Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rhan 7 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn cynnwys darpariaethau sy’n rhoi effaith i ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chryfhau rôl cynghorau cymuned yng Nghymru, gan eu galluogi i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau a chamau gweithredu yn lleol yn ogystal â chynyddu effeithiolrwydd eu rôl gynrychiadol a’u gallu i weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill. 

Deilliodd y darpariaethau hyn o argymhellion astudiaeth ar gynghorau cymuned yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd yn 2003, gan Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Teitl yr astudiaeth oedd Astudiaeth Ymchwil i Rôl a Swyddogaethau Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru a'u Potensial i'r Dyfodol (‘Astudiaeth Aberystwyth’). 

Cyflwynodd Astudiaeth Aberystwyth adolygiad cynhwysfawr o’r gweithgareddau y mae cynghorau cymuned yn ymgymryd â hwy ledled Cymru. Casgliad yr adroddiad oedd bod pwysau cynyddol i ddiwygio strwythur ac arferion gweithio cynghorau cymuned. Cyfeiriai'r adroddiad at y cyfleoedd sydd ar gael i gynghorau cymuned, y cyfyngiadau y maent yn gweithio o’u mewn a chynigion ar gyfer cryfhau eu rolau.

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a'r datganiad polisi llywodraeth leol wedyn yn 2007, 'Rhannu Cyfrifoldeb’, yn rhestru ystod o ymrwymiadau sydd wedi tywys polisïau a chamau gweithredu yn y maes hwn ers hynny. Mesur 2011 oedd y cyfrwng a ddefnyddiwyd ar gyfer yr agweddau hynny yr oedd yn ofynnol cael deddfwriaeth sylfaenol i’w rhoi ar waith. 

Mae’r ddogfen ganllawiau hon yn cynnwys canllawiau statudol ynghylch cyfethol aelodau cynghorau cymuned (Pennod 3 o'r Mesur) a phenodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol (Pennod 4 o'r Mesur). Wrth arfer swyddogaethau o dan y darpariaethau y mae’r Penodau hyn yn berthnasol iddynt, rhaid rhoi sylw i’r canllawiau hyn.

Ar gyfer pob un o’r Penodau eraill yn Rhan 7, mae’r canllawiau hyn yn crynhoi'r darpariaethau sydd yn y Mesur a, lle bo’n briodol, maent yn rhoi gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf o ran mabwysiadu’r darpariaethau hynny. Dylid nodi ei bod yn bosibl y datblygir canllawiau ar wahân, rhai statudol ac anstatudol, i ategu gwahanol benodau’r Rhan hon o’r Mesur. Bydd y canllawiau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

At ddibenion y canllawiau hyn, mae prif gyngor yn cyfeirio at gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol, ac mae cyngor cymuned yn cyfeirio at unrhyw gyngor cymuned neu gyngor tref.

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth

Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at sawl darn o ddeddfwriaeth. Drwy'r ddogfen hon i gyd, nodir y rhain drwy gyfeirio at flwyddyn y ddeddfwriaeth. Er enghraifft, cyfeirir at Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel "Deddf 1972". Mae'r rhestr lawn isod.  

  • Deddf Llywodraeth Leol 1972: "Deddf 1972"
  • Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 "Deddf 1983"
  • Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 "Deddf 1985"
  • Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 "Deddf 1994"
  • Deddf Llywodraeth Leol 2000 "Deddf 200"
  • Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 " Y Mesur"
  • Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 "Deddf 2013"
  • Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 "Deddf 2021"

Pennod 1: cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol

Cyflwyniad

Roedd darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) yn caniatáu i nifer bach iawn o etholwyr alw cyfarfod a sbarduno pleidlais. Gallai cynnal pleidleisiau cymunedol o’r fath fod yn gostus heb fod dim rheidrwydd ar y prif gyngor na’r cyngor cymuned i lynu wrth y canlyniad. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ("Deddf 2021") wedi diddymu pleidleisiau cymunedol (Atodlen 13 i Ddeddf 2021), ac eithrio pleidleisiau llywodraethu cymunedol. Ymdrinnir â'r materion hyn yn fanylach isod ac ym Mhennod 2. 

Darpariaethau’r Mesur

Cynnull cyfarfodydd cymunedol gan gadeirydd y cyngor neu gan ddau gynghorydd.Diwygiwyd Deddf 1972 gan y Mesur i ddarparu y caniateir cynnull cyfarfod cymunedol ar unrhyw adeg gan gadeirydd y cyngor cymuned neu gan ddau gynghorydd sy'n cynrychioli'r gymuned ar y cyngor. 

Pan fydd cyfarfodydd cymunedol yn cael eu cynnull fel hyn, mae Deddf 1972 (fel y'i diwygiwyd gan y Mesur a chan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yn nodi bod rhaid rhoi hysbysiad cyhoeddus. Os mater cyffredinol yw busnes y cyfarfod cymunedol, rhaid rhoi o leiaf saith niwrnod o rybudd; os oes a wnelo’r busnes â bodolaeth cyngor cymuned neu â grwpio cymuned â chymunedau eraill, rhaid rhoi deng niwrnod ar hugain o rybudd fan leiaf. Mae Deddf 1972 (fel y'i diwygiwyd) yn nodi hefyd pa fanylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad a sut y dylid ei gyhoeddi.

Cynnull cyfarfodydd cymunedol gan etholwyr llywodraeth leol

Mewnosododd y Mesur baragraffau 30A i 30E yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972. Cyflwynodd paragraff 30A drothwyon newydd yn ymwneud â chynnull cyfarfodydd cymunedol gan etholwyr llywodraeth leol. Rhaid i gyfarfod cymunedol gael ei gynnull gan o leiaf 10% o’r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer y gymuned honno neu gan 50 o’r etholwyr (os bydd 10% yn fwy na 50 o etholwyr). Yn unol â pharagraff 33 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, os oes cyngor cymuned, rhaid i gyfarfod o'r fath gael ei gadeirio gan gadeirydd presennol y cyngor hwnnw (os yw'n bresennol). Os nad oes cyngor cymuned, dylai cadeirydd gael ei ethol gan yr etholwyr hynny sy’n mynychu’r cyfarfod cymunedol.

Mae paragraff 30B yn nodi ei bod yn ofynnol i'r rhai sy'n cynnull y cyfarfod hysbysu'r cyngor cymuned am y cyfarfod. Os nad oes cyngor cymuned, mae'n ofynnol iddynt hysbysu'r prif gyngor. 

Mae paragraff 30B yn nodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad ac mae'n caniatáu i etholwyr sy'n cefnogi'r cynnig aros yn ddienw os ydynt wedi'u cofrestru'n ddienw yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol, o dan adran 9B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ("Deddf 1983"). 

Mae paragraff 30C (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ("Deddf 2013"), yn caniatáu i'r hysbysiad gael ei roi ar ffurf electronig, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned a phrif gynghorau fod â chyfleusterau i alluogi hysbysiadau electronig o'r fath. Mae paragraff 30C yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor bennu'r gofynion o ran hysbysiadau electronig ar gyfer ei ardal, megis dilysu llofnod electronig, a rhoi cyhoeddusrwydd priodol i'r gofynion hynny. 

Mae paragraff 30D yn nodi bod rhaid i gyngor, ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff 30B, ystyried a yw'r gofynion a bennwyd a'r trothwy sbarduno cychwynnol wedi'u bodloni. Os bydd y cyngor o'r farn nad yw'r gofynion wedi'u bodloni, rhaid iddo hysbysu'r cynullwyr a dweud pam y mae'n credu hynny. 

Yn unol â pharagraff 30E, os bydd y cyngor o'r farn bod y gofynion a bennwyd wedi'u bodloni, rhaid i'r cyngor dan sylw roi hysbysiad cyhoeddus am y cyfarfod o fewn deng niwrnod ar hugain. Os mater cyffredinol yw busnes y cyfarfod cymunedol, rhaid rhoi o leiaf saith niwrnod clir o rybudd am y cyfarfod; os oes a wnelo’r busnes â bodolaeth cyngor cymuned neu â grwpio cymuned â chymunedau eraill, rhaid rhoi deng niwrnod ar hugain clir o rybudd fan leiaf. Mae paragraff 30E hefyd yn nodi pa fanylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn yr hysbysiad a sut y dylid ei gyhoeddi. Roedd paragraff 30E(7), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2013, yn cyflwyno gofyniad y dylai hysbysiadau cyhoeddus am gyfarfod cymunedol gael eu rhoi drwy gyhoeddi'r hysbysiad yn electronig.

Diddymu Pleidleisiau Cymunedol

Diddymwyd y darpariaethau ym Mesur 2011 ar bleidleisiau cymunedol gan Atodlen 13 i Ddeddf 2021. Cyflwynodd Deddf 2021 system ddeisebau yn lle pleidleisiau cymunedol, gan roi dyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi cynllun sy'n nodi sut y maent yn bwriadu ymdrin â deisebau ac ymateb iddynt (gan gynnwys deisebau electronig). 

Er hynny, mae pleidleisiau llywodraethu cymunedol yn parhau; hynny yw, y rhai sy'n galluogi cymuned i gynnal pleidlais ar gynnig i sefydlu neu ddiddymu cyngor cymuned, neu i ymuno â chymunedau eraill o dan gyngor cymuned cyffredin, gweler pennod 2 isod. 

Pennod 2: trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau

Cyflwyniad

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i Astudiaeth Aberystwyth yn nodi y byddai’n deddfu i’w gwneud yn haws i gymunedau sefydlu cynghorau cymuned lle nad ydynt eisoes yn bodoli ac i’w gwneud yn ofynnol cael rhagor o gefnogaeth o blaid cynnig i ddiddymu cyngor sy’n bodoli eisoes.  

Mae Pennod 2 o Ran 7 yn diwygio'r darpariaethau yn Neddf 1972 er mwyn darparu trothwy is ar gyfer penderfyniad gan gyfarfod cymunedol i alw am bleidlais ynghylch sefydlu cyngor cymuned, ac i o leiaf ddwy ran o dair o’r rheini sy’n pleidleisio mewn pleidlais fod o blaid diddymu cyngor. Manteisiwyd ar y cyfle hefyd yn y Mesur i ddiddymu darpariaethau presennol Deddf 1972 ynghylch creu, grwpio a diddymu cynghorau ac i’w hail-lunio ar ffurf haws ei deall. Roedd Pennod 2 o Ran 7 o'r Mesur yn diddymu adrannau 28 i 29B o Ddeddf 1972, ac yn mewnosod adrannau 27A i 27M.

Darpariaethau’r Mesur

Sefydlu cyngor cymuned newydd

Caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i’w brif gyngor am orchymyn i sefydlu cyngor cymuned newydd lle nad oes gan y gymuned gyngor cymuned ar wahân. Cyn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r cyfarfod cymunedol fodloni amodau penodol a nodir yn adran 27A o Ddeddf 1972. 

Yn gyntaf, rhaid i’r cyfarfod cymunedol fod wedi gwneud penderfyniad effeithiol i bleidleisio ar gynnig i sefydlu cyngor i’r gymuned honno. Ni fydd penderfyniad i gynnal pleidlais o'r fath yn effeithiol oni bai bod o leiaf 10% o etholwyr llywodraeth leol y gymuned honno, neu 150 o'r etholwyr (os yw 10% o'r etholwyr yn fwy na 150), yn bresennol ac yn pleidleisio yn y cyfarfod.

Yn ail, ni cheir cynnal y bleidlais cyn diwedd y cyfnod o 42 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod pan benderfynwyd cynnal y bleidlais. 

Yn drydydd, ni cheir cynnal y bleidlais o fewn dwy flynedd i bleidlais gynharach a arweiniodd at wrthod cynnig i sefydlu cyngor cymuned. Y bedwaredd amod, a'r olaf, yw bod rhaid i fwyafrif o'r rhai sy'n pleidleisio yn y bleidlais gefnogi'r cynnig i sefydlu cyngor cymuned.

Pan ddaw cais i sefydlu cyngor cymuned newydd, rhaid i'r prif gyngor ystyried a yw'r amodau gofynnol wedi'u bodloni. Os bydd y cyngor yn fodlon bod yr amodau wedi’u bodloni, rhaid gwneud y gorchymyn a geisiwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau sy'n angenrheidiol ym marn y prif gyngor (adran 27B o Ddeddf 1972). 

Diddymu cyngor cymuned sy’n bodoli’n barod

Caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i’w brif gyngor am orchymyn i ddiddymu cyngor cymuned sy’n bodoli’n barod. Cyn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r cyfarfod cymunedol fodloni amodau penodol, a nodir yn adran 27C o Ddeddf 1972. 

Yn gyntaf, rhaid i’r cyfarfod cymunedol fod wedi gwneud penderfyniad effeithiol i bleidleisio ar gynnig i ddiddymu cyngor ar gyfer y gymuned honno. Ni fydd pleidlais o’r fath ond yn effeithiol os bydd o leiaf 30% o gyfanswm etholaeth llywodraeth leol y gymuned honno, neu 300 o’r etholwyr (os bydd 30% o’r etholwyr yn fwy na 300), yn bresennol ac yn pleidleisio yn y cyfarfod. 

Yn ail, ni ellir cynnal y bleidlais cyn diwedd y cyfnod o 42 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod pan benderfynwyd cynnal y bleidlais.

Yn drydydd, ni cheir cynnal y bleidlais o fewn dwy flynedd i bleidlais gynharach a arweiniodd at wrthod cynnig i ddiddymu cyngor cymuned sy'n bodoli. Y bedwaredd amod, a'r olaf, yw bod rhaid i o leiaf ddwy ran o dair o'r rhai sy'n pleidleisio mewn pleidlais gefnogi'r cynnig i ddiddymu'r cyngor cymuned; hynny yw, trothwy uwch nag ar gyfer sefydlu cyngor cymuned.

Pan ddaw’r cais i ddiddymu cyngor cymuned, rhaid i'r prif gyngor ystyried a yw'r amodau gofynnol wedi'u bodloni. Os bydd y cyngor yn fodlon bod yr amodau wedi’u bodloni, rhaid gwneud y gorchymyn a geisiwyd (adran 27D o Ddeddf 1972).

Grwpio cymunedau o dan un cyngor cymuned

Caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i’w brif gyngor am orchymyn i grwpio’r gymuned gyda chymuned neu gymunedau gerllaw sydd yn yr un brif ardal â’r gymuned, o dan gyngor cymuned cyffredin. Cyn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r cyfarfod cymunedol fodloni amodau penodol a nodir yn adran 27E o Ddeddf 1972. 

Yn eu hanfod, yr un yw’r amodau â’r rhai ar gyfer sefydlu cyngor cymuned newydd), ond fod gofyniad ychwanegol, sef bod rhaid gwneud ceisiadau ar y cyd â’r gymuned neu'r cymunedau eraill sy’n rhan o’r grŵp arfaethedig.

Pan ddaw’r cais, rhaid i'r prif gyngor ystyried a yw'r amodau gofynnol wedi'u bodloni. Os bydd y cyngor yn fodlon bod yr amodau wedi’u bodloni, rhaid gwneud y gorchymyn a geisiwyd (adran 27F o Ddeddf 1972). Rhaid i'r gorchymyn a wneir nodi enw'r grŵp yn Gymraeg ac yn Saesneg, gwneud unrhyw ddarpariaeth y mae'r prif gyngor yn ei hystyried yn angenrheidiol o ran y materion a nodir yn adran 27F(5)(a) a (6), a darparu ar gyfer diddymu'r cyngor cymuned ar wahân sydd gan unrhyw gymuned sydd wedi'i chynnwys yn y grŵp. 

Ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau o dan gyngor cymuned cyffredin

Caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i’w brif gyngor am orchymyn i ychwanegu cymuned at grŵp o gymunedau, a’r rheini i gyd yn yr un brif ardal â’r gymuned, ac y mae cyngor cymuned cyffredin yn bodoli ar eu cyfer. Cyn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r cyfarfod cymunedol fodloni amodau penodol a nodir yn adran 27G o Ddeddf 1972. 

Yn eu hanfod, mae'r amodau’r un fath â'r rhai ar gyfer sefydlu cyngor cymuned newydd, ynghyd â'r gofyniad ychwanegol bod rhaid i gyfarfod cymunedol o bob un o'r cymunedau yn y grŵp wneud penderfyniad effeithiol i gynnal pleidlais ar y cynnig, a bod mwyafrif o'r rhai sy'n pleidleisio yn y bleidlais/pleidleisiau dilynol yn cydsynio i'r gymuned ymuno â'r grŵp.

Pan ddaw’r cais, rhaid i'r prif gyngor ystyried a yw'r amodau gofynnol wedi'u bodloni. Os bydd y cyngor yn fodlon bod yr amodau wedi’u bodloni, rhaid gwneud y gorchymyn a geisiwyd (adran 27H o Ddeddf 1972). Rhaid i'r gorchymyn ymdrin â'r materion a nodir yn adran 27H, sef yr un materion ychwanegol yn fras ag a nodir ym uchod wrth wneud gorchymyn grwpio cymunedau. 

Diddymu grŵp o gymunedau 

Caiff cyfarfod cymunedol wneud cais i’w brif gyngor am orchymyn i ddiddymu grŵp o gymunedau. Cyn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r cyfarfod cymunedol fodloni amodau penodol a nodir yn adran 27I o Ddeddf 1972. 

Yn eu hanfod, mae'r amodau’r un fath â'r rhai ar gyfer diddymu cyngor cymuned. Bydd yn ofynnol i bob cymuned yn y grŵp gynnal cyfarfod cymunedol effeithiol er mwyn penderfynu cynnal pleidlais, a bydd yn ofynnol i ddwy ran o dair o'r rhai sy'n pleidleisio ym mhob pleidlais gytuno i'r cynnig i ddiddymu'r grŵp.

Pan ddaw’r cais, rhaid i'r prif gyngor ystyried a yw'r amodau gofynnol wedi'u bodloni. Os bydd y cyngor yn fodlon bod yr amodau wedi'u bodloni, rhaid gwneud y gorchymyn a geisiwyd (adran 27J o Ddeddf 1972), yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau y mae'r prif gyngor yn eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer ethol cyngor cymuned i unrhyw un neu unrhyw rai o'r cymunedau yn y grŵp. 

Gwahanu cymuned oddi wrth grŵp o gymunedau

Caiff cyfarfod cymunedol gan gymuned sydd wedi’i chynnwys mewn grŵp o gymunedau wneud cais i’w brif gyngor am orchymyn i wahanu’r gymuned oddi wrth y grŵp. Cyn gwneud cais o'r fath, rhaid i'r cyfarfod cymunedol fodloni amodau penodol a nodir yn adran 27K o Ddeddf 1972. 

Yn eu hanfod, yr un yw’r amodau â’r rhai ar gyfer diddymu cyngor cymuned.

Pan ddaw’r cais, rhaid i'r prif gyngor ystyried a yw'r amodau gofynnol wedi'u bodloni. Os bydd y cyngor yn fodlon bod yr amodau wedi'u bodloni, rhaid gwneud y gorchymyn a geisiwyd (adran 27L o Ddeddf 1972), yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau y mae'r prif gyngor yn eu hystyried yn angenrheidiol ar gyfer ethol cyngor cymuned i'r gymuned. 

Newid trothwyon pleidleisio yng nghyswllt trefniadaeth cynghorau cymuned

Mae adran 27M, a fewnosodwyd yn Neddf 1972 gan y Mesur, yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i newid y trothwyon ar gyfer y gwahanol weithdrefnau sefydlu a diddymu, a thrwy hynny'n eu galluogi i wneud newidiadau yng ngoleuni'r profiad o gymhwyso'r trothwyon newydd hynny. 

Pennod 3: cyfethol aelodau cynghorau cymuned

Canllawiau statudol a ddyroddwyd yn unol ag adran 117 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cyflwyniad

Roedd Astudiaeth Aberystwyth yn cyfeirio at bryderon ynghylch pa mor gynhwysol yw rhai cynghorau, ynghylch y ffaith bod cyn lleied o etholiadau'n cael eu hymladd ac ynghylch y gweithdrefnau ar gyfer ymgynghori a chyfathrebu â phobl leol.

Yn y cyd-destun hwn, mae Pennod 3 o Ran 7 yn mynd i’r afael â'r angen i roi hysbysiad cyhoeddus pan fo seddi gwag ar gyngor cymuned i'w llenwi drwy gyfethol. Mae hyn yn hynod arwyddocaol, oherwydd y gall effeithio ar i ba raddau y gall unigolion gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.

Darpariaethau’r Mesur

Mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo cyngor cymuned yn bwriadu llenwi sedd wag drwy gyfethol, i'r cyngor roi hysbysiad cyhoeddus am y cyfle i gyfethol. 

Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i'r canlynol:

  • pŵer aelodau cyngor cymuned i gyfethol rhywun i lenwi sedd wag yn aelodaeth y cyngor os na cheir digon o enwebiadau i lenwi seddi gwag y cynhaliwyd etholiad ar eu cyfer, fel y darperir o dan adran 21(2)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 ("Deddf 1985")
  • unrhyw bŵer neu ddyletswydd sydd gan gyngor cymuned i gyfethol rhywun i lenwi sedd wag yn aelodaeth y cyngor o dan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983

Mae'r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi:

  • yn achos sedd wag sydd heb ei llenwi mewn etholiad, gan un o'r aelodau y bydd y cyngor yn ei awdurdodi at y diben hwnnw
  • yn achos sedd sy'n digwydd dod yn wag, gan y cyngor cymuned

Mae’r darpariaethau cyffredinol yn adran 232 o Ddeddf 1972 ynghylch hysbysiadau cyhoeddus yn gymwys. Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad:

  • drwy arddangos yr hysbysiad mewn man neu fannau amlwg yn ardal y cyngor
  • mewn unrhyw fodd arall, os o gwbl, ag y gwelo’r cyngor yn dda er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i’r hysbysiad
  • pan fo awdurdod lleol wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid cyhoeddi hysbysiadau’n electronig hefyd (mae hyn yn dilyn diwygiad a wnaed gan Ddeddf 2021)

Mae Deddf 2021 hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth bellach neu wahanol ynghylch sut y mae'n ofynnol rhoi hysbysiadau cyhoeddus i awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Rhaid i’r hysbysiad gynnwys:

  • manylion cyswllt unigolyn y gellir cael rhagor o wybodaeth ganddo am y sedd wag a’r broses ar gyfer dethol person
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n briodol ym marn yr aelodau neu'r cyngor cymuned
  • unrhyw wybodaeth arall y mae'n ofynnol ei chynnwys yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru

Wrth arfer y swyddogaethau uchod, rhaid i aelodau cyngor cymuned, a chynghorau cymuned, roi sylw i'r canllawiau statudol canlynol.

Darpariaethau statudol perthnasol eraill cyfethol i lenwi sedd wag yn dilyn etholiad a chyfethol i lenwi sedd sy'n digwydd dod yn wag

Mae adran 21 o Ddeddf 1985 yn darparu, oni fydd nifer yr aelodau sydd newydd eu hethol i’r cyngor cymuned yn llai na’r hyn sy’n gworwm ar gyfer cyfarfodydd y cyngor, y caiff yr aelodau hynny gyfethol unrhyw un neu unrhyw rai i lenwi’r sedd neu’r seddi gwag sydd yn dal heb eu llenwi.

Aiff Deddf 1985 rhagddi i ddarparu y caniateir i'r cyngor sir / cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal wneud unrhyw beth sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal etholiad yn briodol o ran unrhyw seddi sydd heb eu llenwi drwy'r drefn honno. Ni chaiff y cyngor sir / cyngor bwrdeistref sirol arfer y pŵer hwn hyd nes bod 35 niwrnod wedi dod i ben ar ôl dyddiad yr etholiadau cyffredin (gweler adran 21(2) o Ddeddf 1985). Nid yw’r ddyletswydd ar y swyddog canlyniadau yn adran 39(1) o Ddeddf 1983 i gynnal etholiad o fewn 35 niwrnod yn gymwys yn y cyswllt hwn (gweler adran 21(2)(c) o Ddeddf 1985).

Mae adran 89(6) o Ddeddf 1972 yn darparu y bydd sedd sy'n digwydd dod yn wag ymhlith cynghorwyr cymuned yn cael ei llenwi drwy etholiad neu gan y cyngor cymuned yn unol â rheolau a wnaed o dan adran 36A o Ddeddf 1983. 

Mae rheol 5 o Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021/1460 yn nodi'r rheolau perthnasol ar gyfer llenwi seddi sy'n digwydd dod yn wag ar gyfer swydd cynghorydd cymuned yng Nghymru.

Os gwneir cais am etholiad gan ddeg etholwr (naill ai fel grŵp neu fel unigolion) o fewn pedwar diwrnod ar ddeg sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl i hysbysiad cyhoeddus gael ei roi am y sedd wag, rhaid cynnal etholiad cyn diwedd y cyfnod o 60 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddwyd hysbysiad cyhoeddus am y sedd wag (ac eithrio pan ddaw'r sedd yn wag yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd). Os oes un ymgeisydd ar gyfer un sedd wag, etholir yr ymgeisydd hwnnw'n ddiwrthwynebiad.

Os na wneir cais am etholiad, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl i hysbysiad cyhoeddus gael ei roi am y swydd wag:

  • caiff y cyngor cymuned gyfethol person i lenwi'r sedd wag os daeth y sedd yn wag yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd
  • fel arall, rhaid i’r cyngor cymuned gyfethol person i lenwi’r swydd wag

Canllawiau Statudol

Dyroddwyd y canllawiau statudol hyn gan Weinidogion Cymru drwy arfer eu pwerau o dan adran 117 o’r Mesur. Yn rhinwedd adran 117(1) o’r Mesur, rhaid i aelodau cyngor cymuned a chynghorau cymuned roi sylw i'r canllawiau hyn o ran cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus os bydd seddi gwag ar gyngor cymuned i’w llenwi drwy gyfethol.

Cydnabyddwyd ers tro ei bod yn arfer da hysbysebu cyfleoedd i gyfethol i gynghorau cymuned yn agored yn y gymuned leol. Mae hyn yn osgoi’r canfyddiad, boed hynny’n deg ai peidio, bod cynghorau cymuned yn ‘siopau caeedig’ sy'n llawn o'r ‘dethol rai’. Mae’n bwysig bod cynghorau’n cynrychioli’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau mewn sawl maes i annog rhagor o amrywiaeth ymhlith y rheini sy’n sefyll am swydd. Mae hyn yn cynnwys darpariaethau yn y Mesur sy’n ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gasglu gwybodaeth am ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad ar gyfer prif gynghorau a chynghorau cymuned.

Byddai’n well gan Lywodraeth Cymru, wrth gwrs, weld pob sedd wag ar gynghorau cymuned yn cael ei llenwi drwy etholiadau neu drwy is-etholiadau lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mae cyfethol yn ddull dilys o lenwi seddi gwag pan fydd yr angen yn codi. 

Mae’r Mesur yn nodi'r gofynion sylfaenol ar gyfer rhoi hysbysiad ynghylch llenwi seddi gwag drwy gyfethol. Fodd bynnag, wrth ystyried ymhle a sut y dylid hysbysu ynghylch hyn, dylai cynghorau gofio bod angen ceisio cyrraedd ystod mor eang â phosibl o bobl ifanc yn eu cymuned.

Yn benodol, dylai cynghorau cymuned ystyried y ffordd orau o gyrraedd grwpiau sydd efallai wedi bod yn gyndyn o ystyried bod yn gynghorwyr, neu sy'n aml heb eu cynrychioli'n ddigonol yn y system ddemocrataidd, a mynd ati'n rhagweithiol i ymgysylltu â'r grwpiau hynny. Rhaid defnyddio Cymraeg a Saesneg Clir wrth lunio hysbysiadau a gwybodaeth gyhoeddus er mwyn goresgyn unrhyw rwystrau sy’n ymwneud â’r defnydd o iaith gymhleth. 

Bydd cynghorau cymuned dymuno ystyried y dull mwyaf priodol a chost-effeithiol o roi cyhoeddusrwydd i gyfleoedd i gyfethol, ond nid yw rhoi hysbysiad ar hysbysfwrdd y cyngor yn unig yn debygol o fod yn ddigon gan amlaf. Gallai hyn gynnwys hyrwyddo cyfethol ar wefan y cyngor, ar dudalennau Facebook neu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol cynghorwyr neu’r cyngor, drwy anfon llythyrau at sefydliadau lleol, yn ogystal â thrwy'r wasg leol a dulliau eraill megis radio lleol. Mae adran 232 o Ddeddf 1972 yn gymwys i roi hysbysiad o dan adran 116(3) (a) a (b), sydd, yn sgil diwygiad gan Ddeddf 2021, yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiadau gael eu cyhoeddi'n electronig hefyd. 

Cyfethol i lenwi sedd wag ar ôl etholiad

O ran y geiriad a ddefnyddir yn adran 21(2) o Ddeddf 1985, mae 116(3)(a) o’r Mesur yn darparu bod rhaid i’r hysbysiad ynghylch bwriad y cyngor i gyfethol rhywun neu rywrai gael ei roi gan un o’r aelodau a awdurdodir gan fwyafrif o aelodau eraill y cyngor cymuned at y diben hwnnw. Er y gallai hwn fod yn unrhyw aelod, mae'n bosibl y bydd y cyngor yn credu ei bod yn briodol i’r hysbysiad fod yn enw cadeirydd y cyngor cymuned. Byddai angen i’r mater gael ei ystyried ymhlith eitemau busnes cyntaf y cyngor newydd yn ei gyfarfod blynyddol ar ôl yr etholiadau.

Cyfethol i lenwi sedd sy'n digwydd dod yn wag

Gall sedd ddigwydd dod yn wag am sawl rheswm, gan gynnwys ymddiswyddo neu fethiant i dderbyn y swydd. Mae’r sedd yn dod yn wag yn awtomatig, ac nid oes angen ei datgan. Rhaid rhoi hysbysiad cyhoeddus am sedd sy'n digwydd dod yn wag, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod y sedd wedi dod yn wag (gweler adran 87 o Ddeddf 1972 dyddiad seddi sy'n digwydd dod yn wag), er mwyn rhoi cyfle i'r gymuned enwebu ymgeiswyr i'w cynrychioli ar y cyngor. Rhaid i gynghorau cymuned roi sylw i baragraff 3.14 o'r canllawiau hyn wrth benderfynu sut i roi hysbysiad.

Pennod 4: penodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol

Canllawiau statudol a ddyroddwyd yn unol ag adran 120 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cyflwyniad 

Nododd Astudiaeth Aberystwyth nad oedd cyfansoddiad cynghorau cymuned yng Nghymru yn adlewyrchiad teg o gyfansoddiad y boblogaeth drwyddi draw. Yn benodol, nododd yr astudiaeth fod angen ymgysylltu â phobl ifanc i gael eu barn am y meysydd hynny y mae'r cynghorau'n gyfrifol amdanynt sy'n effeithio arnynt hwy, a hefyd i'w hannog i gymryd mwy o ran mewn llywodraeth leol pan fyddant yn ddigon hen i sefyll etholiad.

Mae Pennod 4 o Ran 7 o'r Mesur yn galluogi cynghorau cymuned i benodi hyd at ddau unigolyn i fod yn gynrychiolwyr ieuenctid cymunedol. Mae’n ymateb i'r angen i hysbysu’r cyhoedd am ei fwriad i benodi cynrychiolydd ieuenctid cymunedol, yn ogystal â phennaeth neu berchennog unrhyw ysgol sydd â safle yn yr ardal, a phennaeth a chorff llywodraethu unrhyw sefydliad addysg bellach neu uwch sydd â safle yn yr ardal. 

Darpariaethau’r Mesur

Nid yw’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned benodi cynrychiolwyr ieuenctid ond mae’n nodi'r hyn y mae'n ofynnol iddynt ei wneud os byddant yn dewis gwneud hynny. Mae’r gofynion hyn yn sicrhau, pan benderfynir penodi cynrychiolwyr ieuenctid, bod y cyfle i ddod yn gynrychiolydd ieuenctid ar gael i bob person ifanc yn y gymuned sy’n gymwys. Mae’r gofynion i hysbysu a rhoi gwybodaeth ynglŷn â phenodi cynrychiolwyr ieuenctid hefyd yn help i rieni, gwarcheidwaid a gweithwyr addysg proffesiynol i roi’r gefnogaeth orau i bobl ifanc yn eu hymgyrch etholiadol ac yn eu gwaith gyda’r cyngor ar ôl cael eu hethol. 

Caiff cyngor cymuned benodi dau unigolyn ar y mwyaf i weithredu ar unrhyw adeg fel cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol. Mae’r Mesur yn diffinio “cynrychiolydd ieuenctid cymunedol” fel unigolyn:

  • sydd dros 15 oed ond heb gyrraedd 26 oed
  • y mae'r cyngor cymuned o'r farn ei fod yn addas i gynrychioli buddiannau unigolion o dan 26 oed sy’n byw, yn gweithio, neu’n cael addysg neu hyfforddiant yn ardal y gymuned

Nid oes rhaid i gynrychiolwyr ieuenctid fyw, gweithio neu gael addysg neu hyfforddiant yn ardal y gymuned o reidrwydd, ar yr amod bod y cyngor yn eu hystyried yn addas. Fe allai hyn fod yn arbennig o berthnasol lle na fydd gan gymuned gerllaw gyngor cymuned. 

Ni chaiff cyngor cymuned benodi unigolyn yn gynrychiolydd ieuenctid oni fydd wedi cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad yn adran 119 o’r Mesur. O dan adran 119, mae'n ofynnol i gynghorau roi hysbysiad yn unol â gofynion adran 232 o Ddeddf 1972, wedi’i haddasu fel a ganlyn:

  • drwy arddangos yr hysbysiad mewn man neu fannau amlwg yn ardal y cyngor. Yn dilyn newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2021, os yw'r awdurdod lleol yng Nghymru, rhaid cyhoeddi'r hysbysiad yn electronig hefyd
  • drwy roi hysbysiad i bennaeth a pherchennog unrhyw ysgol sydd ag unrhyw ran o’i safle yn ardal y cyngor cymuned
  • drwy roi hysbysiad i bennaeth a chorff llywodraethu unrhyw sefydliad addysg bellach neu uwch, y mae unrhyw ran o’i safle yn ardal y cyngor cymuned
  • drwy roi hysbysiad mewn unrhyw fodd arall y gwelo'r cyngor cymuned yn dda er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl ifanc cymwys ag y bo modd yn ymwybodol o’r bwriad i benodi cynrychiolwyr ieuenctid

Rhaid i’r hysbysiad cyhoeddus gynnwys yr wybodaeth a ganlyn:

  • manylion cyswllt unigolyn y gellir cael rhagor o wybodaeth am benodi cynrychiolwyr ieuenctid ganddo, ynghyd â gwybodaeth am broses eu penodi
  • unrhyw wybodaeth arall sy’n briodol ym marn y cyngor cymuned yn briodol
  • unrhyw wybodaeth arall y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad drwy unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

Dyroddwyd y canllawiau statudol hyn gan Weinidogion Cymru drwy arfer eu pwerau o dan adran 120 o’r Mesur. 

Canllawiau Statudol

Yn rhinwedd adran 120(1) o’r Mesur, rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r canllawiau hyn wrth arfer eu pwerau i benodi cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol.

Mae’r Mesur yn nodi’r gofynion sylfaenol ar gyfer rhoi hysbysiad ynghylch penodi cynrychiolwyr ieuenctid. Fodd bynnag, wrth ystyried ymhle a sut y dylid rhoi hysbysiad, dylai cynghorau roi sylw i’r angen i geisio cyrraedd ystod mor eang â phosibl o bobl ifanc yn eu cymuned. Yn ogystal â rhoi hysbysiad i sefydliadau addysgol fel sy'n ofynnol gan y Mesur, dylai cynghorau ystyried a oes sefydliadau ieuenctid eraill yn yr ardal y dylid rhoi hysbysiad iddynt hefyd er mwyn i'r wybodaeth gyrraedd ystod eang ac amrywiol o bobl ifanc.  

Mater i gynghorau cymuned yw penderfynu ar y broses ddethol, y telerau penodi, gan gynnwys unrhyw dâl a roddir, a natur y rôl y bydd cynrychiolwyr ieuenctid yn ei chwarae (gan sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol). Gallai’r olaf o’r rhain olygu, er enghraifft, cymryd rhan pan ystyrir cyfleusterau penodol ar gyfer pobl ifanc, neu fe allai gynnwys rhoi “barn yr ifanc” am bob mater sydd gerbron y cyngor. 

Er mai nod y darpariaethau hyn yn y Mesur yw annog pobl ifanc i gymryd rhan fel cynrychiolwyr cynghorau cymuned, nid ydynt yn atal y cyngor rhag defnyddio dulliau eraill o ymgysylltu â phobl ifanc megis cynghorau ieuenctid a fforymau ieuenctid eraill.

Ni fydd cynrychiolwyr ieuenctid cymunedol yn aelodau o’r cyngor cymuned sy’n eu penodi, ac felly ni chânt bleidleisio ar faterion y cyngor. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i ddarparu, drwy reoliadau, fod cynrychiolwyr ieuenctid cymuned i'w trin yn aelodau o'r cyngor at ddibenion rhagnodedig. Ar hyn o bryd nid oes bwriad i wneud rheoliadau o'r fath, ond cedwir golwg ar y sefyllfa. 

Dylid nodi bod unigolion yn gymwys i ddod yn gynghorwyr cymuned llawn pan fyddant yn 18 oed. Rhaid i unigolion sydd rhwng 18 a 26 oed a etholir neu a gyfetholir yn gynghorwyr cymuned ysgwyddo dyletswyddau a breintiau llawn cynghorydd a rhaid iddynt gynrychioli buddiannau'r gymuned gyfan, nid dim ond pobl ifanc. Felly, ni all unigolion rhwng 18 a 26 sy’n dod yn gynghorwyr cymuned, naill ai drwy eu hethol neu drwy eu cyfethol, fod yn gynrychiolwyr ieuenctid cymunedol hefyd.

Gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (a elwid gynt yn wiriadau’r Swyddfa Cofnodion Troseddol)

Ym mis Rhagfyr 2012, unwyd y Swyddfa Cofnodion Troseddol (DRB) a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol. Crëwyd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn lle’r ddau gorff hynny. Bellach gelwir gwiriadau CRB yn wiriadau DBS.

Gan mai dewis cyngor cymuned neu gyngor tref yw penodi cynrychiolwyr ieuenctid a phenderfynu beth yw eu rôl, gwaith y cyngor ei hun fydd penderfynu a oes ganddo'r hawl i ofyn am wiriad DBS, ac ar ba lefel, ar gyfer cynghorwyr, clercod a staff sy'n gweithio gyda chynrychiolwyr ieuenctid, o ystyried amgylchiadau unigol y cyngor. Os bydd rôl y cynrychiolwyr ieuenctid yn newid, bydd angen i’r cyngor ailystyried ei sefyllfa o ran gwiriadau DBS.

Gall cynghorau cymuned a thref ddod o hyd i ragor o wybodaeth am wiriadau DBS yn neu drwy anfon e-bost. Yn ogystal, mae'r Swyddfa Gartref wedi llunio canllawiau ar gymhwystra ar gyfer gwiriadau DBS.

Pennod 5: adolygu ardaloedd cymunedol a threfniadau etholiadol

Cyflwyniad

Gosododd Deddf 1972 ddyletswydd ar brif gynghorau i gadw'u hardal gyfan o dan adolygiad er mwyn ystyried a ddylid gwneud argymhellion i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o ran cyfansoddiad cymunedau, eu diddymu neu eu newid. Fodd bynnag, nid oedd dim amserlenni yn Neddf 1972 ynghylch pa mor aml y dylid cynnal adolygiadau o’r fath.

At hynny, roedd yn ddyletswydd ar brif gynghorau i adolygu'n rheolaidd y trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau eu hardal at ddibenion archwilio nifer y cynghorwyr ym mhob ardal gymunedol a, lle y bo’n briodol, eu dosbarthiad o fewn wardiau cymunedol ac i ystyried a ddylid gwneud newidiadau o sylwedd i'r trefniadau hynny. Unwaith eto, nid oedd dim amserlenni ynghylch pa mor aml y dylid cynnal adolygiadau o’r fath.

Er mwyn ymdrin â’r materion hyn, cyflwynodd Pennod 5 o Ran 7 o'r Mesur ddarpariaethau sy'n pennu amserlenni y mae'n ofynnol i gynghorau eu dilyn o ran adolygu eu hardaloedd cymunedol ac adrodd i'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol.

Darpariaethau’r Mesur

Roedd y Mesur yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud ag adolygu ardaloedd cymunedol a threfniadau etholiadol. Ers hynny, mae darpariaethau yn Neddf 2013 wedi disodli'r rhain, a nodir y manylion isod.

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013

Mae Deddf 2013 yn cynnwys darpariaethau ynghylch adolygu trefniadau etholiadol ac adolygu cymunedau. Mae'r Ddeddf yn ailenwi Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, y cyfeirir ato isod fel 'y Comisiwn'.

Mae adran 22 o Ddeddf 2013 yn gosod dyletswydd ar brif gynghorau i fonitro'r cymunedau yn eu hardal, a threfniadau etholiadol cymunedau o'r fath, er mwyn ystyried a yw'n briodol gwneud neu argymell newidiadau. Wrth wneud hynny, rhaid i brif gynghorau roi sylw i amserlen y Comisiwn ar gyfer adolygiadau o brif ardaloedd, rhaid iddynt gynnal unrhyw adolygiadau sy'n ofynnol, a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru, neu yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol, a rhaid iddynt geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Rhaid i brif gynghorau gyhoeddi adroddiad sy'n nodi sut y maent wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd hon a'i anfon i'r Comisiwn o ran pob cyfnod adrodd (cyfnod o 10 mlynedd).

Adolygiadau prif gynghorau o ardaloedd cymunedol

Mae Deddf 2013 yn rhoi pwerau i brif gyngor adolygu un neu ragor o gymunedau yn ei ardal. Gall gynnal adolygiad o’i wirfodd neu wneud hynny ar gais cyfarfod cymunedol yn ei ardal (ac eithrio lle byddai gwneud hynny'n ei rwystro rhag arfer ei swyddogaethau'n briodol). Gall wneud argymhellion ynghylch newidiadau i ffiniau cymunedol ac unrhyw newidiadau yn sgil hynny i gyngor cymuned neu drefniadau etholiadol y gymuned sy'n cael eu hadolygu, neu i'r brif ardal.

Caiff y Comisiwn hefyd gynnal adolygiad o ardal gymunedol, naill ai (i) drwy gytundeb â'r prif gyngor ac ar ei ran, (ii) pan nad yw'r Comisiwn yn cytuno ag argymhellion prif gyngor neu pan nad oes modd iddo gytuno â hwy, (iii) pan fo o'r farn na chynhaliwyd adolygiad prif gyngor yn unol â Deddf 2013 neu fel arall ei fod yn ddiffygiol mewn modd sylweddol, neu (iv) pan nad yw prif gyngor wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru i gynnal adolygiad. Caiff y Comisiwn adennill costau cynnal adolygiad o'r fath oddi wrth y prif gyngor os yw adolygiad wedi'i gynnal ganddo o ganlyniad i (iii) neu (iv) uchod.  

Adolygiadau prif gynghorau o drefniadau etholiadol 

Rhaid i'r Comisiwn adolygu'r trefniadau etholiadol ar gyfer pob prif ardal o leiaf unwaith ym mhob cyfnod adolygu 10 mlynedd, ac fel rhan o'r adolygiadau hyn caiff argymell newidiadau i'r trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal sy'n cael eu hadolygu, ac unrhyw newid canlyniadol i ffiniau cymunedol neu drefniadau etholiadol. Ni ellir cyhoeddi/cynnal adroddiad terfynol nac adolygiad o drefniadau etholiadol yn ystod y cyfnod o naw mis cyn diwrnod etholiad cyffredin y cyngor, er mwyn sicrhau bod modd rhoi unrhyw newidiadau ar waith mewn da bryd ar gyfer unrhyw etholiad sydd i'w gynnal.

Mae Deddf 2013 yn rhoi pwerau i brif gynghorau adolygu a gwneud argymhellion ynghylch trefniadau etholiadol cymuned. Mae Deddf 2013 yn nodi yn adran 33 y materion y mae'n rhaid i brif gyngor roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiadau o'r fath. Caiff y Comisiwn gynnal adolygiadau o ardaloedd cymunedol ar ran prif gynghorau ac, os gwneir hyn oherwydd ei fod o'r farn nad yw adolygiad y prif gyngor yn cydymffurfio â Deddf 2013 neu ei fod yn ddiffygiol, caiff y Comisiwn adennill costau oddi wrth y prif gyngor. 

Mae Deddf 2013 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer cynnal adolygiadau gan brif gynghorau a'r Comisiwn. Dylid nodi, ni waeth pwy sy'n cynnal yr adolygiad, bod rhaid llunio a chyhoeddi adroddiad drafft i ymgynghori arno (mae Deddf 2013 yn nodi'r rhai y mae'n rhaid ymgynghori â hwy), ac wedi hynny adroddiad terfynol sy'n ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ar yr adroddiad drafft. Mae Deddf 2013 yn nodi gweithdrefnau ar gyfer gweithredu argymhellion gan Weinidogion Cymru, y Comisiwn neu brif gyngor. 

Ceir rhagor o fanylion am y Ddeddf ar wefan Senedd Cymru.

Pennod 6: pwerau cynghorau cymuned i hybu llesiant

Cyflwyniad

Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 ('Deddf 2000) y 'pŵer llesiant' o  dan adran 2 o Ddeddf 2000. Diddymwyd hwn ar gyfer pob cyngor cymuned pan ddaeth y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol i rym ar gyfer cynghorau cymuned a thref cymwys ar 5 Mai 2022. Roedd hyn yn dilyn deddfu Deddf 2021. Mae canllawiau statudol ar Ddeddf 2021 a'r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol i'w gweld yn wefan

Gall cynghorau cymuned barhau ag unrhyw fenter o dan y 'pŵer llesiant' a oedd wedi'i dechrau ac a oedd ar y gweill pan gafodd y pŵer hwn ei ddiddymu. Fodd bynnag, dylai'r ddibyniaeth ar y pŵer hwn ddod i ben pan fydd y gweithgaredd hwnnw'n cael ei gwblhau neu pan fydd y cyngor yn pasio penderfyniad i fod yn gyngor cymuned cymwys. O 5 Mai 2022, ni chaiff y cyngor cymuned ddechrau unrhyw beth newydd gan ddefnyddio'r 'pŵer llesiant'.

Pennod 7: grantiau i gynghorau cymuned

Cyflwyniad

Mae adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn rhoi pŵer cyffredinol i Weinidogion Cymru dalu grant at wariant prif gyngor, h.y. cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol. 

Daw'r rhan fwyaf o incwm cyngor cymuned drwy gyfrwng praesept y dreth gyngor o dan adran 41 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Fe allai’r rôl sy’n datblygu gan gynghorau cymuned greu gofynion newydd ar gyllid cynghorau sydd y tu allan i gwmpas praesept y dreth gyngor. Argymhelliad adroddiad Aberystwyth oedd y dylai Llywodraeth Cymru archwilio mecanweithiau amgen posibl ar gyfer ariannu cynghorau cymuned yn uniongyrchol, megis drwy ddefnyddio grantiau uniongyrchol.

At y diben hwn, mae Pennod 7 o Ran 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu arian grant uniongyrchol i gynghorau cymuned, a hynny'n debyg i'r hyn sy'n digwydd eisoes o ran prif gynghorau. 

Darpariaethau’r Mesur

Mae adran 129 o'r Mesur yn cyflwyno darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i dalu grant i gyngor cymuned tuag at wariant y mae wedi mynd iddo neu y bydd yn mynd iddo. Gweinidogion Cymru a fyddai’n penderfynu faint o grant a delid a sut y byddai’r taliad hwnnw’n cael ei wneud. Gellir talu’r grant yn ddarostyngedig i amodau sy'n ymwneud â defnyddio'r grant a'r amgylchiadau ar gyfer ad-dalu'r grant cyfan neu ran ohono, neu'n ddarostyngedig i amodau eraill.

Pennod 8: cytundebau siarter enghreifftiol rhwng awdurdodau lleol a chynghorau Cymuned

Cyflwyniad

Nododd Astudiaeth Aberystwyth bod ansawdd y berthynas rhwng prif gynghorau a’u cynghorau cymuned yn amrywio’n sylweddol, nid dim ond o’r naill sir i’r llall, ond o fewn gwahanol adrannau prif gyngor a’r cynghorau cymuned yn eu hardal. At hynny, ar y pryd, dim ond i ryw ddau o bob pump o gynghorau cymuned yr oedd eu prif gyngor wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, argymhelliad Astudiaeth Aberystwyth oedd y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i'w gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi cytundeb siarter â'u cynghorau cymuned yn eu hardaloedd, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer dirprwyo ystod benodol o swyddogaethau i gynghorau cymuned achrededig a chan ddisgrifio gweithdrefnau ar gyfer rhyngweithio rhwng awdurdodau lleol a chynghorau cymuned.

Yn y cyd-destun hwn, Mae Pennod 8 o Ran 7 yn cyflwyno darpariaethau sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno siarteri gorfodol rhwng prif gynghorau a’u cynghorau cymuned. 

Darpariaethau’r Mesur

Mae’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i greu cytundeb siarter enghreifftiol i’w ddefnyddio rhwng prif gyngor a chyngor cymuned ar gyfer cymuned neu gymunedau yn ei ardal. Ystyr cytundeb siarter yn y cyswllt hwn yw cytundeb ar y cyd sy’n disgrifio sut y rhoddir gwahanol swyddogaethau'r cynghorau ar waith at ddibenion cadw a chynnal y cydweithredu rhyngddynt.

At hynny, caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chynghorau cymuned fabwysiadu’r siarter enghreifftiol hon. Caiff cyfarwyddyd o’r fath ei gwneud yn ofynnol i’r cynghorau dan sylw geisio cytundeb ynghylch sut mae rhoi swyddogaethau ar waith yn unol â holl ddarpariaethau’r cytundeb siarter enghreifftiol, neu'n unol â rhai ohonynt, fel y nodir yn y cyfarwyddyd.

O dan adran 132 o’r Mesur, caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol. Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyladwy i’r canllawiau hyn pan fyddant yn gweithredu o dan gyfarwyddyd Gweinidogion Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt fabwysiadu siarteri enghreifftiol. 

Y Sefyllfa Bresennol 

Mae Gweinidogion Cymru yn cytuno ag egwyddor argymhelliad Astudiaeth Aberystwyth ac yn annog yn gryf y dylid datblygu cytundebau siarter yn wirfoddol fel ffordd o sefydlu cydweithio effeithiol rhwng y prif gynghorau a’u cynghorau cymuned. Mae Gweinidogion Cymru’n croesawu’n fawr iawn y gwaith sydd wedi’i wneud eisoes hyd yn hyn i ddatblygu ac adolygu siarteri lle’r oeddent yn bodoli eisoes.

Gan ymateb i argymhelliad Astudiaeth Aberystwyth, datblygodd a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau anstatudol, Cymuned ar y Cyd Meithrin cydberthynas a siarteri ar gyfer awdurdodau unedol a chynghorau cymuned a thref ‌(‘Cymuned ar y Cyd’) yn 2008. Mae’r rhain yn cynnig pecyn o ganllawiau ac arferion da i helpu prif gynghorau a chynghorau cymuned ac maent yn cynnwys siarter enghreifftiol y gall prif gynghorau ddewis ei mabwysiadu. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gweithio’n agos gydag Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod cymorth ymarferol ar gael i gynghorau wrth iddynt fwrw ymlaen â'u siarteri. 

Er bod y Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i'w gwneud yn ofynnol i brif gynghorau a chynghorau cymuned fabwysiadu siarter enghreifftiol, nid yw'n fwriad defnyddio'r pŵer hwn ar hyn o bryd. Mae siarteri’n dal yn ddewisol ac mae’n bwysig mai’r unig reswm dros roi siarter ar waith yw bod y prif gyngor a’u cyngor cymuned yn ymroi'n llwyr iddi. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yr opsiwn mwyaf dymunol bob tro fydd cael cytundeb siarter ac mae’n pwysleisio pa mor bwysig yw cynnal deialog gonest ac agored rhwng prif gyngor a’i gynghorau cymuned er mwyn gweld beth yw’r ffordd fwyaf priodol iddynt weithio yn eu hardal.

Os penderfynir datblygu cytundeb siarter, argymhellir bod awdurdodau lleol a chynghorau cymuned yn rhoi sylw dyladwy i ganllawiau Cymuned ar y Cyd, sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r cynnydd a wnaiff y prif gynghorau o ran datblygu cytundebau siarter a chaiff Gweinidogion Cymru ailystyried y penderfyniad ynghylch defnyddio’r darpariaethau sydd ym Mhennod 8 os tybir bod angen hynny.

Er bod Llywodraeth Cymru yn credu bod rôl i gynghorau cymuned o ran darparu ystod o wasanaethau yn eu hardaloedd lleol, mae’n credu mai dewis gwirfoddol yw dirprwyo gwasanaethau a bod rhaid i hynny fod yn ganlyniad i gytundeb lleol rhwng yr awdurdod lleol a’r cyngor cymuned neu’r cyngor tref. Dylai unrhyw drefniant i ddirprwyo gwasanaethau fod â'r nod o wella'r ffordd y darperir gwasanaethau'n lleol, gan gynnal neu wella gwerth am arian ar yr un pryd. Er y gall cytundeb siarter gynnig fframwaith ar gyfer dirprwyo gwasanaethau, nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddau; nid yw cytundeb siarter o reidrwydd yn gytundeb i ddirprwyo gwasanaethau i gyngor cymuned. 

Pennod 9: cynlluniau ar gyfer achredu ansawdd mewn Llywodraeth Gymunedol

Cafodd y darpariaethau ar gyfer cynllun a oedd yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi achrediad i gyngor cymuned, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Fesur 2011, eu diddymu gan Ddeddf 2021. 

Yn hytrach, mae'r meini prawf ar gyfer achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol a ragwelwyd ym Mesur 2011 yn sail i'r meini prawf ar gyfer cymhwystra i ddefnyddio'r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol yn Neddf 2021. Trwy beri bod angen i gynghorau basio penderfyniad ynghylch eu cymhwystra gan ddefnyddio set wrthrychol o feini prawf, mae modd sicrhau ansawdd cynghorau cymuned a chymell cynghorau i wella. 

Ceir rhagor o fanylion am y Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol yn y Canllawiau Statudol canlynol.