Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad ystadegol

Disgrifiad o'r data

Mae'r datganiad ystadegol ar y gweithlu practis cyffredinol yn rhoi gwybodaeth am nifer y staff sy'n gweithio mewn practisau cyffredinol yng Nghymru a'u nodweddion.

Cyflwynir ystadegau ar gyfer rolau staff gwahanol yn ôl cyfrif pennau a'r nifer cyfwerth ag amser (CALl). Mae cyfrif pennau yn cyfrif nifer y bobl ac mae CALl yn cyfrif nifer yr oriau y mae staff dan gontract i'w gweithio, gydag un CALl yn cyfateb i 37.5 awr yr wythnos fel arfer.

Mae'r datganiad hefyd yn dadansoddi meddygon teulu a staff eraill y practisau yn ôl oedran, rhywedd, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg.

System ddosbarthu

Grwpiau staff: meddygon teulu

Mae'r canlynol yn dangos rolau meddygon teulu unigol ym mhob grŵp o feddygon teulu.

Cwbl gymwysedig
  • Partner/darparwr
  • Uwch-bartner
  • Cyflogedig gan bractis
  • Cyflogedig arall
  • Locwm – arall
  • Wrth gefn
Cwbl gymwysedig parhaol
  • Partner/darparwr
  • Uwch-bartner
  • Cyflogedig gan bractis
  • Cyflogedig arall
  • Wrth gefn
Ymarferydd cyffredinol
  • Partner/darparwr
  • Uwch-bartner
  • Cyflogedig gan bractis
  • Cyflogedig arall
Cofrestrydd mewn practis cyffredinol
  • Cofrestrydd ST1/4
F2
  • Cofrestrydd F1/2

Grwpiau staff: staff eraill y practisau

Mae'r canlynol yn dangos y rolau staff unigol sy'n rhan o bob grŵp o staff eraill practisau.

Nyrsys
  • Ymarferydd Nyrsio Uwch
  • Nyrs Practis â Rôl Estynedig
  • Nyrs sy'n Cyflenwi Meddyginiaeth
  • Nyrs Arbenigol
  • Partner Nyrsio
  • Nyrs Practis
  • Nyrs dan Hyfforddiant
Gofal Uniongyrchol i Gleifion
  • Cynorthwyydd Gofal Iechyd ar Brentisiaeth
  • Prentis – Arall
  • Fferyllydd ar Brentisiaeth
  • Phlebotomydd ar Brentisiaeth
  • Deietegydd
  • Cyflenwr Meddyginiaeth
  • Cynorthwyydd Gofal Iechyd
  • Gweithiwr Cymorth Iechyd
  • Cydymaith Nyrsio
  • Arall
  • Parafeddyg
  • Fferyllydd
  • Technegydd Fferyllol
  • Phlebotomydd
  • Cydymaith Meddygol
  • Ffisiotherapydd
  • Ymarferydd Llesiant Seicolegol
  • Gweithiwr Cyswllt Rhagnodi Cymdeithasol
  • Therapydd - Cwnselydd
  • Therapydd - Therapydd Galwedigaethol
  • Therapydd - Arall
Gweinyddol/anghlinigol
  • Gweinyddwr
  • Prentis
  • Ystadau ac Ategol
  • Cyfarwyddwr Cyllid
  • Partner Rheoli
  • Rheolwr
  • Ysgrifennydd Meddygol
  • Arall
  • Derbynnydd
  • Uwch-reolwr
  • Teleffonydd

Grwpiau ethnigrwydd

Mae'r isod yn dangos pob ethnigrwydd unigol sy'n rhan o'r grwpiau ethnig.

Gwyn
  • Gwyn Prydeinig
  • Gwyn Gwyddelig
  • Gwyn - Unrhyw gefndir Gwyn arall
Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig
  • Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Indiaidd
  • Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Pacistanaidd
  • Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Bangladeshaidd
  • Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig – Unrhyw gefndir Asiaidd arall
  • Malaysiaidd
  • Tsieineaidd
Du neu Ddu Prydeinig
  • Du neu Ddu Prydeinig – Affricanaidd
  • Du neu Ddu Prydeinig – Caribïaidd
  • Cefndir Du arall
  • Du Nigeraidd
Grŵp Cymysg/Aml-ethnig
  • Cymysg - Gwyn a Du Affricanaidd
  • Cymysg Gwyn / Asiaidd
  • Cymysg Gwyn / Du Caribïaidd
  • Cefndir Cymysg arall
Grwpiau Ethnig Eraill
  • Grŵp ethnig arall
Heb ddatgan/Anhysbys
  • Anhysbys
  • Heb Ddatgan
  • Gwrthodwyd

Cysyniadau a diffiniadau ystadegol

Cyfrif pennau

Mae cyfrif pennau yn cyfeirio at nifer y bobl. Mae hyn yn golygu os bydd unigolyn yn gweithio mewn sawl practis mewn bwrdd iechyd, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif yn y bwrdd iechyd hwnnw. Yn yr un modd, os bydd unigolyn yn gweithio mewn sawl rôl, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif yn y grŵp staff cyffredinol (er enghraifft, dim ond unwaith y caiff unigolyn sy'n gweithio fel meddyg teulu locwm a meddyg teulu cyflogedig ei gyfrif yn y grŵp ‘meddygon teulu cwbl gymwysedig’).

Cyfwerth ag amser llawn (CALl)

Mae cyfwerth ag amser llawn (CALl) yn mesur oriau contract pob aelod o staff a fynegir fel rhif cyfwerth ag amser llawn a chaiff ei gyfuno ar gyfer y gweithlu cyfan. 

Ar gyfer pob aelod o staff ac eithrio cofrestryddion mewn practis cyffredinol a meddygon F2, mae 1.0 CALl yn cyfateb i waith llawn-amser o 37.5 yr wythnos ac mae 0.5 CALl yn cyfateb i 18.75 awr yr wythnos. Mae gan bob cofrestrydd a meddyg F2 gontract 40 awr yr wythnos, felly mae 1.0 CALl yn cyfateb i 40 awr ar gyfer y mathau hyn o feddygon teulu. 

Mae CALlau ar gyfer pob rôl staff yn cyfrif yr holl oriau y mae unigolyn o dan gontract i'w gweithio, ni waeth sawl contract sydd ganddo. Er enghraifft, os yw'r un unigolyn yn gweithio fel meddyg teulu cyflogedig am 30 awr yr wythnos (0.8 CALl) mewn un practis a 7.5 awr yr wythnos (0.2 CALl) mewn practis arall, bydd yn cyfrif fel 1.0 CALl yn y grŵp meddyg teulu cyflogedig ar lefel Cymru.

Contract

Gall fod gan un aelod o staff fwy nag un math o gontract, felly bydd nifer y contractau yn wahanol i'r cyfrif pennau. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, pan fo gan unigolyn gontractau fel meddyg teulu cyflogedig ac fel meddyg teulu locwm; neu os oes gan yr un unigolyn gontractau fel nyrs practis a phlebotomydd.

Practis cyffredinol

Mae practisau cyffredinol yn darparu gwasanaethau meddygol gofal sylfaenol ar ran y bwrdd iechyd lleol, gydag o leiaf un ymarferydd meddygol cyffredinol cymwysedig sy'n gallu rhagnodi meddyginiaeth a lle gall cleifion gofrestru a chael eu cadw ar restr. At ddiben y datganiad hwn, mae'r term practis cyffredinol yn cyfeirio at brif feddygfeydd yn unig ac nid yw'n cynnwys carchardai, canolfannau'r fyddin, sefydliadau addysgol, canolfannau gofal arbenigol na chanolfannau galw i mewn.

Meddygon teulu cwbl gymwysedig

Mae hyn yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm yn unig. Mae'r rhain yn feddygon teulu cwbl gymwysedig sydd wedi’u cofrestru ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Cymru a'u trwyddedu gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Nid yw'n cynnwys cofrestryddion mewn practis cyffredinol. 

Mae'r data cyfrif pennau ar gyfer y grŵp hwn o staff ond yn dyddio'n ôl i 31 Mehefin 2021 ac mae'r data ar CALl ond yn dyddio'n ôl i 31 Rhagfyr 2021. Cyn hyn, nid oedd data ar yr holl fathau o feddygon teulu sy'n rhan o'r grŵp hwn yn cael eu casglu mewn ffordd gyson ac felly nid ydynt yn gymaradwy. 

Gall fod gan feddygon teulu cwbl gymwysedig gontractau llawnamser neu ran amser. Mae gan bob meddyg teulu, ar wahân i rai locwm, gontract parhaol. Ni chaiff meddygon teulu locwm eu cyfrif oni bai bod eu sesiynau wedi cael eu cofnodi drwy Locum Hub Wales yn ystod y cyfnod cyfeirio.

Meddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig

Mae hyn ond yn cynnwys partneriaid, darparwyr, meddygon teulu cyflogedig a meddygon teulu wrth gefn yn unig. Mae'r rhain yr un fath â'r mathau o feddygon teulu a gaiff eu cyfrif yn y grŵp ‘meddygon teulu cwbl gymwysedig’, ond ni chaiff meddygon teulu locwm eu cynnwys. 

Mae data cyfrif pennau ar gyfer y grŵp hwn o staff wedi cael eu casglu a'u cyhoeddi mewn ffordd gyson ers 31 Mawrth 2020. Cyn hyn, casglwyd data cyfrif pennau drwy ffyrdd eraill (systemau talu). Pan gafodd System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS) ei rhoi ar waith, dangosodd dadansoddiad o gymharedd rhwng yr hen system a'r system newydd nad oedd cyfrifon pennau yn uniongyrchol gymaradwy ac mai dim ond er mwyn rhoi syniad o faint y gweithlu ar adegau gwahanol y dylid cymharu data rhwng y ddau ddull casglu data. 

Mae data CALl ar gyfer y grŵp hwn o staff ond yn dyddio'n ôl i 31 Rhagfyr 2021. Nid yw'r data CALl a gasglwyd cyn y dyddiad hwn yn gymaradwy. 

Mae'r canllawiau uchod ar gymharedd yn berthnasol i'r holl fathau o feddygon teulu sydd wedi'u cynnwys yn y mesur ‘parhaol cwbl gymwysedig’ (partner, darparwr, cyflogedig, wrth gefn) pan gânt eu dadansoddi fel mathau unigol o feddygon teulu.

Ymarferydd cyffredinol

Mae hyn ond yn cynnwys partneriaid, darparwyr a meddygon teulu cyflogedig yn unig. Nid yw'n cynnwys meddygon teulu wrth gefn, meddygon teulu locwm na chofrestryddion mewn practis cyffredinol. Ni chaiff meddygon teulu wrth gefn eu cynnwys am eu bod yn nifer bach o feddygon teulu sy'n gweithio ar gontractau penodol â llai o oriau.

Ymarferwyr cyffredinol yw'r mwyafrif helaeth o'r gweithlu ac, yn hanesyddol, y data cyfrif pennau ar gyfer y grŵp hwn o staff sydd wedi rhoi'r mesur mwyaf sefydlog o'r gweithlu meddygon teulu.

Meddyg teulu sy'n bartner neu'n ddarparwr

Meddygon teulu sydd wedi ymrwymo i gontract â bwrdd iechyd lleol i ddarparu gwasanaethau i gleifion. Dyma'r meddygon teulu ar y lefel uchaf mewn practis fel arfer. 

Yn benodol, mae meddyg teulu sy'n bartner yn bartner yn y bartneriaeth fusnes sy'n darparu gwasanaethau meddyg teulu. Mae meddyg teulu sy'n ddarparwr naill ai yn unig ymarferydd; yn bartner mewn partneriaeth a'r bartneriaeth honno yw'r contractwr; neu'n gyfranddaliwr mewn cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau a'r cwmni hwnnw yw'r contractwr.

Meddygon teulu cyflogedig

Meddygon teulu sy'n cael eu cyflogi a'u talu drwy gyflog gan y practis cyffredinol. Gall meddygon teulu cyflogedig gael eu cyflogi gan fyrddau iechyd yn uniongyrchol i weithio mewn practisau a reolir gan y bwrdd iechyd; yn yr achosion hyn, bydd y wybodaeth am feddygon teulu cyflogedig ar gael ar WNWRS.

Meddyg teulu wrth gefn

Meddyg teulu cofrestredig sydd wedi ymuno â'r Cynllun Meddygon Teulu Wrth Gefn. Nod y cynllun hwn yw helpu i gadw meddygon ym maes practis cyffredinol ac, fel arfer, mae'n gymwys i feddygon teulu sy'n nesáu at oed ymddeol neu y mae angen mwy o hyblygrwydd arnynt yn eu gwaith ym maes practis cyffredinol. Dim ond hyd at 4 sesiwn glinigol y gall meddyg teulu wrth gefn eu gweithio bob wythnos.

Meddyg teulu locwm

Mae meddygon teulu locwm yn feddygon teulu cwbl gymwysedig sy'n darparu gwasanaethau mewn practisau dros dro. Dim ond meddygon teulu locwm a ddarparodd wasanaethau yn ystod y cyfnod cyfeirio a gaiff eu cyfrif yn yr ystadegau hyn. Yn ymarferol, gwneir hyn drwy gyfrif y meddygon teulu locwm hynny y mae ganddynt sesiynau wedi'u cofnodi drwy Locum Hub Wales (LHW) yn unig. 

Bydd bron pob practis yn cofnodi sesiynau meddygon teulu locwm drwy LHW gan fod hyn yn ofynnol i'r gwaith hwnnw gael ei gwmpasu gan y Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI). Yr unig bractisau na fyddant o bosibl yn gwneud hyn yw practisau a gaiff eu rheoli gan fyrddau iechyd lleol, gan y byddai gwaith meddygon locwm yn cael ei gwmpasu gan indemniad y bwrdd iechyd. Gall meddygon teulu locwm ddefnyddio LHW fel adnodd amserlennu hefyd, felly efallai y byddant yn cofnodi sesiynau drwy LHW, hyd yn oed pan fyddant yn gweithio mewn practis a reolir gan fwrdd iechyd lleol. 

Ar 30 Medi 2023, roedd 26 o bractisau a reolir gan fwrdd iechyd lleol, ac roedd gweithgarwch locwm wedi'i gofnodi drwy LHW ar gyfer 23 o'r rhain. Ar hyn o bryd, nid oes dull ffurfiol o gasglu data ar gyfer sesiynau meddygon teulu locwm na chânt eu cofnodi drwy LHW; fodd bynnag, disgwylir y bydd swm y gwaith locwm nad yw'n cael ei gofnodi ar hyn o bryd yn debygol o fod yn ganran fach o'r meddygon teulu locwm CALl cyffredinol ym mhob chwarter. 

At hynny, ni chaiff unrhyw feddyg teulu locwm sydd wedi'i gofrestru ar Gofrestr Meddygon Locwm Cymru Gyfan, ond na chofnodwyd unrhyw sesiynau ar ei gyfer ar LHW yn ystod y chwarter, ei gyfrif yn yr ystadegau cyfrif pennau na CALl.

Cofrestrydd mewn practis cyffredinol

Mae cofrestryddion, a elwir weithiau yn feddygon teulu dan hyfforddiant, yn feddygon cymwysedig sydd wrthi'n gweithio i ddod yn feddygon teulu ac yn gwneud cyfnod o hyfforddiant mewn practis cyffredinol ac ysbytai. Yn hanesyddol, yng Nghymru roedd y rhaglen hyfforddi yn cynnwys 18 mis mewn swyddi cymeradwy mewn ysbyty a 18 mis mewn practis cyffredinol; fodd bynnag, ers 2019 mae'r rhaglen hyfforddi wedi newid i 12 mis mewn swyddi mewn ysbyty a 24 mis mewn practis cyffredinol. Mae hyn yn esbonio rhywfaint o'r cynnydd yn nifer y cofrestryddion ers 2019. 

Y cofrestryddion a gaiff eu cyfrif yn yr ystadegau hyn yw'r rhai sydd ar leoliad mewn practis meddyg teulu ar y dyddiad cyfeirio pan gesglir y data, ac nid ydynt yn cynnwys y rhai sydd ar y rhaglen ond sydd ar leoliadau mewn ysbytai ar y dyddiad cyfeirio.

Contract safonol cofrestrydd yw 40 awr yr wythnos (yn hytrach na 37.5 awr), felly mae 1.0 CALl ar gyfer cofrestrydd yn cyfateb i gontract 40 awr yr wythnos.

Meddygon F2

Meddygon â chofrestriad llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) sydd ar eu hail flwyddyn o hyfforddiant meddygol ôl-raddedig. Maent wedi cwblhau eu blwyddyn sylfaen gyntaf a byddant yn cylchdroi drwy dri arbenigedd. Fel arfer, byddent yn gwneud gwaith clinigol o dan oruchwyliaeth ond nid ydynt yn hyfforddi'n benodol i fod yn feddygon teulu. Contract safonol meddyg F2 yw 40 awr yr wythnos (yn hytrach na 37.5 awr), felly mae 1.0 CALl yn cyfateb i gontract 40 awr yr wythnos.

Nyrsys

Nyrsys cymwysedig sydd wedi'u cofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) ac sy'n darparu gwasanaethau nyrsio. Nyrsys practis yw'r mwyafrif o'r staff yn y grŵp hwn ond mae'r grŵp hwn hefyd yn cynnwys nyrsys partner ac ymarferwyr nyrsio uwch sy'n cyflawni rolau lefel uwch mewn practisau cyffredinol.

Staff gofal uniongyrchol i gleifion

Mae hyn fel arfer yn cynnwys unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rhoi gofal i gleifion ond nad yw'n nyrs nac yn feddyg teulu. Cynorthwywyr gofal iechyd yw'r mwyafrif o'r staff yn y grŵp hwn ond mae hefyd yn cynnwys staff sy'n darparu gwasanaethau cymwysedig arbenigol fel fferyllwyr a ffisiotherapyddion.

Staff gweinyddol/anghlinigol

Unrhyw un sy'n ymwneud â gweinyddu neu drefnu'r practis. Derbynyddion yw'r mwyafrif o'r staff yn y grŵp hwn ond mae hefyd yn cynnwys staff mewn rolau uwch fel rheolwr practis a phartner rheoli.

Partneriaeth

Trefniant ariannol rhwng dau gorff neu fwy, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn feddyg teulu, sy'n darparu gwasanaethau practis cyffredinol i gleifion.

Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol

Mae pob practis cyffredinol yng Nghymru yn darparu gwasanaethau ar ran y bwrdd iechyd lleol o dan y contract hwn.

Uned ystadegol

Caiff ystadegau eu cynnwys ar gyfer cyfrifon pennau a CALl staff y cofnodir eu bod yn cael eu cyflogi mewn practisau cyffredinol drwy System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru ar y dyddiad cyfeirio. 

Caiff cyfanswm y practisau cyffredinol gweithredol ar y dyddiad cyfeirio ei gyhoeddi hefyd.

Poblogaeth ystadegol

Mae'r ystadegau yn cyfeirio at yr holl staff a gyflogir mewn practisau cyffredinol yng Nghymru ar y dyddiad cyfeirio.

Ardal gyfeirio

Caiff y rhan fwyaf o'r ystadegau eu cyhoeddi ar lefel Cymru a bwrdd iechyd lleol, a chaiff rhai ystadegau lefel uchel eu cyhoeddi ar lefel clwstwr.

Cwmpas amser

Caiff data eu hechdynnu ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr bob blwyddyn gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). 

Mae data ar gyfer yr holl staff, heblaw meddygon teulu locwm, yn rhoi cipolwg ar y gweithlu practis cyffredinol ar y dyddiad penodol. Gan mai gwaith dros dro yw gwaith locwm, mae data ar gyfer meddygon teulu locwm yn adlewyrchu'r contractau a gofnodwyd ar Locum Hub Wales yn ystod y chwarter a ddaeth i ben ar y dyddiad cyfeirio. 

Mae disgwyl i bractisau gadarnhau bod y data a gofnodwyd ganddynt ar WNWRS yn gywir yn ystod y chwarter cyn i'r data gael eu hechdynnu. Dylai hyn roi darlun cywir o'r gweithlu ar ddyddiad y cipolwg.

Prosesu ystadegol

Data ffynhonnell

Defnyddiwyd ffynonellau data amrywiol i gynhyrchu'r ystadegau hyn.

System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS)

Dyma'r ffynhonnell sylfaenol o ddata ar gyfer meddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig a staff eraill practisau. 

Caiff WNWRS ei rheoli gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). System ar-lein ddiogel ydyw a ddatblygwyd i gasglu gwybodaeth am staff practis gan bob practis cyffredinol yng Nghymru. Yn fras, gofynnir i reolwyr practisau ddiweddaru'r system pan fo newidiadau staff yn digwydd a chadarnhau bod y cofnodion i gyd yn gywir o leiaf unwaith bob chwarter.

Locum Hub Wales (LHW)

Ers cyfnod cyfeirio 30 Mehefin 2021, mae'r data ar gyfer meddygon teulu locwm wedi cael eu casglu drwy Locum Hub Wales.

Gwasanaeth yw Locum Hub Wales sy'n galluogi practisau meddygon teulu yng Nghymru i hysbysebu swyddi gwag byrdymor, a threfnu meddyg teulu locwm sy'n gweddu i ddewisiadau'r practis, mewn ffordd gyflym ac effeithlon. Nid yw'n ofynnol i feddygon teulu locwm drefnu shifftiau drwy Locum Hub Wales os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'n rhaid i feddygon teulu locwm ymuno â Chofrestr Meddygon Locwm Cymru Gyfan (sy'n rhan o Locum Hub Wales) a chofnodi manylion y shifftiau y maent yn eu gweithio er mwyn manteisio ar y Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI) o 1 Chwefror 2021.

Caiff y Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol (GMPI), ei reoli gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg NWSSP fel rhan o Gyfarwyddydau'r Cynllun Esgeuluster Clinigol ar gyfer Ymddiriedolaethau'r GIG a'r Byrddau Iechyd Lleol (Gweinyddu) (Cymru) 2019 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019.

Cofnod Staff Electronig (ESR)

Adnodd adnoddau dynol yw'r ESR a ddefnyddir gan y GIG er mwyn helpu i weithredu'r polisi a'r strategaeth genedlaethol ar gyfer y gweithlu. Mae'n cynnig amrywiaeth o adnoddau i sefydliadau'r GIG sy'n eu helpu i reoli a chynllunio'r gweithlu yn effeithiol. Dylai fod gan bob aelod o staff a gyflogir gan y GIG gofnod ESR oherwydd caiff ei ddefnyddio i dalu staff. 

Caiff holl aelodau'r rhaglen hyfforddi arbenigedd meddygon teulu (gan gynnwys cofrestryddion) eu cyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac, felly, maent wedi'u cynnwys ar ESR. Cyrchwyd data ar gofrestryddion o'r ESR ers mis Mawrth 2020.

Ers cyfnod cyfeirio 30 Medi 2021, mae data ar gyfer meddygon Blwyddyn Sylfaen 2 (F2) ar leoliadau mewn practisau cyffredinol wedi cael eu cyrchu o'r ESR hefyd. Cyn hyn, cyrchwyd data ar gyfer meddygon F2 ar wahân o system Intrepid.

Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Mae angen i bob practis sy'n agor, yn cau neu'n uno yng Nghymru gael ei gofnodi gan Wasanaeth Data Cyfeirio a Therminoleg Cymru (WRTS) yn DHCW. Y gwasanaeth hwn yw'r ffynhonnell awdurdodol o bractisau gweithredol yng Nghymru. 

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn cyfeirio at y practisau a oedd yn weithredol yn ystod y cyfnod cyfeirio yn seiliedig ar y rhestr o bractisau a ddarparwyd gan WRTS.

Amlder casgliadau data

Caiff data eu hechdynnu gan NWSSP a'u cyflenwi i Lywodraeth Cymru bob chwarter, ar y dyddiadau canlynol bob blwyddyn: 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr.

Casglu data

System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS)

Ar gyfer pob aelod o staff, mae'r system yn cynnwys gwybodaeth am enwau, rôl staff, dynodyddion personol (rhifau yswiriant gwladol, rhif GMC ar gyfer meddygon teulu, rhif NMC ar gyfer nyrsys), oriau contract ac oriau a weithiwyd, dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, dyddiad geni, rhywedd, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg. Ar ôl i'r wybodaeth gael ei chofnodi, mae'n aros ar y system; nid oes angen diwygio'r data oni bai bod manylion y staff yn newid. 

Yna caiff data a ddilyswyd ar lefel unigolion eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol fel enwau, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol ei thynnu allan a dyrennir cyfeirnod dan ffugenw i bob unigolyn a ddylai aros gyda'r unigolyn bob tro y caiff data eu hechdynnu.

Locum Hub Wales (LHW)

Caiff data ar gyfer meddyg teulu locwm eu casglu ar ôl i waith locwm gael ei drefnu drwy LHW. Yn wahanol i WNWRS, nid yw'n orfodol i feddygon teulu locwm gofnodi eitemau data penodol, gan gynnwys oedran, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg, felly mae'r data ar feddygon teulu locwm yn llai cyflawn o gymharu â mathau eraill o feddygon teulu. 

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn echdynnu data o LHW bob mis ac yn eu lanlwytho i'w system. Caiff data o LHW eu hychwanegu at ddata WNWRS pan gânt eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru.

Cofnod Staff Electronig (ESR)

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn echdynnu'r data ar gyfer cofrestryddion a meddygon F2 o'r ESR bob chwarter. Mae'r ESR yn cynnwys meysydd data tebyg i'r rhai yn WNWRS a chaiff y data a echdynnir o'r ESR eu hatodi i'r data o WNWRS pan gânt eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru.

Dilysu data

Ar ôl i'r data gael eu hechdynnu o WNWRS, mae NWSSP yn cymryd camau dilysu a chaiff unrhyw broblemau ansawdd eu dwyn i sylw'r practis fel y gellir eu datrys. 

Ar ôl y cam dilysu cyntaf, caiff echdyniad data ei anfon at Lywodraeth Cymru lle caiff mwy o gamau dilysu eu cymryd i wella ansawdd y data. 

Gan ddefnyddio ymholiadau awtomataidd sy'n rhan o'r system prosesu data (dan ddefnyddio meddalwedd R), mae'r ymarfer dilysu yn amlygu cofnodion afreolaidd. Caiff y cofnodion dan sylw eu dychwelyd i NWSSP fel y gellir ymchwilio iddynt. Yna gall NWSSP gysylltu'n uniongyrchol â phractisau ac yna roi cyngor ynghylch a ddylid golygu neu ddileu'r cofnodion afreolaidd. Ar ôl y broses hon, caiff set ddata ‘lân’ derfynol ei chreu a'i defnyddio i gynhyrchu ystadegau swyddogol. Caiff y set ddata derfynol hon ei llwytho'n ôl i WNWRS ar yr un diwrnod ag y caiff yr ystadegau swyddogol eu cyhoeddi, fel y gall practisau a byrddau iechyd weld eu data eu hunain a data cyfanredol penodol sy'n cyd-fynd â'r ystadegau cyhoeddedig. 

Caiff unrhyw gofnodion sydd ag unrhyw un o'r problemau canlynol eu hamlygu fel rhan o'r ymarfer dilysu: 

  • practisau gweithredol nad ydynt yn bresennol yn y set ddata
  • practis anweithredol sy'n bresennol yn y set ddata
  • cofnodion meddygon teulu heb unrhyw oriau contract a/neu oriau a weithiwyd
  • anghysondeb rhwng rhif y GMC a'r rhif adnabod dan ffugenw unigryw ar gyfer meddygon teulu â chontractau mewn sawl practis neu rôl (er enghraifft, mae gan yr un dau gofnod yr un rhif GMC ond rhif adnabod dan ffugenw unigryw gwahanol)
  • staff a ymunodd ar ôl y data cyfeirio
  • staff a adawodd cyn y dyddiad cyfeirio
  • meddygon teulu â rhifau GMC coll neu annilys
  • nyrsys heb rifau NMC
  • rolau staff newydd na ddarparwyd data ar eu cyfer yn ystod ymarferion echdynnu blaenorol
  • rhifau GMC dyblyg rhwng ffynonellau WNWRS a'r ESR, er mwyn sicrhau nad yw meddygon dan hyfforddiant (cofrestryddion a meddygon F2) yn cael eu cyfrif ddwywaith
  • cofnodion staff dyblyg o fewn practis
  • practisau heb ymarferwyr cyffredinol na meddygon teulu locwm
  • staff â CALl mwy nag 1.5
  • meddygon teulu cwbl gymwysedig sydd o dan 27 oed
  • cyfrif pennau a CALlau sy'n wahanol iawn i chwarteri blaenorol
  • cofnodion lluosog â'r un rhif adnabod dan ffugenw ond gwerthoedd gwahanol ar gyfer oedran, rhywedd, ethnigrwydd, neu sgiliau Cymraeg
  • cofnodion â'r un rhif adnabod dan ffugenw mewn echdyniadau dilynol lle mae'r oedran wedi cynyddu mwy nag un, neu lle mae'r ethnigrwydd wedi newid
  • data coll ar gyfer oedran, rhywedd, ethnigrwydd, sgiliau Cymraeg, neu ddyddiad ymuno

Crynhoi data

Mae NWSSP yn crynhoi'r data o WNWRS, LHW a'r EST gyda'i gilydd fel un echdyniad ar lefel unigol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr eitemau data yn WNWRS. Mae pob cofnod yn yr echdyniad yn cynrychioli contract, felly, er enghraifft, byddai dau gofnod yn cael eu priodoli i un meddyg teulu sydd â dau gontract. 

Caiff unrhyw staff ar absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth eu cadw yn y data.

Addasu

Yn ystod yr ymarfer dilysu, pan gaiff gwall ei gadarnhau a phan gaiff y cywiriad arfaethedig ei gynnig gan NWSSP, caiff addasiadau eu gwneud i'r set ddata wreiddiol a gyflenwyd drwy naill ai ddiwygio gwerth neu dynnu cofnod cyfan. Er enghraifft, os cafodd rhif GMC anghywir ei gofnodi ar gyfer meddyg teulu, caiff y rhif GMC cywir ei gofnodi yn ei le yn unol â chyngor NWSSP; os ceir cofnodion dyblyg ar gyfer yr un person o fewn un practis, yna caiff cofnod ei dynnu yn dilyn cyngor gan NWSSP. 

Caiff unrhyw gofnodion lle caiff meddyg teulu locwm ei gofnodi drwy WNWRS eu tynnu. Y rheswm am hyn yw na chaiff gwaith locwm ei gofnodi'n gyson drwy WNWRS a chaiff yr holl ddata locwm a ddefnyddir yn yr ystadegau hyn eu casglu drwy LHW. 

Mae'r addasiadau hyn yn creu set ddata ‘lân’ derfynol ar y gweithlu a ddefnyddir er mwyn cynhyrchu ystadegau i'w cyhoeddi. 

Cyfrifir CALl gan ddefnyddio'r eitem data ‘oriau contract’. Os yw'r eitem hon o ddata ar goll neu'n sero, defnyddir yr eitem data ‘oriau a weithiwyd’ yn lle hynny. Os yw'r eitem data ‘oriau a weithiwyd’ hefyd ar goll neu'n sero, caiff yr unigolyn ei gyfrif fel 1 yn y cyfrif pennau ond 0 yn y mesur CALl.

Amlder casgliadau data

Caiff data eu hechdynnu gan NWSSP a'u cyflenwi i Lywodraeth Cymru bob chwarter, ar y dyddiadau canlynol bob blwyddyn: 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi a 31 Rhagfyr.

Casglu data

System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru (WNWRS)

Ar gyfer pob aelod o staff, mae'r system yn cynnwys gwybodaeth am enwau, rôl staff, dynodyddion personol (rhifau yswiriant gwladol, rhif GMC ar gyfer meddygon teulu, rhif NMC ar gyfer nyrsys), oriau contract ac oriau a weithiwyd, dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, dyddiad geni, rhywedd, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg. Ar ôl i'r wybodaeth gael ei chofnodi, mae'n aros ar y system; nid oes angen diwygio'r data oni bai bod manylion y staff yn newid. 

Yna caiff data a ddilyswyd ar lefel unigolion eu hanfon at Lywodraeth Cymru. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol fel enwau, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol ei thynnu allan a dyrennir cyfeirnod dan ffugenw i bob unigolyn a ddylai aros gyda'r unigolyn bob tro y caiff data eu hechdynnu.

Locum Hub Wales (LHW)

Caiff data ar gyfer meddyg teulu locwm eu casglu ar ôl i waith locwm gael ei drefnu drwy LHW. Yn wahanol i WNWRS, nid yw'n orfodol i feddygon teulu locwm gofnodi eitemau data penodol, gan gynnwys oedran, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg, felly mae'r data ar feddygon teulu locwm yn llai cyflawn o gymharu â mathau eraill o feddygon teulu. 

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn echdynnu data o LHW bob mis ac yn eu lanlwytho i'w system. Caiff data o LHW eu hychwanegu at ddata WNWRS pan gânt eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru.

Cofnod Staff Electronig (ESR)

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn echdynnu'r data ar gyfer cofrestryddion a meddygon F2 o'r ESR bob chwarter. Mae'r ESR yn cynnwys meysydd data tebyg i'r rhai yn WNWRS a chaiff y data a echdynnir o'r ESR eu hatodi i'r data o WNWRS pan gânt eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru.

Dilysu data

Ar ôl i'r data gael eu hechdynnu o WNWRS, mae NWSSP yn cymryd camau dilysu a chaiff unrhyw broblemau ansawdd eu dwyn i sylw'r practis fel y gellir eu datrys. 

Ar ôl y cam dilysu cyntaf, caiff echdyniad data ei anfon at Lywodraeth Cymru lle caiff mwy o gamau dilysu eu cymryd i wella ansawdd y data. 

Gan ddefnyddio ymholiadau awtomataidd sy'n rhan o'r system prosesu data (dan ddefnyddio meddalwedd R), mae'r ymarfer dilysu yn amlygu cofnodion afreolaidd. Caiff y cofnodion dan sylw eu dychwelyd i NWSSP fel y gellir ymchwilio iddynt. Yna gall NWSSP gysylltu'n uniongyrchol â phractisau ac yna roi cyngor ynghylch a ddylid golygu neu ddileu'r cofnodion afreolaidd. Ar ôl y broses hon, caiff set ddata ‘lân’ derfynol ei chreu a'i defnyddio i gynhyrchu ystadegau swyddogol. Caiff y set ddata derfynol hon ei llwytho'n ôl i WNWRS ar yr un diwrnod ag y caiff yr ystadegau swyddogol eu cyhoeddi, fel y gall practisau a byrddau iechyd weld eu data eu hunain a data cyfanredol penodol sy'n cyd-fynd â'r ystadegau cyhoeddedig. 

Caiff unrhyw gofnodion sydd ag unrhyw un o'r problemau canlynol eu hamlygu fel rhan o'r ymarfer dilysu: 

  • practisau gweithredol nad ydynt yn bresennol yn y set ddata
  • practis anweithredol sy'n bresennol yn y set ddata
  • cofnodion meddygon teulu heb unrhyw oriau contract a/neu oriau a weithiwyd
  • anghysondeb rhwng rhif y GMC a'r rhif adnabod dan ffugenw unigryw ar gyfer meddygon teulu â chontractau mewn sawl practis neu rôl (er enghraifft, mae gan yr un dau gofnod yr un rhif GMC ond rhif adnabod dan ffugenw unigryw gwahanol)
  • staff a ymunodd ar ôl y data cyfeirio
  • staff a adawodd cyn y dyddiad cyfeirio
  • meddygon teulu â rhifau GMC coll neu annilys
  • nyrsys heb rifau NMC
  • rolau staff newydd na ddarparwyd data ar eu cyfer yn ystod ymarferion echdynnu blaenorol
  • rhifau GMC dyblyg rhwng ffynonellau WNWRS a'r ESR, er mwyn sicrhau nad yw meddygon dan hyfforddiant (cofrestryddion a meddygon F2) yn cael eu cyfrif ddwywaith
  • cofnodion staff dyblyg o fewn practis
  • practisau heb ymarferwyr cyffredinol na meddygon teulu locwm
  • staff â CALl mwy nag 1.5
  • meddygon teulu cwbl gymwysedig sydd o dan 27 oed
  • cyfrif pennau a CALlau sy'n wahanol iawn i chwarteri blaenorol
  • cofnodion lluosog â'r un rhif adnabod dan ffugenw ond gwerthoedd gwahanol ar gyfer oedran, rhywedd, ethnigrwydd, neu sgiliau Cymraeg
  • cofnodion â'r un rhif adnabod dan ffugenw mewn echdyniadau dilynol lle mae'r oedran wedi cynyddu mwy nag un, neu lle mae'r ethnigrwydd wedi newid
  • data coll ar gyfer oedran, rhywedd, ethnigrwydd, sgiliau Cymraeg, neu ddyddiad ymuno

Crynhoi data

Mae NWSSP yn crynhoi'r data o WNWRS, LHW a'r EST gyda'i gilydd fel un echdyniad ar lefel unigol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr eitemau data yn WNWRS. Mae pob cofnod yn yr echdyniad yn cynrychioli contract, felly, er enghraifft, byddai dau gofnod yn cael eu priodoli i un meddyg teulu sydd â dau gontract. 

Caiff unrhyw staff ar absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth eu cadw yn y data.

Addasu

Yn ystod yr ymarfer dilysu, pan gaiff gwall ei gadarnhau a phan gaiff y cywiriad arfaethedig ei gynnig gan NWSSP, caiff addasiadau eu gwneud i'r set ddata wreiddiol a gyflenwyd drwy naill ai ddiwygio gwerth neu dynnu cofnod cyfan. Er enghraifft, os cafodd rhif GMC anghywir ei gofnodi ar gyfer meddyg teulu, caiff y rhif GMC cywir ei gofnodi yn ei le yn unol â chyngor NWSSP; os ceir cofnodion dyblyg ar gyfer yr un person o fewn un practis, yna caiff cofnod ei dynnu yn dilyn cyngor gan NWSSP. 

Caiff unrhyw gofnodion lle caiff meddyg teulu locwm ei gofnodi drwy WNWRS eu tynnu. Y rheswm am hyn yw na chaiff gwaith locwm ei gofnodi'n gyson drwy WNWRS a chaiff yr holl ddata locwm a ddefnyddir yn yr ystadegau hyn eu casglu drwy LHW. 

Mae'r addasiadau hyn yn creu set ddata ‘lân’ derfynol ar y gweithlu a ddefnyddir er mwyn cynhyrchu ystadegau i'w cyhoeddi. 

Cyfrifir CALl gan ddefnyddio'r eitem data ‘oriau contract’. Os yw'r eitem hon o ddata ar goll neu'n sero, defnyddir yr eitem data ‘oriau a weithiwyd’ yn lle hynny. Os yw'r eitem data ‘oriau a weithiwyd’ hefyd ar goll neu'n sero, caiff yr unigolyn ei gyfrif fel 1 yn y cyfrif pennau ond 0 yn y mesur CALl.

Rheoli ansawdd

Sicrhau ansawdd

Caiff gwaith sicrhau ansawdd ei gyflawni yn unol â'r strategaeth ansawdd a philer Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau.

Mae'r data ar y gweithlu practis cyffredinol ar lefel unigolion ac mae'n golygu y gellir cynnal gwiriadau dilysu manwl o bob cofnod ar gyfer eitemau data gwahanol, sy'n amhosibl gyda setiau data cyfanredol. Cafodd ystod gychwynnol o wiriadau dilysu eu cynnal ar yr echdyniad data cyntaf yn 2020 ac mae gwiriadau eraill wedi cael eu hychwanegu at y broses dros amser.

Asesu ansawdd

Cynhyrchodd yr wyth cylch cyntaf o gasgliadau data chwarterol ystadegau ar y gweithlu practis cyffredinol a gafodd eu labelu yn ‘ystadegau arbrofol’. Roedd y statws hwn yn angenrheidiol am fod yr eitemau data a'r prosesau wrthi'n cael eu datblygu a'u deall gan bob sefydliad dan sylw. 

O gyfnod cyfeirio 31 Rhagfyr 2021, cafodd y label arbrofol ei ddileu oherwydd ystyriwyd bod yr ystadegau yn ddigon cadarn a dibynadwy, ar ôl cynnal asesiadau ansawdd. Roedd y dyddiad cyfeirio hwn yn cyd-daro â chyhoeddi ystadegau CALl am y tro cyntaf.

Perthnasedd

Anghenion defnyddwyr

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau: 

  • cyngor i Weinidogion
  • helpu practisau, byrddau iechyd a'r llywodraeth i wneud penderfyniadau ynghylch cynllunio'r gweithlu
  • llywio trafodaethau yn Senedd Cymru a thu hwnt
  • darparu data cyhoeddus ar y gweithlu practis cyffredinol yng Nghymru

Mae'r ystadegau hyn yn ddefnyddiol o fewn Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Mae'r defnyddwyr allweddol yn cynnwys:

  • Gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn Senedd Cymru
  • byrddau iechyd lleol
  • awdurdodau lleol
  • gwasanaethau practis cyffredinol cydweithredol a chlystyrau gofal sylfaenol
  • practisau cyffredinol
  • yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • y gymuned ymchwil, gan gynnwys myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a chyrff cynrychioliadol eraill
  • dinasyddion, sefydliadau yn y trydydd sector a chwmnïau preifat
  • adrannau eraill yn llywodraeth y DU

Cyflawnder

Ceir gwybodaeth am anghyflawnder pob eitem o ddata a ddefnyddiwyd i lunio'r datganiad ystadegol yn Nhabl 1.

Tabl 1: Canran y cofnodion â data coll yn ôl eitem o ddata, ar 30 Medi bob blwyddyn [Nodyn 1]
Eitem o ddata30-Med-2030-Med-2130-Med-2230-Med-23
Cod Practis0.0%0.0%0.0%0.0%
Grŵp Staff0.0%0.0%0.0%0.0%
Rôl Staff0.0%0.0%0.0%0.0%
Oedran0.0%3.0%2.7%3.2%
Rhif GMC meddygon teulu0.0%0.0%0.0%0.0%
Rhif NMC nyrsys5.6%1.6%0.3%1.0%
Dynodydd unigryw staff eraill y practisau0.0%0.0%0.0%0.0%
Rhywedd [Nodyn 2]1.0%4.6%2.7%4.1%
Ethnigrwydd [Nodyn 3]10.5%13.2%13.9%12.5%
Dyddiad Ymuno0.3%9.9%9.8%11.1%
Sgiliau darllen Cymraeg [Nodyn 4]22.6%29.4%38.4%47.0%
Sgiliau ysgrifennu Cymraeg [Nodyn 4]22.6%29.4%38.4%47.0%
Sgiliau siarad Cymraeg [Nodyn 4]22.3%29.4%38.4%47.0%

[Nodyn 1] Mae data coll yn cynnwys cofnodion lle na ddarparwyd unrhyw ddata (cofnod nwl). 

[Nodyn 2] Mae data rhywedd coll yn cynnwys cofnodion lle na ddarparwyd unrhyw ddata (cofnod nwl) a chofnodion lle nodwyd ‘anhysbys’, ‘ni ddarparwyd’ neu ‘arall/anhysbys’ ar gyfer rhywedd.

[Nodyn 3] Mae data ethnigrwydd coll yn cynnwys cofnodion lle na ddarparwyd unrhyw ddata (cofnod nwl) a chofnodion lle nodwyd ‘gwrthodwyd’, ‘anhysbys’, ‘ni ddarparwyd’, ‘ni nodwyd’, ‘amhenodol’ neu ‘ni ddatganwyd’ ar gyfer ethnigrwydd.

[Nodyn 4] Mae data sgiliau Cymraeg coll yn cynnwys cofnodion lle na ddarparwyd unrhyw ddata (cofnod nwl) a chofnodion lle nodwyd ‘anhysbys’, ‘ni nodwyd’ neu ‘ni ddarparwyd’ ar gyfer sgiliau Cymraeg.

Caiff y gyfradd cwblhau ar gyfer nodweddion staff (oedran/rhywedd/ethnigrwydd/sgiliau Cymraeg) ei nodi ar gyfer pob math o staff yn y datganiad ystadegol.

Ceir gwybodaeth am ddata coll ar oriau contract ac oriau a weithir yn Nhabl 3.

Cywirdeb a dibynadwyedd

Cywirdeb cyffredinol

Ar gyfer pob dyddiad echdynnu, mae disgwyl i bractisau gadarnhau bod y data a gofnodwyd ganddynt ar WNWRS yn gywir yn ystod y chwarter sy'n dod i ben ar ddyddiad cyfeirio'r echdyniad. Dylai hyn roi darlun cywir o'r gweithlu ar ddyddiad y cipolwg. Os na fydd practis yn mewngofnodi i WNWRS i weld ei ddata nac yn addasu data yn ystod y chwarter diweddaraf, yna ystyrir bod y practis heb gadarnhau bod ei ddata yn gyfredol.

Tabl 2: Practisau na wnaethant gadarnhau bod eu data yn gyfredol ar WNWRS, 31 Mawrth 2020 i 30 Medi 2023
DyddiadPractisau na wnaethant gadarnhau data yn ystod y chwarterPractisau gweithredol% y practisau heb ddata a gadarnhawyd
31-Maw-2024040.5
30-Meh-20 4640211.4
30-Med-2063991.5
31-Rhag-20363969.1
31-Maw-2193962.3
31-Meh-2103920
30-Med-21113912.8
31-Rhag-21303907.7
31-Maw-2263881.5
30-Meh-22113862.8
30-Med-22163864.1
31-Rhag-22103832.6
31-Maw-2323830.5
30-Meh-23203795.3
30-Med-2303780

Mae Tabl 2 yn dangos, ers 31 Mawrth 2020, fod canran y practisau gweithredol na wnaethant gadarnhau eu data cyn dyddiad cyfeirio'r echdyniad yn amrywio o 0 i 11%.

Er bod NWSSP a Llywodraeth Cymru yn cyflawni amrywiaeth o wiriadau dilysu data, mae ansawdd y data yn dibynnu ar gywirdeb y data a gofnodir gan bractisau cyffredinol. Weithiau, efallai na chaiff pob aelod o staff ei gofnodi neu y caiff gwybodaeth anghywir ei nodi, ond mae'r rhain yn debygol o fod yn anarferol o ystyried y broses ddilysu helaeth a'r gwaith ymgysylltu y mae NWSSP a Llywodraeth Cymru yn ei wneud â phractisau cyffredinol a byrddau iechyd lleol. 

Gwyddys am rai problemau posibl o ran ansawdd sy'n cael sylw ar hyn o bryd. Er enghraifft, mae lefel uchel o hyder yng nghywirdeb cofnodion meddygon teulu oherwydd caiff y rhif GMC a ddarperir ei ddilysu yn erbyn data GMC er mwyn cadarnhau'r cofrestriad. Ni chynhelir yr un gwiriad eto mewn perthynas â data cofrestru nyrsys â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC); fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio cynnal y gwiriad hwn yn y dyfodol. 

Caiff CALl ei gyfrifo gan ddefnyddio'r eitem data ‘oriau contract’ yn gyntaf, ac ‘oriau a weithiwyd’ os yw ‘oriau contract’ ar goll neu'n sero. Mae lefelau cyflawnder y ddwy eitem hyn o ddata yn uchel iawn ar gyfer pob rôl staff; fodd bynnag, nid yw'r gwiriadau dilysu a'r gwaith ymgysylltu bob amser yn llwyddo i sicrhau data wedi'u cywiro. Os na allwn gael data ar gyfer y meysydd hynny, mae posibilrwydd y gall y CALl a gyfrifir roi amcangyfrif ychydig yn rhy isel o'r CALl gwirioneddol ar unrhyw adeg. 

Mae ansicrwydd hefyd ynghylch sut y caiff staff asiantaeth a staff nyrsio cronfa eu cofnodi ar WNWRS ac ymchwilir i'r materion hyn yn y dyfodol.

Tabl 3: Canran y cofnodion meddygon teulu a staff eraill practisau heb unrhyw oriau wedi'u cofnodi ar gyfer oriau contract ac oriau gweithio, 31 Mawrth 2020 i 30 Medi 2023 [Nodyn 1]
Dyddiad cyfeirioMeddygon teuluNyrsysGofal uniongyrchol i gleifionGweinyddol/anghlinigolStaff eraill y practisau 
31-Maw-2020.1%0.2%0.3%0.3%0.3%
30-Meh-2018.5%0.3%0.3%0.3%0.3%
30-Med-207.7%0.1%0.4%0.3%0.3%
31-Rhag-207.7%0.3%0.2%0.3%0.3%
31-Maw-214.7%0.5%0.2%0.3%0.3%
30-Meh-214.3%0.1%0.1%0.1%0.1%
30-Med-214.1%0.3%0.4%0.2%0.3%
31-Rhag-210.6%0.5%0.5%0.3%0.4%
31-Maw-220.3%0.6%0.6%0.4%0.4%
30-Meh-220.2%0.4%0.6%0.4%0.4%
30-Med-220.3%0.5%0.5%0.4%0.4%
31-Rhag-220.4%0.3%0.6%0.6%0.5%
31-Maw-230.1%0.5%0.7%0.6%0.6%
30-Meh-230.2%1.2%1.0%0.6%0.8%
30-Med-230.4%1.4%1.1%1.0%1.1%

[Nodyn 1] dim oriau yn cynnwys 0 awr neu gofnod nwl.

Mae Tabl 3 yn dangos bod canran y cofnodion meddygon teulu heb unrhyw oriau wedi'u cofnodi yn uchel yn ystod cyfnodau cynnar y broses casglu data, gan amrywio o 4% i 20% rhwng 31 Mawrth 2020 a 30 Medi 2021, ond bu gostyngiad yn ystod chwarteri dilynol i lai nag 1% yn dilyn ymchwiliadau gan NWSSP. 

Mae canran cofnodion staff eraill practisau heb unrhyw oriau wedi'u cofnodi wedi bod yn isel iawn ers dechrau casglu data ond mae wedi cynyddu ychydig yn ystod y chwarteri diwethaf. Mae'n bosibl bod oriau contract gwirioneddol rhai o'r staff hyn yn sero, ond mae rhai yn debygol o fod yn gofnodion anghyflawn.

Ni chaiff gwybodaeth am oedran, rhywedd, ethnigrwydd a sgiliau Cymraeg ei chofnodi ar gyfer pob person sy'n gweithio mewn practis cyffredinol gan nad yw'r rhain yn eitemau data gorfodol yn y system adrodd. Felly, mae ystadegau ynghylch nodweddion staff yn seiliedig ar y staff hynny y mae gwybodaeth ar gael amdanynt.

Yn ogystal, nid yw'n ofynnol i feddygon teulu locwm gofnodi'r wybodaeth hon wrth gofnodi gwaith drwy LHW ac felly mae'r rhain yn cyfrif am gyfran fawr o feddygon teulu cwbl gymwysedig â gwybodaeth anhysbys.

Mewn rhai achosion, mae nodweddion yn anghyson o chwarter i chwarter. Yn dilyn ymchwiliad gan NWSSP, gall hyn arwain at gywiro gwerth ar gyfer y dyddiad cyfeirio diweddaraf, ond ni chaiff addasiadau eu gwneud ar gyfer y cyfnod blaenorol. Mae hyn yn cynnwys achosion lle mae oedran unigolyn wedi newid mwy nag 1 o un chwarter i'r chwarter nesaf neu lle bo ethnigrwydd unigolyn yn newid. Mae hyn yn effeithio ar feddygon teulu a staff eraill practisau a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddefnyddio ystadegau ar nodweddion staff.

Mae NWSSP yn crynhoi'r echdyniad mewn taenlen ac, felly, gall gwallau trosi ddigwydd.

Mae ‘cyswllt nyrsio’ yn opsiwn ar gyfer yr eitem data rôl staff ar y system; fodd bynnag, nid yw'r rôl hon ar gael i staff nyrsio yng Nghymru. Pob chwarter, caiff nifer bach o staff eu cofnodi yn y rôl staff hon, sy'n debygol o fod yn wall, ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r mater ar hyn o bryd.

Diwygio data

Ni chaiff yr ystadegau cyhoeddedig eu diwygio fel rheol, a gall unrhyw newidiadau ymylol o chwarter i chwarter ddeillio o welliannau yn ansawdd y data.

Os caiff gwall ei ddarganfod ar ôl i'r ystadegau gael eu cyhoeddi, caiff yr ystadegau eu diwygio a'u nodi'n glir.

Amseroldeb a phrydlondeb

Amseroldeb

Disgwylir i'r ystadegau gael eu cyhoeddi rhyw 4 i 5 mis ar ôl dyddiad cyfeirio'r data.

Prydlondeb

Mae'r mwyafrif o'r cyhoeddiadau wedi cael eu cyhoeddi fel y cynlluniwyd ar y dyddiad cyhoeddi disgwyliedig. Ers 2020, cafodd dau gyhoeddiad eu rhyddhau yn hwyrach na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol oherwydd prinder adnoddau. Yn yr achosion hyn, cafodd ystadegau ar gyfer dau chwarter o ddata eu cyhoeddi ar yr un pryd er mwyn ailgydio yn yr amserlen gyhoeddi arferol ar unwaith.

Cydlyniaeth a chymharedd

Cymharedd daearyddol

Mae canllawiau canolog a ddarparwyd gan NWSSP ar gofnodi gwybodaeth ar WNWRS yn rhoi sicrwydd bod data'n cael eu mewnbynnu mewn ffordd gyson gan bractisau a byrddau iechyd. Nid oes unrhyw resymau hysbys sy'n cyfyngu ar gymariaethau o fewn unrhyw ddadansoddiad daearyddol yng Nghymru.

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi data ar y gweithlu practis cyffredinol ond gall fod gwahaniaethau o ran diffiniadau, methodolegau a phrosesau casglu data.

Yn Lloegr, mae GIG Lloegr yn cyhoeddi ystadegau bob mis. Yn wreiddiol, roedd WNWRS yn seiliedig ar yr un adnodd a ddefnyddiwyd yn wreiddiol gan GIG Lloegr (NHS Digital gynt), felly mae'r prosesau casglu data yn debyg iawn mewn rhai ffyrdd. Mae'r tebygrwydd rhyngddynt yn cynnwys:

  • caiff data eu hechdynnu ar yr un dyddiadau cyfeirio
  • mae'r diffiniadau o rolau staff yn gyson
  • mae'r diffiniad o CALl yn gyson ar gyfer yr holl feddygon teulu cwbl gymwysedig (ond nid rhai o dan hyfforddiant) a holl staff eraill practisau
  • caiff bron pob practis cyffredinol yn y ddwy wlad ei gynnwys

Fodd bynnag, mae gwahaniaethau hysbys hefyd, gan gynnwys:

  • caiff meddygon locwm eu cyfrif yn wahanol yn y ddwy wlad ac, felly, nid yw'r mesur ‘meddygon teulu cwbl gymwysedig’ yn gymaradwy
  • gofynnir i bractisau meddygon teulu yng Nghymru fewngofnodi i WNWRS a chadarnhau eu data yn ystod y chwarter cyn i'r data gael eu hechdynnu, ond ni cheir proses ffurfiol i wneud hyn yn Lloegr
  • mae GIG Lloegr yn defnyddio model amcangyfrif ar gyfer data coll ond ni wneir hyn yng Nghymru
  • mae CALl ar gyfer cofrestryddion/meddygon dan hyfforddiant yn seiliedig ar 37.5 awr yr wythnos yn Lloegr ond 40 awr yr wythnos yng Nghymru

Mae mwy o waith wedi'i gynllunio i ddeall y gwahaniaethau rhwng data gweithlu practis cyffredinol yng Nghymru a Lloegr. 

Yn yr Alban, caiff data ar y gweithlu practis cyffredinol eu cyhoeddi'n flynyddol gan Public Health Scotland

Yng Ngogledd Iwerddon, caiff ystadegau eu cyhoeddi gan yr Uned Gwybodaeth Gwasanaethau Ymarferwyr Teulu o fewn y Sefydliad Gwasanaethau Busnes.

Cymharedd dros amser

Gall data ar y gweithlu amrywio o chwarter i chwarter o ganlyniad i lifau naturiol y gweithlu. Un ffactor sy'n effeithio'n benodol ar hyn yw'r ffaith bod cysylltiad rhwng nifer y staff newydd sydd ar gael a dyddiadau gorffen rhaglenni hyfforddiant. Felly, gall unrhyw gymariaethau rhwng chwarteri dilynol ddangos amrywiadau tymhorol yn unig, nid newidiadau sylfaenol yn lefelau'r gweithlu. Am y rhesymau hyn, dylai unrhyw ddadansoddiad cyfres amser ganolbwyntio ar yr un dyddiadau cyfeirio bob blwyddyn, er enghraifft, cymharu 30 Medi 2021 â 30 Medi 2022. 

Cyn i WNWRS gael ei rhoi ar waith, casglwyd data ar y gweithlu practis cyffredinol drwy system dalu Exeter. Roedd hon yn ffordd hollol wahanol o gasglu data. Roedd y cyhoeddiad diwethaf o'r ffynhonnell ddata hon yn ymwneud â dyddiad cyfeirio 30 Medi 2018.

Fel rhan o'r broses sicrhau ansawdd ar gyfer y system WNWRS newydd, tynnwyd echdyniad terfynol o system dalu Exeter ym mis Mawrth 2020 a'i gymharu â data WNWRS ar gyfer yr un dyddiad cyfeirio. Roedd cyfrif pennau ymarferwyr cyffredinol (partneriaid, darparwyr a chyflogedig yn unig) 5% yn uwch yn nata Exeter o gymharu â data WNWRS a dim ond 42% o bractisau oedd â'r un cyfrif pennau ar gyfer ymarferwyr cyffredinol yn y ddwy ffynhonnell. O ganlyniad, ni ellir cymharu data o'r ddwy ffynhonnell yn uniongyrchol, a bydd dadansoddi mesurau cyfrif pennau rhwng y ddwy ffynhonnell ond yn rhoi syniad o faint y gweithlu ar adegau gwahanol. 

Mae hyn yn gymwys i gyfrif pennau ymarferwyr cyffredinol, meddygon teulu parhaol cwbl gymwysedig, partneriaid, cyflogedig ac wrth gefn yn unig. Ni ellir cymharu mesurau cyfrif pennau ar gyfer mathau eraill o feddygon teulu rhwng y ddwy ffynhonnell ddata. 

Ni ellir cymharu CALl rhwng y ddwy ffynhonnell. 

Un o'r prif resymau dros ddatblygu WNWRS oedd bod angen mynd i'r afael â nifer o bryderon o ran ansawdd y data a gasglwyd gan ddefnyddio'r dull casglu data blaenorol. Mae rhestr fras o'r problemau ansawdd yn cynnwys: lefel uchel o ddata coll ar gyfer oriau a weithiwyd; gwerthoedd coll ar gyfer rhifau'r GMC; rhestr anghyflawn o statws cofrestru; codau practis annilys; staff dan hyfforddiant wedi'u codio'n anghywir; gwerthoedd afrealistig ar gyfer oedran; dim data ar feddygon locwm; a gwybodaeth gyfyngedig am nodweddion.

Mae'r prosesau dilysu sydd ar waith ar gyfer data WNWRS yn rhoi llawer mwy o sicrwydd ynghylch cywirdeb a dibynadwyedd data'r gweithlu o gymharu â'r dull casglu data blaenorol. Caiff y prosesau hyn eu dilysu'n gyson a chaiff prosesau newydd eu hychwanegu pan gaiff problemau ansawdd eu nodi. 

Cafodd data ar feddygon locwm eu casglu gyntaf ar sail gyson o 30 Mehefin 2021, felly mae gwaith dadansoddi cyfres amser ar gyfer y math hwn o feddyg teulu ac unrhyw grwpiau o fathau o feddygon teulu sy'n cynnwys meddygon teulu locwm yn dechrau o'r dyddiad hwn. Mae hyn yn cynnwys y prif fesur ar gyfer ‘meddygon teulu cwbl gymwysedig’.

Hygyrchedd ac eglurder

Cyhoeddi

Caiff yr ystadegau eu datgan ymlaen llaw ac yna cânt eu cyhoeddi am 09:30am ar y dyddiad cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru

Ar gyfer cyhoeddiadau sy'n ymwneud â chyfnodau cyfeirio 31 Mawrth, 30 Mehefin a 31 Rhagfyr, caiff pennawd sy'n cwmpasu'r prif bwyntiau ei gyhoeddi ar y wefan. Caiff tablau data cysylltiedig eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru hefyd. 

Ar gyfer cyhoeddiadau sy'n ymwneud â chyfnod cyfeirio 30 Medi, cyhoeddiad adroddiad HTML manwl hefyd, sy'n rhoi dadansoddiad a gwybodaeth fanylach gan ddefnyddio siartiau a sylwebaeth. Caiff tablau data ar gyfer pob dadansoddiad yn yr adroddiad HTML eu cyhoeddi ar StatsCymru. 

Gall y data sydd ar gael ar StatsCymru gael eu gweld a'u trin ar-lein neu'u lawrlwytho ar ffurf taenlenni. Yn ogystal, gellir cysylltu â'r setiau data o becyn meddalwedd (er enghraifft, Microsoft Excel) gan ddefnyddio ffrwd OData ciwb StatsCymru.

Cyhoeddir pob datganiad ystadegol yn Gymraeg a Saesneg.

Cronfeydd data ar-lein

Mae pob tabl data ar StatsCymru yn cynnwys y gyfres amser gyson, lawn a chânt eu cyhoeddi yn adran ‘gweithlu practisau cyffredinol’ StatsCymru.

Dogfennau ar fethodoleg

Cost a baich

Caiff WNWRS ei chyflenwi gan sefydliad trydydd parti y mae NWSSP wedi'i gontractio i ddarparu'r system. 

Disgwylir i bractisau olygu eu data pan fo newidiadau staff yn digwydd a mewngofnodi i'r system bob chwarter i gadarnhau bod eu data yn gyfredol. Disgwylir iddynt hefyd gysylltu â NWSSP i ddatrys unrhyw broblemau o ran ansawdd y data. 

Mae WNWRS yn cynnwys swyddogaeth adrodd ar gyfer practisau a byrddau iechyd. Felly, yn ogystal â darparu data ar gyfer ystadegau swyddogol, mae practisau yn ei defnyddio fel adnodd defnyddiol ar gyfer cynllunio'r gweithlu hefyd.

Cyfrinachedd

Cyfrinachedd: polisi

Mae'r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data mewn perthynas ag ystadegau ac ymchwil Llywodraeth Cymru yn disgrifio ein dull gweithredu mewn perthynas â chyfrinachedd data a chydymffurfio ag egwyddor llywodraethu data'r piler Dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrinachedd: trin data

Mae'r ystadegau cyhoeddedig ar StatsCymru yn cynnwys niferoedd bach ond mae'r risg yn debygol o fod yn isel iawn yn dilyn asesiad rheoli datgelu. Felly, nid ydym yn cuddio gwerthoedd bach. 

Ar hyn o bryd, ni chyhoeddir data ar gyfer meysydd bach fel practisau unigol, ond caiff y mater hwn ei adolygu'n gyson.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sabir Ahmed
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099