Neidio i'r prif gynnwys

Caniateir gwasgaru slyri neu dail organig arall sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd, ac eithrio tail dofednod, rhwng 15 Hydref a 15 Tachwedd 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Fe wnaeth y cyfnodau o sychder eithafol yr haf hwn leihau twf glaswellt. Mae hyn wedi effeithio ar y gallu i:

  • wasgaru slyri yn briodol 
  • leihau'r cyfeintiau mewn storfeydd slyri cyn yr hydref a'r 'cyfnodau gwaharddedig'

Mewn ymateb i'r amgylchiadau hyn, caniateir gwasgaru slyri neu dail organig arall sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd, ac eithrio tail dofednod, rhwng 15 Hydref a 15 Tachwedd 2026. Mae hyn yn berthnasol i bob math o bridd a chnwd.

Y gofynion ar gyfer gwasgaru slyri rhwng 15 Hydref a 15 Tachwedd

Er mwyn lleihau'r risg o lygredd yn ystod y cyfnod hwn, mae amodau ychwanegol yn gymwys.

Rhaid i chi:

  • beidio â gwasgaru mwy na 30 metr ciwbig yr hectar (tua 2,670 galwyn yr erw)
  • sicrhau bwlch o 3 wythnos o leiaf rhwng pob gwasgariad

Cyn gwasgaru

Nodwch. Mae gofynion presennol y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yn dal i fod yn berthnasol ac mae'n rhaid eu hystyried.

Pryd bynnag y byddwch yn gwasgaru tail organig, gan gynnwys slyri, rhaid i chi wneud hynny mewn modd sy'n:

  • lleihau'r risg o lygredd, ac 
  • cydymffurfio â holl ofynion eraill y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol

Mae'r rhain yn cynnwys:

Cynllunio'r broses o wasgaru tail

Cyn dechrau gwasgaru unrhyw wrtaith sy'n cynnwys nitrogen, rhaid i chi ystyried:

  • anghenion y cnwd, ac
  • os oes gan y cnwd anghenion o ran y deunydd sy'n cael ei ddefnyddio

Dylid cynnwys hyn fel rhan o'ch cynllun rheoli maethynnau presennol. Dylech ystyried y terfynau nitrogen a nodir yn y rheoliadau. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler prif ganllawiau'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.   

Gwasgaru mewn amodau addas

Rhaid i chi gynnal archwiliad o'r cae ar yr adeg yr ydych yn bwriadu gwasgaru. Mae hyn i ystyried y risg o bydd nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb. Dylech nodi yn benodol:

  • goleddf y tir, yn enwedig os yw’r goleddf yn fwy na 12°
  • unrhyw orchudd daear
  • pa mor agos y mae'r tir at ddŵr wyneb, nentydd neu afonydd
  • y tywydd
  • y math o bridd, a
  • phresenoldeb draeniau tir

Rhaid i chi beidio â gwasgaru os:

  • daw risg sylweddol i'r amlwg
  • yw’r pridd yn ddwrlawn
  • yw’r pridd dan ddŵr, 
  • yw’r pridd wedi ei orchuddio ag eira
  • yw’r pridd wedi rhewi 
  • oedd y pridd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol