Neidio i'r prif gynnwy

Esboniad ynghylch sut i ymgeisio ar gyfer gwaith mewn gofal cymdeithasol os nad ydych ddinesydd y DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Rydym wrthi’n recriwtio staff i weithio yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae gweithio mewn gofal cymdeithasol yn yrfa werthfawr ac yn gyfle i wneud cyfraniad pwysig i gymdeithas.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â diddordeb, gan gynnwys:

  • pobl o dramor
  • ffoaduriaid
  • pobl alltud o Wcráin

Os ydych yn chwilio am waith ac yn mwynhau gweithio gyda phobl, efallai yr hoffech ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol.

Byddwch yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl eraill, gan feithrin perthynas â’r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt. Mae gwên neu sgwrs yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i ddiwrnod rhywun.

Sut brofiad yw gweithio yn y sector gofal cymdeithasol?

Mae swydd yn y sector gofal cymdeithasol yn rhywbeth sy’n gallu dod â llawer o foddhad. Byddwch yn cynnig cymorth, anogaeth, ac arweiniad i’r bobl yr ydych yn gweithio gyda nhw, gan helpu i ddiwallu eu hanghenion er mwyn iddynt allu byw eu bywyd gorau. 

Rhowch gynnig ar y cwis i weld a ydych yn rhywun a fyddai’n gallu gweithio yn y sector gofal cymdeithasol

Mae’n debygol y bydd eich dyletswyddau’n cynnwys rhai o’r pethau canlynol, neu’r pethau canlynol i gyd:

  • helpu pobl gyda’u gofal personol, er enghraifft, ymolchi, gwisgo, cael pryd o fwyd, a chymryd meddyginiaeth 
  • gwrando, sgwrsio, ac ymwneud yn gymdeithasol â’r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt
  • cefnogi pobl gyda’u diddordebau
  • dilyn trefniadau hylendid a chynnal safonau iechyd a diogelwch
  • cadw pobl yn ddiogel a dilyn gweithdrefnau diogelu
  • cadw cofnodion, gwneud sylwadau ac adolygu cynnydd 
  • cadw mewn cysylltiad â theuluoedd/gweithwyr proffesiynol eraill / pobl berthnasol, a meithrin cysylltiadau gweithio da

Byddai’n ddefnyddiol bod trwydded yrru gennych ar gyfer rhai swyddi mewn gofal cymdeithasol.

Cymwysterau a chofrestru

Er mwyn gweithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru, rhaid ichi fod â nifer o ddogfennau a galluoedd penodol. Os nad oes gennych unrhyw gymwysterau gofal cymdeithasol, mae’n dal yn bosibl ichi weithio mewn rhai swyddi, ac wedyn gallwch ennill eich cymwysterau wrth weithio. 

Gan ddibynnu ar eich rôl gofal cymdeithasol, efallai y bydd angen ichi fod yn gofrestredig. Mae bod yn gofrestredig yn golygu bod y gweithwyr gofal cymdeithasol hyn yn rhan o weithlu proffesiynol. Gallant ddangos bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd da.

Rhaid ichi gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru os ydych yn gweithio yn y canlynol:

  • cartref gofal i blant
  • llety diogel
  • gwasanaeth cymorth cartref
  • gwasanaeth cartref gofal i oedolion
  • gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd

Ar gyfer rhai rolau, gallwch ddechrau yn eich swydd a gweithio tuag at gofrestru, ond ar gyfer rolau eraill rhaid ichi gofrestru cyn dechrau yn eich swydd. Mae gwybodaeth berthnasol ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru: Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr hefyd yn gorfod cwblhau proses gofrestru.

Os oes gennych gymhwyster nad yw ar y rhestr hon, gallwch ofyn i weld a yw’n dderbyniol. Mae’r holl geisiadau’n cael eu hystyried fesul cais. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn rhoi gwybod ichi ba hyfforddiant ychwanegol y gallai fod angen ichi ei gwblhau ar gyfer gweithio mewn gofal cymdeithasol.

Gofynion ynglŷn â’r Saesneg

Mae Cymru yn wlad ddwyieithog lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu siarad. Os yw eich Saesneg yn dda, ni fyddwch yn cael unrhyw broblem wrth weithio mewn gofal cymdeithasol.

Fel arfer, bydd angen ichi brofi eich gwybodaeth o’r Saesneg pan fyddwch yn gwneud cais am fisa. Bydd angen i’r sawl sydd am eich cyflogi yn y dyfodol wneud yn siŵr bod eich Saesneg yn ddigon da ar gyfer y rôl yr ydych yn gwneud cais amdani.

Rhaid ichi brofi eich bod yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad, a deall Saesneg i lefel benodol. Nid oes angen i bobl o rai gwledydd wneud hyn.

Cliciwch yma i weld: lefel y Saesneg y mae ei hangen a rhestr o wledydd sydd wedi eu heithrio (gov.uk).  

Rheolau mewnfudo i wladolion nad ydynt o’r DU

Mae Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig (y DU) ac mae rheolau mewnfudo y DU yn weithredol. Bydd y caniatâd ichi weithio yn y DU yn dibynnu ar eich sefyllfa. 
 
Os nad ydych yn y DU ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd angen fisa arnoch. Cliciwch ar y ddolen i weld eich opsiwn gorau ar gyfer gweithio yma: Fisas a mewnfudo (gov.uk). Mae’r wefan hon yn rhoi’r holl fanylion y mae eu hangen i wneud cais am fisa. Neu efallai eich bod yn gymwys i gael y fisa i Weithwyr Iechyd a Gofal: Trosolwg (gov.uk) er enghraifft.

Mae’n rhaid ichi gael cynnig swydd sydd wedi ei gadarnhau cyn ichi allu gwneud cais am fisa. Gan ddibynnu ar eich fisa, gallai fod gennych hyd at 5 mlynedd cyn y bydd angen ichi ei ymestyn. Cewch wneud cais i ymestyn eich fisa cynifer o weithiau ag ydych yn dymuno gwneud hynny, cyn belled â’ch bod yn parhau i fodloni’r gofynion cymhwystra. Ar ôl 5 mlynedd, gallai fod yn bosibl ichi wneud cais i fod yn breswylydd yn y DU, (rhywbeth sy’n cael ei alw hefyd yn ganiatâd amhenodol i aros).

Os ydych yn wladolyn nad yw o’r DU ac rydych eisoes yn y DU, bydd caniatâd i weithio yma yn dibynnu ar eich statws mewnfudo. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Profi i gyflogwr bod gennych yr hawl i weithio: get a share code (gov.uk).

Dod o hyd i swydd mewn gofal cymdeithasol a gwneud cais

Pa rolau sydd ar gael? 

Mae llawer o wahanol swyddi yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae oddeutu 60 o wahanol rolau gofal cymdeithasol, gan gynnwys y canlynol:

  • Gweithwyr gofal: maent yn helpu pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth. Gallai eu gweithle fod mewn cartref gofal neu yng nghartrefi pobl yn y gymuned. 
  • Cydgysylltwyr gweithgareddau: gan mwyaf mae’r gweithwyr hyn wedi eu lleoli mewn cartrefi gofal neu ganolfannau dydd. Maent yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol megis tripiau allan, adloniant, gemau neu grefftau. 
  • Goruchwylwyr ac arweinwyr tîm: maent yn arwain neu’n goruchwylio tîm o weithwyr gofal. Gallai hyn fod mewn cartref gofal, neu gyda gweithwyr gofal yn y gymuned.
  • Gweithwyr cymdeithasol: maent yn cefnogi pobl am gyfnod penodol. Er enghraifft, maent yn cynnig cymorth i bobl yn ystod salwch, neu bobl sydd â phroblemau sy’n gysylltiedig ag oed, anabledd neu brofedigaeth. Maent hefyd yn helpu pan fydd angen diogelu pobl agored i niwed.

Mae llawer o wahanol rolau i ddewis ohonynt. Mewn rhai rolau, cewch ddechrau gweithio heb fod gennych gymwysterau ffurfiol, ac mae’n fwy pwysig eich bod yn rhywun sy’n trin pobl â pharch, ac yn rhywun caredig a gonest, a’ch bod yn gyfathrebwr da. Bydd eich cyflogwr wedyn yn gallu eich helpu i gael yr hyfforddiant a’r cymwysterau angenrheidiol.

Bydd eich gwaith yn gallu gweddu i batrwm eich bywyd, ac mewn gwaith gofal cymdeithasol mae’n bosibl cael llawer o hyblygrwydd o ran eich oriau a’ch amseroedd gweithio.
 
I gael rhagor o wybodaeth am rolau mewn gofal cymdeithasol, ewch i: Gweithio mewn gofal cymdeithasol a gofal plant | Gofalwn Cymru

Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn dymuno gwybod mwy am weithio yn y maes gofal cymdeithasol, mae cwrs tridiau am ddim ar gael i chi.

Dod o hyd i swydd

Mae llawer o wefannau lle mae cyflogwyr yn hysbysebu swyddi ym maes gofal cymdeithasol, megis:

Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector gofal cymdeithasol ac rydych eisoes yn byw yng Nghymru, gallai gwasanaeth Cymru’n Gweithio eich helpu. Mae’r gwasanaeth yn gallu eich helpu i gynllunio, i ymbaratoi ac i ddod o hyd i gwrs hyfforddi addas. Mae hefyd yn gallu rhoi cyngor gyrfa a chymorth cyflogaeth arbenigol sydd wedi eu teilwra ichi fel unigolyn. Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim i bawb sy’n 16 oed ac yn hŷn ac sy’n byw yng Nghymru.

Os nad ydych yng Nghymru a’r DU eto, gallwch ymgeisio am swydd gyda chyflogwr gofal cymdeithasol, ac mae’n bwysig gofyn a fyddai’n bosibl iddo weithredu fel noddwr ar gyfer eich fisa.

Opsiwn arall yw cofrestru gydag asiantaeth recriwtio ryngwladol ddibynadwy. Bydd yr asiantaeth yn gallu eich helpu drwy’r broses ac awgrymu cyflogwyr posibl.

P’un a ydych yng Nghymru neu’n gwneud cais o dramor, bydd angen ichi gael cyfweliad. Rhaid i unrhyw gyflogwr fod â hyder bod gennych y sgiliau priodol i weithio mewn gofal cymdeithasol. Bydd y math o gyfweliad yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr. Dylai’r darparwr ddweud wrthych am yr hyn i’w ddisgwyl. Os nad yw’n gwneud hynny, gofynnwch iddo egluro’r broses gyfweld. Yn ystod y cyfweliad, bydd y darparwr yn gofyn cwestiynau ichi, gan gynnwys ynghylch y canlynol:

  • eich profiad a’ch sgiliau
  • eich hanes cyflogaeth llawn (gan gynnwys unrhyw fylchau)
  • eich cymwysterau perthnasol, eu cynnwys, a’u lefel

Y dogfennau y mae eu hangen ar gyfer gwiriadau cyn ichi ddechrau gweithio

Cyn ichi allu gweithio i ddarparwr gofal cymdeithasol cofrestredig, bydd angen iddo gwblhau gwiriadau. O dan y gyfraith yng Nghymru rhaid gwneud hyn ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Rhaid ichi aros nes bod y gwiriadau wedi eu cwblhau cyn ichi allu ddechrau yn eich swydd. Bydd angen ichi ddarparu dogfennaeth benodol ar gyfer y gwiriadau hyn. Mae’r tabl yn Atodiad 1 yn dangos manylion yr hyn y mae angen i ddarparwr ei wirio, a’r hyn y gallech ei roi ar gyfer hynny.

Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gallai fod angen ei roi i ddarparwr:

  • Dogfen/cerdyn adnabod (ID) a llun ohonoch. Os ydych yn dod o Wcráin, dylai’r Swyddfa Gartref ddarparu ID dros dro. Pan fydd y Swyddfa Gartref wedi ei brosesu, byddwch yn cael trwydded breswylio fiometrig (Biometric Residence Permit).
  • Eich hanes cyflogaeth a/neu CV (curriculum vitae).
  • O leiaf dau eirda. Gallent fod yn eirda gan gyn gyflogwr, geirda academaidd, neu eirda personol. Gallai cyflogwyr ystyried geirdaon personol o dan rai amgylchiadau.
  • Gwiriad datgeliad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Rhaid ichi gael gwiriad manwl DBS boddhaol cyn ichi allu gweithio yn y sector gofal cymdeithasol. Mae hwn yn wiriad sy’n benodol i’r DU ac mae’n ofynnol ichi ddarparu dogfennau adnabod (ID) penodol. Eich cyflogwr fydd yn gwneud cais amdano. Ewch i: DBS ID canllawiau gwirio (gov.uk)
  • Mae’n bosibl y bydd y sawl sydd am eich cyflogi yn dymuno cael sicrwydd pellach nad oes gennych unrhyw euogfarnau troseddol yn eich erbyn. Gall wneud hyn drwy wiriad cofnod troseddol sy’n cael ei ddarparu drwy lysgenhadaeth eich gwlad gartref. Enw arall ar hyn yw Tystysgrif Cymeriad Da (Certificate of Good Character). Gwneir hyn oherwydd dim ond euogfarnau yn y DU sy’n cael eu dangos mewn gwiriadau DBS. Dylai’r cyflogwr drafod â chi ei resymau dros wneud y gwiriad hwn. Os oes gennych resymau pam na ddylai gwneud hynny, byddwch yn agored gan egluro eich sefyllfa wrtho. Er enghraifft os oes perygl i chi neu eich teulu os yw eich gwlad gartref yn darganfod lle’r ydych chi. Bydd yr angen i gwblhau’r math hwn o wiriad yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Mae rhagor o wybodaeth am wiriadau’r heddlu ar gael. Ewch i: Gwiriadau cofnod troseddol ar gyfer ymgeiswyr o dramor (gov.uk). Fel arfer, bydd angen ichi wneud cais am wiriad cofnod troseddol yn eich gwlad gartref. Mae gwybodaeth benodol am hyn ar gyfer pobl o Wcráin ar gael yn Atodiad 2.
  • Eich Hawl i Weithio yn y DU. Gweler yr wybodaeth gyffredinol am brofi’r Hawl i Weithio i gyflogwr. Gall pobl o Wcráin wirio i gael gwybodaeth am brofi eu statws mewnfudo.
  • Rhif Yswiriant Gwladol. Ewch i Gwneud cais am Rif Yswiriant Gwladol: Pwy sy’n cael gwneud cais am Rif Yswiriant Gwladol (gov.uk).
  • Tystiolaeth o’ch gallu i siarad, ysgrifennu, a deall Saesneg.
  • Manylion cyfrif banc (i dalu eich cyflog i mewn iddo).

Mae’r tabl yn Atodiad 1 yn rhoi enghreifftiau o ddogfennau derbyniol.

Cymorth gyda cheisiadau am swyddi

Os ydych yn dymuno gwneud cais am swydd mewn gofal cymdeithasol o’r tu allan i’r DU, cewch wneud hynny. Mae llawer o bobl yn rheoli’r broses eu hunain. Bydd costau’n gysylltiedig â hyn gan ddibynnu ar eich sefyllfa unigol. Gallai fod o gymorth ddysgu rhywfaint am y broses cyn ichi ddechrau.

Gallwch hefyd wneud cais drwy ddefnyddio asiantaeth recriwtio ddibynadwy sydd ag enw da. Bydd honno’n gallu ei gwneud yn haws ichi fynd drwy’r broses. Fel arfer nid yw asiantaethau’n gofyn ichi fel gweithiwr dalu am hyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch unrhyw beth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau fel gweithiwr yn y DU: Statws Cyflogaeth: Gweithiwr (gov.uk).

Os ydych chi yng Nghymru eisoes, gall Cymru’n Gweithio eich helpu i wella eich sgiliau ac i fanteisio ar gyfleoedd gwaith. Gall hefyd eich helpu i ymbaratoi ar gyfer cyfweliadau ac i gael gwybod y posibiliadau o ran cael cyllid. Ewch i Canfod Cymorth | Working Wales

Gallai eich cyflogwr hefyd. gael cymorth ar gyfer eich cyflogi os ydych yn bodloni’r meini prawf. Gallai hynny ddigwydd drwy gynllun REACT+: ReAct+ | Busnes Cymru Porth Sgiliau

Ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern

Mae caethwasiaeth fodern yn cyfeirio at gam-fanteisio’n anghyfreithlon ar bobl at ddibenion elw personol neu fasnachol. Gallai gweithwyr o dramor, ffoaduriaid, a phobl eraill sydd wedi cael eu halltudio fod yn agored i niwed. Mae achosion o gaethwasiaeth fodern wedi digwydd yn ddiweddar yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r arwyddion. Gallai pobl o unrhyw oed, rhywedd, wlad, neu ethnigrwydd ddioddef caethwasiaeth fodern.

Mae cyfraith y DU yn diogelu eich hawliau fel gweithiwr, ac mae gennych hawl i gael y canlynol:

  • yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf
  • slip cyflog sy’n dangos manylion eich tâl
  • seibiannau ac amser i ffwrdd o’r gwaith
  • gwyliau gyda chyflog a thâl salwch
  • y sicrwydd bod unrhyw gyllid sy’n cael ei dynnu o’ch cyflog yn deg a chyfreithiol
  • copi o’ch telerau ac amodau
  • amgylchedd gweithio diogel

Atodiadau

Atodiad 1 (gofynion dogfennaeth):

Enghreifftiau o’r mathau o ddogfennaeth ofynnol

Gwybodaeth ynghylch beth dylai darparwyr ei wirio a’r mathau o ddogfennaeth y dylech gynnig.

Er enghraifft pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni, tystysgrif priodas

Os nad oes pasbort, trwydded yrru, tystysgrif geni ar gael, gallai’r ID sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru/ Llywodraeth y DU wrth ichi gyrraedd gael ei defnyddio at ddibenion adnabod, er enghraifft trwydded breswylio fiometrig (biometric residence permit).

Gwybodaeth am eich cymwysterau, profiad, a sgiliau sy’n gysylltiedig â’r rôl benodol

Er enghraifft tystysgrifau cymwysterau, tystysgrifau/cofnodion hyfforddiant, curriculum vitae (CV), geirdaon.

Datganiad gennych o ran cyflwr eich iechyd corfforol ac iechyd meddwl

Datganiad Meddygol o Iechyd wedi ei lofnodi gennych.

Llun diweddar

Ffotograff (ee ffotograff a fyddai’n addas ar gyfer pasbort).

Dau eirda gydag eglurhad yn nodi bod y darparwr yn fodlon bod y geirda yn ddilys

Geirdaon gan gyn-gyflogwyr yn ddelfrydol, gan gynnwys y cyflogwr diweddaraf. Mae’n bosibl hefyd y gallai geirdaon academaidd a geirdaon personol gael eu derbyn mewn sefyllfaoedd eithriadol. Pwysig: rhaid darparu o leiaf dau eirda ac mae’n bosibl y bydd angen darparu mwy ohonynt, gan ddibynnu ar amgylchiadau/adborth.

Geirdaon personol, os nad oes modd cael geirdaon gan gyflogwr.

Hanes cyflogaeth llawn, gydag eglurhad ynghylch unrhyw fylchau

CV, manylion ar y ffurflen gais.

Gwiriad manwl DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

Tystysgrif DBS a gwiriad cofnod troseddol / Tystysgrif Cymeriad Da o’r wlad gartref os yw hynny’n briodol.

Eich cymhwystra i weithio yn y DU (fel sy’n ofynnol o dan y gyfraith mewnfudo)

Datganiad swyddogol/fisa/trwydded. Trwydded waith/ID sy’n cael eu rhoi i ffoaduriaid gan Lywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU. Gwiriad Hawl i Weithio.

Atodiad 2 (dolenni defnyddiol i bobl sydd eisoes yng Nghymru/y DU, gan gynnwys ffoaduriaid a phobl o Wcráin)

Cymorth gyda chyfweliadau a dod o hyd i swydd

Sut y gallwn ni helpu | Working Wales.

Cymorth i ffoaduriaid yn y DU

Cyngor Ffoaduriaid

Mwy ynghylch cymorth i bobl o Wcráin

Croeso! Canllaw i bobl o Wcráin sy’n cyrraedd y DU (publishing.service.gov.uk).

Gall dinasyddion Wcráin ddefnyddio gwefan Gweinyddiaeth Materion Mewnol Wcráin i wneud cais ar gyfer gwiriadau cofnodion troseddol: MIA of Ukraine (mvs.gov.ua). I wneud cais am y gwasanaeth hwn, rhaid bod gan y dinesydd lofnod electronig. Bydd y Llysgenhadaeth wedyn yn anfon llythyr cadarnhad. Cewch wneud ceisiadau i Lysgenhadaeth Wcráin drwy e-bost, (consul_gb@mfa.gov.ua). Fel arfer, mae’r broses yn cymryd dau ddiwrnod ar ôl derbyn y cais. Mae’r Llysgenhadaeth wedi gofyn bod awdurdodau yn y DU yn derbyn cofnodion o’r system ar-lein heb orfod cael cadarnhad. 

Cymorth a chyngor cyffredinol

Advicelink Cymru - Cyngor ar Bopeth

Cysylltwch – Cefnogi Trydydd Sector Cymru; Dewis Cymru.

Atodiad 3: gwybodaeth i bobl nad ydynt yng Nghymru na’r DU ar hyn o bryd

Rhestr o bobl egwyddorol sy’n recriwtio

Gallai fod yn anodd adnabod asiantaeth recriwtio ddibynadwy o dramor. Mae gan y GIG restr o bobl egwyddorol sy’n recriwtio: Rhestr o recriwtwyr egwyddorol | Cyflogwyr y GIG.

Gwybodaeth am symud eiddo ac anifeiliaid anwes i’r DU

Symud eiddo personol i’r DU (gov.uk).