Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwyafrif helaeth y bobl sydd angen triniaeth am anhwylder bwyta yn cael eu gweld yng Nghymru ac yn cael eu trin yn eu cymunedau lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae tîm ac arweinydd clinigol newydd ar gyfer anhwylderau bwyta yn helpu i ysgogi newidiadau cadarnhaol i ofal anhwylderau bwyta, gan ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar.

Dros y flwyddyn i ddod, bydd nifer o fyrddau iechyd yn gweithio gyda'r arweinydd clinigol i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno'r model FREED, y cynllun ymyrraeth gynnar gyflym ar gyfer anhwylderau bwyta, sydd wedi'i dargedu at bobl ifanc 16 i 25 oed.

Mae byrddau iechyd eisoes yn darparu modelau gofal ymyrraeth gynnar – cymorth wedi'i dargedu ar gyfer atal pobl rhag bod angen gofal arbenigol ac ar gyfer pobl sy'n aros i driniaeth ddechrau.

Mae amseroedd aros ar gyfer cael asesiad a thriniaeth hefyd wedi gostwng i bedair wythnos mewn rhai byrddau iechyd.

Mae enghreifftiau o'r modelau gofal newydd yn cynnwys y canlynol:

  • mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn treialu rhaglen Beat Synergy, model ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl nad ydynt yn bodloni'r meini prawf diagnostig ar gyfer triniaeth
  • mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn trefnu i gynnal asesiadau ffôn cychwynnol ar y diwrnod y derbynnir atgyfeiriad; gan felly gyflymu'r broses atgyfeirio a'r amser i gael triniaeth a chymorth; mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn cael ei ymestyn i dderbyn atgyfeiriadau sy'n ymwneud ag anhwylder osgoi/cyfyngu o ran y bwyd (ARFID), gan ddarparu ymyrraeth
  • drwy ddarparu ymyrraeth gynharach, mae tîm anhwylder bwyta arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (SPEED) wedi lleihau nifer y bobl ag anorecsia sydd angen eu derbyn i unedau cyffredinol i gael gofal a thriniaeth a lleihau'r defnydd o diwbiau bwydo yn y gymuned; dyma hefyd y cyntaf yng Nghymru i ymgorffori gofal pediatreg ar ddechrau taith claf a'r cyntaf yn y DU i recriwtio cardiolegydd arbenigol i ddarparu cardioleg bediatrig pwrpasol i bob claf ag anhwylder bwyta

Mae adolygiad o'r ddarpariaeth anhwylderau bwyta, gan gynnwys darparu uned arbenigol yng Nghymru, yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Mae wyth o welyau anhwylderau bwyta i oedolion ar gael yng Nghymru mewn cyfleuster preifat yng Nglyn Ebwy. Bydd hyn yn helpu mwy o bobl i gael eu trin yng Nghymru yn hytrach na chael eu hanfon i unedau yn Lloegr.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

Er gwaetha'r galw cynyddol, mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn darparu triniaeth o ansawdd uchel ar gyfer anhwylderau bwyta i blant, pobl ifanc ac oedolion.

Rwyf wedi gweld gwaith caled y timau ymroddedig drosof fy hun, a sut mae'r cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddefnyddio i recriwtio mwy o staff a chynyddu capasiti o fewn gwasanaethau.

Rwy'n disgwyl gweld ein gwasanaethau bwyta yn parhau i ddatblygu a gwella. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw ymyrryd yn gynnar wrth gefnogi pobl ac edrychaf ymlaen at weld y gwasanaethau hyn yn datblygu ac yn gwella profiadau bywyd pobl ag anhwylderau bwyta.

Dywedodd Emma Hagerty, Arweinydd Clinigol Anhwylderau Bwyta Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

Rydyn ni'n angerddol am sicrhau ein bod yn ymyrryd yn gynnar ac yn gwella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig yn barhaus, gan fod ein cleifion wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud. Yn ogystal â derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan feddygon teulu a gallu cwblhau asesiadau ffôn ar yr un diwrnod, rydym hefyd yn cynnig llinell gyngor o ddydd Llun i ddydd Gwener i gleifion, y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol.

Rydym wedi gweithredu nifer o fentrau i ddarparu cymorth pellach a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i gleifion, gan gynnwys rhaglen addysg grŵp gyda gweithdai paratoi ar gyfer newid; asesiad ac ymyrraeth amlddisgyblaethol ar gyfer oedolion ARFID; monitro iechyd corfforol i asesu unrhyw risgiau yn ddiogel, a chymorth prydau i gleifion i leihau nifer y derbyniadau cleifion mewnol arbenigol.

Rydym hefyd wedi ehangu ein harbenigedd clinigol trwy gyflwyno mentor cymheiriaid a Chydlynydd Pontio Iechyd-Meddwl-CAMHS-i-Oedolion, ynghyd â hyfforddi aelodau o'r tîm mewn therapi trawma, er mwyn gallu diwallu anghenion esblygol ein cleifion.