Neidio i'r prif gynnwy

Data ar coronafeirws ac ar weithgarwch a chapasiti’r GIG hyd at 2 Mawrth 2021.

Oherwydd materion yn ymwneud â phrosesu data, dim ond hyd at 23 Chwefror 2021 y mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi gallu darparu data dyddiol ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys, yn hytrach na 28 Chwefror 2021. Byddwn yn diweddaru'r data hwn fel rhan o'n cyhoeddiad arfaethedig nesaf ddydd Iau 11 Mawrth 2021.

Ystadegau am y coronafeirws:

  • nifer yn yr ysbyty
  • derbyniadau newydd i’r ysbyty
  • gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yng Nghymru
  • gwelyau cyffredinol ac acíwt yng Nghymru
  • derbyniadau i adrannau dacab

Mae ystadegau am alwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn. Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12 yp ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12yp ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno data yn ymwneud â chapasiti a gweithgarwch yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn unig. Mae gwybodaeth gyd-destunol ehangach fel nifer yr achosion a marwolaethau yn parhau i fod ar gael ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi data yn wythnosol ar y profion ar gyfer coronafirws (COVID-19).

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth am brofion, achosion, marwolaethau a gofal iechyd ar lefel y DU. Nodwch bod y data gofal iechyd a gyflwynwyd yn nangosfwrdd y DU yn wahanol i’r cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt i alluogi dwyn gwell cymhariaeth â gwledydd eraill, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): 4 Mawrth 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 135 KB

ODS
135 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.