Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn helpu ffermwyr a rheolwyr tir i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Rydym wedi cyhoeddi mesurau rheoliadol er mwyn mynd i’r afael â llygredd amaethyddol ar 27 Ionawr 2021. Bydd y rheoliadau’n berthnasol i bob fferm ar draws Cymru a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2021.

Bydd cyfnodau trosiannol ar gyfer rhai mesurau hyd 1 Ionawr 2023 ac 1 Awst 2024.

Bydd y canllawiau a’r cwestiynau cyffredin yn darparu gwybodaeth a thempledi i’ch cynorthwyo â chydymffurfiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu estyniad o bedwar mis i weithredu'r terfyn blynyddol o 170kg/ha ar gyfer nitrogen o dail da byw ar gyfartaledd dros y daliad, naill ai yn uniongyrchol gan yr anifail neu drwy ei ledaenu. Bydd y gofyniad hwn nawr yn berthnasol o 30 Ebrill 2023.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion ar gyfer cynllun trwyddedu i ganiatáu terfyn blynyddol uwch ar gyfer defnyddio nitrogen tan 2025. Mae'r ddogfen ymgynghori yma: Rheoli maethynnau: rheoli’r defnydd cynaliadwy o dail da byw. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Chwefror.