Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwil hwn yn rhoi amcangyfrifon meintiol o'r angen am wybodaeth a chyngor lles cymdeithasol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ac i Gymru gyfan. Mae'n canolbwyntio ar bum maes o ddiddordeb: (1) Budd-daliadau Lles; (2) Dyledion; (3) Defnyddwyr a Chyllid; (4) Tai a Chymdogion; a (5) Cyflogaeth.

Mae’r ymchwil hwn wedi amcangyfrif lefel yr angen am gyngor lles cymdeithasol ymhlith poblogaeth Cymru ac ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ar draws pum categori allweddol: Lles, Dyledion, Cyflogaeth, Tai a Chymdogion, a Defnyddwyr a Chyllid. Mae'r canlyniadau'n seiliedig ar ddadansoddiad o ddata arolwg a gweinyddol y boblogaeth gyffredinol, yn hytrach na data am unigolion sydd wedi ceisio cyngor gan y bydd y ffigurau hyn yn adlewyrchu'r cyllid sydd ar gael a p'un a yw unigolion sydd angen cyngor yn mynd ati i'w geisio ai peidio.

Mae cyfanswm y lefelau o angen cyngor yn uchel, amcangyfrifwyd bod 916,000 o faterion cyngor yn 2022/23, er y bydd nifer yr unigolion yn is gan y bydd gan rai anghenion cyngor lluosog. Mae'r ffigur hwn yn uwch na'r lefelau presennol o ddarpariaeth gwasanaeth, felly mae'n debygol bod angen sylweddol yn y boblogaeth sydd heb ei ddiwallu. Mae unigolion a fyddai’n elwa o dderbyn cyngor felly yn gwneud penderfyniadau heb yr wybodaeth a’r cymorth a allai eu helpu.

Anghenion lles yw'r categori unigol mwyaf o angen. Cyflogaeth oedd y categori lleiaf a ystyriwyd gennym, er bod materion gwahaniaethu yn debygol o fod yn fwy cyffredin yn y categori hwn. Mae'n debygol hefyd y bydd gorgyffwrdd sylweddol ag unigolion ag anghenion cyngor mewn categorïau lluosog.

Mae’r modelu o siociau tymor byr yn awgrymu y gallai siociau economaidd yn y dyfodol (er enghraifft cyfraddau morgeisi annisgwyl o uchel) ysgogi newidiadau mawr yn yr angen am gyngor. Lle mae siociau cenedlaethol yn effeithio ar Gymru gyfan yn gyfartal, bydd hyn yn ysgogi lefelau uwch o angen yn gyffredinol. Fodd bynnag, ar gyfer y rhan fwyaf o siociau, mae’n debygol na fydd yr effaith yn gymesur, a bydd rhai awdurdodau lleol yn profi effaith fwy nag eraill. Er enghraifft, mae twf cyflymach neu arafu annisgwyl yn y sector twristiaeth yn debygol o gael mwy o effaith ar gyflogaeth mewn ardaloedd sydd â sector twristiaeth mawr. Gallai hyn yn ei dro gael effaith ganlyniadol lle mae unigolion sy'n dod yn ddi-waith neu sydd â chyflogaeth llai sefydlog yn ceisio cyngor yn ymwneud â chyflogaeth gan wasanaethau cynghori.

Nid oedd lefelau angen yn wahanol iawn rhwng awdurdodau lleol â'r dwysedd poblogaeth uchaf a lleiaf. Fodd bynnag, nid yw’r adroddiad hwn yn dod i unrhyw farn ar gost darparu gwasanaethau cynghori mewn gwahanol awdurdodau lleol ac mae hyn yn debygol o amrywio yn seiliedig ar lawer o ffactorau, gan gynnwys natur wledig yr ardal.

Adroddiadau

Dadansoddiad anghenion a model rhagfynegol o wasanaethau gwybodaeth a chyngor lles cymdeithasol yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joshua Parry

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.