Neidio i'r prif gynnwy

Nifer gwelyau’r GIG ar lefel Cymru a Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Prif bwyntiau

  • Y nifer cyfartalog o welyau a oedd ar gael yn ddyddiol yn 2019-20 oedd 10,564.4, sy’n gynnydd o 15.5 (0.1%) o gymharu â 2018-19.
  • Y nifer cyfartalog o welyau a oedd mewn defnydd yn ddyddiol yn 2019-20 oedd 9,033.3, gostyngiad o 137.2 (1.5%) o gymharu â 2018-19.
  • Canran defnydd gwelyau’r GIG yn 2019-20 oedd 85.5%, gostyngiad o 1.4 pwynt canran o gymharu â 2018-19.

Newid mewn deng mlynedd

  • Mae’r duedd hirdymor yn dangos, er bod nifer cyfartalog y gwelyau wedi gostwng, fod canran y defnydd wedi cynyddu.
  • Mae nifer cyfartalog y gwelyau a oedd ar gael yn ddyddiol wedi gostwng 2,242.3 (17.5%) ers 2009-10.
  • Mae canran defnydd gwelyau’r GIG wedi cynyddu 4.0 pwynt canran ers 2009-10.

Nodyn

Nodwch mai’r strategaeth hirdymor ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru yw darparu gofal yn agosach at y cartref drwy gynyddu gwasanaethau cymunedol a meddyg teulu. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am hyn yn ‘Cymru Iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol’.

Mae datblygiadau mewn technoleg gofal iechyd hefyd wedi arwain at arosiadau byrrach a mwy o lawdriniaethau dydd. Mae data ar hyd cyfartalog yr arosiadau yn yr ysbyty ar gael ar gwefan Gwybodaeth ac ystadegau.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.