Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar werthiant tai landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, a’u heffaith ar stoc annedd ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19), ni chasglwyd data ar werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol ar gyfer 2019-20. Gweler y COVID-19 a chynhyrchu ystadegau ac ymchwil gymdeithasol am ragor o wybodaeth.

Prif bwyntiau

  • Gwerthwyd 522 o dai landlordiaid cymdeithasol yn 2021-22. O'i gymharu â'r gwerthiannau yn 2020-21, roedd hyn yn gynnydd o 32%.
  • Gostyngodd gwerthiannau awdurdodau lleol 63% i 15 o anheddau ac roedd gwerthiannau anheddau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi cynyddu 42% i 507 o anheddau.
  • Ers 2008-09, mae'r rhan fwyaf o'r holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol wedi bod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sy'n cyfrif am 97% o holl werthiannau tai landlordiaid cymdeithasol yn ystod 2021-22.
  • Roedd 98% o'r gwerthiannau yn ystod 2021-22 yn werthiannau anstatudol.

Adroddiadau

Gwerthiannau tai landlordiaid cymdeithasol, Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 744 KB

PDF
Saesneg yn unig
744 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.