Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol yng Nghymru i ddiogelu cyflwr afonydd, llynnoedd a nentydd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw'r cam wrth i nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol – sy’n cael eu derbyn yn eang fel digwyddiadau sy'n niweidiol i iechyd pobl, bywyd gwyllt a chyfleoedd thwristiaeth - barhau'n uchel iawn, mwy na thri yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae rhai o'r rhain wedi arwain at lygru ffynonellau dŵr yfed a dinistrio planhigion a bywyd dyfrol mewn rhannau o ddyfrffyrdd Cymru.

Bydd y Rheoliadau newydd yn sicrhau bod pob ffermwr yn deall pa gamau y mae angen iddynt eu cymryd i ymuno â'r rhai sydd eisoes yn diogelu amgylchedd cyfoethog Cymru ac yn rheoli tail anifeiliaid yn gyfrifol. Mae'r Rheoliadau'n gymesur â’r peryglon o lygredd, gyda’r ffermwyr sydd eisoes yn gweithredu yn unol â’r safonau a argymhellir yn gweld ychydig iawn o effaith ar eu harferion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £1.5 miliwn i helpu ffermwyr i wella ansawdd dŵr a defnyddir £11.5m o gyllid cyfalaf i gefnogi busnesau fferm yn uniongyrchol i wella’r seilwaith rheoli maethynnau. Mae hyn yn dilyn cynllun y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy a gefnogodd fwy na 500 o ffermydd gyda £22m o fuddsoddiad mewn seilwaith ffermydd hyd at fis Medi 2020.

Er bod gan rai ardaloedd yng Nghymru fwy o achosion nag eraill, mae cysylltedd dyfrffyrdd Cymru ac allyriadau i'r atmosffer yn golygu bod llygredd amaethyddol yn broblem sy'n effeithio ar y wlad gyfan. Mae afonydd a llynnoedd sy'n methu cyrraedd safonau ansawdd dŵr cyfreithiol yn beth cyffredin, gan beryglu iechyd y cyhoedd a bioamrywiaeth, ac effeithio'n negyddol ar afonydd a adferwyd yn rhyngwladol yn flaenorol a ddefnyddir at ddibenion chwaraeon, pysgota a dibenion hamdden eraill.

Ar 31 Rhagfyr datganodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddigwyddiad arwyddocaol yn dilyn gweithredoedd ffermwr yng Ngorllewin Cymru a ledaenodd wastraff niweidiol ei anifeiliaid fferm, er gwaethaf y tywydd gwlyb a'r tir soeglyd. Cyrhaeddodd un cilometr i mewn i'r brif afon, Ardal Cadwraeth Arbennig.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae llygredd amaethyddol wedi effeithio ar gyrff o ddŵr ledled Cymru ers gormod o amser o lawer ac rwy'n benderfynol o weithredu i ddiogelu cefn gwlad Cymru, gan hefyd gefnogi ein ffermwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn.

Rydym yn parhau i wynebu cyfradd o fwy na thri digwyddiad llygredd amaethyddol yr wythnos, ac yn erbyn cefndir o'r fath, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu'r cyhoedd a'r amgylchedd.

Rwyf wedi rhoi pob cyfle i'r diwydiant fynd i'r afael â'r mater yn ystod y pedair blynedd diwethaf, a sicrhau bod y rhai sy'n llygru ein hafonydd yn gweithredu yn unol â'r rhan fwyaf o ffermwyr sy'n gofalu am yr amgylchedd. 

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd a'r unig wlad sydd wedi ymgorffori yn y gyfraith fframwaith sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni feddwl am genedlaethau'r dyfodol. Rhaid i'r Gymru y byddwn yn ei gadael ar ein hôl fod yn addas i'n plant a'n hwyrion ac mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i gynnal y safonau hyn.

Un elfen o hyn yw cynnal ansawdd dŵr eithriadol i ddiogelu ein cefn gwlad hardd a'n bywyd gwyllt, a hefyd ein dŵr yfed ac ymolchi, yr ydym i gyd yn dibynnu arno ar gyfer ein hiechyd.

Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i ffermwyr gynnal safonau eithriadol a fydd, yn eu tro, yn cryfhau delwedd diwydiant amaethyddol Cymru.