Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn cefnogi pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol i ddod yn athrawon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn ystyried yr hyn y gellir ei wneud i recriwtio mwy i raglenni addysg gychwynnol i athrawon (AGA). 

Rydym yn adolygu cynnydd a diweddaru’r cynllun yn unol â datblygiadau. 

Cynlluniau recriwtio partneriaethau AGA 

Mae partneriaethau AGA yn gweithio i ddenu pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i addysgu, a’u cefnogi nhw drwy'r broses. Nod hyn yw sicrhau bod unrhyw faterion sy’n ymwneud â gwahaniaethu yn cael eu trin yn briodol.

Mae partneriaethau AGA wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio. Mae'r rhain yn dangos sut y byddant yn annog ac yn cefnogi mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ddod yn athrawon. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cefnogi partneriaethau AGA i gyflawni'r camau gweithredu yn y cynlluniau hyn:

Mae partneriaethau AGA yn adolygu cynnydd yn erbyn eu cynlluniau ac yn eu diweddaru lle bo angen. 

Cefnogaeth i bobl ddod yn athrawon

Addysgwyr Cymru 

Ar gyfer y rhai sy’n ystyried gyrfa mewn addysg, mae Addysgwyr Cymru yn cynnig:

  • gwybodaeth, cyngor a chymorth 
  • gweithdai ar y broses ymgeisio a chyfweld er mwyn helpu myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i wneud cais i raglenni AGA 
  • gweithgareddau hyrwyddo a digwyddiadau allgymorth mewn cymunedau ethnig lleiafrifol ledled Cymru
  • porth swyddi, un o’r mwyaf ar gyfer y sector addysg yng Nghymru

Partneriaethau AGA 

Partneriaethau AGA sy'n darparu hyfforddiant i athrawon. Gallant gynnig cymorth:

  • cyn y broses ymgeisio
  • yn ystod y broses ymgeisio
  • drwy gydol rhaglenni AGA

Dylech siarad yn uniongyrchol â'r bartneriaeth AGA rydych yn ystyried gwneud cais iddi. Byddant yn gallu cadarnhau pa gymorth y maent yn ei darparu. 

Cymhellion AGA ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol 

Mae grant o £5,000 ar gael drwy'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol. I gael y cymhelliant hwn, rhaid i fyfyrwyr:

  • fod ar raglen AGA ôl-raddedig achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC)
  • bodloni'r meini prawf cymhwystra, gan gynnwys meini prawf ethnigrwydd 

Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL) 

Mae DARPL yn gymuned dysgu proffesiynol. Mae DARPL yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio yn y byd addysg i ddatblygu:

  • dealltwriaeth o wrth-hiliaeth 
  • ymarfer gwrth-hiliol

Mae DARPL yn cefnogi dysgu proffesiynol i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ar eu taith i ddatblygu ymarfer gwrth-hiliol. 

Mae gan DARPL gampws rhithwir. Mae'r campws yn darparu mynediad am ddim at y canlynol:

Sianel YouTube Addysgu Cymru 

Dewch i glywed sut beth yw bod yn athro yng Nghymru ar sianel YouTube Addysgu Cymru