Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar werthiant tai landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, a’u heffaith ar stoc annedd ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Yn ystod 2018-19, cynyddodd nifer y gwerthiannau o 49% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol i 801. Mae'n debygol mai'r rheswm dros hyn yw bod y cynlluniau Hawl i Brynu a'r cynllun Hawl i Gaffael wedi dod i ben ym mis Ionawr 2019 (gweler y datganiad ystadegol).
  • Cynyddodd gwerthiannau awdurdodau lleol dros draean (35%) i 161 annedd yn ystod 2018-19. Cynyddodd  gwerthiannau anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig dros hanner (53%) i 640 annedd.
  • Ers 2008-09 mae mwyafrif holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn rhai gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, gan gyfrif am 80% o holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol yn ystod 2018-19.
  • Yn wahanol i’r ddwy flynedd flaenorol, roedd mwyafrif y gwerthiannau yn ystod 2018-19 (55%) yn werthiannau statudol trwy’r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael. Roedd gwerthiannau ‘gwirfoddol ac arall’ (gan gynnwys tai gofal ychwanegol) yn cyfrif am y 45% arall. Gallai hyn fod o ganlyniad i gynnydd yn y nifer sy'n gwneud cais i ddefnyddio'r cynlluniau Hawl i Brynu a'r cynllun Hawl i Gaffael cyn iddynt gael eu diddymu'n derfynol ar gyfer y stoc bresennol ym mis Ionawr 2019.

Adroddiadau

Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 773 KB

PDF
Saesneg yn unig
773 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.