Mae data ar alwadau brys ac amseroedd ymateb ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwasanaethau ambiwlans
Gwybodaeth am y gyfres:
O Mehefin 2018 rydym yn cyhoeddi Dangosyddion Ansawdd Ambiwlansys ar ran y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Mae'r data, yn fisol o Ebrill 2016, ar gael ar StatsCymru.
Prif bwyntiau
- Cafodd 479,444 o alwadau brys ambiwlans eu gwneud yn ystod 2017-18, 4.4% i fyny o’r flwyddyn flaenorol, a 126% yn fwy nag yn 1991-92.
- Roedd 22,878 yn alwadau coch (lle mae bywyd yn y fantol), 4.8% o’r cyfanswm.
- Roedd 74.6% o alwadau coch wedi derbyn ymateb o fewn 8 munud, i lawr o 76.3% yn 2016-17.
- Roedd perfformiad yn amrywio o 68.2% yn Hywel Dda i 81.7% yng Nghaerdydd a’r Fro.
- Yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau coch oedd 4 munud a 58 eiliad, tair eiliad yn arafach o’i gymharu â 2016-17.
- Yr amser ymateb canolrif ar gyfer galwadau melyn oedd 19 munud a 3 eiliad, bron i 5 a hanner munud yn arafach na’r flwyddyn flaenorol.
Adroddiadau
Gwasanaethau ambiwlans, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan GIG Cymru
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.