddio yn ystod cyfnod o newid sefydliadol.
Roedd y gefnogaeth yn cynnwys campysau Gorseinon, Jubilee Court a Thŷ Coch ac roedd yn cynnwys cyngor technegol, dadansoddiad ynni, cymorth ariannol a chyfarfodydd cydlynu rheolaidd.
Mesurau
- Gwelliannau i systemau rheoli adeiladau (BMS) ac is-fesuryddion estynedig.
- Uwchraddio goleuadau LED ar gampysau Tŷ Coch a Gorseinon.
- Gwelliannau i’r gwneuthuriad, gan gynnwys inswleiddio to a gwydr.
- Paneli ffotofoltaidd solar, yn enwedig system 135kW a ddarparwyd fel rhan o brosiect to a solar gwerth £5 miliwn ar gampws Tŷ Coch.
- Gosod pwmp gwres o’r aer cyntaf y coleg.
- Uwchraddio’r cyflenwad trydan i alluogi pympiau gwres a gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol.
Effaith
- Llai o ynni’n cael ei ddefnyddio a llai o allyriadau carbon ar sawl campws.
- Gwell data ynni a monitro i gefnogi penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.
- Gwell cydweddu rhwng rhaglenni cynnal a chadw a blaenoriaethau datgarboneiddio.
- Gwell amgylcheddau dysgu a gwaith trwy well goleuadau a chysur thermol.
Astudiaeth achos: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Powys
Cyflwynodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys raglen ôl-ffitio effeithlonrwydd ynni aml-safle ar draws 15 lleoliad ym Mhowys drwy'r fframwaith Re:fit. Canolbwyntiodd y prosiect ar leihau allyriadau carbon, gwella perfformiad ynni a gwella amgylcheddau cleifion a staff ar draws ystad sy'n heneiddio, wedi'i gwasgaru'n ddaearyddol.
Cefnogodd y Gwasanaeth Ynni Fwrdd Iechyd Addysgu Powys gyda chyngor strategol ar gyfle i fanteisio ar Re:fit, cymorth i fanteisio ar Raglen Ariannu Cymru, adolygu asesiadau a chynigion buddsoddi, a chefnogaeth gyda chaffael ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Sicrhaodd y prosiect £4.3 miliwn gan Rhaglen Ariannu Cymru ac fe'i cyflawnwyd gan Vital Energi, drwy weithio gyda chyflenwyr lleol.
Mesurau
- Paneli ffotofoltaidd solar yn Spa Road (39kWp) ac Ysbyty Sir Drefaldwyn (86kWp).
- Uwchraddio goleuadau LED (dros 7,000 o osodiadau) mewn 15 safle.
- Atal drafftiau mewn pum safle.
- Inswleiddio pibellau mewn ystafelloedd peiriannau ar chwe safle.
- Uwchraddio inswleiddio atigau ar chwe safle.
- Optimeiddio Systemau Rheoli Adeiladau ar chwe safle.
Effaith
- £457,733 o arbedion costau blynyddol.
- 344 tunnell o CO₂ wedi’i arbed bob blwyddyn (gostyngiad o 11.1%).
- 19.8% o arbedion trydan a 6.6% o arbedion nwy.
- Gostyngiad costau ynni blynyddol o 10%.
- Gwell goleuadau a chysur thermol i gleifion a staff.
- Llai o ôl-groniad cynnal a chadw a mwy o gydnerthedd ynni.
Mae bod â sawl mesur arbed ynni o dan un prosiect wedi arbed amser ac wedi cyflawni canlyniadau gweladwy. Mae atal drafftiau a gosod goleuadau LED hefyd wedi bod yn wych o ran ymgysylltu â staff ac rydyn ni wedi cael nifer o sylwadau cadarnhaol ganddyn nhw.
Steven Bromley, Rheolwr Amgylcheddol a Chynaliadwyedd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Trafnidiaeth
Yn 2025 i 2026, parhaodd Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i gefnogi cyrff cyhoeddus ledled Cymru i fabwysiadu fflydoedd cerbydau di-allyriadau. Fe wnaethom gynnal ein cynnig craidd trwy ddarparu cyllid grant ar gyfer cerbydau trydan gan roi cyngor ymarferol, technegol ar y seilwaith gwefru. Mae'r gefnogaeth hon yn helpu sefydliadau i gynllunio a chyflawni trosglwyddo i deithio di-allyriadau.
Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom ddarparu gwasanaeth datrys problemau technegol a darparu ymweliadau safle manylach i helpu sefydliadau i ddatblygu cynlluniau seilwaith gwefru cadarn. Roedd hyn yn cynnwys asesu gallu trydanol, cynllun safle, gofynion gweithredol a thwf fflydoedd yn y dyfodol. Fe wnaethom hefyd gryfhau ein cefnogaeth i brosiectau sy'n integreiddio storio ynni, gan helpu sefydliadau i ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle i wefru cerbydau a gwella cydnerthedd a hyblygrwydd mewn lleoliadau gwefru.
Datgarboneiddio fflydoedd ledled Cymru
Nifer y prosiectau sy'n dod i ben yn ariannol yn 2025-26
- 104 o brosiectau fflyd ar gyfer 33 o sefydliadau.
Buddsoddiad
- Buddsoddwyd cyfanswm o £13.2 miliwn mewn cerbydau trydan a phwyntiau gwefru.
- 7 MW o seilwaith gwefru cerbydau trydan.
- 297 cerbyd di-allyriadau newydd.
Astudiaeth achos: Depo Bryncethin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ers 2020, mae'r Gwasanaeth Ynni wedi cefnogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno rhaglen ddatgarboneiddio integredig yn y Depo Trafnidiaeth ym Mryncethin. Canolbwyntiodd y rhaglen ar ddefnyddio llai o ynni, gosod cynhyrchu adnewyddadwy a galluogi'r trawsnewid i gerbydau di-allyriadau.
Darparodd y Gwasanaeth Ynni gefnogaeth dechnegol a strategol ar draws cylch bywyd y prosiect, gan gynnwys asesiadau ynni, astudiaethau dichonoldeb ar gyfer goleuadau LED a solar ffotofoltaidd gyda system storio mewn batrïau, dadansoddiad pontio fflydoedd, ac asesiadau capasiti gwefru cerbydau trydan ar sawl safle depo.
Mesurau
- 244 gosodiad golau LED i gymryd lle tiwbiau fflworoleuol a oedd wedi dyddio.
- System ffotofoltaidd solar 100 kWp yn cynnwys 250 o baneli.
- Uned storio mewn batrïau 100 kWh mewn cynhwysydd ac wedi’i uwchraddio eto gan 100kWh yn 2026.
- Uwchraddio’r grid gan 255 kVA.
- Cymysgedd o wefrwyr cyflym a chwim gan gynnwys uned DC 40kW.
Effaith
- Ar y safle, yn defnyddio tua 80% o ynni solar wedi’i gynhyrchu, gan gefnogi gwefru cerbydau trydan a gweithrediadau.
- Gwell ansawdd goleuadau a mwy o gydnerthedd ynni trwy storio mewn batrïau.
Mae cymorth technegol y Gwasanaeth Ynni wedi bod yn ganolog i gyflawni rhaglen ddatgarboneiddio integredig Bryncethin, o ddichonoldeb hyd at gapasiti gwefru a dadansoddiad pontio fflydoedd. Mae cynhyrchu mwy o bŵer ar y safle trwy baneli ffotofoltaidd solar a defnyddio storio mewn batrïau yn ein helpu ni i ddefnyddio trydan adnewyddadwy yn lleol ar gyfer gwefru cerbydau trydan a gweithrediadau depo. Mae cymysgedd cyfunol o wefrwyr yn rhoi'r hyblygrwydd i ni gefnogi llwybrau amrywiol a phatrymau shifft, wrth gynnal argaeledd a chydnerthedd gweithredol.
Paul Smith, Rheolwr Rhaglen Datgarboneiddio, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Astudiaeth achos: Depo Clyfar Sir Ddinbych, Cyngor Sir Ddinbych
Cefnogodd y Gwasanaeth Ynni Cyngor Sir Ddinbych i drawsnewid Depo Fflyd Bodelwyddan yn System Ynni Leol Glyfar, gan integreiddio gwres, pŵer a thrafnidiaeth mewn un uwchraddiad cydgysylltiedig.
Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb ar wyth safle’r cyngor, dewiswyd Bodelwyddan fel y lleoliad mwyaf addas i ddangos sut y gall datrysiadau ynni clyfar leihau allyriadau, defnyddio llai o ynni a chefnogi trydaneiddio fflydoedd. Ariannwyd y prosiect ar y cyd drwy gronfa gyfalaf Ynni Cymru Llywodraeth Cymru, gyda'r Gwasanaeth Ynni yn rhoi cyngor ar faterion technegol, arfarnu dewisiadau a chymorth gyda manylebau.
Mesurau
- System ffotofoltaidd solar 90 kWp.
- Storio mewn batrïau ar raddfa fasnachol.
- Seilwaith gwefru clyfar ar gyfer cerbydau trydan gyda rheoli llwythi’n ddeinamig.
- Uwchraddio goleuadau LED.
- Pympiau gwres o’r aer, gan gymryd lle gwresogyddion olew hŷn.
Effaith
- Defnyddio llai o ynni, costau ac allyriadau carbon llai ar safle fflyd allweddol.
- Mae gwefru cerbydau trydan yn cefnogi trydaneiddio fflydoedd o fewn y capasiti trydanol presennol.
- Defnyddio ynni solar sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle’n well.
- Amgylchedd gwaith mwy cyfforddus i staff y depo.
- Dangos sut y gall systemau ynni integredig leihau'r pwysau ar y grid.
Roedd y Gwasanaeth Ynni yn barod iawn i helpu. Yr adroddiad cwmpasu lefel uchel lle roedden nhw wedi asesu'r llwythi ar yr adeilad o'i gymharu â maint y paneli ffotofoltaidd y gallem ni ei osod a chyfradd gwefru'r batri, felly fe wnaethon nhw ein cynorthwyo ni gydag ochr data technegol y cynllun.
Martyn Smith, Rheolwr Ynni Eiddo a Charbon yng Nghyngor Sir Ddinbych.
Energy Service Case Study: Depo Clyfar Bodelwyddan / Bodelwyddan Smart Depot
Ynni adnewyddadwy
Mae ein gwaith ar brosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ledled Cymru yn rhychwantu cylch bywyd llawn y prosiect, o nodi cyfleoedd yn gynnar trwy ddatblygu i gyflawni a gweithredu parhaus. Rydym yn cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus a chymunedol i fanteisio i’r eithaf ar adnoddau naturiol Cymru wrth symud ymlaen â'u taith tuag at sero net a darparu manteision i gymunedau lleol.
Cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol a'r sector cyhoeddus
Yn 2025 i 2026, sicrhaodd un ar ddeg o brosiectau £14.4 miliwn o gyllid yn ymwneud â 8 MW ychwanegol o gapasiti ynni adnewyddadwy, sy'n cynnwys:
- 6 prosiect ynni a chymunedol lleol
- 5 prosiect ynni adnewyddadwy annibynnol yn y sector cyhoeddus
Yn 2025 i 2026, llwyddodd cyfanswm o bum prosiect i gwblhau gosod capasiti ynni adnewyddadwy o 9.2 MW a 13,000 tCO2e o arbedion carbon gydol oes
- 8.7 MW o brosiectau ynni adnewyddadwy annibynnol newydd yn y sector cyhoeddus
- 0.54 MW o brosiectau ffotofoltaidd solar cymunedol newydd
Ynni Adnewyddadwy’r Sector Cyhoeddus
Mae'r Gwasanaeth Ynni yn gweithio gyda sefydliadau'r sector cyhoeddus i nodi, datblygu a gosod prosiectau ynni adnewyddadwy gan gynnwys ffermydd solar, canopïau solar, tyrbinau gwynt a chynlluniau ynni dŵr. Yn 2025 i 2026, canolbwyntiodd y Gwasanaeth Ynni ar nodi ac annog cyfleoedd i gyrff cyhoeddus weithio gyda sefydliadau eraill (ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol), yn ogystal â datblygu mentrau datgarboneiddio mewnol yn llwyr. Mae gan gydweithredu traws-sefydliad y potensial i helpu i oresgyn amrywiaeth o rwystrau i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a chyflawni amcanion ehangach fel perchnogaeth leol a buddion cymunedol. Mae canllawiau penodol ac astudiaethau achos ar hyn yn cael eu cyhoeddi ar dudalen we’r Gwasanaeth Ynni ac mae cymorth uniongyrchol ar gael i gleientiaid.
Astudiaeth achos: Fferm solar Pen y Dre, Cyngor Merthyr Tudful
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn datblygu aráe solar 1.4 MW ar y ddaear ar safle ysgol Pen y Dre, wedi’i gynllunio i gefnogi Rhaglen Ysgolion Sero Net Llywodraeth Cymru. Bydd y fferm solar yn gwasanaethu'n bennaf Ysgol Pen y Dre ac Ysgol y Bendigaid Carlo Acutis (Campws yr Esgob Hedley), gyda thrydan dros ben yn cael ei allforio trwy wifren breifat i Ysbyty'r Tywysog Siarl, gan ddangos partneriaeth ynni arloesol yn y sector cyhoeddus. Bydd disgwyl iddo gael ei gomisiynu ym mis Ebrill 2026.
Fe wnaeth y Gwasanaeth Ynni gefnogi gyda chymorth adnabod a datblygu prosiect cyfnod cynnar, cyngor strategol ar gydweithredu ar ynni'r sector cyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i archwilio cyfleoedd gwifrau preifat.
Mesurau
- 1.4 MW aráe solar wedi'i gosod ar y ddaear.
- Offer switsio a seilwaith ar y safle.
- Cysylltiad gwifren breifat ag Ysbyty'r Tywysog Charles.
Buddsoddiad
- Cyfanswm y buddsoddiad o £3.56 miliwn.
- Aráe solar wedi'i hariannu drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
- Gwifren breifat wedi'i hunan-ariannu gan y Cyngor, gyda chymorth grant rhannol gan Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau.
Effaith
- Rhagwelir budd blynyddol o £194,000 (gwrthbwyso ar y safle a gwerthu ynni cyfunol)
- Cefnogi datgarboneiddio hirdymor seilwaith ysgolion a gofal iechyd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn falch o fod yn hyrwyddo'r prosiectau arloesol hyn sydd wedi bod yn cael eu datblygu dros nifer o flynyddoedd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru ac Ystadau Cymru, y mae eu cyfraniad wedi bod yn allweddol wrth wireddu’r mentrau hyn. Mae'r prosiectau unigryw a thechnegol cymhleth hyn yn cynnwys cysylltu systemau ynni adnewyddadwy rhwng safleoedd ysgolion lleol ac Ysbyty’r Tywysog Siarl. Mae'r cydweithredu arloesol hwn nid yn unig yn unigryw o ran ei ddyluniad, ond hefyd, mae’n cynrychioli cam cadarnhaol ymlaen wrth ddarparu manteision amgylcheddol ac economaidd hirdymor i'r Fwrdeistref a'i thrigolion.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Ynni lleol
Ledled Cymru, mae'r Gwasanaeth Ynni yn cefnogi sefydliadau cymunedol i ddylunio, datblygu a gosod prosiectau adnewyddadwy fel ynni solar, gwynt a dŵr.
Astudiaeth achos: Solar Trefawr wedi'i leoli ar y cyd, Crymych
Mae datblygiad solar Trefawr yn brosiect trawsnewidiol ger Crymych, Sir Benfro sy'n cael ei ysgogi gan y Gymdeithas Budd Cymunedol leol Cwm Arian Renewable Energy (CARE). Mae'r fenter hon yn dod i benllanw gyda gosod aráe solar 522 kWp ar y ddaear, wedi'i lleoli ar y cyd â thyrbin gwynt 700 kW presennol dan berchnogaeth y gymuned, gan greu canolfan ynni adnewyddadwy pwerus ar gyfer yr ardal leol.
Mae'r Gwasanaeth Ynni wedi bod yn cefnogi CARE i ddatblygu'r prosiect dros sawl blwyddyn gyda chyngor technegol, cyllid grant paratoadol i helpu i sicrhau caniatâd cynllunio a chytundebau cyfreithiol allweddol a chymorth i helpu i ddatblygu'r achos ariannol, gan alluogi CARE i sicrhau’r arian drwy fenthyciad Ynni Lleol gan Fanc Datblygu Cymru a Grant Cyfalaf Ynni Cymru. Ar hyd y ffordd, fe wnaethom gefnogi Cwm Arian i fynd i'r afael â heriau fel anwadalrwydd y farchnad ynni a chaffael Tystysgrif Perfformiad Ynni. Mae ein cefnogaeth yn parhau trwy'r cyfnod datblygu a chomisiynu.
Mesurau
- System solar ffotofoltaidd uwch gydag offer cyfyngu ar allforio, wedi'i integreiddio i'r seilwaith grid presennol.
- Rhannu cysylltiad grid â thyrbin gwynt a osodwyd yn flaenorol, gan gydbwyso cynhyrchu ynni o wynt a solar ar wahanol adegau o'r flwyddyn i ddarparu cynhyrchu ynni’n fwy cyson drwy gydol y flwyddyn.
Buddsoddi
- Cyfanswm cost y prosiect yw £1.2 miliwn, gyda chefnogaeth grantiau Llywodraeth Cymru a benthyciad o'r Gronfa Ynni Leol.
Effaith
- Dros 16GWh o ynni glân wedi’i gynhyrchu dros 35 mlynedd.
- 320 tunnell o allyriadau CO₂e wedi'u hosgoi.
- £556,000 wedi'i gadw yn yr economi leol, ynghyd â buddion cynyddol.
- Cronfa budd cymunedol flynyddol ac ail-fuddsoddi gwarged mewn prosiectau lleol.
- Defnyddio contractwyr a chyflenwyr lleol.
- Cefnogi cydnerthedd cymunedol, mentrau gwyrdd a mentrau tlodi tanwydd.
- Galluogi tir i barhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer pori.
Mae'r prosiect hwn yn fwy nag ynni adnewyddadwy—mae'n ymwneud â grymuso’n cymuned, creu swyddi lleol, a datblygu dyfodol cynaliadwy i Sir Benfro.
Bwrdd CARE.
Cyfathrebu ac ymgysylltu
Mae'r Gwasanaeth Ynni yn annog sefydliadau'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i ddatblygu eu prosiectau datgarboneiddio eu hunain trwy ddarparu canllawiau technegol, cynnal gweminarau, rhannu astudiaethau achos a galluogi dysgu rhwng cymheiriaid.
Yn 2025-26, fe wnaethom ymweld â phrosiectau ac arddangos eu llwyddiant trwy astudiaethau achos ysgrifenedig a fideo, gan ganolbwyntio ar yr hyn a ddysgwyd i ysbrydoli sefydliadau eraill ar eu teithiau hinsawdd.
Fe wnaethom lansio gwefan newydd, gan ddod â phopeth am y Gwasanaeth Ynni i un lle hygyrch, hawdd ei lywio, gan gynnwys tudalennau canllawiau a grantiau, astudiaethau achos, adroddiadau effaith a chynnig mynediad uniongyrchol i offer a dangosfyrddau Adrodd Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru.
Dechreuodd cylchlythyr y Gwasanaeth Ynni yn gynnar yn 2025 fel diweddariad deufisol. Yn 2026, dechreuodd tanysgrifwyr dderbyn rhifynnau misol, gan gynnwys y newyddion diweddaraf, astudiaethau achos a chyfleoedd ariannu.
Y llynedd, ymunodd ein tîm â chyfres o ddigwyddiadau. Ym mis Ebrill, buom yn siarad mewn panel yn ystod Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau'r Dyfodol, ar y pwnc "Gwneud Ynni'n Lleol".
Ym mis Mehefin, gwnaethom gyd-gynnal cyfres o ddigwyddiadau Taith i Gymru Sero Net gyda Salix Finance a Llywodraeth Cymru yn y gogledd a’r de, gan edrych ar gynnydd, cyllid a chydweithredu yn ogystal â strategaeth hirdymor, datblygu sgiliau ac effaith ar fywydau trwy weithredu ar yr hinsawdd.
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom gymryd rhan yn Wythnos Hinsawdd Cymru, lle gwnaethom ymuno â phanel o arbenigwyr i drafod sut y gall Cymru gyflawni system drafnidiaeth gynhwysol, hygyrch, carbon isel.
Grantiau
Grant Gwres Carbon Isel Awdurdodau Lleol
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rôl hanfodol wrth leihau allyriadau o adeiladau cyhoeddus ledled Cymru. Mae Grant Gwres Carbon Isel Awdurdodau Lleol yn cefnogi awdurdodau lleol i dalu costau cyfalaf uchel prosiectau datgarboneiddio gwres mewn adeiladau annomestig, sy'n eiddo i awdurdodau lleol.
Mae'r grant yn darparu hyd at 90% o gyllid cyfalaf ar gyfer disodli systemau gwresogi tanwydd ffosil gyda thechnolegau gwres carbon isel. Mae'n cefnogi dull adeilad cyfan, gan gynnwys gwelliannau i ffabrig adeiladau, uwchraddio allyryddion gwres, uwchraddio trydanol a monitro perfformiad. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i alluogi cyflawni prosiectau sy'n barod i'w gweithredu ond a allai fod fel arall yn heriol yn ariannol. Ar yr un pryd, mae'n helpu i ategu gallu awdurdodau lleol a dysgu a rennir, gan gefnogi gwres carbon isel i ddod yn safon ar draws ystad awdurdod lleol Cymru.
Canlyniadau 2025 i 2026
- 43 o brosiectau gwres carbon isel wedi derbyn cyfanswm o £31.1 miliwn mewn cyllid grant cyfalaf sy'n ymwneud â chyfanswm o 9.3 MW o gapasiti gwres carbon isel wedi'i osod.
- Galluogodd y grant Gwres Carbon Isel gwblhau 31 o safleoedd mewn 9 awdurdod lleol i gwblhau'r gosodiad, gan arwain at 5.8 MW o gapasiti gwres carbon isel ac amcangyfrif o arbedion carbon gydol oes o 134,000 tCO₂e.
Astudiaeth achos: Pwmp gwres Fferm Gymunedol Greenmeadow, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn Nhorfaen wedi'i thrawsnewid yn gyrchfan ymwelwyr mwy cynaliadwy a chynhwysol fel rhan o ailddatblygu safle ehangach. Cefnogodd y Gwasanaeth Ynni Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen gyda chyngor strategol a thechnegol i nodi a datblygu'r datrysiad gwresogi carbon isel mwyaf priodol ar gyfer y safle. Ariannwyd elfen wresogi'r prosiect trwy Grant Gwres Carbon Isel yr Awdurdod Lleol a'i chwblhau rhwng Mai 2024 a Mawrth 2025, cyn i’r fferm ailagor ym mis Medi 2025.
Mesurau
- Gosod system pwmp gwres llorweddol 'slinky' o’r ddaear, sy'n cynnwys 30 o ffosydd a 9,000 metr o bibellau, sy'n gwasanaethu ystafell beiriannau newydd yn y ffermdy gwreiddiol.
- Disodli boeleri nwy, gan ddileu gwresogi tanwydd ffosil.
- Inswleiddio ychwanegol i wella effeithlonrwydd ynni.
- Integreiddio â'r system solar ffotofoltaidd bresennol i gefnogi gweithrediad carbon isel.
Effaith
- Arbedion carbon disgwyliedig gydol oes o 201 tCO₂e.
- Gwell cysur a chynaliadwyedd i ymwelwyr a staff.
- Yn cefnogi amcanion gweithredu ar yr hinsawdd a datblygu cynaliadwy ehangach Torfaen.
Bydd trigolion lleol sy'n dod heibio'r safle wedi sylwi ar effaith gosod y pwmp gwres yn llorweddol ar y caeau, ond mae'r prosiect wedi bod yn rhan hanfodol o sicrhau bod y gwaith o drawsnewid Greenmeadow yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gefnogi'r prosiect ac, ochr yn ochr â'r diweddariadau i'r cyfleusterau ar y fferm, rydym yn falch o gael trawsnewidiad sy'n cynnwys profiad newydd gwych i ymwelwyr a llai o ôl troed carbon.
David Leech, Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Oedolion a Chymunedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus
Mae Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus yn galluogi sefydliadau'r sector cyhoeddus (ac eithrio awdurdodau lleol a chyrff addysg uwch) i symud i ffwrdd o systemau gwresogi tanwydd ffosil a buddsoddi mewn dewisiadau amgen carbon isel fel rhan o'u taith i sero net.
Mae'r grant yn darparu hyd at 90% o gyllid cyfalaf i sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru ar gyfer disodli systemau gwresogi tanwydd ffosil gyda thechnolegau gwres carbon isel. Mae'n cefnogi dull adeilad cyfan, gan gynnwys gwelliannau i ffabrig adeiladau, uwchraddio allyryddion gwres ac uwchraddio trydanol. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i alluogi cyflawni prosiectau sy'n barod i'w gweithredu ond a allai fod fel arall yn heriol yn ariannol. Ochr yn ochr â lleihau allyriadau, mae'r grant yn cefnogi meithrin gallu a dysgu a rennir ar draws y sector cyhoeddus, gan helpu gwres carbon isel i ddod yn beth arferol ar draws adeiladau'r sector cyhoeddus.
Canlyniadau 2025 i 2026
- Cwblhaodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru brosiectau gwres carbon isel yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru a Chastell Sain Ffagan yn 2025-26**.
- £1.6 miliwn o fuddsoddiad grant cyfalaf.
- 0.5 MW Capasiti gwres carbon isel ac arbedion carbon oes o 13,700 tCO₂e.
Astudiaeth achos
Astudiaeth achos: Pympiau gwres Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Torfaen
Yn 2025, dechreuodd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon brosiect datgarboneiddio mawr gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Ynni, sy'n canolbwyntio ar ddisodli systemau gwresogi nwy gyda dewisiadau amgen carbon isel a gwella inswleiddio adeiladau ar draws y safle treftadaeth. Mae'r prosiect yn cefnogi uchelgais Cymru ar gyfer sector cyhoeddus Sero Net, gan gadw cymeriad adeiladau rhestredig.
Darparodd y Gwasanaeth Ynni gyngor technegol a helpodd i sicrhau cyllid trwy Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus, gan gefnogi asesiadau effaith treftadaeth, caniatâd adeilad rhestredig, caffael trwy'r Fframwaith Rheoli ac Adnewyddu Galw (DMRF), a chydlynu â phartneriaid cyflawni.
Mesurau
- Disodli nifer o foeleri nwy naturiol gyda phympiau gwres effeithlonrwydd uchel mewn mannau allweddol (y siop, caffi, gweithdy cadwraeth, ystafell aros, iard, a’r baddonau).
- Uwchraddio ffabrig yr adeilad, gan gynnwys gwelliannau inswleiddio atig a rendro calch allanol i wella effeithlonrwydd thermol.
- Seilwaith gwefru cerbydau trydan ar gyfer fflyd yr amgueddfa.
- Arae solar ffotofoltaidd ar y to i wrthbwyso'r defnydd o drydan, drwy Raglen Ariannu Cymru.
Effaith
- Gostyngiad sylweddol mewn allyriadau carbon ar draws ystad yr amgueddfa.
- Gwell perfformiad thermol adeiladau treftadaeth heb gyfaddawdu eu cymeriad hanesyddol.
- Creu swyddi lleol trwy adeiladu a gosod arbenigol.
- Model y gellir ei ailadrodd ar gyfer datgarboneiddio adeiladau rhestredig yng Nghymru.
Mae'r adeiladau, yr eitemau yn y casgliad a'r profiad ymgolli rydyn ni'n eu darparu yn Big Pit yn sicr yn apelio at y cyhoedd. Yn y gorffennol, mae glo wedi cael ei gynhyrchu ar y safle hwn ar raddfa ddiwydiannol ond nawr rydym yn edrych ar ddyfodol lle bydd cyfanswm y pŵer a'r gwres yn cael ei gyflenwi gan dechnoleg adnewyddadwy yn unig.
Brian Lewis, Pennaeth yr Amgueddfa, Amgueddfa Cymru.
Energy Service Case Study: Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru / Big Pit National Coal Museum
Grant Cerbydau Di-allyriadau a Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan
Mae datgarboneiddio trafnidiaeth yn rhan hanfodol o gyflawni sector cyhoeddus sero net yng Nghymru. Sefydlwyd Grant Cerbydau Di-allyriadau (ZEV) a Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan (EVCI) Llywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i symud i ffwrdd o gerbydau petrol a diesel a gosod y seilwaith gwefru sydd ei angen i gefnogi fflydoedd di-allyriadau.
Mae'r grant yn darparu cyllid cyfalaf i dalu'r gwahaniaeth cost rhwng cerbydau injan hylosgi mewnol (ICE) a dewisiadau amgen di-allyriadau, ochr yn ochr â chyllid hyd at 100% o gostau cyfalaf seilwaith gwefru cerbydau trydan. Mae hyn yn cynnwys offer gwefru ar y safle, uwchraddio trydanol cysylltiedig a storio batri cysylltiedig, gan helpu sefydliadau i roi'r seilwaith cywir ar waith i alluogi trydaneiddio fflyd.
Yn 2025–26, canolbwyntiodd y grant ar brosiectau a oedd yn barod i'w cyflawni o fewn y flwyddyn ariannol, gan gefnogi prynu faniau, bysiau mini a cherbydau arbenigol trydan, yn ogystal â gosod seilwaith gwefru ar gyfer y fflyd.
Canlyniadau 2025 i 2026
- 104 o brosiectau yn dod i ben yn ariannol yn 2025-26.
- £13.1 miliwn o Fuddsoddiad Cyfalaf
- 7 MW o gapasiti gwefru cerbydau trydan
Astudiaeth achos
Astudiaeth achos: Gwefru Cerbydau Trydan ym Mharc Gwledig Craig-y-nos, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cefnogodd y Gwasanaeth Ynni Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i weithredu seilwaith storio ynni a gwefru fel rhan o system ynni leol glyfar gynhwysfawr yng Nghraig y Nos, Abertawe. Derbyniodd y prosiect grant ZEV ac EVCI ac mae'n arddangosfa flaenllaw o ddatgarboneiddio sector cyhoeddus a thrydaneiddio fflyd.
Mesurau
- Gosod system storio ynni batri 69 kWh a gwefryddion EV 22 kW i wneud y mwyaf o'r defnydd o ynni adnewyddadwy ar y safle.
- Cymorth caffael drwy fframwaith EVCI Llywodraeth Cymru, sy'n galluogi darpariaeth effeithlon gyda chontractwyr cymwys.
- Cymorth parhaus y Gwasanaeth Ynni i ddefnyddio technolegau carbon isel ychwanegol a chynyddu eu hamlygrwydd i’r cyhoedd.
Effaith
- Trosglwyddo i fflyd 100% di-allyriadau o 19 o gerbydau cronfa, ymhlith y cyntaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Lleihau dibyniaeth ar y grid gan ddefnyddio'r system ynni leol glyfar i wneud y mwyaf o gynhyrchu, storio a gwydnwch ynni adnewyddadwy.
- Darparu gwefru chwim ar gyfer traffig sy'n mynd heibio a gwefru cyrchfan i ymwelwyr.
Mae gweithio gyda Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi bod yn ardderchog - roedd eu grant ZEV ac EVCI yn hawdd cael gafael arnynt gyda phrosesau ymgeisio cyflym ac amseroedd cyflawni cyflym. Mae'r cyllid hwn wedi bod yn allweddol i'n helpu i gyflawni ein huchelgais o gynnal safle cwbl drydan yng Nghraig y Nos. Mae'r system ynni leol rydyn ni wedi'i datblygu yma yn cynrychioli dim ond dechrau ein taith gynaliadwyedd. Rydym bellach yn gobeithio ehangu ein capasiti solar ffotofoltaidd, archwilio dichonoldeb pwmp gwres, a gwneud ein systemau ynni adnewyddadwy yn fwy gweladwy i'r cyhoedd. Ein nod yw dangos y gall safleoedd sector cyhoeddus anghysbell gyflawni gwydnwch ynni carbon isel wrth ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Paul Chapman, Rheolwr Parc Gwledig Craig-y-Nos, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Grant Ymestyn
Mae Grant Ymestyn yn gronfa Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Great British Energy, wedi'i chynllunio i ddatgloi prosiectau ynni adnewyddadwy lleol ledled Cymru. Mae'n helpu prosiectau sy'n ariannol heriol i'w cwblhau trwy ddarparu cyllid 'ychwanegol' wedi'i dargedu i wella ad-daliadau ariannol. Mae'r grant ar gael i gyrff sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol a gall gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n gysylltiedig ag adeilad ac allforio grid sy'n barod i'w gweithredu.
Bwriad y gronfa yw gweithio ochr yn ochr â ffynonellau cyllido eraill, gan helpu i ddatgloi prosiectau nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni meini prawf opsiynau cyllid presennol. Daeth ceisiadau am Grant Ymestyn i ben ym mis Chwefror, a rhaid comisiynu'r holl brosiectau a gefnogir erbyn mis Tachwedd 2026.
Grant Paratoadol Ynni Cymunedol
Mae angen i fentrau ynni cymunedol sy'n datblygu prosiectau ynni lleol yn aml ddatrys gofynion technegol, cyfreithiol, rheoleiddiol ac ariannol cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau. Gall datblygu prosiect ddigwydd dros gyfnod estynedig, ac mae mynediad at y sgiliau arbenigol cywir yn hanfodol i gynnal momentwm a symud prosiect tuag at gyflawni.
Mae'r Grant Paratoadol Ynni Cymunedol yn darparu cyllid refeniw i helpu mentrau cymdeithasol cymunedol i gomisiynu cymorth arbenigol i oresgyn y rhwystrau cynnar hyn. Gall cyllid gefnogi gweithgareddau fel arfarnu dichonoldeb ac opsiynau, arolygon ac astudiaethau technegol, rheoli prosiectau, modelu masnachol ac ariannol, cyngor cyfreithiol a llywodraethu, gwaith sy'n gysylltiedig â'r grid a chynllunio, a chamau paratoi eraill sydd eu hangen i ddatblygu datrysiadau ynni adnewyddadwy lleol clyfar sy'n darparu manteision i'r gymuned leol a Chymru.
Mae ceisiadau yn cael eu hasesu trwy broses ffurfiol yn erbyn blaenoriaethau cyfredol a'r gyllideb sydd ar gael. Bwriedir i'r gronfa fod ar agor i geisiadau trwy gydol y flwyddyn, yn amodol ar argaeledd cyllid.
Grant Dylunio a Datblygu Prosiect Datgarboneiddio
Mae llif o brosiectau datgarboneiddio sydd wedi'u datblygu'n dda yn hanfodol i alluogi'r sector cyhoeddus i gyflawni gostyngiadau cyflymach mewn allyriadau. Crëwyd y Grant Dylunio a Datblygu Prosiect Datgarboneiddio i gefnogi sefydliadau i symud o uchelgeisiau cychwynnol i brosiectau sy'n barod i'w buddsoddi a'u gweithredu.
Mae'r grant yn cynnig cyllid refeniw i gefnogi creu dyluniadau manwl sy'n ofynnol i baratoi prosiectau ar gyfer buddsoddiad. Trwy ddarparu'r cymorth hwn, nod y grant yw lleihau risgiau, gwella ansawdd prosiectau, cyflymu cynigion prosiectau, a rhoi sylfaen dystiolaeth gref i sefydliadau y gallant sicrhau cyllid cyfalaf a symud ymlaen â gweithredu prosiectau.
Grant Ynni Cymru
Mae gan ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol a systemau ynni lleol clyfar rôl hanfodol i'w chwarae wrth gyflawni system ynni sero net a mwy gwydn yng Nghymru. Sefydlwyd Ynni Cymru gan Lywodraeth Cymru i weithredu prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned a Systemau Ynni Lleol Clyfar, gan helpu sefydliadau i gynhyrchu, defnyddio a rheoli ynni yn lleol.
Mae'r Gwasanaeth Ynni wedi cefnogi Ynni Cymru i gyflawni ei raglen grantiau, gan ddarparu gwasanaethau dilysu technegol, arbenigedd rheoli grantiau a rheolaeth barhaus ar gyflawni prosiectau ar gyfer y sefydliadau sector cyhoeddus a'r grwpiau ynni cymunedol llwyddiannus. Mae'r grant yn darparu cyllid cyfalaf i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar ac arloesol ledled Cymru, ac mae cyfanswm o £22.6 miliwn o gyllid wedi'i ddyrannu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i fusnesau bach a chanolig, cymunedau a'r sector cyhoeddus.
Eleni, llwyddodd 13 o sefydliadau'r sector cyhoeddus a grwpiau ynni cymunedol i sicrhau cyllid a gyfrannodd at osod dros 2 MW o systemau solar ffotofoltaidd, ochr yn ochr â mesurau effeithlonrwydd ynni eraill.
Cefnogi cyflymiad ac arloesi sero net ar draws y sectorau cyhoeddus a chymunedol
Arloesi Hinsawdd (Byw'n Glyfar gynt)
Mae Arloesi Hinsawdd yn rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi arloesi datgarboneiddio cyfnod cynnar gan ddefnyddio caffael cyn-fasnachol. Trwy fentrau fel Ymchwil ac Arloesi System Gyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID), galluogodd sefydliadau'r sector cyhoeddus i ddiffinio heriau Sero Net yn seiliedig ar leoedd sy'n cyd-fynd â Chynlluniau Ynni Ardal Leol. Gan ddefnyddio model Perchennog Her, cefnogodd Arloesi Hinsawdd astudiaethau dichonoldeb, dylunio system a phrofi yn y byd go iawn atebion system gyfan ar gyfer trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig ac integreiddio ynni adnewyddadwy. Helpodd y rhaglen i bontio bylchau cyflawni a'r farchnad drwy gynhyrchu tystiolaeth sy'n barod am benderfyniadau, lleihau'r risg a chreu llwybrau clir o arloesi i weithredu ar draws cyd-destunau gwledig, trefol a rhanbarthol yng Nghymru.
Mwy o wybodaeth: Cynllun Arloesi Hinsawdd | LLYW.CYMRU
Ystadau Cymru
Wedi'i ddatblygu gydag Ystadau Cymru, mae'r adroddiad "Gweithredu ar yr hinsawdd ar draws ystad sector cyhoeddus Cymru" a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2026, yn nodi camau gweithredu ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu cyrff cyhoeddus i leihau allyriadau carbon o adeiladau a thir wrth gryfhau’r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd. Wedi'i gomisiynu gan Ystadau Cymru a'i lywio gan weithdai gyda 76 o ymarferwyr yn y sector cyhoeddus ledled Cymru, mae'r canllawiau'n cwmpasu meysydd gan gynnwys rheoli carbon, cynllunio ystadau strategol, effeithlonrwydd ynni, gwres carbon isel, ynni adnewyddadwy ac atebion sy'n seiliedig ar natur. Mae wedi'i gynllunio i gefnogi sefydliadau ar wahanol gamau o'u taith Sero Net a gellir ei ddefnyddio'n hyblyg i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth.
Cymorth mewnol ac ymchwil i Lywodraeth Cymru
Mae'r Gwasanaeth Ynni hefyd wedi darparu ymchwil ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar faterion ehangach, gan gynnwys addasu i newid hinsawdd, cyfleoedd posibl ar gyfer cyllid gan ddefnyddio Banc Datblygu Cymru, ac ymchwil ar araeau solar presennol.
Contractau yn ôl y galw
Gall sefydliadau'r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol yng Nghymru gael mynediad uniongyrchol at lefel uwch o gymorth drwy Fframwaith Adrodd Carbon a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Mae'r fframwaith yn caniatáu i sefydliadau gael cefnogaeth yn ôl y galw ar gyfer prosiectau sy'n cyd-fynd â'n hamcanion allweddol trwy ddyfarniad uniongyrchol syml. Mae hyn yn rhoi mynediad at arbenigedd gan gonsortiwm y Gwasanaeth Ynni, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Garbon a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ac yn cynnwys 12 o ddarparwyr. Mae galwadau yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru.
I ddechrau, mae sefydliadau'n llenwi Ffurflen Gais yn ôl y Galw ac yn rhannu ymholiadau gydag arweinwyr contractau Llywodraeth Cymru a Phennaeth y Gwasanaeth Ynni yn enquiries@energyservice.wales
Mae'r fframwaith ar waith tan 31 Mawrth 2027 a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw gorff sector cyhoeddus cymwys neu fenter gymunedol yng Nghymru.
Mathau o gymorth sydd ar gael
Lot 1: datgarboneiddio'r sector cyhoeddus, gan gynnwys
- Ynni adnewyddadwy a gwres carbon isel.
- Effeithlonrwydd ynni a lleihau'r galw.
- Strategaethau lleihau allyriadau carbon.
- Arbedion ariannol a chyfleoedd buddsoddi.
- Sgiliau, meithrin capasiti ac arloesi.
- Cymorth technegol tuag at amcanion y sector cyhoeddus ac ynni adnewyddadwy.
Lot 2: adrodd a dadansoddi carbon, gan gynnwys
- Ôl troed carbon sefydliadol.
- Cyflwyniadau ar gyfer adrodd sero net sector cyhoeddus Cymru.
- Modelu a rhagfynegi allyriadau.
- Gwella data carbon ac ymgysylltu, gan gynnwys cadwyni cyflenwi.
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o ddatblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a datgarboneiddio fflyd sy'n cyfrannu at ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus a thargedau ynni cenedlaethol. Mae'r Gwasanaeth Ynni yn cael ei ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth Garbon, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, a Phartneriaethau Lleol (y "Partneriaid Cyflenwi"). Mae'r Adroddiad hwn (yr "Adroddiad") wedi'i gynhyrchu gan y Partneriaid Cyflenwi ac, er bod y safbwyntiau a fynegir ynddo yn cael eu rhoi mewn ewyllys da yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael ar ddyddiad yr Adroddiad hwn:- (i) nid yw'r safbwyntiau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, nad yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddatganiad neu farn a fynegir yn yr Adroddiad; (ii) y bwriedir i'r Adroddiad ddarparu canllawiau cyffredinol yn unig, yn hytrach na chyngor ariannol, cyfreithiol neu dechnegol at ddibenion unrhyw brosiect penodol neu fater arall, ac ni ddylai unrhyw un sy'n derbyn yr Adroddiad ddibynnu arno yn hytrach na chael eu cyngor eu hunain gan gynghorydd trydydd parti priodol; a (iii) dylai unrhyw berson sy'n derbyn yr Adroddiad hwn felly gael ei gyngor ariannol, cyfreithiol, technegol a/neu broffesiynol perthnasol arall ei hun i'r graddau y mae angen canllawiau penodol arnynt ar ba gamau (os o gwbl) i'w cymryd, neu ymatal rhag eu cymryd, mewn perthynas ag unrhyw brosiect, menter, cynnig, ymwneud ag unrhyw bartneriaeth neu fater arall y gall gwybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad fod yn berthnasol iddo; a (iv) nad yw'r Partneriaid Cyflenwi yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â'r Adroddiad, nac am unrhyw ddatganiad yn yr Adroddiad a/neu unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad sy'n ymwneud â'r Adroddiad.
