Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i weinyddu a gorfodi'r Dreth Gyngor yng Nghymru. Nod y cynigion yw cefnogi aelwydydd sy'n cael trafferthion gyda thaliadau treth gyngor sydd wedi’u colli, a chefnogi cynghorau lleol i reoli'r gwaith o gasglu'r Dreth Gyngor yn fwy effeithiol, drwy hybu ymgysylltu ac ymyrryd yn gynharach i atal aelwydydd rhag cael eu dal mewn cylchoedd niweidiol o ddyled gynyddol.

Roedd y cynigion yn cynnwys egluro'r camau deddfwriaethol yn y broses gasglu, ymestyn yr amserlen cyn cymryd camau gorfodi, a chyflwyno canllawiau arfer gorau i gynghorau. Dim ond i Gymru roedd y cynigion hyn yn berthnasol. 

Mae'r crynodeb hwn yn rhoi trosolwg o'r ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori rhwng 30 Ebrill a 23 Gorffennaf 2025. Gofynnwyd i’r ymatebwyr rannu eu barn ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post ac roedd modd iddynt ymateb yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Cafwyd 272 o ymatebion a oedd yn adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau. Mae pob ymateb wedi cael ei ddadansoddi'n ofalus, ac mae'r ddogfen hon yn cyflwyno'r prif themâu, safbwyntiau a materion a nodwyd gan yr ymatebwyr.

Mae cwestiynau'r ymgynghoriad wedi cael eu rhestru isod, ynghyd â chrynodeb o'r ymatebion.

Cwestiynau a chyfnodau

Cwestiwn 1: Nodwch os ydych chi’n ymateb fel aelod o’r cyhoedd neu ar ran sefydliad.

Cafwyd 272 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd.

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 1
Math o ymatebyddYmatebion
Aelod o’r cyhoedd217
Awdurdod lleol20
Cyngor Tref a Chymuned10
Asiantaeth yn y sector cynghori6
Elusen4
Corff proffesiynol neu gynrychiadol6
Sefydliad arbenigol academaidd1
Mae’n well gen i beidio â dweud2
Arall6
Cyfanswm272

Roedd mymryn dros 60% o'r ymatebwyr (170) wedi ateb y cwestiynau drwy ddefnyddio templed ymateb safonol a gafodd ei gydlynu gan Undeb Acorn. Rydym yn croesawu pob cyfraniad i'r ymgynghoriad. O ystyried y nifer fawr o ymatebion cyffredin, lle bo hynny'n briodol rydym wedi adrodd ar wahân ar y safbwyntiau a ddarparwyd yn y templed ymateb safonol er mwyn bod yn dryloyw.

At ddibenion adrodd, os na chafodd enw sefydliad ei roi, rydym wedi tybio bod yr ymatebydd wedi cymryd rhan mewn rhinwedd bersonol. Mae rhestr o'r ymatebwyr ac eithrio'r rhai a ofynnodd am gael aros yn ddienw ar gael yn Atodiad A. Yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae’r unigolion a ofynnodd i ni beidio â datgelu eu manylion wedi'u rhestru fel 'Dienw'.

Cwestiwn 2: Yn ardal pa gyngor ydych chi’n byw?

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 2
ArdalYmatebion
Abertawe7
Blaenau Gwent3
Bro Morgannwg13
Caerdydd129
Caerffili2
Casnewydd5
Castell-nedd Port Talbot3
Ceredigion3
Conwy5
Cyngor Gwynedd5
Merthyr Tudful0
Pen-y-bont ar Ogwr5
Powys4
Rhondda Cynon Taf11
Sir Benfro4
Sir Ddinbych5
Sir Fynwy3
Sir Gaerfyrddin7
Sir y Fflint9
Torfaen1
Wrecsam4
Ynys Môn0
Mae’n well gen i beidio â dweud13
Dim Ymateb13
Ddim yn berthnasol18
Cyfanswm272

Cwestiwn 3a: A oes adeg wedi bod erioed pan gawsoch chi anhawster talu’r Dreth Gyngor neu pan oeddech chi ar ei hôl hi â’ch taliadau Treth Gyngor?

Dim ond nifer fach o’r ymatebwyr (7%) a ddywedodd eu bod wedi cael anhawster yn talu eu Treth Gyngor neu eu bod ar ei hôl hi gyda thaliadau, er bod yn well gan 53% beidio â dweud. O blith y 7% o achosion a gafodd anhawster, cysylltu â'u cyngor lleol oedd y ffordd fwyaf cyffredin o ofyn am help neu gyngor.

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 3a
YmatebNiferCanran
Oes197%
Nac oes4818%
Dim ymateb4215%
Ddim yn berthnasol187%
Mae’n well gen i beidio â dweud14553%
Cyfanswm272100%

Cwestiwn 3b: Gall eich cyngor lleol neu Gyngor ar Bopeth roi gwybodaeth a chyngor i chi os ydych yn ei chael yn anodd talu eich taliadau Treth Gyngor neu os ydych chi ar ei hôl hi â'ch taliadau. A wnaethoch chi ofyn am help neu gyngor? 

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 3b
CategoriNifer
Eich cyngor lleol10
Asiantaeth gynghori 0
Rhywle arall1
Doeddwn i ddim yn gwybod bod help ar gael4
Doedd arna i ddim eisiau help neu gyngor6
Mae’n well gen i beidio â dweud1
Cyfanswm22

Crynodeb o’r safbwyntiau am hysbysiadau atgoffa

Cwestiwn 4: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai cynghorau bob amser roi o leiaf un hysbysiad atgoffa i aelwydydd bob tro y bydd rhandaliad Treth Gyngor yn cael ei fethu. Ydych chi’n cytuno â’r cynnig hwn?

Roedd mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr (92%) yn cytuno â'r cynnig am hysbysiadau atgoffa, gan gynnwys 168 o’r ymatebion a oedd wedi defnyddio'r templed ymateb safonol. Roedd y gefnogaeth ymysg y rhai a gyflwynodd ymatebion annibynnol yn dal yn uchel, 79%. Dim ond nifer fach o’r ymatebwyr (17) oedd yn anghytuno â'r cynnig. 

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 4
YmatebNiferCanran
Ydw8130%
Ydw (gan ddefnyddio'r templed ymateb safonol)16862%
Nac ydw176%
Heb roi ymateb 'Ydw' neu 'Nac ydw' 62%
Cyfanswm272100%

Roedd naw awdurdod lleol yng Nghymru yn cytuno neu'n cefnogi'r cynnig mewn egwyddor ond yn codi pryderon am feichiau a chostau gweinyddol ychwanegol na fyddai’r adnoddau a oedd ganddynt ar hyn o bryd efallai’n ddigon i dalu amdanynt. Roedd yr 11 awdurdod lleol arall a oedd yn anghytuno â'r cynnig wedi codi pryderon tebyg.  Roeddent hefyd yn awgrymu y gallai cyhoeddi hysbysiadau atgoffa heb ddyddiad cau clir i dalu arwain at ddryswch ymysg trethdalwyr. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw yn ategu’r pryderon hyn.

Roedd y sector cynghori ac elusennau yn cefnogi'r cynnig, gan sôn am ei botensial i hyrwyddo tegwch a chysondeb ledled Cymru. Roeddent yn pwysleisio y dylai hysbysiadau atgoffa fod yn amserol, yn glir ac yn dosturiol, gan gynnig cyfle i aelwydydd ofyn am gymorth.

Roedd ymatebwyr eraill a oedd yn cefnogi'r cynigion yn awgrymu i’r hysbysiadau atgoffa gynnwys cyngor ar gysylltu â'r cyngor a chael gafael ar gyngor ar ddyledion.

Roedd rhai o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno yn credu nad oedd y cynigion yn mynd yn ddigon pell.  Roeddent yn galw ar i gynghorau lleol ymgysylltu mwy â phreswylwyr i ddeall amgylchiadau unigolion cyn cyhoeddi hysbysiad atgoffa.

Crynodeb o’r safbwyntiau am hysbysiadau terfynol

Cwestiwn 5: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai cynghorau bob amser roi hysbysiad terfynol am randaliad sydd wedi’i fethu os nad yw’r aelwyd yn talu ar ôl cael o leiaf un hysbysiad atgoffa. Rydym yn cynnig mai dim ond 41 diwrnod ar ôl i’r rhandaliad gael ei fethu y gellir rhoi’r hysbysiad terfynol, a mwn na 14 diwrnod wedi i’r hysbysiad atgoffa diwethaf gael ei gyhoeddi. Ydych chi’n cytuno â’r cynnig hwn?

Roedd mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr (85%) yn cytuno â'r cynnig am hysbysiadau terfynol, gan gynnwys 167 o ymatebwyr a ddefnyddiodd y templed ymateb safonol. Roedd y gefnogaeth ymysg y rhai a gyflwynodd ymatebion annibynnol yn dal yn uchel, 63%. Dim ond 24 o’r ymatebwyr oedd yn anghytuno.

Tabl o ymatebion ar gyfer Cwestiwn 5

YmatebNiferCanran
Ydw6624%
Ydw (gan ddefnyddio'r templed ymateb safonol)16761%
Nac ydw249%
Heb roi ymateb 'Ydw' neu 'Nac ydw' 156%
Cyfanswm272100%

Roedd naw o'r awdurdodau lleol yn cefnogi'r cynnig, gan ei ystyried yn ddull teg a strwythuredig.  Dywedodd un awdurdod fod y cynnig yn rhoi llwybr clir sy'n helpu i osgoi gorfodi cynamserol, ond pwysleisiodd ei bod hi’n bwysig bod yn hyblyg mewn achosion lle ceir tystiolaeth glir o osgoi bwriadol. Roedd yr 11 arall yn anghytuno, gan godi pryderon bod y cyfnod arfaethedig o 41 diwrnod yn rhy hir ac y gallai arwain at orgyffwrdd rhwng cyhoeddi’r hysbysiadau atgoffa a’r hysbysiadau terfynol, ac y gallai hyn achosi dryswch i aelwydydd.  Roeddent hefyd yn sôn am y risg o oedi cyn ymgysylltu a chyhoeddi rhagor o hysbysiadau terfynol, a allai arwain at feichiau gweinyddol ychwanegol a chostau cysylltiedig.  Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cefnogi defnyddio rhagor o gamau cyn-atgoffa electronig, fel ffordd fodern o anfon negeseuon, ac mae'n awgrymu, fel rhan o unrhyw gyllid Beichiau Newydd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, yr ystyrir sicrhau bod hyn yn cael ei wneud gan bob cyngor yng Nghymru.

Roedd sefydliadau’r sector cynghori ac elusennau'n croesawu'r cynnig yn gyffredinol, gan ei weld fel dull gweithredu cyson a theg ledled Cymru. Maent yn awgrymu y dylai hysbysiadau gynnwys gwybodaeth gyswllt glir cynghorau lleol a chyfeirio at wasanaethau cyngor ar ddyledion.

Roedd ymatebwyr eraill yn cefnogi'r cynnig ond yn galw am estyniad i'r cyfnod, er na awgrymwyd amserlen benodol. Yn debyg i’r ymatebion am hysbysiadau atgoffa, roeddent yn adleisio'r cais i hysbysiadau terfynol gynnwys cyngor ar sut i gysylltu â'r cyngor lleol a lle i gael gafael ar gymorth ar ddyledion.

Roedd rhai ymatebwyr a oedd yn anghytuno â'r cynnig yn rhannu'r pryderon a godwyd gan awdurdodau lleol bod y cyfnod rhybudd yn rhy hir. Roedd nifer o’r ymatebwyr yn teimlo y dylid rhoi mwy o amser i aelwydydd dalu, tra bod eraill yn pwysleisio bod angen i gynghorau lleol wella eu hymgysylltiad ag aelwydydd er mwyn deall eu sefyllfa cyn anfon hysbysiad terfynol. 

Crynodeb o safbwyntiau am pryd y gofynnir i aelwydydd dalu swm llawn y Dreth Gyngor

Cwestiwn 6: Mae bob amser yn well i aelwydydd gadw ar ben eu rhandaliadau Treth Gyngor rheolaidd er mwyn osgoi mynd i ddyled, ac i gysylltu â'u cyngor cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol cyn methu’r rhandaliad. Fodd bynnag, pan fydd rhandaliad yn cael ei fethu, ar hyn o bryd gall aelwydydd ddod yn atebol am y balans blynyddol ar gyfer y Dreth Gyngor os nad ydynt wedi talu o fewn 7 diwrnod, ac mae hyn wedi’i nodi yn y gyfraith. 

Er mwyn rhoi mwy o amser i aelwydydd adfer ar ôl colli rhandaliad a mynd yn ôl ar y trywydd iawn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig na ddylai aelwydydd ddod yn atebol am dalu’r balans blynyddol sy’n weddill ar ôl colli rhandaliad nes bod 62 diwrnod wedi mynd heibio. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod 21 diwrnod wedi mynd heibio ers i hysbysiad terfynol gael ei gyhoeddi. Ydych chi’n cytuno â’r cynnig hwn?

Roedd mwyafrif helaeth (86%) yn cefnogi'r cynnig, gan gynnwys 169 o ymatebwyr a ddefnyddiodd y templed ymateb safonol. Heb gynnwys y rhain, roedd y gefnogaeth ymysg y rhai a gyflwynodd ymatebion annibynnol yn dal yn uchel, 63%. Dim ond 10% o'r ymatebwyr oedd yn anghytuno.

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 6
YmatebNiferCanran
Ydw6524%
Ydw (gan ddefnyddio'r templed ymateb safonol)16962%
Nac ydw2810%
Heb roi ymateb 'Ydw' neu 'Nac ydw'104%
Cyfanswm272100%

Roedd yr ymatebion gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'u rhannu'n fwy cyfartal. Roedd 10 awdurdod lleol yn cytuno'n fras â'r cynnig, gan ei weld fel ffordd o roi rhagor o gymorth i aelwydydd sy'n cael anawsterau ariannol. Fodd bynnag, roedd 10 awdurdod lleol yn anghytuno â'r cynnig gan ddweud bod y cyfnod o 62 diwrnod yn rhy hir. Roedd yr awdurdodau hyn yn poeni y gallai estyniad o'r fath gwtogi'r amser sydd ar gael i adennill dyledion o fewn yr un flwyddyn ariannol, gyda’r posibilrwydd o ganiatáu i ôl-ddyledion gario drosodd i'r flwyddyn nesaf a gwaethygu caledi ariannol i aelwydydd. Roedd pedwar awdurdod lleol wedi awgrymu cyfnod o 55 diwrnod. Roedd nifer o awdurdodau hefyd yn poeni am yr effaith bosibl ar gasglu'r Dreth Gyngor yn ehangach, y gallai cyfnod hirach arwain at ymddieithrio dros amser a meithrin dibyniaeth ar hysbysiadau atgoffa a hysbysiadau terfynol yn hytrach na thalu'n rhagweithiol. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw yn ategu’r safbwyntiau hyn. 

Roedd sefydliadau yn y sector cynghori ac elusennau yn cefnogi'r cynnig yn gyffredinol ond yn argymell amserlen estynedig. Roedd yr awgrymiadau'n amrywio o 90 diwrnod i chwe mis, ar sail yr angen i aelwydydd sefydlogi eu cyllid, cael gafael ar wasanaethau cymorth a chael eu cefnogi gan gynlluniau ad-dalu fforddiadwy. Roedd nifer o’r ymatebwyr hefyd yn cynnig cael gwared yn llwyr ar y ddarpariaeth sy'n gwneud aelwydydd yn atebol am y balans blynyddol llawn.

Roedd ymatebwyr eraill wedi cyflwyno safbwyntiau cymysg. Roedd rhai yn teimlo bod 62 diwrnod yn rhy hir, ac roedd eraill yn credu y dylid ei ymestyn ymhellach. Roedd nifer fach o’r ymatebwyr o'r farn bod y cynnig yn annheg i'r rhai a oedd yn talu eu Treth Gyngor yn brydlon yn gyson.

Crynodeb o safbwyntiau am pryd y caiff cyngor gael Gorchymyn Atebolrwydd

Cwestiwn 7: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod cynghorau yn cael gwneud cais i lys am orchymyn atebolrwydd un diwrnod ar ôl i’r balans blynyddol sy’n weddill ddod yn ddyledus, ac nad yw’r aelwyd wedi gwneud taliad nac wedi cysylltu â’r cyngor i drefnu cynllun talu amgen. I gyd gyda’i gilydd, bydd hyn o leiaf 63 diwrnod ar ôl methu’r rhandaliad cyntaf. Ydych chi’n cytuno â’r cynnig hwn?

Roedd mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr (85%) yn cefnogi'r cynnig, gan gynnwys 167 a ddefnyddiodd y templed ymateb safonol. Heb gynnwys y rhain, roedd y gefnogaeth yn dal yn uchel, 63% ymysg y rhai a gyflwynodd ymateb annibynnol. I’r gwrthwyneb, roedd 29 ymatebydd yn anghytuno â’r cynnig.

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 7
YmatebNiferCanran
Ydw6624%
Ydw (gan ddefnyddio'r templed ymateb safonol)16761%
Nac ydw2911%
Heb roi ymateb 'Ydw' neu 'Nac ydw' 104%
Cyfanswm272100%

Roedd ychydig dros hanner yr awdurdodau lleol a ymatebodd (11 o’r 20) yn cytuno'n fras â'r cynnig, gan nodi ei fod yn cyd-fynd â'r amserlenni adennill presennol mewn rhai ardaloedd. Nid oedd un awdurdod wedi ateb y cwestiwn nac wedi rhoi unrhyw sylwadau o blaid nac yn erbyn y cynnig. I'r gwrthwyneb, roedd wyth awdurdod lleol yn anghytuno ac yn mynegi pryderon y gallai'r amserlen estynedig danseilio'r fframwaith gorfodi drwy ohirio camau gweithredu heb sicrhau canlyniadau gwell. Er mwyn lliniaru'r risgiau hyn, roedd rhai'n argymell y dylai hysbysiadau talu gynnwys gwybodaeth glir sy'n nodi'r rhandaliadau a fethwyd, y cyfanswm sy'n ddyledus, dyddiad cau i dalu, a chanlyniadau peidio â thalu. Roedd nifer hefyd yn cynnig cyflwyno llwybr adennill cyflym mewn achosion lle ceir tystiolaeth o osgoi bwriadol. 

At ei gilydd roedd y sector cynghori ac elusennau'n croesawu'r cynnig, ond yn mynegi pryderon y gall cynghorau lleol barhau i uwchgyfeirio achosion yn rheolaidd i'r cam gorchymyn atebolrwydd. Roeddent yn awgrymu ymestyn y cyfnod 63 diwrnod i 77 diwrnod neu hyd yn oed 90 diwrnod, gan bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar, darparu cynlluniau talu realistig a defnyddio gorfodaeth llys dim ond ar ôl rhoi cynnig ar bob opsiwn arall. Roeddent yn tynnu sylw at y niwed ariannol ac emosiynol sy’n cael ei achosi gan gamau gweithredu beilïaid, y maent yn ei ystyried yn gostus ac yn aneffeithiol i raddau helaeth o ran mynd i'r afael ag achosion sylfaenol peidio â thalu.

Awgrymodd ymatebwyr eraill a oedd yn cytuno â'r cynnig hefyd y dylai'r amserlen fod yn hirach ond nid oeddent yn awgrymu opsiwn penodol arall.

Ymysg y rhai a oedd yn anghytuno â'r cynnig, roedd rhai'n adleisio'r pryderon a godwyd gan eraill, gan awgrymu y dylid darparu cyfnod hirach o dri i chwe mis cyn mynd ar drywydd gorchmynion atebolrwydd. 

Crynodeb o’r safbwyntiau am y cynnig i roi amser i aelwyd gael cymorth a chyngor

Cwestiwn 8a ac 8b: Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod aelwydydd sy’n cael trafferth talu eu bil Treth Gyngor yn cael amser rhesymol i gysylltu â’r cyngor a gofyn am help. Rydym yn cynnig bod 63 diwrnod yn gyfnod rhesymol, sy’n rhoi mwy o amser ar gyfer derbyn cyflogau neu fudd-daliadau, cysylltu â’r cyngor a chysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau cynghori eraill. I ba raddau rydych chi’n cytuno â'r cynnig hwn?

Esboniwch eich rhesymau dros eich sgôr ar gyfer Cwestiwn 8a.

Roedd 22% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â 63 diwrnod. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (64%) yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â'r cynnig oherwydd eu bod o'r farn bod yr amserlen 63 diwrnod yn annigonol ac roeddent yn galw am gyfnod hirach i gefnogi aelwydydd sy’n cael anawsterau ariannol. Roedd hyn yn cynnwys 169 o ymatebion a gyflwynwyd drwy ddefnyddio’r templed ymateb safonol, a oedd yn cydnabod bod y cynnig yn well na'r trefniadau presennol er eu bod yn anghytuno ag ef.

Dim ond cyfran fach o'r ymatebwyr (7%) oedd yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf â'r cynnig oherwydd bod arnynt eisiau amserlen fyrrach. Nid oedd 6% arall yn cytuno nac yn anghytuno, ac ni roddodd 1% sgôr.

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 8
YmatebNiferCanran
Cytuno'n gryf â 63 diwrnod135%
Cytuno â 63 diwrnod4517%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno176%
Anghytuno: amserlen fyrrach166%
Anghytuno: angen rhagor o amser17263%
Anghytuno’n gryf: amserlen fyrrach41%
Anghytuno’n gryf: angen rhagor o amser21%
Heb roi sgôr31%
Cyfanswm272100%

Roedd wyth awdurdod lleol yn cytuno â'r cynnig o 63 diwrnod, gyda rhai yn ei weld fel cydbwysedd teg rhwng rhoi'r amser i aelwydydd ymateb a pharhau i gasglu'r Dreth Gyngor yn effeithiol. Er eu bod yn cytuno'n gyffredinol, roedd nifer o awdurdodau'n dal i godi pryderon am oedi posibl, costau uwch i gynghorau ac a oes gan y sector cynghori ddigon o gapasiti i roi cymorth amserol. Roedd un awdurdod lleol yn anghytuno'n gryf â'r cynigion ac roedd wyth arall yn anghytuno. Roeddent o'r farn bod y cyfnod 63 diwrnod yn rhy hir gan awgrymu y gallai normaleiddio talu'n hwyr neu beidio â thalu gan arwain at aelwydydd yn cronni dyled sylweddol a’i gwneud yn anoddach casglu'r Dreth Gyngor. Fel dewis arall, roedd nifer o awdurdodau’n awgrymu y dylid cwtogi'r amserlen i 55 diwrnod neu 50 diwrnod. Nid oedd tri awdurdod lleol yn cytuno nac yn anghytuno â'r cynnig.

Roedd sefydliadau’r sector cynghori ac elusennau'n cytuno bod y cynigion yn gam cadarnhaol ymlaen ond roeddent yn dweud y byddai amserlen hirach a mwy hyblyg yn fwy addas i aelwydydd sydd mewn trallod ariannol. Roeddent yn ailadrodd eu hargymhellion blaenorol i ymestyn y cyfnod i 90 diwrnod neu hyd yn oed chwe mis er mwyn rhoi digon o amser i unigolion ofyn am help ac osgoi gorfodaeth drwy’r llys.

Crynodeb o’r safbwyntiau am ganllawiau arfer gorau i gynghorau

Cwestiwn 9: Mae pob cyngor yng Nghymru yn cymeradwyo Protocol y Dreth Gyngor sy'n amlinellu arferion gorau a chanllawiau ar gyfer sut i ddelio â chwsmeriaid agored i niwed. Yn ogystal â Phrotocol Treth Gyngor Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynhyrchu canllaw arferion gorau ar gyfer cynghorau er mwyn sicrhau dull teg a chyson o gasglu’r Dreth Gyngor ledled Cymru. Mae awgrymiadau ynghylch yr hyn a allai gael ei gynnwys yn y canllaw wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad hwn. Ydych chi’n cytuno â’r cynnig hwn?

Cafodd y cynnig gefnogaeth gref, gyda 91% o'r ymatebwyr yn cytuno, gan gynnwys 170 drwy’r templed ymateb safonol. Dim ond 3% oedd yn anghytuno â'r cynnig, ac ni roddodd 6% ateb clir.

Tabl o ymatebion ar gyfer cwestiwn 9
YmatebNiferCanran
Ydw7829%
Ydw (gan ddefnyddio'r templed ymateb safonol)17062%
Nac ydw93%
Heb roi ymateb 'Ydw' neu 'Nac ydw'156%
Cyfanswm272100%

Roedd pymtheg awdurdod lleol ledled Cymru yn croesawu cyflwyno canllawiau arfer gorau, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau cysondeb a thegwch wrth ddelio ag aelwydydd agored i niwed. Fodd bynnag, pwysleisiodd llawer y dylai unrhyw ganllawiau newydd osgoi bod yn rhy ragnodol, gan ganiatáu i awdurdodau gadw hyblygrwydd ac addasu i amgylchiadau lleol. Awgrymodd rhai awdurdodau lleol y dylid cydgynhyrchu unrhyw ganllawiau newydd gyda nhw, gan ddefnyddio'r profiad ymarferol sydd mewn awdurdodau. Nid oedd un awdurdod wedi ateb y cwestiwn nac wedi rhoi unrhyw sylwadau o blaid nac yn erbyn y cynnig.

Roedd y pedwar awdurdod lleol a oedd yn anghytuno â'r cynnig yn awgrymu bod Protocol presennol y Dreth Gyngor, a gyflwynwyd yn 2019 ac a fabwysiadwyd gan bob un o'r 22 awdurdod yng Nghymru, eisoes yn rhoi canllawiau digonol. Yn eu barn nhw, mae'r mecanweithiau presennol i feincnodi a rhannu arferion gorau yn gweithio'n effeithiol, sy'n golygu nad oes angen canllawiau ychwanegol.

Mynegodd sefydliadau'r sector cynghori ac elusennau gefnogaeth gref i'r cynnig i ddatblygu canllawiau arfer gorau statudol gyda'r nod o hyrwyddo cysondeb a thegwch wrth gasglu'r Dreth Gyngor ledled Cymru. Roeddent yn tynnu sylw at y ffaith bod gwneud y canllawiau'n statudol yn hanfodol er mwyn creu system decach, fwy tryloyw ac atebol. Roedd eu hymatebion yn pwysleisio'r angen am safonau clir mewn meysydd fel ymyriadau cynnar, cyfathrebu effeithiol, cymorth wedi'i deilwra i aelwydydd agored i niwed, a chydweithio â gwasanaethau cyngor ar ddyledion. 

Roedd ymatebwyr eraill yn rhannu safbwyntiau tebyg gan atgyfnerthu pwysigrwydd arferion cyson ledled Cymru ac yn argymell ystyried dileu dyledion pan nad yw ad-dalu'n ymarferol.

Crynodeb o’r sylwadau eraill ar y cynigion

Cwestiwn 10: A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar y cynigion?

Codwyd amrywiaeth o faterion mewn ymateb i'r cwestiwn hwn, gyda llawer o’r ymatebwyr yn ailadrodd pwyntiau a wnaed mewn cwestiynau blaenorol. 

Er bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cydnabod bwriad y polisi i roi mwy o amser i drethdalwyr ofyn am help a chymorth, roeddent yn mynegi pryderon am y goblygiadau ymarferol, y cyfraddau casglu a'r costau. Roedd llawer yn teimlo y byddai'r cynigion yn cynyddu beichiau gweinyddol ac yn arwain at gostau ychwanegol ac roeddent yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o gymorth pe bai'r newidiadau'n cael eu rhoi ar waith. 

Roedd awdurdodau lleol hefyd yn mynegi pryderon am ganlyniadau anfwriadol posibl.  Roeddent yn awgrymu y gallai'r cynigion normaleiddio cylchoedd o ôl-ddyledion, gyda rhai aelwydydd yn gohirio taliadau'n barhaus tan ar ôl cael hysbysiad atgoffa yn hytrach na thalu'n brydlon. Mae awdurdodau'n awgrymu y gallai oedi’r gorfodi’n hirach arwain at ôl-ddyledion mwy sydd wedyn yn anoddach i unigolion eu rheoli, gan arwain o bosibl at gamau gorfodi mwy difrifol. Roedd rhai awdurdodau hefyd wedi mynegi pryderon am y diffyg adnoddau gorfodi sydd ar gael, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith bod traddodi i'r carchar wedi cael ei ddileu yn 2019, sydd, yn eu barn nhw, yn cyfyngu ar eu gallu i ymgysylltu'n effeithiol â dyledwyr sy'n gallu talu ond sy'n dewis peidio. 

Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ategu llawer o'r pryderon a gododd awdurdodau lleol, gan dynnu sylw hefyd at sut yr adroddir ar ddata casglu'r Dreth Gyngor ar hyn o bryd. Gan fod ôl-ddyledion yn parhau i gynyddu, mae CLlLC wedi awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyhoeddi mesurau ychwanegol yn ei chyhoeddiadau blynyddol, gan gynnwys cyfraddau casglu cronnol. Mae CLlLC ac awdurdodau’n awgrymu y byddai hyn yn rhoi adlewyrchiad mwy cywir ac ystyrlon o berfformiad casglu yn y tymor hir, yn hytrach na chiplun ar adeg benodol.

Roedd un o'r cyrff cynrychiadol yn cynnig cyflwyno 'protocol cyn-gweithredu' statudol a fyddai'n golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol gynnal archwiliadau o ba mor agored i niwed yw unigolion, a sefydlu cynlluniau ad-dalu cyn cychwyn camau gorfodi yn y llys. 

Roedd llawer o’r ymatebwyr eraill yn pwysleisio’r angen i awdurdodau lleol wella eu harferion ymgysylltu, ac ystyried ffyrdd newydd o gysylltu ag aelwydydd sy’n cael anawsterau ariannol. Roedd rhai ymatebion yn argymell gwahardd defnyddio beilïaid i gasglu dyledion Treth Gyngor yn gyfan gwbl, gan awgrymu ei fod yn effeithio'n anghymesur ar bobl mewn tlodi ac yn gwaethygu caledi.

Roedd sylwadau ymatebwyr eraill yn ymwneud â materion ehangach y Dreth Gyngor sydd y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad.

Crynodeb o'r ymatebion am y Gymraeg

Cwestiwn 11: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar yr iaith Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol? 

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Roedd yr ymatebion i'r cwestiwn hwn yn amrywio gyda 18% yn dewis peidio ag ateb a 6% yn darparu sylwadau y tu hwnt i gwmpas yr ymgynghoriad hwn. O blith y rhai a ymatebodd, nododd 28 (10%) na fyddai'r cynigion yn cael unrhyw effaith ar y defnydd o'r Gymraeg. 

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion (61%) wedi defnyddio templed ymateb safonol ac yn awgrymu y byddai ymestyn yr amser i ddatrys y ddyled Treth Gyngor o fudd i siaradwyr Cymraeg drwy leihau'r risg o gamddealltwriaeth ar sail iaith. Maent yn honni y bydd rhagor o amser yn caniatáu cyfathrebu cliriach i helpu i atal gwahaniaethu anfwriadol.

Roedd nifer fach o’r ymatebwyr yn argymell y dylai pob dogfen sy'n ymwneud â'r Dreth Gyngor fod yn ddwyieithog yn gyson er mwyn cefnogi mynediad cyfartal. Roedd ambell i ymatebwr (2%) wedi mynegi pryderon am y costau posibl sy'n gysylltiedig â chynhyrchu deunyddiau dwyieithog.

Cwestiwn 12

Yn eich barn chi, sut gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn gwneud y canlynol:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu

  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi ateb y cwestiwn hwn, ac roedd yr ymatebion a gafwyd yn debyg i'r rhai a roddwyd i'r cwestiwn blaenorol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth o safbwyntiau a gyflwynwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Rydym yn dal wedi ymrwymo i newid y gyfraith i greu proses orfodi decach a mwy effeithiol i gasglu Treth Gyngor sydd heb ei thalu. Yn fwyaf neilltuol, nid ydym yn credu bod y fframwaith rheoleiddio presennol yn adlewyrchu'r gwaith mae awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud i helpu aelwydydd i ddatrys dyledion gyda chydymdeimlad, a'r amserlenni sydd eisoes yn cael eu dilyn yn ôl eu disgresiwn, sydd fel arfer yn hirach na'r isafswm statudol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod angen cael cydbwysedd rhwng cefnogi taliadau a lleihau osgoi trethi, a thegwch i'r rhai sydd yn talu.

Hysbysiadau atgoffa

Roedd rhai o’r ymatebwyr a oedd yn anghytuno â'r cynnig wedi codi pryderon y gallai cyhoeddi hysbysiadau atgoffa heb ddyddiad cau newydd clir i dalu achosi dryswch ymysg trethdalwyr. Rydym yn cydnabod y pryder hwn a byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar y manylion gweithredol ynghylch hyn i sicrhau bod hysbysiadau atgoffa yn nodi'n glir bod y dyddiad dyledus gwreiddiol wedi pasio a bod y taliad yn hwyr. Gall yr hysbysiad hefyd gynnwys manylion unrhyw randaliadau sy'n ddyledus o fewn 7 diwrnod i'w gyhoeddi, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Er mwyn cefnogi aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu, bydd yr hysbysiadau hyn yn rhoi canllawiau cliriach ar sut mae cysylltu â'r awdurdod lleol i gael cymorth a gwybod lle mae cael gafael ar wasanaethau cymorth ar ddyledion.

Hysbysiadau terfynol

Er mwyn mynd i'r afael â phryderon y gallai amseriad hysbysiadau terfynol arwain at orgyffwrdd â hysbysiadau atgoffa, a allai achosi dryswch i aelwydydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried goblygiadau gweithredol y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ofalus. Bydd hysbysiad terfynol yn cynnwys yr holl daliadau a gollwyd hyd at adeg ei gyhoeddi ac ni cheir ei gyhoeddi nes bod o leiaf 14 diwrnod wedi pasio ers anfon yr hysbysiad atgoffa diwethaf. Mae'r dull hwn yn sicrhau nad oes unrhyw orgyffwrdd rhwng hysbysiadau ac mae'n rhoi dealltwriaeth glir i aelwydydd o'r cyfanswm sy'n ddyledus a'r dyddiad talu perthnasol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr hysbysiadau hyn hefyd yn cynnwys canllawiau cliriach i aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu, gan eu cyfeirio i ofyn am gefnogaeth neu gael gafael ar gymorth ar ddyledion.

Amserlen gyffredinol

Er ein bod yn cydnabod bod llawer o randdeiliaid o blaid ymestyn yr amserlen 63 diwrnod arfaethedig i unigolion allu gofyn am help cyn i awdurdodau ddechrau cymryd camau gorfodi, rhaid inni hefyd ystyried sefydlogrwydd system y dreth gyngor a'r rhai sy'n osgoi talu'n fwriadol. Er tegwch i aelwydydd sy'n talu’n brydlon, ac i gydnabod bod angen i awdurdodau gasglu incwm i ariannu gwasanaethau hanfodol, at ei gilydd nid yw Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn briodol ymestyn y cyfnod i fwy na’r 63 diwrnod sy’n cael ei gynnig.

Ystyriaethau eraill

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cyllid i awdurdodau lleol i dalu am y costau gweithredu. Mae hyn yn cynnwys costau sy'n ymwneud â diweddariadau meddalwedd, diwygiadau i weithdrefnau lleol, a diweddaru deunyddiau cyfathrebu lleol fel gwefannau, biliau a ffurflenni.

Rydym yn cydnabod y safbwyntiau gwahanol am ragor o feichiau gweinyddol ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i asesu'r effeithiau ariannol parhaus, fel rhan o'n dyletswyddau statudol i gynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol lle mae angen deddfwriaeth. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y gellid cydbwyso rhai o'r costau hyn ag arbedion, drwy wella strategaethau ymgysylltu digidol ar y lefel leol, rhywbeth rydym yn bwriadu ei gefnogi. Mae tystiolaeth ragarweiniol yn dangos bod gwella llwyfannau hunanwasanaeth; hyrwyddo e-filio a defnyddio negeseuon testun SMS yn well yn gallu lleihau’r ddibyniaeth ar hysbysiadau ffisegol a gwella effeithlonrwydd gweithredol dros amser. Ar ben hynny, mae gan gyfathrebu mwy effeithiol ac ymyriadau ataliol wedi'u targedu y potensial i sicrhau arbedion hirdymor, os bydd hyn yn arwain at brosesau casglu mwy effeithlon.  Yn ei dro, gallai hyn leihau'r angen am fesurau gorfodi costus, megis achosion llys, sy’n costio mwy i bwrs y wlad yn ehangach. Er mwyn cefnogi hyn ymhellach, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar opsiynau i fuddsoddi mewn dadansoddeg data ac offer meddalwedd i gefnogi awdurdodau lleol i wella arferion ymgysylltu a rhoi cymorth wedi'i deilwra i drethdalwyr cynghorau ledled Cymru. Yn y pen draw, bydd angen monitro effeithiau'r cynigion dros amser.

Yn olaf, rydym yn cydnabod gwerth Protocol y Dreth Gyngor sydd wedi cael ei fabwysiadu gan bob awdurdod lleol yng Nghymru; fodd bynnag, nid oes modd gwneud y protocol hwn yn statudol oherwydd ei natur ar y cyd a'i statws cyfreithiol. Er mwyn ategu a chryfhau'r fframwaith hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i ddylunio ac i ddatblygu canllawiau arferion gorau. Bydd y canllawiau hyn yn statudol eu natur ac fe'u cyhoeddir o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Y camau nesaf

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi gwneud datganiad i'r Senedd. Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau sydd eu hangen er mwyn i’r cynigion, gan ystyried y materion a nodir uchod, ddod i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen. 

Atodiad a: rhestr o’r ymatebwyr

  • Aelod o Gyngor Caerwys
  • CC Llanddulas a Rhyd y Foel
  • Community Money Advice
  • Cristnogion yn erbyn Tlodi
  • Cwm Environmental Ltd
  • Cynghorydd Cyngor Cymuned Llanrug
  • Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor ar Bopeth Cymru
  • Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Cymuned Bethesda
  • Cyngor Cymuned Coedpoeth
  • Cyngor Cymuned Llandochau
  • Cyngor Tref Caernarfon
  • Cyngor Tref Llanfairfechan
  • Cyngor Tref Llanfair-ym-Muallt
  • Cyngor Tref y Barri
  • Cymdeithas Broffesiynol Hunan-arlwywyr (PASC)
  • Cymdeithas Gorfodaeth Sifil
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Credit Services Association
  • Debt Justice
  • Lowell Financial
  • Money Advice Trust
  • Money and Mental Health Policy Institute
  • Money Wellness
  • Propertymark
  • StepChange
  • Un Llais Cymru
  • Undeb ACORN
  • Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw

Awdurdodau lleol

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Cyngor Dinas Caerdydd
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Sir Penfro
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Ynys Môn

Cafwyd 54 o ymatebion gan unigolion preifat.

Roedd 168 o ymatebwyr wedi gofyn am gael aros yn ddienw.