Neidio i'r prif gynnwy

Helo, fy enw i yw John Bader ac rwy’n Gadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Rôl y panel yw gwneud penderfyniadau ynglŷn â faint y caiff aelodau etholedig o gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru eu talu.

Eleni, rydyn ni wedi penderfynu ailosod cyflogau aelodau etholedig i gyd-fynd yn agosach â'r enillion cyfartalog yng Nghymru. Bydd hyn yn codi tâl cynghorydd i £16,800 o etholiadau nesaf y cyngor ym mis Mai. Hoffwn egluro’r rheswm am hyn. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwrando ar lawer o bobl ledled Cymru er mwyn cael adborth ynghylch sut beth yw bod yn gynghorydd. Mae hyn wedi dangos bod gwobrwyon ariannol gwael yn rhwystr cynyddol i greu democratiaeth leol sy’n fwy cynrychioliadol. Drwy feithrin cysylltiadau â hwy, rydyn ni wedi clywed sut y mae gwobrwyon ariannol gwael wedi effeithio ar fenywod a grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig eraill, ymysg eraill. Y codiad cyflog hwn yw’r cam nesaf o fynd i’r afael â'r anghydbwysedd hwn.

Barn y panel yw bod cynyddu’r cyfleoedd i gymryd rhan er mwyn sicrhau bod demograffeg aelodau etholedig yn adlewyrchu demograffeg Cymru yn agosach yn fuddiol i ddemocratiaeth. Mae’r panel yn dymuno gweld democratiaeth leol yn dod yn fwy hygyrch i rieni sengl, pobl ifanc ac eraill sy’n dyheu am gael y cyfle i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ond nad oes ganddynt y modd ariannol i wneud hynny. Mae hyn yn fwyfwy pwysig gan fod y costau byw cynyddol sy’n wynebu pawb yng Nghymru yn cynyddu’r perygl o gau’r drws ar wleidyddiaeth leol i nifer ar yr union adeg y dylem fod yn sicrhau mwy o amrywiaeth er mwyn cryfhau ein democratiaeth leol. Mae’n annerbyniol gadael i wleidyddiaeth ddod yn faes i’r rhai hynny sy’n gallu fforddio cymryd rhan yn unig, a pharhau i ddifreinio lleisiau’r rhai hynny y mae’n fwyaf pwysig eu clywed ar hyn o bryd.

Mae’n amlwg ei bod yn gyfnod anodd iawn i fod yn gynghorydd. Mae cymhlethdodau o ran gwneud penderfyniadau a llywodraethu lleol wedi cynyddu ac mae pwysau yn sgil y pandemig wedi ychwanegu at ddisgwyliadau bod rhywun ‘ar gael bob awr o’r dydd’. Yn ogystal â hynny, mae’r cyhoedd a’r cyfryngau yn aml yn mynnu ymatebion i bryderon ar unwaith. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi galluogi i’r cyhoedd gyfathrebu yn llawer iawn haws â’r rhai hynny mewn pŵer. Er bod hyn yn rhywbeth cadarnhaol, mae hyn hefyd wedi achosi goblygiadau gofidus drwy alluogi i’r rhai hynny sydd â drwg ewyllys i fygwth a cham-drin swyddogion etholedig. Rydyn ni wedi clywed am nifer o straeon ynghylch yr achosion o gamdriniaeth y mae cynghorwyr Cymru wedi eu hwynebu, gan gynnwys nifer o enghreifftiau o ddifrod i eiddo personol yr aelodau. Mae cynghorwyr yn chwarae rhan ganolog yn ein democratiaeth leol ac os nad yw’r gydnabyddiaeth ariannol yn ddigonol iddynt a’u bod yn cael eu trin yn wael, ni fyddwn yn llwyddo i ddenu’r safon o gynghorwyr sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Ysbrydolwyd ein gwaith gan ddymuniad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ynglŷn â sicrhau Cymru Sy’n Fwy Cyfartal, yn ogystal ag ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Yn ystod y broses agored o gael adborth ynghylch ein hadroddiad drafft lle gwnaethom gynnig ailosod y cyswllt am y tro cyntaf, cawsom ein calonogi gan gefnogaeth sylweddol gan unigolion a phrif awdurdodau a gymerodd rhan yn yr ymgynghoriad.  Rhannodd nifer o ymatebwyr y byddai’n well ganddynt pe byddem wedi ymestyn y codiad cyflog dros y tymor pum mlynedd nesaf. Fodd bynnag, rydyn ni’n credu’n gryf bod angen cyflawni’r broses o ailosod wrth inni ddod allan o’r pandemig. Mae hyn er mwyn adlewyrchu’r gwerth rydyn ni’n ei roi ar ddemocratiaeth leol, yn ogystal ag annog cenhedlaeth newydd i sefyll i gael eu hethol. Bydd y cyflogau a fydd yn weithredol o fis Mai yn fodd o ysgogi a sicrhau bod darpar ymgeiswyr yn gwybod y byddant yn cael eu talu’n deg am eu gwaith. Yn ogystal, yng nghyd-destun cyfanswm cyllidebau cynghorau, y farn gyffredin a gafwyd o’r adborth gan gynghorau yw na fydd penderfyniadau’r panel yn cael llawer o effaith.

Yn sgil y rhesymau uchod, a rhesymau eraill sydd wedi’u cynnwys yn ein Hadroddiad Blynyddol 2022, credwn mai nawr yw’r amser iawn i ailosod y cyswllt rhwng enillion blynyddol yng Nghymru a’r cyflog a roddir i gynghorwyr. Drwy feithrin cysylltiadau â channoedd o randdeiliaid allweddol yn ystod y broses ddrafftio, yn ogystal â defnyddio nifer o gymaryddion cyflogau allweddol, mae’r panel yn hyderus bod ein penderfyniad yn gytbwys ac yn deg i aelodau a threthdalwyr y dyfodol. Rwy’n ailadrodd y ffaith bod gan ddemocratiaeth gost ar bob lefel. Mae penderfyniadau’r panel yn cyfrannu at sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflawni gan bobl sy'n adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ac yn atebol iddynt.